Canlyniadau 2221–2240 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfrifiad 2021 — Y Canlyniadau o ran y Gymraeg (24 Ion 2023)

Jeremy Miles: Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod o ran ei flaenoriaethau. Rŷn ni wedi sôn eithaf lot am addysg, ond jest i wneud dau bwynt am hynny—yn gyntaf, pa mor bwysig yw'r cynllun trochi i ganiatáu bod unrhyw un sy'n symud i Gymru sydd eisiau cael mynediad at addysg Gymraeg yn llwyddo i wneud hynny. Mae gyda ni gronfa nawr, o nawr tan ddiwedd tymor y Senedd, o tua £6.6 miliwn i'w gwario ar...

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfrifiad 2021 — Y Canlyniadau o ran y Gymraeg (24 Ion 2023)

Jeremy Miles: Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu ei fod e'n iawn i ddweud bod elfennau o ran symud, o ran mudo, o ran demograffeg, o ran cyfleoedd, ac mae'r comisiwn, yn sicr, yn mynd i fynd i'r afael â'r mathau hynny o bethau—dadansoddiad sosio-economaidd yw rhan o'r gwaith y maen nhw wrthi'n ei wneud ar hyn o bryd. Mae'r galw wedi bod am dystiolaeth ac mae hynny'n dod i law,...

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfrifiad 2021 — Y Canlyniadau o ran y Gymraeg (24 Ion 2023)

Jeremy Miles: Diolch yn fawr am hynny. Wel, o ran y dilyniant i ddysgu gydol oes, mae hynny wir yn bwysig, ac un o'r pethau rŷn ni eisiau gwneud yw sicrhau ein bod ni'n deall sut mae'r holl ffyrdd sydd gyda ni o ddysgu'r Gymraeg yn eistedd ar gontinwwm yn erbyn ei gilydd, os hoffwch chi—hynny yw, cymwysterau TGAU a lefel A, ond hefyd gymwysterau addysg oedolion. Mae dangos y llwybr a dangos y dilyniant...

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllunio’r Gymraeg mewn Addysg (31 Ion 2023)

Jeremy Miles: Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser gen i fod yma heddiw i ddiweddaru Aelodau ar ein gwaith cynllunio'r Gymraeg mewn addysg. Ers fy natganiad diwethaf, rwy'n falch o ddweud bod holl gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd awdurdodau lleol wedi cael eu cymeradwyo, eu cyhoeddi ac yn weithredol. Nid yn unig hynny, rwyf wedi derbyn 22 o gynlluniau gweithredu sydd yn manylu sut y bydd...

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllunio’r Gymraeg mewn Addysg (31 Ion 2023)

Jeremy Miles: Wel, rwy'n cytuno bod yr Aelod yn ailadrodd hyn. Mae e jest yn naratif diog ac ystrydebol, a does dim unrhyw dystiolaeth yn cefnogi'r hyn mae e wedi ei ddweud heddiw o ran perfformiad awdurdodau lleol. Mae gennym ni gynlluniau strategol newydd ers mis Medi yn unig, a does dim unrhyw frawddeg o dystiolaeth bod awdurdodau lleol yn syrthio tu ôl o ran eu dyletswyddau. Mae fy mhrofiad i o drafod...

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllunio’r Gymraeg mewn Addysg (31 Ion 2023)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y croeso mae hi'n ei roi i'r datganiad. Rwy'n cytuno â sawl pwynt mae hi wedi'u gwneud yn ei chwestiwn. O ran y buddsoddiad mewn trochi, mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol yn hynny o beth. Mae gennym ni gyllideb o jest o dan £7 miliwn ar gyfer y cyfnod rhwng nawr a diwedd tymor y Senedd hon i fuddsoddi mewn trochi hwyr. Beth sydd yn grêt—. Gwnes i roi enghraifft yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Mae cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg a gwella deilliannau iaith ein holl ddisgyblion yn ogystal â deall yn well beth sydd y tu ôl i’r cwymp pellach yn y cymunedau Cymraeg yn flaenoriaeth. Mae defnydd iaith yn ganolog i hyn. Byddwn yn dadansoddi ymhellach pan ddaw rhagor o ddata ar gael.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Diolch i Adam Price am y cwestiynau pwysig hynny. Gwnes i gyfarfod gyda chyfarwyddwr addysg ac arweinydd cyngor sir Gâr yr wythnos ddiwethaf i drafod eu cynllun strategol nhw ac roedd neges y cyngor sir yn glir, rwy'n credu, eu bod nhw'n gweld eu hunain fod angen gweithredu yn sgil hynny mewn ffordd sydd yn bwrpasol ac heb oedi. Mae gyda ni ffydd y byddan nhw'n gwneud hynny, wrth gwrs. Mae...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Diolch i Sam Kurtz am y cwestiynau hynny. Mae cyfraniad mudiad y clybiau ffermwyr ifanc i waith ieuenctid yn ein cymunedau gwledig ni yn amhrisiadwy. Rwy’n falch o’r cyfraniad ariannol o bron £125,000 rŷn ni’n ei roi i ffederasiwn Cymru a’r ffederasiynau sirol er mwyn sicrhau bod eu gwaith pwysig nhw yn parhau. Mae brwdfrydedd ac ymroddiad pobl ifanc ym myd amaeth Cymru a chymunedau...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg ôl-16 i Bobl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Am y tro cyntaf erioed, mae gennym system unedig ar gyfer cefnogi dysgwyr o ddim i 25 oed gydag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym yn gwneud buddsoddiad newydd yn y dyddiau nesaf o £2.1 miliwn i golegau addysg bellach i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r system hon i bobl ifanc.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg ôl-16 i Bobl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedodd, mae wedi gohebu â mi mewn perthynas â materion penodol ar ran etholwyr. Er fy mod yn siŵr nad oedd yr ymateb yr hyn y gobeithiai amdano, rwy'n gobeithio o leiaf ei fod yn esboniad clir o'r penderfyniad a wnaed, ac effaith y broses apelio, os mai at hynny y mae'n cyfeirio yn ei gwestiwn. Bwriad y system ADY yw cryfhau hawliau pobl ifanc...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg ôl-16 i Bobl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Wel, dwi ddim yn credu ei bod hi'n dderbyniol bod hynny'n digwydd, wrth gwrs, ac rwy'n flin i glywed yr enghraifft y mae'r Aelod yn ei dwyn i'r Siambr heddiw. Un o'm blaenoriaethau i, o ran y diwygiadau o fewn y system addysg o leiaf, yw sicrhau bod gennym ni arbenigedd yn y maes hwn yn y Gymraeg. Rŷn ni wrthi'n comisiynu adnoddau i gefnogi hynny ar hyn o bryd, ond dŷn ni ddim wedi cyrraedd...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Wel, rwy'n cydnabod bod angen inni wneud popeth yn ein gallu i gefnogi staff cymorth o fewn y system, sy'n darparu gwasanaeth pwysig iawn i'n pobl ifanc ac sy'n anhepgor yn ein hysgolion. Nid yw cwestiwn yr Aelod yn cydnabod y gwaith a wneuthum ers dod yn Weinidog mewn perthynas â'r mater hwn. Fe fydd yn cofio, oherwydd fe wneuthum ddatganiad yn y Siambr hon y llynedd, fy mod wedi dechrau...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Os yw'r Aelod eisiau gwybod sut olwg sydd ar broffesiwn addysgu digalon nad yw'n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi gan ei Lywodraeth, nid oes ond angen iddi edrych dros y ffin ar yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, sy'n drychinebus o ran cadw a recriwtio yn gyffredinol. Felly, dyna sut olwg sydd ar bolisi addysg Ceidwadol. Gallwn ei weld yn digwydd o flaen ein llygaid.  Yr hyn sydd gennym yng...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Wel, nid wyf yn siŵr a wrandawodd yr Aelod ar y ddau ateb blaenorol a roddais, ond rwyf wedi amlinellu'n fanwl iawn beth rydym yn ei wneud. Mae'r cwestiwn o gadw a recriwtio yn her ym mhob rhan o'r byd. Mae'r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru yn benodol i'n hanghenion ni yng Nghymru. Rwyf wedi amlinellu rhestr o faterion iddi ac mae'n amlwg ei bod wedi diystyru'r rhestr honno yn ei thrydydd...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Wel, fel y gwnaeth yr Aelod ei ddweud, yn 2022-23, gwnaethon ni gynyddu grant craidd yr Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau bod gan yr Eisteddfod adnoddau i lwyfannu Eisteddfodau'r dyfodol, a hynny mewn cyfnod o ansicrwydd ariannol. Rŷn ni am ddyrannu cyllid ychwanegol i'r Eisteddfod yn 2023-24 yn y gyllideb ddrafft, er mwyn cryfhau ei strwythurau ymgysylltu cymunedol, sydd mor bwysig i'w...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Rydyn ni'n annog ysgolion i edrych ar bob ffynhonnell o brofiadau sydd ar gael i'n pobl ifanc ni fel eu bod nhw'n gallu cael amrywiaeth, ac amrywiaeth yn y Gymraeg yn benodol. Fel gwnes i grybwyll yn fras yn gynharach, mae gennym ni gynllun grant sydd yn darparu cefnogaeth ariannol o safbwynt polisi'r Gymraeg i amryw o sefydliadau a mudiadau sydd yn darparu lot o brofiadau deniadol a diddorol...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwricwlwm i Gymru ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Gwnaf. [Chwerthin.] Ym mis Medi, bydd pob ysgol a lleoliad yn gweithio gyda'r Cwricwlwm i Gymru wrth iddo barhau i flwyddyn academaidd 2026-27. Mae ein cefnogaeth barhaus i'r proffesiwn yn allweddol i'w weithredu'n llwyddiannus, ac mae fy adroddiad blynyddol bob mis Gorffennaf yn ymdrin â sut rydym yn cyfathrebu'n eang ar gynnydd a blaenoriaethau.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwricwlwm i Gymru ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Wel, byddwn yn annog y pennaeth yn ei etholaeth i ymgysylltu â'r prosiect Camau a ariennir gennym drwy Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy'n darparu adnoddau i gefnogi ysgolion wrth iddynt ddatblygu dulliau asesu newydd. Mae'n hanfodol, mewn gwirionedd, fod gennym asesu wrth wraidd y cwricwlwm newydd i gefnogi cynnydd dysgwyr unigol. Nid yw yno er mwyn atebolrwydd. Mae hwnnw'n newid...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwricwlwm i Gymru ( 8 Chw 2023)

Jeremy Miles: Wel, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, ac fel y dywedwch, mae'n adlewyrchu un o'r pwyntiau a gododd Sam Kurtz yn ei gwestiwn hefyd. Mae angen taro cydbwysedd, onid oes, gan eich bod yn newid system gyfan rhwng cyfarwyddyd canolog a'r math o hyblygrwydd a datganoli, os hoffech, i ysgolion y gallu i gynllunio a gweithredu cwricwlwm sy'n gweithio i'w cymunedau a'u dysgwyr. Ac ar un...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.