Mark Drakeford: Wrth gwrs rwy’n cytuno y dylai’r fformiwla ddibynnu ar y data mwyaf cyfredol posibl. Dyna pam roeddwn yn falch o gytuno ar yr argymhellion mewn perthynas â niferoedd poblogaeth a niferoedd disgyblion ysgol. Rwy’n meddwl bod pob ymdrech yn cael ei gwneud, gan bartneriaid awdurdodau lleol a’r rhai sy’n eu cynghori, i sicrhau bod y fformiwla’n dibynnu ar y data mwyaf dibynadwy sydd...
Mark Drakeford: Wel, rŷm ni’n bwrw ymlaen gyda’r bwriad yna yn y flwyddyn ariannol nesaf. Rydw i wedi siarad â phob aelod o’r Cabinet; maen nhw i gyd wedi rhoi rhai grantiau i mewn i’r RSG am y flwyddyn nesaf. Mae hynny’n rhan o’r patrwm rŷm ni wedi’i greu fel Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf. Rydw i’n awyddus i fwrw ymlaen yn yr un modd am y flwyddyn nesaf, hefyd, ble rŷm ni’n...
Mark Drakeford: Fe wnaf hynny yn union yn y ffordd yr eglurais eiliad neu ddwy yn ôl. Mae gennym fformiwla gyllido. Mae’n fformiwla y cytunwyd arni. Mae’n cael ei diwygio bob blwyddyn. Mae wedi cael ei diwygio eto eleni. Mae’n cynnwys lleisiau gwleidyddol a lleisiau arbenigwyr, ac rwy’n cymryd cyngor y grŵp arbenigol hwnnw. Byddwn yn defnyddio’r fformiwla fel yr argymhellwyd i mi ac yna byddwn yn...
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, rhaid i mi fod yn weddol ofalus i beidio ag achub y blaen ar fanylion y datganiad na fydd yn cael ei ryddhau tan yn ddiweddarach y prynhawn yma. Yr hyn rwy’n meddwl y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod ar y pwynt hwn yw fy mod yn bwriadu defnyddio mecanwaith cyllid gwaelodol ar gyfer dosraniad y flwyddyn nesaf i awdurdodau lleol a bydd hynny’n cael ei adlewyrchu yn y setliad y...
Mark Drakeford: Rwy’n meddwl bod yna ddwy ffordd wahanol y mae’n bwysig archwilio’r mater hwn yng Nghymru. Yn gyntaf oll, rwy’n awyddus i ddechrau gwaith a fydd yn edrych ar yr holl ffordd rydym yn codi trethi lleol yng Nghymru ac i weld ai’r system sydd gennym ar hyn o bryd yw’r un sy’n adlewyrchu anghenion y dyfodol orau. Fodd bynnag, pa ddulliau bynnag a ddefnyddiwch ar gyfer codi arian,...
Mark Drakeford: Wel, cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros faes polisi gofal plant yw’r rheini mewn gwirionedd. Gwn ei fod yn gweithio’n ddiwyd iawn gyda swyddogion a phartneriaid y tu hwnt i’r Cynulliad ar lywio’r cynlluniau peilot, ac rwy’n sicr y bydd yn gwneud cyhoeddiad i Aelodau’r Cynulliad cyn gynted â’i fod mewn sefyllfa i wneud hynny.
Mark Drakeford: Wel, mae ein hymagwedd tuag at ofal plant yng Nghymru bob amser wedi bod seiliedig ar y cysylltiadau rhwng argaeledd gofal plant fforddiadwy o ansawdd da a chyfranogiad yn y farchnad lafur. Rydym bob amser wedi bod eisiau sicrhau bod digon o ofal plant yno i wneud yn siŵr fod menywod, yn arbennig, yn gallu dilyn gyrfaoedd yn y farchnad swyddi yn y ffordd y byddent yn dymuno. Mae’r Aelod yn...
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, rwy’n hapus i gadarnhau yr hyn a ddywedais wrth y Pwyllgor Cyllid: os ydych am gynllunio system sy’n cynnwys cyfranogiad gweithredol rhieni o’i mewn ac sy’n dysgu o’r hyn y maent yn ei ddweud wrthym am y math o ofal plant y byddant ei angen yn y dyfodol, mae angen trefnu’r rhaglen i ystyried y safbwyntiau hynny, a bydd hynny’n golygu cronni’r capasiti y byddwn yn...
Mark Drakeford: Wel, diolch i Simon Thomas am y cwestiwn. Dros gyfnod y rhaglen o 2014 i 2020, mae tuag at £1.9 biliwn ar gael drwy gronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru. Mae £855 miliwn, sef 44 y cant o’r dyraniad, wedi cael ei ymrwymo eisoes. Rydw i’n disgwyl y bydd yn bosib defnyddio’r cyfan o’r £1 biliwn sydd ar ôl, ond bydd ein gallu i wneud hynny’n dibynnu ar amserlen Llywodraeth y...
Mark Drakeford: Diolch am y cwestiwn. Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y rhaglen Sêr Cymru a’r gwaith arbennig o dda maen nhw’n ei wneud yn y rhaglen. Cefais gyfle, pan oeddwn i’n gyfrifol am y maes iechyd yng Nghymru, i gydweithio â Edwina Hart ar y pryd ar y rhaglen a thrio tynnu pobl i mewn i’r ‘life sciences’ yng Nghymru a gwneud y gwaith maen nhw’n ei wneud mor wych yn Abertawe. Designing...
Mark Drakeford: Roeddwn yn falch iawn yr wythnos diwethaf o allu cyhoeddi £850,000 yn ychwanegol o gyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y cynllun y cyfeiriodd Mike Hedges ato. Mae’r busnesau sy’n cymryd rhan ynddo yn cynnwys Tata Steel, BASF, y Bathdy Brenhinol ac eraill. Byddant yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o lunio prosiectau ymchwil yn seiliedig ar ddatblygiadau technolegol sy’n digwydd yn...
Mark Drakeford: Diolch i Rhianon Passmore am ei chwestiwn. Mae Islwyn wedi elwa o gronfeydd strwythurol mewn sawl ffordd wahanol, o’r gefnogaeth leol iawn i ddau brentis mewn meddygfa ddeintyddol yn Nhrecelyn i effaith lawer ehangach rhaglen Aspire to Achieve, er enghraifft, ar gyfer pobl ifanc mewn perygl a chynllun cefnogi busnesau bach a chanolig ac entrepreneuriaeth Busnes Cymru.
Mark Drakeford: Wel, rwy’n siŵr y gall yr Aelod ragweld yr effaith: y byddai’r buddsoddiadau hynny y gallwn eu gwneud, sy’n helpu i lunio’r dyfodol ar gyfer unigolion a chymunedau a sicrhau llwyddiant hirdymor economi Cymru, yn cael eu dal yn ôl pe na bai gennym yr arian sydd wedi ei sicrhau ar ein cyfer ar hyn o bryd yn sgil ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Byddai’n neges ryfedd, rwy’n...
Mark Drakeford: Diolch i Lynne Neagle am ei chwestiwn. Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid a ddarperir i lywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddarparu drwy’r setliad blynyddol. Yn y flwyddyn ariannol hon, 2016-17, mae’r setliad wedi darparu £4.1 biliwn mewn cyllid refeniw heb ei neilltuo.
Mark Drakeford: Wel, fel y dywedais yn ystod y datganiad ar y gyllideb ddoe, nid yw penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei sbarduno gan ystyriaethau cyllidebol. Mae’n cael ei sbarduno gan awydd i wneud gwell defnydd o’r cyllid a ddefnyddiwyd at y dibenion hynny yn y gorffennol, a dod ag ef ynghyd â chyllidebau ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg a...
Mark Drakeford: Rwy’n gwrando’n ofalus iawn ar yr hyn y mae awdurdodau gwledig yn ei ddweud wrthyf, ac mae’r newidiadau i elfen y gwasanaethau cymdeithasol yn y fformiwla eleni yn bendant yn ymateb i’r ddadl a gyflwynwyd gan yr awdurdodau hynny. Rwy’n ofni y bydd yn rhaid i’r Aelod aros gyda phawb arall i weld effeithiau penodol y newidiadau hynny ar awdurdodau penodol ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mark Drakeford: Wel, Ddirprwy Lywydd, cynigiwyd cyfarfod briffio technegol i holl lefarwyr y gwrthbleidiau ar y cyhoeddiad a fydd yn cael ei wneud yn ddiweddarach y prynhawn yma, a chynigiwyd y briff hwnnw i holl lefarwyr y gwrthbleidiau fwy neu lai ar yr un pryd. Rydym yn awyddus i barhau i gynnig y cwrteisi hwnnw i lefarwyr y gwrthbleidiau, gan y byddem yn hoff o weld pobl yn wybodus, fel eich bod, pan...
Mark Drakeford: Diolch i Dawn Bowden am hynny. Gan weithio mewn partneriaeth ag undebau llafur a chyflogwyr y gwasanaethau cyhoeddus, mae’r cynnydd yn parhau o ran mabwysiadu’r cyflog byw yn ehangach yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mark Drakeford: Wel, yn sicr, rwy’n llongyfarch cynghorau Merthyr Tudful a Chaerffili am yr ymagwedd y maent wedi ei mabwysiadu a’r arweinyddiaeth y maent wedi ei dangos yn y maes hwn. Credaf fod yr Aelod wedi dechrau â’r achos pwysicaf dros y cyflog byw gwirioneddol, sef ei fod o fudd i gyflogwyr yn ogystal â gweithwyr mewn gwirionedd, a bod manteision busnes pendant i gwmnïau sy’n talu’r...
Mark Drakeford: Diolch i Angela Burns am ei chwestiwn. Bwriad y cynigion a gyhoeddais ar 4 Hydref ar gyfer cydweithredu rhanbarthol gorfodol a systematig rhwng awdurdodau lleol yw adeiladu cadernid a gwella effeithiolrwydd gwasanaethau a chanlyniadau i ddinasyddion.