Mark Isherwood: Fel y mae’r thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 yn ei ddatgan, rhaid inni fod yn feiddgar ar gyfer newid a chamu i fyny i helpu i sbarduno cydraddoldeb rhywiol. Byddwn yn cefnogi'r cynnig a'r holl welliannau. Er gwaethaf y cynnydd mewn rhai meysydd, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n dal i atal menywod rhag chwarae rhan mor llawn â dynion ym mywyd economaidd,...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Wrth i chi ystyried y dyfodol ar gyfer adeiladu cymunedau cryf wrth i’r newidiadau yr ydych wedi’u cyhoeddi fynd rhagddynt, mae llawer wedi bod yn digwydd gyda chydgysylltu ardaloedd lleol, gan gynorthwyo trigolion a chymunedau, ac rwy’n dyfynnu, ‘i gael bywyd, nid gwasanaeth’, ac ysgogi cydweithredu rhwng pobl, teuluoedd, cymunedau a sefydliadau lleol i adeiladu...
Mark Isherwood: Ymhellach—dechrau’n unig oedd hynny, oherwydd mae cydgysylltwyr ardaloedd lleol yn Abertawe yn gweithio ar yr egwyddor o ddod i adnabod pobl, eu teuluoedd, a chymunedau, i adeiladu eu gweledigaeth ar gyfer bywyd da, i aros yn gryf ac yn gysylltiedig, ac i deimlo’n fwy diogel ac yn fwy hyderus ar gyfer y dyfodol. Unwaith eto, a allech ystyried y gwaith a ddatblygwyd mewn nifer o...
Mark Isherwood: Wel, diolch i chi, a’r enghraifft fwyaf—nid yng Nghymru y mae, ond yn Derby, gan fod cydgysylltiad ardaloedd lleol yn y DU wedi dechrau yn Derby yn 2012, gan adeiladu ar fodel llwyddiannus iawn a weithredir yn Awstralia, sy’n darparu tystiolaeth o ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer dinasyddion ac arbedion. Yn Swydd Derby, canfu gwerthusiad annibynnol gan Brifysgol Derby dros 10 i 12 mis...
Mark Isherwood: Diolch. Roedd yn rhyddhad braidd, gan i mi gredu bod yr Aelod yn mynd i fy ngwahodd ar daith gydag ef i Derby, ond rwy’n falch na wnaeth hynny, oherwydd byddai’n gas gennyf ei wrthod ar y llawr. Ond rwy’n credu bod gan yr Aelod bwynt gwirioneddol ddiddorol yn ymwneud ag edrych ar yr hyn sy’n gweithio mewn cymunedau, ac mae’n rhywbeth y byddaf yn gofyn i fy nhîm edrych arno’n...
Mark Isherwood: 6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo diogelwch rhag tân yng Nghymru? OAQ(5)0111(CC)
Mark Isherwood: Diolch. Wrth ymateb i’ch datganiad ar 7 Chwefror ar gymunedau mwy diogel, cyfeiriais at adroddiadau yn y wasg y diwrnod cynt am gynnydd o 11 y cant yn nifer y tanau bwriadol yng Nghymru yn y flwyddyn flaenorol a oedd wedi dargyfeirio o alwadau 999 eraill a dargyfeirio criwiau tân i ffwrdd oddi wrth eu blaenoriaethau eraill. Ddeng diwrnod yn ddiweddarach, roedd sylw yn y wasg i ffigurau...
Mark Isherwood: Pan gyhoeddoch eich bod yn dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben, cyfeiriodd fy ymateb at yr adroddiad ‘Valuing Place’ a gomisiynwyd gan y Llywodraeth, yn seiliedig ar waith ymchwil mewn tair cymuned, yn cynnwys Cei Connah, y credaf eich bod yn gyfarwydd iawn ag ef. Gwelsant fod sefydlu rhwydweithiau lleol i gysylltu pobl sydd am roi camau gweithredu ar waith yn lleol yn flaenoriaeth. Yn yr...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Mae teuluoedd â phlant anabl yn wynebu costau uwch ac incwm is na theuluoedd eraill. Mae ymchwil Cyswllt Teulu yn dangos y gallai’r gost ychwanegol sy’n gysylltiedig â chyflwr y plentyn fod yn £300 neu fwy bob mis, gydag 84 y cant o deuluoedd sydd â phlant anabl wedi mynd heb hamdden a diwrnodau allan. Am dros 40 mlynedd, prif swyddogaeth Cronfa’r Teulu oedd helpu i...
Mark Isherwood: A gaf i alw am ddatganiad unigol ar gyllid yr heddlu yng nghyd-destun yr ardoll prentisiaeth? Fel y gwyddoch efallai, gall heddluoedd yn Lloegr gael gafael ar gyllid ar gyfer prentisiaethau trwy'r cyfrif gwasanaeth prentisiaethau digidol newydd yno, ond, yng Nghymru, mae dull Llywodraeth Cymru, sy’n wahanol, yn golygu na all heddluoedd Cymru wneud hyn. Pan godais hyn yn y Pwyllgor Economi,...
Mark Isherwood: Fel y nodwyd yn rhagair y Cadeirydd i adroddiad ein pwyllgor, ‘Gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet yw sefydlu corff arbenigol, annibynnol a all wneud penderfyniadau hynod bwysig mewn meysydd dadleuol heb unrhyw ddylanwad gwleidyddol. Mae’r weledigaeth honno’n un gref... Gobeithiwn y bydd ein hargymhellion yn rhoi sail i sefydlu’r Comisiwn yn ddiymdroi. Bydd y Comisiwn hwnnw—ar ôl...
Mark Isherwood: Sut rydych yn ymateb i ffigurau swyddogol sy’n dangos mai gan Gymru y mae’r lefel uchaf o bobl nad ydynt mewn gwaith, y lefel uchaf o dangyflogaeth, a’r ganran uchaf o weithwyr nad ydynt ar gontractau parhaol o blith 12 cenedl a rhanbarth y DU?
Mark Isherwood: Fel aelod o'r gweithgor amlasiantaeth a thrawsbleidiol a ymgyrchodd yn llwyddiannus o dan arweiniad yr ymgyrchwyr cymunedol Ymgyrchwyr Trefnu Cymunedol Cymru i sefydlu lloches nos Tŷ Nos yn Wrecsam, mae'n arbennig o rwystredig bod cyfrifiad cenedlaethol diweddaraf Llywodraeth Cymru o’r rheini sy’n cysgu ar y stryd nid yn unig yn dangos cynnydd o 72 y cant i bobl sy'n cysgu ar y stryd...
Mark Isherwood: Ar ôl i bryderon gael eu dwyn i fy sylw gan rieni a glywodd y byddai toriadau yn y cymorth un i un yn ysgolion cynradd Gwynedd ar gyfer plant sydd â diabetes math 1, maent wedi dweud wrthyf fod yna newyddion da, a’u bod wedi dod o hyd i ffordd wych ymlaen, ac maent yn falch o’r ymagwedd a fabwysiadwyd gan staff y cyngor a’u parodrwydd i gydweithio. Fodd bynnag, mynegwyd pryder fod hyn...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Fel rhywun sydd, fel fi, wedi ymweld â charchardai dros y blynyddoedd, a wnewch chi gadarnhau, er ein bod i gyd yn dymuno gweld carcharorion o Gymru yn cael eu lleoli mor agos i’w cartrefi â phosibl, fod categoreiddio carcharorion weithiau’n ei gwneud yn amhosibl? Yn ail, fel gyda Charchar Berwyn, a allwch gadarnhau pa un a fydd y carchar newydd arfaethedig ym Mhort...
Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr byddar yng Nghymru?
Mark Isherwood: 5. Pa wasanaethau cefnogaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cleifion sydd â chyflyrau iechyd hirdymor anwadal? OAQ(5)0137(HWS)
Mark Isherwood: Diolch. O ystyried tystiolaeth fod y gyfradd hunanladdiad ymysg pobl gyda’r cyflwr niwrolegol enseffalomyelitis myalgig, neu ME, yn fwy na chwe gwaith yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y boblogaeth gyffredinol, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fwrw ymlaen â’r argymhellion a nodwyd yn adroddiad Awst 2014 y grŵp gorchwyl a gorffen ar ME/syndrom blinder cronig a ffibromyalgia...
Mark Isherwood: Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, sy’n codi ymwybyddiaeth fel bod cymaint o bobl ag y bo modd yn dysgu am awtistiaeth. Ceir nifer o dargedau yng nghynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistiaeth 2016-20, a ddylai fod wedi ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2017. Dylai byrddau iechyd fod wedi datblygu llwybrau gofal ar gyfer...
Mark Isherwood: Fel rhywun a fu’n gweithio yn y sector cymdeithasau adeiladu cydfuddiannol o’r blaen, roeddwn yn croesawu Deddf undebau credyd y DU 2012, a oedd yn rhyddhau undebau credyd i weithio gyda darparwyr tai, grwpiau cymunedol, cyflogwyr, mentrau cymdeithasol ac elusennau i ddod â gwasanaethau ariannol i grwpiau newydd o bobl. Er bod aelodaeth undebau credyd yng Nghymru wedi tyfu 50 y cant yn y...