Altaf Hussain: Diolch. Heb wenyn a phryfed peillio eraill, byddem yn llwgu. Ac os ydym am osgoi tynged ffermwyr yn yr Unol Daleithiau, sy'n gorfod dibynnu ar wenyn a gaiff eu cludo gan lorïau dros bellteroedd mawr, rhaid inni sicrhau coridorau i ddenu gwenyn ledled Cymru gyfan. Yr wythnos nesaf byddaf yn plannu coeden sy'n blodeuo fel rhan o brosiect coed sy'n blodeuo yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol....
Altaf Hussain: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’m cyd-Aelod, Janet, am gyflwyno’r ddadl bwysig hon. Yng nghanol argyfwng ynni a achoswyd gan ryfel anghyfreithlon Putin, a chyda rhybuddion enbyd mai 2023 fydd y flwyddyn boethaf a gofnodwyd erioed o ganlyniad i newid hinsawdd, mae’n briodol ein bod yn ceisio hybu chwyldro ynni gwyrdd yng Nghymru. Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi tanlinellu'n glir...
Altaf Hussain: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae dydd Gwener yn nodi saith deg wyth o flynyddoedd ers y diwrnod i Auschwitz, gwersyll marwolaeth mwyaf y Natsïaid, gael ei ryddhau gan luoedd arfog Sofietaidd; llofruddiwyd 1.1 miliwn o bobl yn y gwersyll hwnnw, naw o bob 10 ohonynt yn Iddewon. Dyma pam y dewisir 27 Ionawr i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost. Pam rydym ni'n yn cofio'r Holocost hwn...
Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog, ddydd Llun, clywsom honiadau unwaith eto fod casineb at fenywod a rhywiaeth yn rhemp yn Undeb Rygbi Cymru. Clyswom straeon torcalonnus am fenywod a oedd wedi ystyried hunanladdiad o ganlyniad i fwlio rhywiaethol. A thrwy'r adeg, ni chymerodd yr uwch-reolwyr unrhyw gamau o gwbl. Yn y rhaglen, dywedodd Charlotte Wathan, a gafodd ei chyflogi gan Undeb Rygbi...
Altaf Hussain: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Pe bai Undeb Rygbi Cymru ond yn gallu bod yn debycach i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, sy'n haeddu cael eu llongyfarch am gyflwyno cyflogau cyfartal i bêl-droedwyr gwrywaidd a benywaidd. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bob un ohonom fynd i'r afael â chasineb at fenywod yn uniongyrchol. Yn ddiweddar, lansiodd Chwarae Teg ddeiseb gyda’r nod o wneud mannau cyhoeddus...
Altaf Hussain: Diolch, Weinidog. Nid mannau cyhoeddus yw'r unig leoedd lle nad yw menywod yn teimlo'n ddiogel. Hyd yn oed yn Siambr Tŷ’r Cyffredin, mae menywod yn wynebu casineb ffiaidd at fenywod. Yn ystod araith ddiweddar ar Fil diwygio cydnabod rhywedd yr Alban, cafodd yr AS Llafur, Rosie Duffield, ei cham-drin yn ffiaidd gan ei chyd-AS Llafur, Lloyd Russell-Moyle, a aeth yn ei flaen wedyn i gam-drin...
Altaf Hussain: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â safbwyntiau eithafol ymysg pobl ifanc? OQ59064
Altaf Hussain: Diolch. Roeddwn i'n teimlo'n anesmwyth iawn wrth ddarllen sylwadau'r Ditectif Uwcharolygydd Gareth Rees, arweinydd adran derfysgaeth adain dde plismona gwrthderfysgaeth, a ddywedodd fod cynnydd anhygoel o frawychus wedi bod ymysg pobl ifanc yn eu harddegau sy'n ymwneud â grwpiau neo-Natsïaidd ac eithafiaeth adain dde. Daeth ei sylwadau ar ôl i ddyn o Gaerdydd gael euogfarn am berthyn i...
Altaf Hussain: Gweinidog, rydyn ni i gyd yn derbyn yr angen i ddatgarboneiddio ein diwydiant dur. Er bod croeso i'r arian sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU i Tata i symud i ffwrneisi arc trydan, mae dewis arall wedi dod i'r amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Birmingham wedi datblygu proses i leihau allyriadau o ffwrnais chwyth draddodiadol yn sylweddol. Mae'r dechnoleg hon...
Altaf Hussain: Gweinidog, mae'r ffaith nad yw'r pontio bob amser yn rhwydd rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac mae hynny wedi rhoi ein GIG o dan faich echrydus. Nid yw hynny'n fwy amlwg yn unman nag ym maes gofal diwedd oes. Yn y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol yr wythnos diwethaf, fe glywsom ni fod cael gafael ar wasanaethau y tu allan i oriau yn drybeilig. Cymerodd gofalwr dros 20...
Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cyflawniad gwych, Gweinidog. Nawr, mae pobl o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru yn wynebu canlyniadau gwaeth o ran canser yr ysgyfaint, canser yr ofari neu ganserau eraill, ac mae fy mhryder i, a godwyd gan Laura hefyd, ynglŷn â'r sgrinio—sgrinio wedi'i dargedu—rhwng 55 a 74 oed, fel yr ydym ni'n ei wneud gyda chanser y coluddyn. Ac mae'n hanfodol...
Altaf Hussain: Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu'r capasiti llawfeddygol yn y GIG yng Nghymru?
Altaf Hussain: Gweinidog, mae darparu gofal cam-i-lawr yn hanfodol os ydyn ni am fynd i'r afael â'r amseroedd aros sy'n tyfu'n barhaus y mae cleifion yn fy rhanbarth i a ledled Cymru yn eu dioddef. Wrth gwrs, pe na bai Llywodraeth Cymru flaenorol wedi cau ysbytai cymunedol a goruchwylio proses o gael gwared ar dros 10,000 o welyau o'n GIG, efallai na fyddem ni yn yr helynt hwn heddiw. Fodd bynnag, yr hyn...
Altaf Hussain: Diolch i chi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Rydym ni'n croesawu'r cynllun gweithredu LHDTC+ i Gymru yn fras, yn ogystal â'i gyflwyno yn ystod Mis Hanes LHDTC+. Rydyn ni wedi dod yn bell o ran sicrhau cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol a cwiar. Camgymeriadau'r gorffennol, megis adran 11 Deddf Diwygio Cyfraith Droseddol 1885, a welodd filoedd o ddynion yn cael...
Altaf Hussain: Weinidog, mae'n anodd dychmygu sut le fydd gweithle yfory. Pe bai rhywun wedi dweud yr adeg hon y llynedd y byddai deallusrwydd artiffisial yn pasio'r cyfweliad ar gyfer swydd peiriannydd rhaglen lefel 3 yn Google, byddem wedi meddwl eu bod yn wallgof, ond dyna'n union a wnaeth ChatGPT ychydig ddyddiau yn ôl. Mae'r cynnydd cyflym mewn deallusrwydd artiffisial yn cyflwyno set hollol newydd o...
Altaf Hussain: Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw fel cefnogwr cryf i gais y porthladd rhydd Celtaidd. Mae’r cyfleoedd a gynigir gan y porthladd rhydd Celtaidd i fy rhanbarth i ac ardal ehangach de-orllewin Cymru yn aruthrol. Dyna pam fod gan y cais gefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac ar draws y rhanbarth. Pe bai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cais, gallai...
Altaf Hussain: Gweinidog, mae'r fframwaith Adrodd ar Lwybrau Gofal yn ychwanegiad i'w groesawu. Rydyn ni'n rhy ymwybodol o'r effaith y mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn ei chael ar draws y GIG. Nod y fframwaith yw hyrwyddo cydweithio agosach rhwng meysydd iechyd a gofal, a dim ond pan fyddwn ni'n gweld trefn ryddhau fwy integredig y byddwn ni'n gallu asesu ei effaith lawn. Gweinidog, a yw cyflwyno'r...
Altaf Hussain: Weinidog, ar sawl achlysur, rwyf wedi codi sefyllfa trigolion ar draws fy rhanbarth sydd wedi dioddef o ganlyniad i doriadau i wasanaethau bysiau rheolaidd. Y mater diweddaraf a ddygwyd i’m sylw yw cynnig gan First Cymru i dorri gwasanaethau i Resolfen yn fy rhanbarth. Mae llawer o bobl yn Resolfen, yn enwedig yr henoed, yn ddibynnol ar wasanaeth X7, gan fod eu swyddfa bost neu fanc agosaf...
Altaf Hussain: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cael cynnig y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Yn anffodus, nid yw gwneud plentyndod yn gyfartal yn rhywbeth rydym wedi rhagori arno. Mae Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn nodi bod 'rhaid i Wladwriaethau sy'n Barti roi mesurau effeithiol a phriodol ar waith, gan gynnwys drwy gymorth gan gymheiriaid, i alluogi...
Altaf Hussain: Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol am y camau y gallant eu cymryd i wella lles anifeiliaid?