Mandy Jones: Diolch. Prif Weinidog, mae astudiaeth fawr o addysgu gartref yn ystod y cyfyngiadau symud gan Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain wedi tynnu sylw at rai canfyddiadau sy'n peri gofid ynglŷn â sut y gallai addysg plant yng Nghymru fod yn dioddef. Maen nhw'n awgrymu, o dan eich goruchwyliaeth chi, bod plant yng Nghymru yn gwneud llai o waith ysgol ac yn cael llai o addysg ar-lein na'u...
Mandy Jones: 7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith Covid-19 ar gyllidebau Cymru yn y dyfodol? OQ55355
Mandy Jones: Diolch, Gweinidog. Fel y gwyddoch, fe ddaeth symiau o arian i dynnu dŵr o'r llygaid gan Lywodraeth y DU i helpu economi Cymru yn ystod y cyfnod cloi, yn ogystal â'ch Llywodraeth chi'n ail-greu ac yn ail-gynllunio cyllidebau a chronfeydd sy'n bodoli eisoes. Fe all unrhyw un sy'n rheoli cyllideb aelwyd weld y bydd effaith ganlyniadol ar gyllidebau Cymru yn y dyfodol a'r gwasanaethau y maen...
Mandy Jones: 2. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith y gwaharddiadau symud ar arferion gwaith yn y dyfodol ar gyfer Aelodau'r Senedd a staff y Comisiwn? OQ55356
Mandy Jones: Diolch am yr ateb yna. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r holl staff, y Comisiwn a'r staff cymorth. Maen nhw’n parhau i ddarparu'r lefelau rhagorol o wasanaeth yr ydym wedi dod i'w disgwyl, hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn. Mae'n amlwg bod staff ac Aelodau'r Senedd yn gallu gweithio'n effeithiol ac o bell, o'u cartrefi neu fannau eraill, gyda'r holl fanteision o beidio...
Mandy Jones: Weinidog, rwy'n clywed gan rieni gofidus, sydd â phlant yn gofidio’n fawr, sydd eisiau ac angen gwybod y byddant yn mynd yn ôl i'r ysgol yn llawnamser ym mis Medi. Mae rhieni sy'n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr hyd yn oed yn ystyried anfon eu plant i ysgolion yn Lloegr ym mis Medi. Beth sydd gennych i'w ddweud wrth y rhieni hynny? Diolch.
Mandy Jones: 2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar wasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19? OQ55406
Mandy Jones: Diolch, Weinidog. Mae fy mhryderon dybryd am ganlyniadau anfwriadol y cyfyngiadau symud wedi’u cofnodi eisoes. Mae'r ffaith bod yr un pwnc wedi codi fwy nag unwaith heddiw yn dyst i'r straeon y mae pawb ohonom, heb os, yn eu clywed am apwyntiadau cemotherapi wedi'u gohirio neu eu canslo, am apwyntiadau meddygol wedi'u gohirio neu eu canslo a sgrinio nad yw’n digwydd. Rydych wedi bod yn...
Mandy Jones: Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu heddiw a chwifio'r faner dros ein sector amaethyddol. Rwy'n byw mewn cymuned ffermio, ac roeddwn i'n arfer gweithio ynddi fel gweithiwr fferm ar ffermydd cymysg a hefyd fel bugail. Tra bûm yn gweithio yn y gymuned hon, roedd yn rhaid i mi gydymffurfio â'r rheolau a'r rheoliadau a osodwyd arnom gan yr UE, megis torri cwotâu llaeth. Roedd gwylio fy ffermwyr...
Mandy Jones: Diolch, Llywydd. Beth—
Mandy Jones: Diolch, Llywydd. Pa drafodaethau—
Mandy Jones: 1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag aelodau o Lywodraeth y DU ynghylch Brexit ers i'w deitl gael ei newid ar 4 Mawrth 2020? OQ55462
Mandy Jones: Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Mae hi yn destun gofid i mi ei bod hi'n ymddangos nad yw pob Llywodraeth yn y DU yn gallu gweithio gyda'i gilydd yn y cyfnod cythryblus hwn i sicrhau y caiff holl ddinasyddion y DU eu trin yn gydradd lle bynnag y maen nhw'n byw, ac mae'n dorcalonnus, er gwaethaf gwahanol fforymau ar gyfer trafod a dadlau, er gwaethaf adroddiadau pwyllgorau'r Senedd a gwir...
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gefnogi rhyddid crefydd yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch ichi am eich datganiad heddiw a'r cyfle imi gyfrannu. Yr ymdeimlad o ofn ar ôl popeth y mae'r gwasanaeth iechyd a'r cyhoedd wedi bod drwyddo eleni, anfonaf fy nymuniadau gorau a—[Anghlywadwy.]—yr holl heriau a'r peryglon sy'n dod yn sgil hynny, yn enwedig i'r rhai sy'n agored i niwed. Rwyf wedi clywed manylion eich cynllun diogelu'r gaeaf ac...
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am allu'r GIG yng Ngogledd Cymru i drin afiechydon a chyflyrau nad ydynt yn rhai COVID-19?
Mandy Jones: Diolch, Lywydd—Ddirprwy Lywydd, mae'n ddrwg gennyf. Hoffwn ddiolch—wel, rwy'n meddwl yr hoffwn ddiolch—i grŵp y Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon, ac am y cyfle i siarad. Fe'i cadwaf yn fyr. Dywedaf 'rwy'n meddwl' oherwydd, o'r diwedd, mae unrhyw esgus bod y Blaid Geidwadol yn blaid cyfrifoldeb personol ac o blaid busnes wedi'i ddileu. Rwyf wedi gwylio'n siomedig dros yr haf wrth...
Mandy Jones: Wel, déjà vu, dyma ni eto. Mae'n teimlo fel 2016, 2017, 2018 a 2019—hysteria, darogan gwae a gormodiaith. Rwyf wedi darllen rhai o'r sylwadau a fu yn y penawdau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Jeremy Miles: Mae'r Bil hwn yn ymosodiad ar ddemocratiaeth ac yn sarhad ar bobl Cymru. Wel, mae'n ddrwg gennyf, Jeremy, ond pleidleisiodd pobl Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd ac o bosibl eu bod...
Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Llywodraeth Cymru o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014?
Mandy Jones: Ddirprwy Weinidog, roeddwn yn falch o gefnogi'r sector twristiaeth yng ngogledd Cymru dros gyfnod y cyfyngiadau symud, a'r bygythiad real iawn i fusnesau, swyddi a bywoliaeth a ragwelwyd pe na bai'r sector yn cael ei agor mewn modd amserol. Nid llety'n unig yw twristiaeth, mae'n golygu amgueddfeydd, llochesau anifeiliaid, plastai a'r holl bethau rydym ni fel trigolion yn gwybod eu bod yno ond...