Canlyniadau 221–240 o 800 ar gyfer speaker:Bethan Sayed

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Addysg Cerddoriaeth
(12 Gor 2017)

Bethan Sayed: Roeddwn am ofyn yn benodol am eich sgyrsiau gyda’r sefydliad newydd, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Roeddwn yn siarad â thiwtoriaid yn ysgol Gartholwg, pan aethom fel rhan o ymchwiliad y pwyllgor ar gerddoriaeth, gyda Dawn Bowden, a dywedodd un o’r tiwtoriaid wrthyf, ‘Mae fy merch yn gwneud cais am y gerddorfa Ewropeaidd gan y gall fforddio gwneud hynny yn haws nag y gall...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Ysgolion Bro
(12 Gor 2017)

Bethan Sayed: Roeddwn yn meddwl tybed pa waith rydych wedi’i wneud mewn perthynas â chysylltiadau cymunedol ac ysgolion bro. Er enghraifft, yn fy ardal i—ac ardaloedd eraill—mae gennym ysgol fawr newydd, sef Ysgol Bae Baglan. Dywedwyd wrthynt cyn i’r ysgol gael ei hadeiladu, gan uno gwahanol gymunedau o amgylch yr ardal honno, y byddent yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth—yn gallu cael...

5. 5. Cynnig i Gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad a Nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar gyfer y Cyfnod 2015-2017 (12 Gor 2017)

Bethan Sayed: Diolch, Llywydd, a diolch i Adam Price am ei araith yn hynny o beth. Yn ein cyfarfod ar 10 Mai, trafododd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y cynllun ieithoedd swyddogol drafft, fel yr amlinellwyd yn flaenorol, a chawsom dystiolaeth lafar gan Adam Price, Comisiynydd y Cynulliad ar yr iaith Gymraeg, a chan swyddogion y Cynulliad hefyd. Fodd bynnag, cyn craffu ar y cynllun drafft,...

5. 5. Cynnig i Gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad a Nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar gyfer y Cyfnod 2015-2017 (12 Gor 2017)

Bethan Sayed: Mae e braidd yn siomedig fod y pwyllgor wedi cael cais i beidio â chyhoeddi’r asesiad hwn am resymau gweinyddol. Gan hynny, ni all Aelodau eraill y Cynulliad, na’r cyhoedd yn gyffredinol, farnu a yw’r mesurau lliniaru yn y cyswllt hwn yn ddigonol, ac mae’n bwysig ei fod e’n cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo modd. Ac ychwanegiad hoffwn i ei ddweud yn hynny o beth yw ein bod ni yn...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (19 Med 2017)

Bethan Sayed: Fel yr ydym wedi clywed eisoes heddiw, rydym ni i gyd yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, yn cyhoeddi y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cynnal asesiad o’r adolygiad bwrdd gwaith o’r gwersi a ddysgwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Ni fyddaf yn nodi'r holl fanylion eto, ond roedd hwn yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Sefydlu Cofrestr Cam-drin Anifeiliaid yng Nghymru
(20 Med 2017)

Bethan Sayed: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i sefydlu cofrestr cam-drin anifeiliaid yng Nghymru? (OAQ51033)

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Sefydlu Cofrestr Cam-drin Anifeiliaid yng Nghymru
(20 Med 2017)

Bethan Sayed: Diolch am y diweddariad hynny. Gwnaethoch chi ddweud yn eich ateb mai grŵp gorchwyl yr RSPCA oedd hwn. Roeddwn i eisiau cadarnhau a ydych chi yn mynd i fod yn cynnwys mudiadau eraill ar y grŵp gorchwyl yma, ac yn cymryd tystiolaeth gan y rheini yn y maes sydd wedi bod yn gweithio—gyda dim bwriad i danseilio’r RSPCA, ond, cyn yr RSPCA, mae nifer o grwpiau wedi bod yn lobïo am y gofrestr...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(20 Med 2017)

Bethan Sayed: Diolch. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â Grenfell ac rwyf wedi gofyn llawer o gwestiynau ynglŷn â hynny yma yn y Siambr, ac a bod yn deg, rydych wedi anfon y wybodaeth ddiweddaraf atom yn rheolaidd dros yr haf, fel y gofynnwyd ichi wneud, o ran yr hyn yr ydych yn ei wneud mewn perthynas â Grenfell ar lefel Cymru. Ar 25 Awst, daeth yn amlwg fod y cladin ar rai blociau o fflatiau...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(20 Med 2017)

Bethan Sayed: Ac ar yr un thema, mewn ymateb i ddadl fer gan Dawn Bowden ym mis Mai mewn perthynas â diogelwch trydanol—yn amlwg, mae hyn yn berthnasol yma gan fod peiriant golchi yn rhan o’r sefyllfa gyda’r tân yn Grenfell—fe ddywedoch y byddech yn comisiynu gwaith ymchwil yng Nghymru ar danau a achosir gan drydan. Hoffwn wybod beth sy’n digwydd gyda’r gwaith ymchwil hwnnw a phwy y byddwch...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(20 Med 2017)

Bethan Sayed: Diolch. Wel, buaswn yn gobeithio, os ydych yn derbyn llythyrau gan arbenigwyr, eich bod yn defnyddio eu harbenigedd. Credaf mai’r hyn rwy’n ceisio ei ddweud yw bod yr arbenigedd hwnnw ganddynt i’w gynnig, yn amlwg, ac mae eu drws yn agored i chi siarad â hwy. Roeddwn yn awyddus i symud ymlaen at dai. Rwyf wedi bod yn siarad cryn dipyn yn ddiweddar am dai cymdeithasol. Roeddwn am ofyn...

3. 3. Cwestiynau Amserol:
Achos Kris Wade
(20 Med 2017)

Bethan Sayed: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r gwersi a ddysgwyd yn sgil y sgandal Kris Wade ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg? (TAQ0043)

3. 3. Cwestiynau Amserol:
Achos Kris Wade
(20 Med 2017)

Bethan Sayed: Diolch am yr ymateb hwnnw. Mae’n eithaf anodd gwybod ble i ddechrau mewn perthynas â’r mater hwn—adroddiad mewnol sy’n sylfaenol ddiffygiol, a’r hyn a grëwyd gan reolwyr graddfa ganol fel atodiad i’w gwaith bob dydd yn ôl cyn-ymgynghorydd o Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Mae hynny, ynddo’i hun, yn gyhuddiad damniol o’r adroddiad hwn. Rydych yn dweud heddiw mai adolygiad...

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Uwch Garchardai (20 Med 2017)

Bethan Sayed: Diolch. Ers y cyhoeddiad am y Titan mawr newydd neu’r uwch garchar yn ôl ym mis Mawrth eleni, mae wedi dychryn pobl ar draws y cymunedau rwy’n eu cynrychioli ym Mhort Talbot a’r ardal ehangach hefyd. Mae wedi grymuso croestoriad eang o’r gymuned ac wedi arwain at ymdrech drawsbleidiol go iawn ym Mhort Talbot i ddweud ‘na’ wrth y carchar hwn. Mae wedi arwain at bobl yn cymryd rhan...

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Uwch Garchardai (20 Med 2017)

Bethan Sayed: Diolch.

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Uwch Garchardai (20 Med 2017)

Bethan Sayed: Wel, hoffwn pe bai gennyf fwy o ddogfennau, ond yr hyn a ganfuwyd oedd eich bod wedi cael sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU. Rydych wedi rhoi rhestr iddynt o safleoedd posibl yng Nghymru. Yn ôl yr hyn a ddeallaf—ac unwaith eto, rwy’n falch o gael fy nghywiro—nid oedd angen i chi roi’r rhestr honno i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn wir, byddai galw iddynt osod gorchymyn prynu gorfodol ar...

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Uwch Garchardai (20 Med 2017)

Bethan Sayed: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Uwch Garchardai (20 Med 2017)

Bethan Sayed: Roeddwn i eisiau eglurhad, oherwydd fe ddywedoch nad ydych wedi bod yn rhan o unrhyw brosesau gwneud penderfyniadau. Ond ar 28 Mehefin, yn y cwestiynau cymunedau mewn ymateb i fy nghwestiwn ar y carchar, fe ddywedoch fod eich adran wedi cymryd rhan, ac rwy’n dyfynnu ‘o ran penderfynu a chynnig safleoedd a oedd ar gael ar draws rhanbarth de Cymru.’ Felly, roeddech naill ai’n cymryd...

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Uwch Garchardai (20 Med 2017)

Bethan Sayed: Wel, yn anad dim arall, rwy’n falch ein bod wedi cael dadl danllyd a diddorol i’r rhai ohonom sydd wedi bod eisiau cael y ddadl hon heddiw, ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig gydag ymateb Ysgrifennydd y Cabinet gan ein bod mewn wythnos lle rydym yn trafod datganoli a’r pwerau sydd gennym. Weithiau, hyd yn oed os nad oes gennych y pwerau yn eich gafael, mae gennych yr...

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Uwch Garchardai (20 Med 2017)

Bethan Sayed: Felly, a wnewch chi—? Fel y dywedodd Adam Price, mae Envases, y cwmni wrth ymyl y safle hwnnw, wedi dweud y byddai ganddynt ddiddordeb yn ei brynu, ac mae wedi bod yn wag ers cymaint o amser. Pam nad ydych wedi buddsoddi yn y tir hwn cyn nawr? Oherwydd ei fod ar barc diwydiannol, mae’n ddyletswydd arnoch i wneud hynny. Dywedais—ni ddywedais na fyddem yn wleidyddol; dywedais ein bod yn...

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Uwch Garchardai (20 Med 2017)

Bethan Sayed: Adam, a ydych am wneud ymyriad? [Torri ar draws.] Rwy’n mynd i ddod â’r ddadl hon i ben, ac rwy’n diolch i bawb am ddadl mor fywiog os nad dim byd arall.

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.