Lynne Neagle: Diolch Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 i nodi prif gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg ynghylch y Bil Cyllido Gofal Plant. Byddwch yn gweld o'n hadroddiad fod saith o'r wyth Aelod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Fel y clywsoch, nid oedd Llyr Gruffydd o blaid symud y Bil y tu hwnt i Gyfnod 1, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn...
Lynne Neagle: Mae'n deg dweud bod nifer ohonom wedi rhannu rhai o bryderon Llyr ynghylch y cynnig gofal plant ar ei ffurf bresennol. Byddaf yn ymhelaethu ar rai o'r meysydd hynny ychydig yn ddiweddarach. Fodd bynnag, ar y cyfan, nid oeddem o'r farn bod y pryderon hyn yn gyfiawnhad i'r Pwyllgor argymell y dylai'r Bil fethu ar hyn o bryd. Daethom i'r casgliad hwn ar sail ein cred bod angen y Bil er...
Lynne Neagle: Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn yn falch iawn o weld y cyhoeddiad y byddwch yn ymgynghori ar ganllawiau statudol, oherwydd, fel y gwyddoch, mae’r ddogfen bolisi bresennol yn dda iawn, mewn gwirionedd, ac yn rhoi llawer o bwyslais ar wisg ysgol enerig. Ond buaswn yn dadlau nad yw'r rhan fwyaf o ysgolion yn dilyn y canllawiau hynny fel y dylent, ac rwy'n siŵr eich bod wedi gweld yr...
Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o bengliniau a reolir gan ficrobrosesyddion yng Nghymru?
Lynne Neagle: Diabetes math 1 yw'r cyflwr cronig mwyaf cyffredin mewn plant a phobl ifanc. Fel y gwyddom, os na wneir diagnosis ohono, gall fod yn angheuol. Rwy'n canmol y Pwyllgor Deisebau am eu gwaith ar y ddeiseb hon, ac rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru yn derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor. Un o'r pryderon a godwyd gan y teulu Baldwin a Diabetes UK Cymru oedd nad oedd digon o gyfarpar...
Lynne Neagle: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i agor y ddadl Aelodau unigol ar golli babanod. Yn anffodus, nid yw colli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban yn ddigwyddiadau anghyffredin. Daw un o bob pedwar beichiogrwydd i ben drwy gamesgoriad, ac ar draws y DU, mae 15 o fabanod yn marw bob dydd naill ai cyn, yn ystod neu'n fuan ar ôl genedigaeth, sy'n golygu bod...
Lynne Neagle: Lywydd, mewn gwleidyddiaeth, yn aml ceir llwybr hawdd a llwybr anodd. Pe bai'n wir mai'r llwybr hawdd yw'r ffordd gywir i fynd bob amser, byddai'r gwaith a wnawn yma yn syml. Yn wir, prin y byddai ein hangen o gwbl. Ond yn amlach na pheidio, y gwir amdani yw bod y llwybr caled hefyd yn ffordd gywir i fynd. Mewn oes pan ellir ail-drydaru celwydd 30,000 o weithiau cyn i'r gwir danio ei...
Lynne Neagle: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith credyd cynhwysol yn Nhorfaen? OAQ52752
Lynne Neagle: Prif Weinidog, mae'r gwasanaeth credyd cynhwysol wedi bod yn cael ei gyflwyno'n llawn yn Nhorfaen ers dros flwyddyn erbyn hyn. Yn ystod y flwyddyn honno, rydym ni wedi gweld pobl yn aros chwech i wyth wythnos am daliad, cynnydd i ddyledion ac ôl-ddyledion rhent, mwy a mwy o bobl yn gorfod defnyddio banciau bwyd a llinell gymorth credyd cynhwysol lle mae pobl yn aros oriau yn llythrennol i...
Lynne Neagle: Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol a'n hadroddiad, 'Cyrraedd y nod?', a gyhoeddwyd gennym ym mis Mehefin. Nod ein hymchwiliad oedd edrych i weld a yw gwaith Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio dull wedi'i dargedu i gynorthwyo disgyblion difreintiedig i gyrraedd eu potensial...
Lynne Neagle: Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i fonitro effaith y grant datblygu disgyblion yn agos a sicrhau gwerth am arian, ac rydym yn croesawu hynny. Dywedodd Estyn wrth y pwyllgor fod dwy ran o dair o ysgolion yn defnyddio'r grant yn effeithiol. Nododd Estyn ac Ysgrifennydd y Cabinet fod hyn i'w ddisgwyl gan ei fod yn adlewyrchu'r gyfran o ysgolion gydag arweinyddiaeth dda neu well. Fodd...
Lynne Neagle: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddadl adeiladol y prynhawn yma ar bwnc pwysig iawn? Nid wyf wedi cael neges yn rhoi gwybod i mi faint o amser sydd gennyf, Lywydd, felly rwy'n credu—
Lynne Neagle: O'r gorau. Iawn, diolch. [Torri ar draws.] O'r gorau. Os dechreuaf, felly, gyda Suzy Davies, a dynnodd sylw at rai o ddiffygion y grant datblygu disgyblion, a gafodd sylw yn ein hadroddiad, ond y gobeithiwn yn fawr y bydd ein hargymhellion ac ymateb cadarnhaol Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i'r afael â hwy—pethau fel y canllawiau newydd rydym wedi galw amdanynt. Gwn fod y Gweinidog yn...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad? Rwy'n croesawu'r datganiad a'r cyllid ychwanegol yn fawr iawn. Fel y tynnwyd ein sylw ato, roedd hwn yn faes o bryder mawr i'r pwyllgor ac rwyf fi, am un, yn falch iawn bod y Llywodraeth wedi gallu ymateb mor gadarnhaol. Fel y tynnwyd ein sylw ato gennych, mae a wnelo hyn â'r cwricwlwm newydd, ond hefyd â buddsoddi yn ein gweithlu,...
Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch Brexit?
Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu gwneud y datganiad hwn heddiw, ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, i gydnabod pwysigrwydd Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig. Sefydlwyd Diwrnod Byd-eang y Plant gan y Cenhedloedd Unedig ym 1954 a chaiff ei ddathlu ar 20 Tachwedd bob blwyddyn i hybu undod rhyngwladol, ymwybyddiaeth ymhlith plant ledled y byd ac er mwyn...
Lynne Neagle: Yn rhan o'n gwaith craffu ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), fe wnaethom ni gynnal cyfres o weithdai gyda phobl ifanc a chynhadledd ar gyfer y rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn helpu i gasglu sylwadau ynglŷn â sut mae'r Bil wedi effeithio arnyn nhw. Ffurfiodd yr ymgysylltiad hwn ran hanfodol o'n gwaith craffu...
Lynne Neagle: Diolch, Janet Finch-Saunders, am y sylwadau hynny ac am y geiriau caredig, rwy'n eu gwerthfawrogi'n fawr. Roedd nifer o'r materion y gwnaethoch chi eu crybwyll yn ymwneud ag adroddiad y comisiynydd plant. Fel y gwyddoch chi, bydd y comisiynydd plant ger ein bron ddydd Iau, a bydd gennym ni gyfle i'w holi'n uniongyrchol ac i gymryd camau dilynol ar y materion hynny bryd hynny, ac mae pob mater...
Lynne Neagle: Diolch i chi, Julie, am y sylwadau hynny, a diolch ichi am y cyfraniadau cadarnhaol iawn yr ydych chi'n eu gwneud i'r pwyllgor yn gyson. Fe wnes i roi rhai enghreifftiau yn y datganiad o sut rwy'n credu ein bod wedi gallu sicrhau rhywfaint o newid. Fe wnaethoch chi gyfeirio at 'Cadernid Meddwl', ac, fel y gwyddoch chi, roedd y pwyllgor yn siomedig iawn ag ymateb Llywodraeth Cymru i 'Cadernid...
Lynne Neagle: Diolch i Siân Gwenllian am ei sylwadau. Rwy'n falch iawn o'i chael hi'n aelod o'r pwyllgor hefyd. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch y mater hawliau plant. Mae wedi bod yn thema gyson yn y Cynulliad—ein bod ni'n pryderu, er gwaethaf y cychwyn gwych hwn yn ôl yn 2011, bod yr ymrwymiad hwnnw wedi gwanhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf am resymau teilwng iawn eu golwg, yn sgil pethau fel...