Canlyniadau 221–240 o 2000 ar gyfer speaker:Andrew RT Davies

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Andrew RT Davies: Wel, rydych yn siarad o hyd am yr hyn mae Llywodraeth y DU wedi’i ddarparu. Rwyf wedi tynnu sylw at y £400 miliwn sy’n cael ei ddychwelyd i ddefnyddwyr ynni uchel. Rwyf wedi siarad am help a chymorth yn sgil mynd i Ewrop a gofyn am osod tariffau ar ddur. Ond nid yw mor syml â gosod tariffau ar ddur. Rhaid i chi edrych ar y strategaeth gyfan i sicrhau nad yw sector arall, megis cwmnïau...

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Andrew RT Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Onid ydych yn cydnabod bod 95 y cant o’r holl ddur a ddefnyddir ar reilffyrdd Prydain yn ddur Prydain a bod Chris Grayling wedi rhoi ymrwymiad i Dŷ’r Cyffredin ei fod am weld dur Prydain yn cael ei ddefnyddio ar HS2 ond bod yna weithdrefnau caffael sy’n rhaid gweithio drwyddynt?

5. 5. Dadl Plaid Cymru: Ceblau’r Grid Cenedlaethol (18 Ion 2017)

Andrew RT Davies: Fel rhywun sy’n byw’n agos iawn at orsaf bŵer Aberddawan ac sydd wedi ymweld â’r rheolwyr yno droeon, onid ydych yn cydnabod bod llawer iawn o fuddsoddiad wedi mynd tuag at reoli allyriadau o’r orsaf bŵer a bod ateb yno? Drwy weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, gall yr ateb hwnnw ymestyn oes rhan hanfodol o’r seilwaith ynni yng Nghymru. Onid ydych yn derbyn y byddai’n drasiedi...

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cymorth Ariannol i Fusnesau Bach (18 Ion 2017)

Andrew RT Davies: Rwy’n croesawu’r cyfle i gyfrannu’n fyr at y ddadl hon. Fel David Rowlands ac eraill yn y Siambr, rwy’n croesawu’r symud ar ran Llywodraeth Cymru wrth iddi gyhoeddi’r arian ychwanegol a neilltuwyd ar gyfer cefnogi busnesau sydd ar y pen anghywir i’r broses ailbrisio hon. Ond fel y clywsom ddoe gan Nick Ramsay yn ei gwestiwn i’r Prif Weinidog a minnau mewn cwestiynau i...

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cymorth Ariannol i Fusnesau Bach (18 Ion 2017)

Andrew RT Davies: Rwy’n ddiolchgar iawn am y ffordd rydych wedi taflu goleuni ar y broses, ac rwy’n deall bod yn rhaid i chi weithio o fewn y gyfraith a’r rheoliadau. Pan ddywedwch ychydig wythnosau, efallai y gallwch roi syniad i ni pa mor hir y gallai hynny fod? Oherwydd gwn mai’r cwestiwn cyntaf a gaf fydd: ‘Beth y mae ychydig wythnosau yn ei olygu yn y cyd-destun hwn?’

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(24 Ion 2017)

Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Pan fyddwch chi’n drydydd ar y rhestr arweinwyr i ofyn cwestiynau, rydych chi’n tybio fel rheol y bydd pwnc y dydd wedi cael ei ofyn gan un o'r ddau arall, felly rwyf innau hefyd yn rhoi'r rhybudd iechyd y byddaf yn gadael fy nghwestiynau Ewropeaidd tan yn ddiweddarach yn y prynhawn. Hoffwn ofyn i chi, Brif Weinidog, yn benodol am adroddiad arolygu Estyn a gyhoeddwyd...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(24 Ion 2017)

Andrew RT Davies: Clywais yn eich ateb, Brif Weinidog, eich bod yn siarad am gyflogau ac amodau yn yr Alban. A dweud y gwir, cwympodd canlyniadau’r Alban yn y safleoedd PISA, ac nid yw honno'n unrhyw esiampl i’w dilyn, byddwn yn awgrymu i chi, Brif Weinidog. Rydych chi wedi cael menter ar ôl menter yn ystod eich cyfnod fel Prif Weinidog, ac, yn wir, ers i Lafur fod yn rhedeg addysg, ers 1999. Rydym wedi...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(24 Ion 2017)

Andrew RT Davies: Wel, rydych chi bob amser yn gwybod pan fyddwch chi’n taro nerf gyda'r Prif Weinidog: mae’n crybwyll ystadegau nad ydynt yn sefyll i fyny i unrhyw graffu o gwbl. Rydym yn siarad am y presennol ac adroddiad Estyn a gyflwynwyd heddiw, sydd yn dditiad damniol o'ch stiwardiaeth chi yma yng Nghymru. Os edrychwch chi ar un awdurdod addysg lleol—Caerdydd—mae bron i 50 y cant o benaethiaid...

4. 4. Datganiad: ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’: Symud o’r Undeb Ewropeaidd at Berthynas Newydd ag Ewrop (24 Ion 2017)

Andrew RT Davies: Brif Weinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Rwy’n credu bod eich sylwadau diwethaf yn benodol am fyfyrio ar gynnwys y Papur Gwyn yn gywir. Mae'n bwynt i’w ddadlau, mae'n bwynt i’w drafod, ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn edrych arno yn adeiladol a naill ai’n cynnig dewis arall, neu, yn amlwg, yn cefnogi rhai o'r teimladau yn y papur. Rwyf am gyfleu pethau’n glir; ar yr...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Gwasanaethau Meddygon Teulu y tu allan i Oriau (Canol De Cymru)
(25 Ion 2017)

Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, fe sonioch am wneud y gwasanaeth yn fwy cynaliadwy, y gwasanaeth meddygon teulu, a’r gwasanaeth y tu allan i oriau yn wir. Yn amlwg, asgwrn cefn hynny yw cael meddygon ar lawr gwlad a all ddarparu’r gwasanaeth pan fo’i angen. Mewn ateb blaenorol a roesoch i Nathan Gill, clywais am yr yswiriant, ac yswiriant indemniad yn benodol, ar gyfer meddygon sy’n dod at...

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Dinasoedd ac Ardaloedd Trefol (25 Ion 2017)

Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Dinasoedd ac Ardaloedd Trefol (25 Ion 2017)

Andrew RT Davies: Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am dderbyn yr ymyriad. A wnaiff gydnabod pwysigrwydd y math rhanbarthol hwn o gynllunio ac yn benodol, pwysigrwydd gwneud ein dinasoedd a’n trefi yn ddeniadol iawn? Oherwydd bellach, gyda’r meiri a etholwyd yn uniongyrchol sydd â phwerau a chyfrifoldebau adfywio enfawr ym Mryste, Birmingham a Lerpwl, yn union ar draws y ffin—i’r gogledd, y...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(31 Ion 2017)

Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Dydd Sadwrn yw Diwrnod Canser y Byd, rhywbeth y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi cael eu cyffwrdd ganddo, a gwn eich bod chi a fy nheulu i wedi cael profiad anffodus lle’r ydym ni wedi colli rhywun annwyl i ganser. Bydd un o bob dau ohonom ni yn cael profiad o ganser yn ein bywydau yn y dyfodol, i lawr o un o bob tri. Felly, mae'r tebygolrwydd o bobl yn cael...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(31 Ion 2017)

Andrew RT Davies: Rydych chi’n iawn i dynnu sylw at yr agweddau cadarnhaol ar driniaethau canser a'r datblygiadau a'r ffordd y mae Cymru ar flaen y gad yn rhai o'r meysydd hyn. Mae'r banc canser yn Ysbyty Felindre yn enghraifft dda iawn arall o wyddoniaeth a thechnoleg arloesol. Mae gan eich Llywodraeth dargedau o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ceir datganiad y prynhawn yma, 'Tuag at 2030', gan...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(31 Ion 2017)

Andrew RT Davies: Diolch i chi am yr ymrwymiad yna, Brif Weinidog, oherwydd os bydd yr ymrwymiad hwnnw’n cael ei wneud, mae’n bosibl y gallai achub 600 o fywydau—pobl sy'n marw cyn pryd trwy ganser yr ysgyfaint yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn y pen draw, mae hwnnw'n nod, yn sicr, y dylai pob un ohonom geisio ei gyrraedd. Bythefnos yn ôl, cynhaliais ddigwyddiad yma ar gyfer Cancer Patient Voices...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Hawliau Pori ar Dir Comin
( 1 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ategu sylwadau Hefin? Mae’r ddau ohonom wedi bod yn ymdrin â mater penodol mewn perthynas â chomin Eglwysilan, ond mewn sawl rhan o Gymru, ceir darnau enfawr o dir lle y mae hawliau wedi cronni dros nifer o flynyddoedd—dros nifer o ganrifoedd mewn gwirionedd. Wrth i bwysau gynyddu, yn enwedig pwysau trefol ar diroedd comin trefol, mae yna broblemau go...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Gofal Plant
( 1 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, fe gyfeirioch at gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru a chyflwyno hynny yn awr wrth inni symud ymlaen yn y Cynulliad. Rwy’n credu bod y cynlluniau peilot yn mynd i ddechrau y flwyddyn hon yn y gwahanol awdurdodau lleol a nodoch fel rhai addas i’r diben ar gyfer cynnal y cynlluniau peilot hynny. Pa fath o wybodaeth gyhoeddus, pa fath o wybodaeth fydd ar gael gennych...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Trais Domestig
( 1 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Tua 10 mlynedd yn ôl, roedd fy ngwraig yn fydwraig gymunedol, a phan arferwn glywed rhai o’r straeon yr oedd yn rhaid i’r timau cymunedol ymdrin â hwy mewn perthynas â thrais domestig—gan bobl y buasent wedi’u gweld ar ddiwedd yr wythnos o gymharu â’r hyn yr oeddent yn ymdrin ag ef ar ddechrau’r wythnos, ac mai’r hyn oedd wedi digwydd rhwng y ddwy adeg oedd digwyddiad...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
( 7 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, fel yr wyf wedi dweud wrthych lawer gwaith yn y Siambr hon, rydych chi wedi nodi addysg, yn gwbl briodol, fel blaenoriaeth i’ch stiwardiaeth fel Prif Weinidog yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Yr wythnos diwethaf, yn y pwyllgor addysg, rhoddwyd tystiolaeth a oedd yn dangos bod nifer yr athrawon yn ein hysgolion wedi gostwng gan dros 1,000 ers 2010....

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
( 7 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Mae bob amser yn fai ar rywun arall yn eich tyb chi, Brif Weinidog, onid yw? A bod yn deg, mae nifer y disgyblion yn ein hysgolion wedi aros yn gymharol sefydlog, ac eto rydym ni wedi gweld mwy na 1,000 o athrawon yn diflannu o'r ystafelloedd dosbarth, mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru yn ystod eich cyfnod chi. Yr hyn a ddaeth i'r amlwg yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf hefyd...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.