Canlyniadau 221–240 o 1000 ar gyfer speaker:Siân Gwenllian

4. Dadl: Cyfnod 4 Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) ( 5 Rha 2017)

Siân Gwenllian: Gair byr iawn gen i wrth i'r Bil gyrraedd diwedd ei daith yma yn y Cynulliad. Mae Plaid Cymru wedi cefnogi'r Bil yn llawn ar hyd yr amser ac wedi helpu i'w wella drwy'r broses graffu. Mae dileu'r hawl i brynu wedi bod yn bolisi gan ein plaid ni ers degawdau. Roedden ni'n grediniol y byddai'r hawl i brynu'n gweithio yn erbyn y rhai sy'n methu â fforddio prynu tŷ, yn gweithio yn erbyn y rhai...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 5 Rha 2017)

Siân Gwenllian: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal o effaith datblygiadau tai ar yr iaith Gymraeg?

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Rha 2017)

Siân Gwenllian: Mae Aelodau'ch Llywodraeth chi wedi disgrifio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 fel deddfwriaeth sydd yn torri tir newydd. A ydych chi'n meddwl bod hynny'n ddisgrifiad teg o sut mae'r Ddeddf honno'n cael ei gweithredu?

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Rha 2017)

Siân Gwenllian: Rydym ni wedi cael adroddiad gan bwyllgor yn mynegi pryderon mawr dros weithredu'r Ddeddf—ei bod yn araf, neu fod rhan ohoni heb eu gweithredu o gwbl. Yr wythnos yma, rydw i wedi cael diweddariad ar y sefyllfa a dyma'r ffeithiau i chi: nid oes yna gynllun gweithredu dros flwyddyn wedi cyhoeddi'r strategaeth; ymddengys na chyhoeddwyd canllawiau yng nghyswllt strategaethau lleol eto; nid...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Rha 2017)

Siân Gwenllian: Diolch. Ac rwy'n gwir obeithio y gwelwn ni'r cynnydd yma ar fyrder rŵan. Ac rwy'n diolch i chi am eich ymroddiad, ac yn gobeithio y byddwn ni mewn sefyllfa llawer gwell mewn ychydig fisoedd lawr y lein o'r fan hyn heddiw. Ac mae angen i unrhyw ddeddfwriaeth gael cyllid yn gefn iddi, wrth gwrs, er mwyn gwir gyflawni ei photensial. Ond, unwaith eto, mae gen i bryder yn y fan hyn, ac mae...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio): Cynrychiolaeth Deg o Fenywod mewn Swyddi Etholedig ( 6 Rha 2017)

Siân Gwenllian: 9. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau cynrychiolaeth deg o fenywod mewn swyddi etholedig? OAQ51434

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio): Cynrychiolaeth Deg o Fenywod mewn Swyddi Etholedig ( 6 Rha 2017)

Siân Gwenllian: Diolch. Roedd llai na thraean o holl ymgeiswyr etholiadau lleol 2017 yn ferched, a dim ond 27 y cant o'r rheini a gafodd eu hethol, yn ferched. Mae'r Llywodraeth wedi ymgynghori yn ddiweddar ar ddiwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol yng Nghymru, ond roedden nhw'n siomedig iawn i weld nad oedd yna unrhyw sôn o gwbl yn y papur ymgynghori am ymdrechion y Llywodraeth i sicrhau...

9. Dadl Plaid Cymru: Credyd cynhwysol ( 6 Rha 2017)

Siân Gwenllian: Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser gen i gyflwyno dadl Plaid Cymru heddiw ar gredyd cynhwysol. Dyma'r ail ddadl mewn chwe wythnos i ni ei chyflwyno ar y mater yma, oherwydd ein bod ni yn pryderu yn fawr am yr effaith gaiff y polisi dinistriol hwn ar ein dinasyddion ni yng Nghymru. Fel nifer ohonoch chi yn y Siambr heddiw yma, rydym ni yn pryderu, ond yn ogystal â hynny, ac yn ogystal â...

9. Dadl Plaid Cymru: Credyd cynhwysol ( 6 Rha 2017)

Siân Gwenllian: Mae adborth cynnar yn dangos amgylchiadau eithriadol o niweidiol i lawer o aelwydydd.

9. Dadl Plaid Cymru: Credyd cynhwysol ( 6 Rha 2017)

Siân Gwenllian: Mae safbwynt Plaid Cymru ar y mater yma yn glir: er mwyn amddiffyn ein dinasyddion rhag gweithredoedd y Ceidwadwyr ar eu gwaethaf, mae'n rhaid dechrau datganoli gweinyddiaeth y system les i Gymru. Mi fedrwn ni wedyn roi terfyn ar y diwylliant o oedi a chosbi, a hefyd sicrhau mai unigolion nid cartrefi sydd yn derbyn taliadau, er mwyn sicrhau na fydd y system newydd yn cael effaith...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ( 6 Rha 2017)

Siân Gwenllian: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ardrethi busnes?

7. Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-17 (12 Rha 2017)

Siân Gwenllian: Diolch, Llywydd. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i wneud gwaith pwysig yn yr hinsawdd wleidyddol heriol presennol, a hoffwn innau hefyd ddiolch iddyn nhw am eu gwaith. Ddydd Sul oedd Diwrnod Hawliau Dynol—cydraddoldeb, cyfiawnder a rhyddid rhag trais ydy rhai o’r themâu mawr. Mae cwmpas gwaith y comisiwn yn eang, ac felly heddiw rydw i wedi penderfynu canolbwyntio...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Rhaglenni Cyflogadwyedd (13 Rha 2017)

Siân Gwenllian: Mae pobl sy'n dioddef o salwch meddwl yn cael trafferth arbennig i ganfod llwybr i waith neu yn ôl i waith ar ôl cyfnod o salwch. Un ffordd o hwyluso mynediad at waith ydy cynnig lleoliad, sy'n golygu nad oes angen mynd drwy'r broses draddodiadol o gyfweliad a'r pryder a'r straen mae hynny'n gallu ei olygu. Pa ymdrechion y mae'r Llywodraeth wedi eu gwneud i annog lleoliadau o'r math yma? A...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Yr Iaith Gymraeg (13 Rha 2017)

Siân Gwenllian: 6. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth ar waith i gyfrannu at ei tharged o filiwn o siaradwyr erbyn 2050? OAQ51477

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Yr Iaith Gymraeg (13 Rha 2017)

Siân Gwenllian: Mae adroddiad newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg, sef 'Darpariaeth Gofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar Cyfrwng Cymraeg' yn dweud fel hyn: 'Er bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o bwysigrwydd gofal plant i ddyfodol yr iaith, nid oes cynlluniau pendant a chadarn ynglŷn â sut y bwriedir integreiddio'r Cynllun 30 Awr a’r weledigaeth 2050.'  Mae 'Ffyniant i Bawb' yn nodi pwysigrwydd...

7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Tai modiwlar (13 Rha 2017)

Siân Gwenllian: A gaf i ddweud ar y cychwyn pa mor gwbl wrthun oedd sylwadau UKIP ddoe ynglŷn â hawliau lleiafrifoedd? Mae gan aelodau o grwpiau lleiafrifol hawl digwestiwn i gael eu trin yn gyfartal, waeth beth fo'u hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, lliw eu croen, crefydd, anabledd neu unrhyw beth arall. Nid oeddwn i erioed yn meddwl—[Torri ar draws.]

7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Tai modiwlar (13 Rha 2017)

Siân Gwenllian: —y byddwn yn clywed barn mor afiach yn ein Senedd cenedlaethol.

7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Tai modiwlar (13 Rha 2017)

Siân Gwenllian: Rydw i'n symud at y pwnc dan sylw. Mae sut i ddarparu tai fforddiadwy, cost-isel yn un o’r heriau mawr sy’n wynebu’r Llywodraeth yma. Yn sicr, fe all tai modiwlaidd fod yn erfyn defnyddiol er mwyn cynyddu’r cyflenwad o dai yng Nghymru, ac mae safleoedd tir brown yn addas ar gyfer datblygiadau tai. Ond, gair o rybudd ynglŷn ag ambell agwedd o hyn: yn hanesyddol, mae tai modiwlaidd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Canmlwyddiant y Bleidlais i Fenywod ( 9 Ion 2018)

Siân Gwenllian: Mae'n bwysig cofio beth yn union ddigwyddodd yn 1918, wrth gwrs, pan gafodd menywod bleidleisio am y tro cyntaf, ond nid oedd yna ddim cydraddoldeb efo dynion. Roedd dynion 21 oed yn cael pleidleisio, ond roedd yn rhaid i fenywod fod yn 30 oed ac yn berchen ar eiddo. Mi gymerodd hi 10 mlynedd arall cyn i ferched a dynion gael eu trin yn gydradd fel pleidleiswyr. Wrth gwrs, rydw i'n siŵr eich...

5. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 ( 9 Ion 2018)

Siân Gwenllian: Mae cynlluniau gostyngiadau treth gyngor yn hanfodol bwysig i bobl fwyaf bregus Cymru. Dyma'r cynllun sy'n caniatáu i lawer iawn o bobl hawlio gostyngiad ac mae o'n bodoli, i raddau, oherwydd nad ydy'r dreth gyngor yn ddigon blaengar. Felly, hoffwn ofyn i ddechrau a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i edrych ar system decach o drethiant fel na fydd angen cynllun gostyngiadau treth gyngor...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.