Gareth Davies: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd dynion? OQ58180
Gareth Davies: Rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb, Prif Weinidog. Diolch. Mae'n Wythnos Iechyd Dynion yr wythnos hon, sy'n cael ei nodi hyd at Sul y Tadau ddydd Sul. Y gobaith yw y bydd yn helpu dynion i feddwl yn fwy am eu hiechyd. Ac, mewn gwirionedd, rydym yn arbennig o wael am ofalu am ein hiechyd ein hunain, yn enwedig o ran iechyd meddwl. Prif Weinidog, thema'r Wythnos Ryngwladol Iechyd Dynion hon yw...
Gareth Davies: Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Rwyf wedi mwynhau gwrando ar y cyfraniadau yn fawr iawn, er nad wyf i’n cytuno â phopeth sydd wedi'i ddweud. Rwyf hefyd yn gefnogwr teledu a radio mawr, felly mae'n dda iawn cymryd rhan yn hyn y prynhawn yma. Felly, mae gwasg rydd ac agored yn y cyfryngau newyddion yn hanfodol er mwyn i ddemocratiaeth ffynnu. Nid oes ond rhaid...
Gareth Davies: Nac ydw, dim o gwbl, ac rwy'n credu bod technoleg fodern a hygyrchedd S4C, nid yn unig yng Nghymru a ledled y DU, yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo mewn gwirionedd, a'r ffaith ein bod yn gallu hyrwyddo ein hiaith Gymraeg ar raddfa ehangach nag y byddem ni wedi gallu ei wneud 20, 30 mlynedd yn ôl mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu eich bod chi'n anghywir i ddweud hynny, a dweud y gwir. Ac rwy'n...
Gareth Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gareth Davies: Ar hyn o bryd mae gemau pêl-droed Cymru ar gael i sianeli Cymraeg sy'n darlledu am ddim yn unig, fel S4C, ac yn yr iaith Saesneg maen nhw ar Sky Sports, sy'n amlwg ar sail talu wrth wylio. Felly, ydych chi'n gwybod faint fyddai'r gost, felly, o ddod â phêl-droed Cymru drwy'r Saesneg i'r sector cyhoeddus, y sector teledu?
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a phrynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Siambr hon nad oedd angen ymchwiliad annibynnol i wasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru, er gwaethaf ymchwiliadau tebyg yng ngwledydd eraill y DU ac er gwaethaf galwadau gan lawer o'r arbenigwyr yn y sector. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y cyfoeth o gyngor ac adroddiadau a...
Gareth Davies: Wel, mae eich ateb yn fy siomi, Ddirprwy Weinidog, a bydd rhaid inni gytuno i anghytuno ynghylch yr angen am yr adolygiad. Ac mae gennym ddyletswydd, rhwymedigaeth, i ddiogelu ein plant rhag niwed, i'w diogelu rhag profiadau niweidiol. Mae llawer gormod o blant yn dal i gael eu trin ar gyfer dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau. Nid yw nifer y bobl sy'n cael eu trin ar gyfer syndrom alcohol...
Gareth Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Credaf mai uchelgais yw'r hyn sydd ei angen arnom. Wrth gwrs, rydym am ddiogelu 100 y cant o blant yng Nghymru, ond byddai cyrraedd 70 y cant a mabwysiadu polisi sy'n cael ei dderbyn gan wledydd eraill y DU yn gam i'r cyfeiriad iawn, ac rwy'n argymell yn gryf y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried hyn. Mae llawer o'ch cymheiriaid, yma ac yn San...
Gareth Davies: 7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles meddyliol ar draws Dyffryn Clwyd? OQ58179
Gareth Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Yn ystod yr Wythnos Iechyd Dynion hon, roeddwn eisiau codi mater sy'n effeithio'n uniongyrchol ar les meddyliol fy etholwyr, sef Sied Dynion Dinbych. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r gwaith gwych a wneir gan Men's Sheds ar greu mannau lle mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn cael sylw mewn amgylchedd cyfeillgar, a lle y gall dynion sgwrsio a mwynhau cwmni...
Gareth Davies: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Nyffryn Clwyd? OQ58226
Gareth Davies: Rwy’n gwerthfawrogi eich ymateb, Weinidog. Mae fy mewnflwch yn llawn gohebiaeth gan etholwyr sy'n hynod bryderus ynghylch materion trafnidiaeth lleol. Problemau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth yw ail gategori mwyaf cyffredin fy ngwaith achos bellach. Mae’r problemau y mae’n rhaid i fy etholwyr eu dioddef yn amrywio o fysiau annigonol ac anfynych, yn enwedig yn ardaloedd mwy gwledig yr...
Gareth Davies: Rwy'n gobeithio y gallaf ychwanegu rhywfaint o synnwyr at y ddadl ar ôl y cyfraniad diwethaf. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. Fel yr amlygwyd yn fy nghwestiwn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn gynharach y prynhawn yma, mae’r pwnc hwn yn peri cryn bryder i fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd. Mae’n syfrdanol mai 53 y cant yn unig o bobl Cymru sy’n byw...
Gareth Davies: Gwnaf, wrth gwrs.
Gareth Davies: Wel, rwy'n falch eich bod, o'r diwedd, wedi llwyddo—[Torri ar draws.] Rwy'n falch eich bod wedi llwyddo i gywiro eich hun ar y diwedd, ond rwy'n Aelod o'r Senedd, a fy ngwaith i yw ymdrin â'r hyn sydd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, a'r hyn sydd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru yw trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Dyna’r rheswm pam y mae fy nghyfraniad wedi’i deilwra i...
Gareth Davies: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gareth Davies: Beth fyddai eich asesiad, felly, o’r bobl sy’n gweithio y mae’r streiciau rheilffyrdd yn effeithio arnynt? Felly, pobl sy'n ceisio mynd i'r gwaith, myfyrwyr, nyrsys, meddygon, pobl sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl o ddydd i ddydd na allant gyrraedd eu gwaith. Ac mewn argyfwng costau byw, mae'n rhaid iddynt deithio ymhellach a gwario mwy o arian i deithio.
Gareth Davies: Tybed a allwch chi egluro’r sylwadau yr ydych newydd eu gwneud am Aelodau o’r Senedd nad ydynt yn ymwybodol o gyllid i Gymru.
Gareth Davies: A wnewch chi ymhelaethu ar hynny, gan nad wyf yn deall yr hyn a ddywedoch chi?