Canlyniadau 241–260 o 1000 ar gyfer speaker:Mark Reckless

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2016-17 — Gohiriwyd o 7 Tachwedd (14 Tach 2017)

Mark Reckless: Diolch, Dirprwy Lywydd, yn benodol, am eich ystyriaeth. A gaf i hefyd longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad? Mae’n gwybod bod ganddo esgidiau mawr i'w llenwi. O ran fy hun, rhaid imi ddweud bod gennyf hyder mawr ynddo i wasanaethu’r Llywodraeth yng Nghymru mor fedrus ag y gwasanaethodd Lywodraeth y DU o'r blaen. Rwy’n croesawu’r adroddiad gan Sally Holland, y comisiynydd plant, ac yn...

9. Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol (14 Tach 2017)

Mark Reckless: Onid yw'n un o egwyddorion sylfaenol ein system gyfreithiol y dylai cleient fod yn rhydd i ddewis ei gynghorydd cyfreithiol ei hun? Pam y byddai Plaid Cymru yn gwarafun yr hawl hwnnw i Lywodraeth Cymru?

9. Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol (14 Tach 2017)

Mark Reckless: Mae arnaf ofn na chlywais ymateb yr Aelod yn iawn i fy mhwynt yn gynharach. Rwy'n credu efallai eich bod wedi ymateb i ymyriad gan rywun ar ei eistedd yn hytrach. Ond fy mhwynt sylfaenol yw: y Cwnsler Cyffredinol yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru, ac onid mater i Lywodraeth Cymru yw dewis pwy ddylai fod y prif gynghorydd cyfreithiol iddi.

9. Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol (14 Tach 2017)

Mark Reckless: Ond onid yw hyn yn rhywbeth sy'n mynd yn ôl i gyfnod pan oeddem ni, efallai, yn fwy o Gynulliad a oedd megis babi yn cael ei fwydo â llwy, fel y dywed yr Aelod, pan oedd gennym ni Lywodraeth Cynulliad Cymru ac nad oedd gwahaniaeth cyfreithiol rhwng y naill a'r llall? Erbyn hyn, mae'r Llywodraeth yn atebol i'r Cynulliad, ac mae'r Cwnsler Cyffredinol yn cynghori'r Llywodraeth, felly...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (15 Tach 2017)

Mark Reckless: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi amcangyfrif o'r oriau a weithiwyd, gan gynnwys gwerth yr oriau hynny, gan wirfoddolwyr cynghorau iechyd cymuned?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dementia (21 Tach 2017)

Mark Reckless: Prif Weinidog, yn ogystal â Chymru yn heneiddio fel cenedl, mae'r tueddiadau yn dra gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mae gan y Cymoedd, er enghraifft, dueddiad heneiddio demograffig llawer mwy na'r wlad yn ei chyfanrwydd. A ydych chi'n ffyddiog, Prif Weinidog, bod ein darpariaeth o wasanaethau dementia wedi ei datganoli'n ddigonol, a hefyd bod yr adnoddau ar ei chyfer wedi eu...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Awdurdodaeth Gyfreithiol ar Wahân (22 Tach 2017)

Mark Reckless: 1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y byddai datblygu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn ei chael ar faint y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru? OAQ51315

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Awdurdodaeth Gyfreithiol ar Wahân (22 Tach 2017)

Mark Reckless: A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch yr Aelod ar ei benodiad yn Gwnsler Cyffredinol? Mae'n bleser arbennig gennyf wneud hynny yn bersonol gan fy mod wedi bod yn y brifysgol gydag ef oddeutu chwarter canrif yn ôl bellach. Fel cyfreithwyr, gallem ei ystyried yn beth da pe bai maint y proffesiwn cyfreithiol yn ehangu, ond tybed: wrth siarad ar ran y Llywodraeth, a oes...

7. Dadl UKIP Cymru: trethi newydd yng Nghymru (22 Tach 2017)

Mark Reckless: Gyda chyllideb y DU heddiw, rwy'n credu bod rhai o oblygiadau datganoli treth, efallai, yn canu cloch yn fwy eglur nag o'r blaen, oherwydd mae'r goblygiadau i Gymru yn sgil penderfyniadau a wnaed ar y dreth nid yn unig yn adlewyrchu'r rhai sy'n cael eu gwneud yn y Siambr hon, ond hefyd y rhai sy'n cael eu gwneud yn San Steffan. Roeddwn yn aelod o bwyllgor y Bil Treth Trafodiadau Tir...

7. Dadl UKIP Cymru: trethi newydd yng Nghymru (22 Tach 2017)

Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?

7. Dadl UKIP Cymru: trethi newydd yng Nghymru (22 Tach 2017)

Mark Reckless: Mae'n sôn am beidio â meithrin ansicrwydd, ond y prynwyr tro cyntaf hynny, yn enwedig yn yr ardaloedd gwerth uwch, a allai fod yn rhuthro i mewn oherwydd eu bod yn ofni ei fod yn mynd i godi eu cyfradd dreth fis Ebrill nesaf, fel y dywedodd ynghynt—a fuasai'n ddoeth iddynt wneud hynny neu a ddylent ymatal rhag gwneud hynny?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prynwyr Tro Cyntaf (28 Tach 2017)

Mark Reckless: 5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ragolygon dros y pedwar mis nesaf ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn Sir Fynwy? OAQ51388

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prynwyr Tro Cyntaf (28 Tach 2017)

Mark Reckless: Prif Weinidog, £240,000 yw'r pris tai Cymorth i Brynu cyfartalog i brynwyr tro cyntaf yn Sir Fynwy, sy'n debyg i Swydd Gaerloyw ar draws y ffin. Onid ydych chi'n pryderu, os bydd eich Llywodraeth yn methu â dilyn dull cyfatebol i Loegr ar gyfer prynwyr tro cyntaf, y bydd rhai o'n pobl ifanc yn gadael Cymru ac yn prynu dros y ffin yn hytrach? 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Prisiau Bwyd (29 Tach 2017)

Mark Reckless: 8. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r gwahaniaeth rhwng prisiau bwyd y byd a phrisiau bwyd yr UE? OAQ51360

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Prisiau Bwyd (29 Tach 2017)

Mark Reckless: A dengys y gwaith monitro hwnnw fod prisiau bwyd yn yr UE yn sylweddol uwch na'r tu allan i'r UE. Wedi i ni adael yr UE, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai mater i Lywodraeth y DU fydd pennu i ba raddau y byddwn yn defnyddio tariffau Sefydliad Masnach y Byd yn erbyn mewnforion o'r tu allan i'r UE, a mater i'r Llywodraeth honno fydd penderfynu a ddylid eu defnyddio o gwbl neu...

8. Dadl Plaid Cymru: Cyllideb Llywodraeth y DU a Chymru (29 Tach 2017)

Mark Reckless: Cytunaf â Nick Ramsay. Credaf y dylai pawb ohonom sirioli. Credaf fod Adam Price yn edrych ychydig gormod ar y rhagolwg negyddol a gawsom gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Mae cynnig Plaid Cymru'n cyfeirio at gyhoeddiad cyllideb Llywodraeth y DU ynglŷn ag adolygiadau ar i lawr ar gyfer twf economaidd a chynhyrchiant. Ond wrth gwrs, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol annibynnol sydd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Credyd Cynhwysol ( 5 Rha 2017)

Mark Reckless: Prif Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod chi'n cefnogi egwyddor credyd cynhwysol, a nod credyd cynhwysol a diwygiadau lles ehangach Llywodraeth y DU yw helpu pobl i gael cyflogaeth ac aros mewn cyflogaeth. O gofio bod diweithdra yn Nhorfaen yn hanesyddol o isel ac wedi gostwng ymhellach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, onid yw hynny'n rhywbeth y dylech chi fod yn ei gefnogi'n adeiladol ac yn...

5. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2018-19 ( 5 Rha 2017)

Mark Reckless: Os caf i ymateb yn gyntaf i Steffan Lewis, a ddewisodd beidio â chymryd ymyriad gennyf yn gynharach. Pan oeddwn i'n gwrando arno, roedd yn siarad yn hyderus iawn am beth fydd yn digwydd yn 2020, neu beth fydd yn anochel yn digwydd yn 2021. Rwy’n meddwl bod angen iddo ystyried y ffaith ei fod yn cyfeirio at ragolygon, a does dim ots pa mor fawreddog yw’r cyrff hynny, y Trysorlys neu’r...

5. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2018-19 ( 5 Rha 2017)

Mark Reckless: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?

5. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2018-19 ( 5 Rha 2017)

Mark Reckless: Tybed a wnaiff gadarnhau ai safbwynt Llywodraeth Cymru yw y dylai’r Deyrnas Unedig aros o fewn y farchnad sengl, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn y Gymraeg yn gynharach?


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.