David Rees: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i ymuno â phryderon fy nghyd-Aelodau am y brif ganolfan drawma yn cael ei lleoli yng Nghaerdydd a'r colledion posibl o wasanaethau yn Nhreforys. Gwyddom, pan fydd gwasanaethau’n symud, bod eraill yn tueddu i'w dilyn. Nawr, yn yr achos hwn, nid oes unrhyw wasanaeth yn symud gan ei fod yn wasanaeth newydd, ond yr hyn yr wyf i ei eisiau yw sicrwydd y bydd...
David Rees: Arweinydd y tŷ, neithiwr, roeddwn i’n bresennol ym mherfformiad gwych National Theatre Wales, a oedd yn ystyried yr argyfwng a'r heriau a wynebwyd gan weithwyr dur yn y cyfnod ers mis Ionawr 2016 pan oedd bygythiad y gallai 750 o bobl golli eu swyddi ac efallai y byddai gweithfeydd yn cau. Nawr, rwy'n argymell i unrhyw Aelod sydd ar gael i fynd i weld y perfformiad, ac rwy’n gwybod bod...
David Rees: ‘We’re Still Here’.
David Rees: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus o fewn llywodraeth leol? (OAQ51075)
David Rees: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedwch, mae nifer y cwestiynau rydych eisoes wedi eu hateb y prynhawn yma ar y mater hwn yn dangos pwysigrwydd sicrhau cyllid teg i lywodraeth leol, yn enwedig mewn cyfnod o gyni a orfodir arnom gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Ddechrau’r mis, mynychodd Jeremy Miles a minnau sesiwn holi ac ateb ar gyfer staff cyngor...
David Rees: Diolch, Gadeirydd. Mae’n fraint cael cynnig y cynnig heddiw a chyflwyno’r cyfle hwn i’r Cynulliad Cenedlaethol drafod ein hadroddiad ar ddyfodol polisi rhanbarthol—beth nesaf i Gymru. Cyn i mi ddechrau trafod yr adroddiad, hoffwn fynegi ein diolch i’r tystion a ddaeth i’r pwyllgor, i’r tîm clercio a ddarparodd y cymorth ardderchog, yn enwedig Nia Moss, ein cyswllt â’r UE...
David Rees: Roedd ein set gyntaf o argymhellion yn edrych ar yr heriau uniongyrchol i’r cylch cyllido presennol. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod Canghellor y Trysorlys yn hydref 2016 wedi gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau hyd at 2020, ac rydym ni fel pwyllgor yn ddiamwys yn ein cefnogaeth i hyn. Mae’r darlun yn llai sicr, fodd bynnag, o ran bygythiadau a berir gan newidiadau mewn arian cyfredol...
David Rees: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan y prynhawn yma am eu cyfraniadau, ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am nodi ymateb y Llywodraeth i’n gwaith ychydig yn fanylach y prynhawn yma? Hoffwn fwrw ymlaen gyda chwpl o bwyntiau. Fel y nododd Suzy, un peth y soniwyd amdano wrthym oedd nad oedd yn drawsnewidiol, a dywedwyd hynny wrthym...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg gall problemau gyda’r bledren arwain at gathetreiddio pobl am amryw o resymau. Mewn adroddiad crwner yn ddiweddar ar farwolaeth mewn cartref nyrsio yn fy etholaeth, yn y Cymer, nodai naratif y crwner nad oedd y staff wedi cael hyfforddiant digonol, gan olygu bod unigolyn a oedd wedi eu cathetreiddio’n hirdymor wedi dioddef o ganlyniad i hynny, a bu...
David Rees: Pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau unrhyw ymgynghoriad ar y newidiadau i ffiniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf?
David Rees: 7. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau twf economaidd yn Aberafan? (OAQ51167)
David Rees: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond—. Mae llawer o bobl yn gwybod bod Port Talbot yn gysylltiedig ag actorion enwog fel Richard Burton—a cheir llawer o bobl eraill y mae'n debyg y dylwn eu henwi, ond nid oes digon o amser iddyn nhw i gyd—ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei adnabod am ei waith dur. Mae ein heconomi leol dros y canrifoedd wedi cael ei gyrru gan ddiwydiant, yn...
David Rees: Diolch, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y pwyllgor ar y goblygiadau i borthladdoedd Cymru o adael yr Undeb Ewropeaidd. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i’r holl dystion a staff a chyd-Aelodau’r pwyllgor a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Mae porthladdoedd yng Nghymru yn gwneud cyfraniad pwysig i’n heconomi drwy gefnogi swyddi,...
David Rees: Efallai mai’r mater canolog sy’n wynebu porthladdoedd Cymru yng nghyd-destun Brexit yw’r cwestiynau sy’n ymwneud â dyfodol ffin Iwerddon. Daeth yn amlwg, wrth edrych ar yr effaith ar borthladdoedd Cymru gyda’i gilydd, mai’r porthladdoedd yr effeithid arnynt fwyaf fyddai ein porthladdoedd fferi yng Nghaergybi, Abergwaun a Doc Penfro. Clywsom bryderon ynglŷn â sut y gallai ffin...
David Rees: Rwy’n derbyn pryderon yr Aelod ac rwy’n cytuno’n llwyr fod yna gyfleoedd yn bodoli hefyd. Y broblem yw bod gennym fusnesau sy’n gweithio i gyflenwi mewn union bryd, ac o ran cynhyrchion bwyd, mae’n hynod gritigol yn awr mewn gwirionedd, ac mae hynny’n bwysig felly. Buasai’r oedi y gellid ei brofi’n effeithio ar hynny. Mae ein hargymhelliad cyntaf, felly, yn deillio o’r...
David Rees: Diolch, Cadeirydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau? Fel y dywedodd Russell George, mae’n braf cael Aelodau nad ydynt ar ein pwyllgor yn cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma mewn gwirionedd. Ac a gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith am ei ymateb, yn enwedig i rai o’r sylwadau a gafodd sylw gennym heddiw? Fe af drwy ychydig o bethau. Amlygodd Eluned...
David Rees: Wel, rydych chi’n hollol iawn, mae’n bwysig cael y safbwyntiau o ran ble rydym ni gyda dadleuon ynglŷn â datrysiad TG rhwng CThEM a chyrff a grwpiau a sefydliadau eraill; mae’n rhaid iddo fod yn hanfodol. Ond rwy’n meddwl—yn wir, roeddent yn dweud wrthym nad oeddent hwy hyd yn oed yn meddwl y byddent yn llwyddo i’w wneud mewn pryd, a dyna’r broblem fwyaf. Felly, mae’n rhaid...
David Rees: Dau eiliad—wel, 10 eiliad. Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich atebion. Yn amlwg, mae yna rai meysydd y mae angen i ni eu harchwilio ymhellach ar y mater hwn. Ond mae gennyf un cwestiwn i chi: fe sonioch am Lywodraeth y DU a gofyn iddynt ymuno yn y fforwm; a gaf fi ofyn, a ydynt wedi gwneud hynny? A ydynt mewn gwirionedd wedi dweud, ‘Ydym, rydym yn awyddus i gymryd rhan’?...
David Rees: Pa dystiolaeth sydd wedi'i chyhoeddi am y manteision economaidd a ddaw i Port Talbot os bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn bwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu carchar ym mharc diwydiannol Baglan?
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi cael llawer o sylwadau gan etholwyr ynglŷn â’r mater hwn yn benodol, ac fel y dywedoch, rwy’n credu bod angen i’r ddau grŵp ddod at ei gilydd i’w ddatrys. Nawr, rydych newydd sôn am dwristiaeth pysgota, ond mae llawer o’n dinasyddion yn mwynhau pysgota fel gweithgaredd hamdden mewn gwirionedd, ac felly’n mwynhau’r gweithgareddau y maent yn...