Mohammad Asghar: Rwy’n ddiolchgar am y cyfle hwn i siarad yn erbyn cyflwyno treth dwristiaeth yng Nghymru. Rwy’n gwneud hynny oherwydd fy mod yn credu y buasai treth dwristiaeth yn cael effaith ddifrifol ac andwyol ar economi fy rhanbarth. Mae de-ddwyrain Cymru yn gyrchfan o bwys i dwristiaid o’r Deyrnas Unedig ac o dramor. Chwe blynedd yn ôl, cyflwynwyd Bil Menter (Cymru) yn y Siambr hon, ac roeddem...
Mohammad Asghar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfraddau'r dreth gyngor yng Nghymru?
Mohammad Asghar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyllid ar gyfer portffolio'r amgylchedd a materion gwledig?
Mohammad Asghar: Rwyf yn llongyfarch y Gweinidog hefyd ar ei swydd newydd o fod yn arweinydd y tŷ, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n gwneud y gwaith yn well—neu'r union yr un fath—â'i rhagflaenydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â'r oedi o ran gwneud y rhan ddwyreiniol o ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465, yn ffordd ddeuol yn fy rhanbarth i? Mae...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnais y cwestiwn heb fod ymhell yn ôl, ac mewn gwirionedd, air am air, mae Leanne Wood wedi gofyn y cwestiwn yn yr un ffordd, ond rwy'n dal i fod am ychwanegu fy nghwestiwn. Mae cyflogi athrawon cyflenwi drwy asiantaethau wedi arwain at dâl is a thelerau ac amodau gwael. Am hynny rydym yn sôn yma—telerau ac amodau athrawon cyflenwi. Mae etholwr yng Nghasnewydd...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl blwyddyn, mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi adroddiad ar y bwlch parhaus a chynyddol mewn disgwyliad oes rhwng y rhai sy'n byw yn ein cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig yn ne-ddwyrain Cymru. Cyfeiriodd hefyd at ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a oedd yn dweud bod buddsoddi mewn atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, megis cysylltiad ag...
Mohammad Asghar: 3. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r cyflenwad o dai newydd yng Nghymru yn ystod tymor y pumed Cynulliad? OAQ51311
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Gweinidog. Y llynedd, dywedodd y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi bod cynllunio gwael a'r costau uwch sy'n gysylltiedig ag adeiladu cartrefi yng Nghymru wedi peryglu buddsoddiad. Nawr, mae adeiladwyr tai yn mynegi pryder y gallai diffyg manylion ynghylch y dreth newydd bosibl ar dir datblygu gwag ddarbwyllo datblygwyr ymhellach rhag buddsoddi yng Nghymru. A...
Mohammad Asghar: Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y cynnydd brawychus mewn tipio anghyfreithlon mewn rhannau o'r de-ddwyrain? Y llynedd, roedd cynnydd o 6 y cant mewn tipio anghyfreithlon ar draws Cymru—fodd bynnag, 15 y cant oedd y cynnydd ym Merthyr Tudful, ac yng Nghasnewydd roedd 3,258 o achosion o dipio anghyfreithlon, cynnydd o 44 y cant. Mae'r nifer yn syfrdanol, Gweinidog, ac mae'r...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar fe gyhoeddoch chi adolygiad o'r prosiect i ddeuoli'r A465 ar gyfer ffordd Blaenau'r Cymoedd gan fod y prosiect £220 miliwn dros y gyllideb ac yn hwyr. Roedd y gwaith ar y rhan hon o'r ffordd i fod i gael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2019, ond mae'n debygol y bydd ar ei hôl hi, gan arwain at gostau ychwanegol, nid yn unig i arian cyhoeddus, ond hefyd i...
Mohammad Asghar: Eleni yw canmlwyddiant trydedd brwydr Ypres. Mae'r frwydr ofnadwy hon wedi tyfu'n symbol o'r erchyllterau sy'n gysylltiedig â'r rhyfel byd cyntaf. Caiff ei hadnabod yn aml yn ôl enw'r pentref lle y digwyddodd, Passchendaele. Er nad oes neb ar ôl yn fyw heddiw a wasanaethodd yn yr hyn a elwid yn 'rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel', mae'n ein hatgoffa o'r ddyled enfawr sydd arnom i'r rhai...
Mohammad Asghar: 3. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau y caiff yr amgylchedd ei ddiogelu’n well dros y 12 mis nesaf? OAQ51368
Mohammad Asghar: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae dim llai nag wyth o elusennau bywyd gwyllt a chefn gwlad yng Nghymru wedi beirniadu toriadau i gyllid amgylcheddol a nodwyd yn y gyllideb ddrafft. Dywedodd WWF Cymru ei bod yn ymddangos bod bwlch rhwng eich addewidion ar yr amgylchedd a realiti'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, tra bod eraill wedi cwestiynu a yw Llywodraeth Cymru wedi darparu...
Mohammad Asghar: Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y diffyg cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru, ac anawsterau dysgu hefyd? Mae Mencap Cymru wedi nodi'n ddiweddar fod rhwystrau enfawr yn wynebu pobl ag anawsterau dysgu sydd yn dymuno gweithio. Fe aethon nhw ymlaen i ddweud bod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn isel ofnadwy, a bod angen addysgu llawer o gyflogwyr am...
Mohammad Asghar: Rwyf finnau hefyd yn llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei swydd newydd. Y peth yw, yn y ddadl yr wythnos diwethaf buom yn sôn am anhwylder straen wedi trawma ymysg cyn-filwyr, a hefyd rydych newydd grybwyll fod problemau iechyd meddwl yn eithaf cyffredin ymysg cyn-filwyr y lluoedd arfog. Mae'n rhaid i ni edrych ar eu hôl. Gwn nad ydych wedi cau'r drws ar y syniad o greu comisiynydd y...
Mohammad Asghar: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd y mis diwethaf? Mae'r strategaeth yn ymrwymo Llywodraeth y DU i weithio mewn partneriaeth ledled y pedair gwlad i greu'r amodau sy'n golygu y gall busnesau llwyddiannus ddatblygu a thyfu i helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni swyddi â chyflog uchel a...
Mohammad Asghar: Llywydd, mae Cymru yn wynebu prinder sgiliau. Mae gennym ormod o bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae'n ffaith drist bod pobl yng Nghymru’n fwy tebygol o fod heb gymwysterau na phobl yn yr Alban nac yn Lloegr. Mae cyfran is o bobl yng Nghymru wedi cael gradd nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr, heblaw am y gogledd-ddwyrain. Mae cyrhaeddiad addysgol yn 16 oed yng...
Mohammad Asghar: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau ar gyfer cleifion demensia yn ne-ddwyrain Cymru?
Mohammad Asghar: Arweinydd y tŷ, mae'n bosibl fod llawer o geiswyr lloches a ffoaduriaid yn meddu ar sgiliau a fyddai'n werthfawr i economi Cymru, ond maent yn cael eu rhwystro gan eu hanallu, neu eu gallu cyfyngedig, i siarad Saesneg. Roedd Llywodraeth Cymru, yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor, yn cydnabod pwysigrwydd cyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill. Felly, a gaf fi ofyn pa gynnydd a...
Mohammad Asghar: Pa gamau y bydd Arweinydd y Tŷ yn eu cymryd i wella amodau ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru dros y 12 mis nesaf?