Vikki Howells: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyflenwi addasiadau i dai yng Nghymru?
Vikki Howells: 7. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid yng Nghymru? OAQ51925
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wyddoch fod 80,000 o gŵn bach yn y DU yn cael eu gwerthu drwy werthwyr trydydd parti, gydag effeithiau negyddol sylweddol ar eu hiechyd, eu lles a'u hymddygiad. Rwy'n siŵr y byddwch hefyd yn ymwybodol o'r gefnogaeth gynyddol i gyfraith Lucy i wahardd gwerthiannau trydydd parti, gan gynnwys drwy elusennau anifeiliaid fel Friends of Animals Wales a'u...
Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, yn ystod toriad y Pasg, cefais y pleser o groesawu'r Gweinidog dros blant, Huw Irranca-Davies i faes chwarae Oaklands yng Nghilfynydd i weld sut mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gweithio gyda thrigolion lleol i wneud y maes chwarae'n gynhwysol ar gyfer y rhai hynny sydd ag anghenion ychwanegol, a hefyd i drafod pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i hyrwyddo chwarae...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf ambell gwestiwn am eich datganiad. Yn gyntaf, rwy'n nodi eich sylwadau ynghylch sut y defnyddir y grant amddifadedd disgyblion i gynnwys teuluoedd yn addysg eu plant yn well, a byddwch yn gwybod fy mod yn cynnal digwyddiad ar gyfer Parentkind yn y Senedd yfory pryd y byddwch chi'n siarad. Y nod yw dathlu gwaith yr elusen...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn groesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn heddiw. Mae penderfyniadau a wnaed yn San Steffan gan Lywodraeth allan o gysylltiad ac angharedig wedi effeithio'n ofnadwy ar filiynau o fenywod Prydain, gan gynnwys oddeutu 200,000 o fenywod yma yng Nghymru. Mae menywod WASPI, sydd wedi cyfrannu ar hyd eu hoes i fywyd ein gwlad, wedi cael eu hamddifadu i bob...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, nodaf eich sylwadau ynghylch y camau gweithredu uniongyrchol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd. Mae un o'r meysydd a grybwyllwyd, yr A470 rhwng Pontypridd a Glan-bad, yn ffordd gyswllt allweddol i gymudwyr yn fy etholaeth i. Mae llawer o drigolion eisoes wedi datgan eu pryderon wrthyf ynghylch tagfeydd yn yr ardal...
Vikki Howells: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith cyflwyno’r Credyd Cynhwysol ar lefelau tlodi plant yng Nghwm Cynon?
Vikki Howells: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi mentrau bach a chanolig yng Nghwm Cynon?
Vikki Howells: Mae'n bleser codi i siarad o blaid y cynnig heddiw. Mae hyn yn wirioneddol bwysig, yn cyffwrdd ar sut y gallwn sicrhau urddas merched a menywod ifanc yn ysgolion Cymru. Mae data Plan International UK yn dangos sut y mae llawer gormod o fenywod ifanc yn cael trafferth i dalu'r gost am gynhyrchion misglwyf. Mae'r elusen wedi dangos effaith ofnadwy hyn hefyd. Roedd bron i hanner y merched a...
Vikki Howells: Beth yw blaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghwm Cynon?
Vikki Howells: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi twf economaidd yng Nghwm Cynon? OAQ52157
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog, ac rwy'n cytuno â phopeth a ddywedasoch yn y fan yna. Ymwelais yn ddiweddar â Pontus Research, sy'n fusnes ymchwil a datblygu dyframaethu arobryn yn fy etholaeth i, â chanddo restr o gleientiaid byd-eang. Mae'r cwmni wedi gwneud yn anhygoel o dda, ond maen nhw wedi cyrraedd capasiti erbyn hyn ac maen nhw angen tyfu. Maen nhw wedi gwneud cais am gyllid o gronfa'r...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dydd Sadwrn 5 Mai oedd dechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Dystonia 2018. Mae Dystonia yn effeithio ar bob oed. Mae'n anhwylder poenus a gwanychol iawn sy'n anablu. Bydd signalau diffygiol o'r ymennydd yn peri i'r cyhyrau wingo a thynnu'n anghywir ar y corff. Caiff y corff ei orfodi i droi, i wneud symudiadau ailadroddus neu ystumiau annormal. Gall effeithio ar un...
Vikki Howells: Fel aelod o'r pwyllgor, roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn, ac fe gadwaf fy nghyfraniad yn fyr a chanolbwyntio ar ychydig o argymhellion. Yn gyntaf, argymhelliad 6, sy'n galw am gronfa galedi gystadleuol ar gyfer prentisiaid, a hefyd am ymestyn consesiynau megis cynlluniau teithio i brentisiaid hefyd. Mae hynny, rwy'n teimlo, yn cysylltu ag argymhelliad 7, sy'n galw am...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chithau, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae hwn yn fater o wir ddiddordeb i mi ac roedd yn bwnc i'm dadl fer yn gynharach eleni. Felly, mae gennyf i ddau gwestiwn ar eich cyfer chi heddiw. Yn gyntaf, rwy'n nodi eich sylwadau am dreth tir gwag yn cymell ymddygiadau cadarnhaol, ond a ydych yn cytuno â mi mai un o'i hamcanion canolog fyddai mynd i'r...
Vikki Howells: Diolch i chi, arweinydd y tŷ, am eich datganiad. Ar gyfer fy nghwestiynau i heddiw, hoffwn gysylltu rhai o'r pwyntiau yn eich datganiad yn ôl i 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Fel y gwyddoch, mae'r ddogfen honno'n nodi'r uchelgais i ddatblygu gweledigaeth ddigidol ar gyfer y Cymoedd, sy'n canolbwyntio ar weithio gyda chymunedau i nodi sut y gellir defnyddio technoleg i sicrhau gwell canlyniadau...
Vikki Howells: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynllun indemniad proffesiynol i ymarferwyr cyffredinol, yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Llun? 175
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi ymateb yn gadarnhaol i'r cam hwn gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir, cefais e-bost personol gan Gymdeithas Feddygol Prydain y bore yma yn dweud pa mor falch yr oeddent gyda hyn, a gwn y caiff groeso cynnes gan feddygon teulu yn fy etholaeth i hefyd. Pryd y byddwch chi mewn...
Vikki Howells: Rwy'n siarad y prynhawn yma ar ran y grŵp Llafur, a hoffwn gofnodi ein diolch i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad am gynhyrchu'r polisi urddas a pharch sydd ger ein bron. Mae'r grŵp Llafur yn cefnogi'n gryf y mesurau a gryfhawyd i ddiogelu pawb sy'n gweithio yn ein Cynulliad Cenedlaethol neu'n wir, sy'n ymgysylltu ag Aelodau a'u staff. Credwn fod y mecanweithiau cymorth a'r gweithdrefnau...