Canlyniadau 241–260 o 2000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Deddf Cymru 2017 (10 Ion 2018)

Jeremy Miles: Wel, mae dadansoddiad cyfreithiol yr Aelod yn gywir mai dyna yw'r broses: hynny yw, mae angen cytundeb. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud sawl gwaith mai sicrhau bod gennym ni system sy'n gweithio a'n bod ni'n cydweithio â'r system sydd yn bwysig fel rhan o'r broses yma. Buaswn yn ategu sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet ar hynny, ac rwyf yn bwriadu cydweithio ag ef i sicrhau bod y...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Llygredd Aer ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy'n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer ledled Cymru a'i gwahanol fentrau i fynd i'r afael â llygredd aer yn benodol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, fel y mae'n dweud, o'r achos diweddar yn yr Uchel Lys, a glywyd ar 25 Ionawr, ac y disgwylir dyfarniad yn ei gylch. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn nad oedd ei chynigion yn...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Llygredd Aer ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Mae cwestiynau'r Aelod yn cynnwys nifer o bwyntiau polisi, a byddai'n amhriodol i mi roi sylwadau arnynt yn benodol, ond mewn perthynas â sut yr aethpwyd i'r afael â hyn yn yr achos llys, a fydd, efallai, yn ateb rhan o'i chwestiwn, oherwydd y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn nad oedd cynllun 2017 yn cydymffurfio â'i dyletswyddau, gwnaeth y sylwadau hynny yn y llys, ac felly mae'r...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Llygredd Aer ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Fel mae’r Aelod yn sôn, mae amryw o’r hawliau a’r mesurau sy’n gwarchod yr amgylchedd yn deillio o ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn blaen ein bod ni am weld y rheolau hynny yn parhau i fod yn berthnasol yma yng Nghymru, a bod yr hawl i wneud hynny yn dod yma i’r Cynulliad o dan y setliad datganoli, ac nid yn aros yn San Steffan ar y ffordd. Dyna yw bwriad...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Arholiad Cymhwyso Arfaethedig i Gyfreithwyr ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Diolch am y cwestiwn. Rydym ni yn ystyried y goblygiadau ar hyn o bryd. Mae swyddogion wedi cyfarfod â'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i drafod y cymhwyster newydd arfaethedig a’r goblygiadau i Gymru, yn cynnwys y setliad datganoli a defnydd o'r iaith Gymraeg. Mae cyfarfod pellach yn cael ei drefnu i ehangu’r drafodaeth honno i gynnwys ein hysgolion cyfraith a’r proffesiwn cyfreithiol.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Arholiad Cymhwyso Arfaethedig i Gyfreithwyr ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Gwnaf, yn sicr. Fel gwnes i sôn, mae cyfarfod eisoes wedi cael ei drefnu ac wedi cymryd lle gyda swyddogion yr SRA lle codwyd y pynciau yma’n benodol. Rwy’n cwrdd gyda’r SRA eto ymhen ychydig wythnosau. Rwy’n bwriadu parhau’r drafodaeth gyda nhw. Mae dau bwynt yn codi yma. Y cyntaf yw rôl cyfraith ddatganoledig yn y cymhwyster newydd, ac mae hyn, wrth gwrs—mae’n rhaid inni...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Arholiad Cymhwyso Arfaethedig i Gyfreithwyr ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Credaf mai'r ateb i'r cwestiwn hwnnw yw y gall fod â photensial i wneud hynny. Ar hyn o bryd, yn amlwg, er bod y cymhwyster newydd yn destun ymgynghoriad, nid yw'r manylion o ran sut y bydd yn gweithredu'n ymarferol a sut y bydd yn berthnasol i'r cyfnod academaidd a'r cyfnod profiad gwaith yn gwbl glir, ac mae hwnnw'n un o'r materion rwyf eisiau ei archwilio pan fyddaf yn cyfarfod â'r...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Y Dreth Gyngor ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu a ddylid erlyn mewn perthynas â methiant i dalu'r dreth gyngor, wrth gwrs, ac nid Llywodraeth Cymru. Felly, bydd awdurdodau lleol ac ynadon lleol yn ceisio cyngor cyfreithiol eu hunain pan fyddant ei angen. Wedi dweud hynny, mae'n amlwg fod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn sicrhau bod ôl-ddyledion y dreth gyngor yn...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Y Dreth Gyngor ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Rwy'n gwbl hapus i drafod hyn ymhellach. Er mwyn bod yn glir, canfu'r penderfyniad nad yw'r system ei hun yn annheg. Roedd yr achos yn ymwneud â dau fater: un yn ymwneud â phenderfyniadau unigol y llysoedd ynadon mewn perthynas â charcharu, ac un yn ymwneud ag a oedd y system yn gallu bod yn deg. A llwyddodd Gweinidogion Cymru i amddiffyn eu safbwynt o ran tegwch y system mewn gwirionedd....

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Data Personol ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r gyfraith yn ymwneud â data personol.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Data Personol ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Diolch am y cwestiwn pellach. Fel y bydd cyfaill yr Aelod ar y rheng flaen yn gwybod, mae confensiwn y swyddog cyfreithiol yn fy ngwahardd i rhag trafod unrhyw gyngor penodol rwyf i wedi ei roi, neu'r ffaith fy mod i wedi rhoi cyngor o gwbl. Bydd yr Aelod yn gwybod bod barn Llywodraeth Cymru yn glir ar y cwestiwn hwnnw, fod dim trosedd wedi cymryd lle o dan Ddeddf 1998, ac mae hynny wedi bod...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Data Personol ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Mae'r Aelod yn seneddwr profiadol iawn, a bydd yn gwybod yn iawn nad yw hwnnw'n gwestiwn priodol i'r Cwnsler Cyffredinol ei ateb, ac felly rwy'n gwrthod.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Mynediad at Wasnaethau Cyfreithiol ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wedi bachu ar bob cyfle i godi ein pryderon gyda Llywodraeth y DU fod mynediad at wasanaethau cyfreithiol ar hyn o bryd y tu hwnt i fodd y dioddefwyr troseddau hynny sydd ag incwm isel neu gymedrol, ac mae hyn yn creu problemau difrifol, o ran mynediad at gyfiawnder a chyfiawnder cymdeithasol yn fwy cyffredinol.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Mynediad at Wasnaethau Cyfreithiol ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'n amlygu'r annhegwch difrifol iawn sy'n wynebu dioddefwyr trais domestig yn arbennig. Fel y mae ei chwestiwn yn cydnabod, mae miloedd o fenywod yn gorfod cynrychioli eu hunain mewn llysoedd teulu yn erbyn eu camdrinwyr eu hunain. Nid yw hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ganiatáu yn y llysoedd troseddol mwyach, ond mae'n parhau i fod yn brofiad go iawn i...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Llygredd Awyr ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Diolch am y cwestiwn. Yn y Cynulliad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgwyddo £20,486.30 mewn costau cyfreithiol allanol, heb gynnwys treth ar werth. Disgwylir costau pellach o’r fath mewn perthynas ag ymddangosiad diweddar Llywodraeth Cymru gerbron yr Uchel Lys, ynghyd â chostau’r hawlwyr, sydd i’w capio yn unol â chonfensiwn Aarhus.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Llygredd Awyr ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Fel cyn-gyfreithiwr, wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r ffaith bod gwariant ar gostau cyfreithwyr a chostau llys o anghenraid yn bethau amhoblogaidd, ac rwy'n deall y rheswm am hynny. Pan fydd y Llywodraeth yn ffeindio'i hunan mewn sefyllfa lle mae rhywun yn dwyn achos yn erbyn y Llywodraeth, mae'n rhaid sicrhau, pan fo gan y Llywodraeth achos da, fod hynny'n cael ei amddiffyn, ac mae hynny'n...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Adolygiad o Achosion Treisio ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Rwy'n croesawu penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i adolygu pob achos o dreisio a throseddau rhywiol yng Nghymru ac yn Lloegr sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau datgelu yn cael eu rhoi ar waith yn gywir. Mae'n hanfodol cymryd camau i sicrhau ffydd, ymddiriedaeth a hyder yn ein system cyfiawnder troseddol.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Adolygiad o Achosion Treisio ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Mae cysylltiadau wedi bod. Ni allaf wneud unrhyw sylwadau ar achosion unigol wrth gwrs. Byddai'r Aelod yn derbyn hynny, rwy'n gwybod. Rwy'n croesawu'r adolygiad. Mae'n rhaid sicrhau bod y rheolau yma'n cael eu dilyn. Un o'r sialensiau yw cadw'n gyfredol gyda'r cwestiwn o hyfforddiant a defnydd technoleg yn y llysoedd, ac y mae'r twf yn nefnydd cyfryngau cymdeithasol yn benodol yn golygu...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Y Bil Parhad ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio Bil ymadael â'r UE sy'n parchu datganoli. Fodd bynnag, rydym yn barod i gyflwyno Bil parhad os yw'n amhosibl diwygio'r Bil sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd yn foddhaol. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth yr Alban, fel y bydd yn gwybod, ar y materion hyn.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Y Bil Parhad ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Wel, fel rwyf wedi dweud yn glir mewn atebion blaenorol i gwestiynau ar y pwnc hwn, mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio Bil ymadael â'r UE sy'n sicrhau bod y siarter hawliau sylfaenol yn parhau'n rhan o'n cyfreitheg yma yng Nghymru. Fodd bynnag, pe bai Llywodraeth Cymru yn cael ei gorfodi i sefyllfa lle byddem yn cyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain, byddem eisiau sicrhau ein bod yn gwneud...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.