Mandy Jones: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n bwnc diddorol, sydd wedi cael mwy o sylw dros gyfnod y cyfyngiadau symud, ac rwy'n cymeradwyo'r teimlad o 'gartrefi lleol i bobl leol' sy'n sail iddo. Rhaid i mi ddatgan buddiant yn yr ystyr fy mod wedi etifeddu tŷ fy niweddar dad pan fu farw, ac rwy'n ei osod ar rent i deulu lleol, a sylwaf o'r gofrestr o fuddiannau'r Aelodau fod...
Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol?
Mandy Jones: Diolch, Gweinidog, am y datganiad hwn heddiw. Mae'r gwaith sy'n gysylltiedig â datblygu'r fframwaith hwn yn amlwg—[Anghlywadwy.] Mae'n ddrwg gen i, mae rhywbeth yn y cefndir. Mae'r gwaith sy'n gysylltiedig â datblygu'r fframwaith hwn yn amlwg, ac rwy'n llongyfarch eich staff am gyflwyno hyn mewn cyfnod mor heriol. Mae'r fframwaith yn ddogfen eang a chynhwysfawr ac mae'n gwneud synnwyr bod...
Mandy Jones: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl hon a'r aelodau niferus o'r Senedd sy'n cefnogi'r cynnig. Rwyf wedi clywed rhai pethau am incwm sylfaenol cyffredinol, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fod fy ymennydd fel arfer yn diffodd cyn gynted ag y sonnir amdano. Mae bob amser wedi'i gloi i ffwrdd yn y rhan o fy mhen sy'n dweud, 'Rhywbeth am ddim? Nid wyf yn credu hynny.'...
Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddisgyblion yn dychwelyd i'r ysgol yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer sy'n manteisio ar apwyntiadau meddygon teulu ar-lein yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: Mae gennym ni yn y fan yma ddogfen drawiadol iawn arall gan Lywodraeth Cymru. Mae llawer ynddi y gellir ei gymeradwyo, ond, unwaith eto, rhaid imi ddweud, mae'n darllen fel pob dogfen arall gan y Llywodraeth. Gallai hynny fod o ganlyniad i feddwl a gweithio cyfunol. Efallai ddim. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Roeddwn yn meddwl bod cyfyngiadau symud caeth iawn yn...
Mandy Jones: Ar yr wyneb, nid wyf yn ei chael yn anodd cymeradwyo a chroesawu pwynt 1a) o'r cynnig hwn—pam fyddwn i, pam y byddai unrhyw un? Fodd bynnag, rwy'n credu bod gweddill pwynt 1, a phwynt 2, yn werth eu cwestiynu. Pam mae'r cynnig hwn yn cyfeirio at gonfensiwn rhyngwladol a wnaed yn 1969 pan wnaeth Llywodraeth y DU basio ei Deddf cysylltiadau hiliol ei hun yn 1968, sydd wedi'i hadolygu dros...
Mandy Jones: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fewnfuddsoddi yn rhanbarth Gogledd Cymru dros dymor y Senedd hon? OQ55649
Mandy Jones: Diolch, Weinidog. Rwy'n dilyn hynt diwydiant gweithgynhyrchu'r DU, ac mae yna newyddion gwych i'w glywed am ffatrïoedd newydd a datblygiadau technolegol. Dros y misoedd diwethaf, dim ond un cyhoeddiad a welais am ogledd Cymru, am gwmni rhagorol Village Bakery yn Wrecsam. Beth y mae eich adran yn ei wneud i sicrhau bod Cymru, ac yn enwedig gogledd Cymru, yn cael ei chyfran o'r mewnfuddsoddiad...
Mandy Jones: Wel, dyma'r wythnos y mae Cineworld wedi cyhoeddi eu bod yn cau ei holl sinemâu ledled y DU, gan effeithio ar 5,500 o swyddi. Bydd staff yn cael eu diswyddo dros dro. Ceir dau safle yng ngogledd Cymru, yn Llandudno a Brychdyn. Mae fy nghalon yn gwaedu dros unrhyw un y mae'r penderfyniad yn effeithio arnynt. Dilynwyd y cyhoeddiad ar unwaith gan Odeon yn cyhoeddi'r un peth. Cefais fy siomi'n...
Mandy Jones: Efallai fod rhai yn y Siambr yn ymwybodol o'r ffaith fod Cymru ar fin ennill coron pencampwriaeth gyrru rali'r byd. A allwch chi fy nghlywed i, Llywydd?
Mandy Jones: Diolch. Roeddwn i'n meddwl bod rhywbeth wedi mynd o'i le ar y peth ar y cyfrifiadur. Efallai bod rhai yn y Siambr yn ymwybodol bod Cymru ar fin ennill coron pencampwriaeth gyrru rali'r byd. Beth bynnag fydd y canlyniad ym mis Tachwedd, mae ein Elfyn Evans ni o Ddolgellau wedi dangos sgiliau gyrru o'r radd flaenaf ac, unwaith eto, bydd yn rhoi ein gwlad glyfar a phenderfynol ar y map. Rwy'n...
Mandy Jones: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ac am ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Hoffwn i gofnodi fy niolch i'r pwyllgorau a adroddodd ar y Bil hwn. Mae'r adroddiadau yn gytbwys ac yn ddiddorol. Unwaith eto, byddaf i'n datgan buddiant. Rwyf i yn rhywbeth rwyf i'n ei alw yn landlord damweiniol—fe wnes i etifeddu tŷ fy nhad ac rwy'n rhentu'r eiddo erbyn hyn i deulu...
Mandy Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'n holl bobl ifanc. Mae eu bywydau, efallai'n fwy nag unrhyw rai o'n bywydau ni, wedi'u troi ben i waered gan y cyfyngiadau symud. Nid ydynt wedi gweld eu ffrindiau, maent wedi gweld colli eu trefn ddyddiol arferol, maent wedi gorfod dod i arfer â gwahanol ffyrdd o ddysgu, byw a bod, ac mae'r rhai sy'n gwneud arholiadau eleni wedi...
Mandy Jones: Gweinidog, rwy'n gwybod bod llawer o sicrwydd wedi ei roi bod GIG Cymru ar agor i'r cyhoedd. Fodd bynnag, rwyf i'n clywed gan etholwyr na all hyd yn oed y rhai hynny sy'n gweithio ar reng flaen y GIG gael gafael ar driniaethau arferol, fel pigiadau steroid ar gyfer arthritis. Os na all y GIG ofalu am ei bobl ei hun, Gweinidog, sut y gall ofalu am y cyhoedd yn ehangach? Diolch.
Mandy Jones: Hoffwn ddechrau'r cyfraniad hwn drwy estyn fy nghydymdeimlad i staff Ysbyty Maelor Wrecsam a gollodd eu cydweithiwr Wilbert Llobrera yn ddiweddar mewn damwain taro a ffoi y tu allan i'r ysbyty. Rwy'n meddwl am ei wraig a'i ferch yn eu galar. Rwyf wedi sôn o'r blaen ynglŷn â sut mae mesurau arbennig yn amlwg wedi dod yn rhan o drefn feunyddiol pethau i fwrdd iechyd gogledd Cymru. Fe wadoch...
Mandy Jones: A allwch chi fy nghlywed, Lywydd?
Mandy Jones: Diolch. Croeso i'ch rôl newydd, Weinidog. Nid mater i'r gwasanaeth iechyd yn unig yw ein hiechyd meddwl, mae'n fater i bob unigolyn, bob teulu a phob cymuned. Rwy'n pryderu'n fawr ynglŷn â chau campfeydd, sydd, yn ogystal â darparu manteision iechyd meddwl ymarfer corff, yn gymunedau bach ynddynt eu hunain, a hefyd mannau addoli ar gyfer gweddïo cymunedol. Mae'r ddau fath o sefydliad yn...
Mandy Jones: Prif Weinidog, mae effaith y pwyslais ar COVID-19 gan yr holl wasanaethau iechyd yn y DU wedi cael ei thrafod droeon yn y Siambr hon, fel yr ydym ni newydd ei glywed, ond, unwaith eto, er mwyn i bawb gael gwybod, mae elusennau canser yn amcangyfrif bod atgyfeiriadau ar gyfer sgrinio am ganser wedi gostwng gan 70 y cant. Nawr, gallai hyd yn oed person lleyg weld bod pwyslais y gwasanaeth...