Darren Millar: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cynaliadwyedd busnesau amgylcheddol yng Nghymru? OAQ(5)0139(ERA)
Darren Millar: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae rhai busnesau amgylcheddol yn seiliedig ar y diwydiant coed, ac rwyf wedi mynegi pryderon ynglŷn â chynaliadwyedd y diwydiant hwnnw o ran ei gyflenwad o bren ar gyfer y dyfodol. Nawr, mae llawer o gyfeiriadau wedi bod y prynhawn yma at rôl Cyfoeth Naturiol Cymru a’r swyddogaethau y mae’n eu cyflawni, ac mae’n rhaid i mi...
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae un o’r pryderon a fynegwyd yn ymwneud â chapasiti’r gweithlu i ateb yr her hon o ddarparu’r gofal plant ychwanegol. Mae’n uchelgais rydych chi a minnau yn ei rhannu o ran cynyddu argaeledd gofal plant, ond yn enwedig darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ardaloedd di-Gymraeg yn draddodiadol. Pa gamau gweithredu, yn benodol, rydych yn eu...
Darren Millar: 7. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i rwystro plant yng Nghymru rhag dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod? OAQ(5)0147(CC)
Darren Millar: Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn mai un o’r profiadau niweidiol mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod yng Nghymru yw rhieni’n gwahanu, sy’n gallu cael effaith niweidiol iawn ar blant a phobl ifanc. O gofio hynny, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo cyplau i aros gyda’i gilydd er lles eu plant, ac a wnewch chi roi sylwadau ar ba cymorth sydd ar gael,...
Darren Millar: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad, ac am fy hysbysu yn ei gylch ymlaen llaw. Rwy’n credu y byddai pawb ohonom yn y Siambr hon yn cytuno ein bod am weld proses asesu drylwyr yma yng Nghymru sy’n deg i’r dysgwr, sy’n helpu i roi gwybod i athrawon sut i fynd ati yn y ffordd orau i ymateb i’w hanghenion, ond sydd hefyd yn gweithredu fel system feincnodi ar hyd a...
Darren Millar: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau gofal sylfaenol yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0639(FM)
Darren Millar: Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod Cymdeithas Feddygol Prydain yn rhybuddio, flynyddoedd lawer yn ôl—mor bell yn ôl â 2013, yn wir—bod angen i ni fod yn hyfforddi mwy o feddygon yng Nghymru, ac roedden nhw’n rhybuddio am argyfwng o ran recriwtio meddygon teulu. Diystyrwyd yr haeriadau hynny gennych ar y pryd, ac eto ers hynny rydym ni wedi gweld dros ddwsin o feddygfeydd teulu...
Darren Millar: A gaf i ofyn i chi am ddatganiad ar gefnffordd yr A55? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o ddigwyddiad a achosodd dagfeydd am 13 milltir ar yr A55 dros y penwythnos. Roedd hynny yn ystod penllanw tymor twristiaeth, fel petai, yn y rhan honno o’r gogledd. Cafodd y traffig ei ddal yno am bum awr. Mi fuon nhw yno yn disgwyl cyhyd fel bod rhai’n llythrennol yn dawnsio llinell ar ffordd ddeuol...
Darren Millar: A gaf i ddatgan buddiant ar ddechrau'r ddadl hon fel llywodraethwr ysgol yn Ysgol Santes Ffraid yn Sir Ddinbych? Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei araith agoriadol. Rwy’n meddwl ei bod yn galonogol gwybod ei fod yn gwrando, nid yn unig ar bryderon y pwyllgorau, ond ar y llawer o randdeiliaid eraill sydd wedi bod mewn cysylltiad ag ef yn y misoedd diwethaf. A hoffwn estyn fy niolch iddo am...
Darren Millar: Rwy’n sylweddoli ac yn deall hynny’n llawn, Gweinidog, ac rwy'n ddiolchgar iawn ichi am ildio, ond y realiti yw, pan fyddwn yn wynebu atebion i'n cwestiynau, fel 'Beth am y mater hwn? Beth am y mater arall?', yr ymateb stoc a roesoch i'r pwyllgor oedd ‘Wel, bydd y mater hwn yn cael sylw yn y cod.' Wel, oni bai eich bod wedi cael golwg ar y cod, allwch chi ddim cael sicrwydd y bydd hynny...
Darren Millar: Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ymuno â mi i longyfarch y Cynghorydd James Lusted yn Llandrillo-yn-Rhos ar gael ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Y Cynghorydd Jay yw’r cynghorydd cyntaf â thwf cyfyngedig a etholwyd yma yn y DU. Mae ganddo hanes balch iawn o ymgyrchu dros hawliau anabledd. Tybed beth fyddwch yn ei wneud, yn benodol, nid yn unig i fynd...
Darren Millar: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd twristiaeth glan y môr yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0644(FM)
Darren Millar: Ceir llawer o’r trefi glan môr hynny yn fy etholaeth i sy'n elwa ar dwristiaeth, gan gynnwys Tywyn, Bae Cinmel, Llanddulas ac, yn wir, Bae Colwyn. Ond un o'r pethau sy'n rhoi’r diwydiant twristiaeth hwnnw mewn perygl yw'r risg o lifogydd arfordirol, a sylwaf ar gyhoeddiad adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus heddiw a oedd yn beirniadu’r diffyg amlwg o arweiniad hwn ar ran...
Darren Millar: Arweinydd y tŷ, a gawn ni ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â diogelwch yn ysbytai Cymru? Cefais e-bost gan etholwr ddim ond rai dyddiau’n ôl sydd yn anffodus iawn yn glaf canser yn Ysbyty Glan Clwyd, ac fe wnaeth sylw am y ffaith ei fod yn gallu cerdded o gwmpas yr holl ysbyty ar y penwythnos, i mewn ac allan o swyddfeydd unigol. Gallasai...
Darren Millar: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad ac am gopi ymlaen llaw o'r datganiad, a ddosbarthwyd yn gynharach heddiw? Rwyf eisiau croesawu'r cyhoeddiad o’r £5 miliwn ychwanegol heddiw er mwyn gwella cyflymder band eang yn ein hysgolion. Rydym ni’n gwybod mai dim ond eleni—yn gynharach eleni—y mae rhai ysgolion wedi cael cysylltiad band eang o gwbl, mewn gwirionedd, ac...
Darren Millar: Diolch i chi, Llywydd. Diolch i chi am eich datganiad. Rwyf braidd yn bryderus, mewn gwirionedd, o glywed nifer yr eiddo—doeddwn i ddim wedi sylweddoli y byddai’n nifer mor uchel—a fydd y tu allan i'r cynllun presennol. Mae llawer o'r eiddo hynny, fel y gwyddoch o'n gohebiaeth yn y gorffennol, yn fy etholaeth i. Mae rhai ohonynt yn talu drwy'u trwyn, a dweud y gwir, am wasanaethau band...
Darren Millar: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddydd Gwener, y diwrnod ar ôl yr etholiad cyffredinol, roedd yna eitem newyddion a oedd yn awgrymu bod eich Llywodraeth yn torri gwerth £28 miliwn oddi ar gyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sy’n amlwg yn mynd i effeithio’n sylweddol ar brifysgolion Cymru. Pam y penderfynasoch gladdu newyddion drwg ar y diwrnod hwnnw, a sut y gallwch...
Darren Millar: Nid ydych wedi ateb fy nghwestiwn, sef: sut y gallwch amddiffyn—sut y gallwch amddiffyn—y toriadau y mae CCAUC yn awr yn gorfod eu cyflawni i brifysgolion Cymru oherwydd diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru? Rydym yn gwybod eisoes fod Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, y Drindod Dewi Sant, a Phrifysgol De Cymru i gyd wedi rhybuddio eu bod yn mynd i orfod gwneud toriadau sylweddol...
Darren Millar: Wel, nid wyf yn synnu ei fod yn fach iawn, ac mae’n mynd i fod yn llai byth, onid yw, tra byddwch yn parhau i danariannu ein sector prifysgolion yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Y realiti yw bod hyn yn mynd i ledu’r bwlch cyllido rhwng prifysgolion Cymru a phrifysgolion dros y ffin yn Lloegr, sy’n mynd i’w gwneud yn fwy anodd iddynt recriwtio myfyrwyr, gan ledu’r...