Andrew RT Davies: Wel, yn amlwg, mae’n rhaid eich bod chi wedi bod yn byw mewn gwahanol fydysawd, oherwydd nid oedd gennym ni unrhyw gynigion ar gyfer toriadau ym maes addysg yn etholiadau diwethaf y Cynulliad. Yn rhyfedd braidd, mae’n rhaid eich bod chi wedi bod yn byw mewn gwahanol fydysawd. Yr hyn yr ydym ni wedi ei gael ers y Nadolig yw canlyniadau’r rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr; rydym ni wedi...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddiolchgar am yr atebion yr ydych wedi eu rhoi hyd yn hyn. Yn amlwg iawn, mae hyn yn achos pryder enfawr ac mae llawer o'r gweithwyr hefyd yn byw ym Mro Morgannwg ac ar draws rhanbarth Canol De Cymru. Mae'r swyddi, yn hanesyddol, yn ffatri injans Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn ddeniadol iawn, yn talu'n dda, ac mae pobl wedi aros yn y ffatri ar ôl iddyn nhw...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, neu hyd yn oed dim ond llythyr yn y Llyfrgell, yn gyntaf gan y Gweinidog cyllid, yn esbonio'r cynllun ardrethi busnes newydd—yr arian ychwanegol a roddwyd ar y bwrdd? Rwyf yn sylweddoli y codwyd hyn ryw ddwy neu dair wythnos yn ôl, ac, yn ein dadl ar y dydd Mercher, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol...
Andrew RT Davies: Rwy’n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Mae ychydig yn swreal, i fod yn onest gyda chi, oherwydd mae gennym gynnig ger ein bron sydd wedi cael ei gymeradwyo gan y ddwy blaid sydd wedi llunio’r cytundeb ac yna welliant wedi’i gyflwyno sydd mewn gwirionedd yn gwrthwynebu tanio erthygl 50 oni bai bod amodau penodol yn cael eu bodloni. Felly, rwy’n ei chael braidd yn...
Andrew RT Davies: Ewch ymlaen.
Andrew RT Davies: Dydw i ddim yn hollol siŵr ai dyna beth mae arweinydd Plaid Cymru yn credu ydyw, ac rwy’n credu, yn amlwg, bod y teimlad yn ymwneud ag annibyniaeth. Ond fe wnes i glywed yr Ysgrifennydd materion gwledig yn dweud bod arnaf angen rhywfaint o help i ddeall y materion hyn. Byddwn yn gofyn i'r Ysgrifennydd materion gwledig, os yw'n dymuno rhoi sylwadau o’i heistedd, pam nad yw hi nawr yn...
Andrew RT Davies: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Andrew RT Davies: Rwy’n ddiolchgar i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Ac ystyried yr ehangu yn economi'r DU, fel y nodwyd gan Fanc Lloegr, ac o gofio’r sylwadau gan y rhan fwyaf o economegwyr mawr sy'n dweud, mewn gwirionedd, y caiff y bunt ei hailbrisio wrth inni fynd ymhellach i mewn i'r flwyddyn, ac ystyried cadernid y DU economi, hoffwn ddeall pa ddadl economaidd y mae'n ceisio ei datblygu neu pa brofiad...
Andrew RT Davies: Rwy’n gresynu’r iaith y mae’r Aelod wedi’i defnyddio, o dorri garddyrnau i ŵyn i'r lladdfa, mewn dadl y mae hi fwy na thebyg yn ei chael yn anodd dod i delerau â hi. Fel y dywedais, mae’r refferendwm wedi digwydd. Mae angen i ni symud ymlaen. Rydych yn iawn: pleidleisiodd mwyafrif y ffermwyr i ddod allan o Ewrop gan fod gennym oedran cyfartalog o 62 yn y diwydiant amaethyddol, a...
Andrew RT Davies: Rwyf wedi parhau â’r ddadl a wneuthum ar ôl y refferendwm bod angen cael fframweithiau y DU ar amaethyddiaeth, cronfeydd strwythurol a chyllid prifysgolion oherwydd mai dyna'r ffordd orau o sicrhau llinellau cyllideb penodol allan o Drysorlys y DU—i wneud yn siŵr bod yr arian sydd ei angen arnom yn llifo i Gymru. Gofynnaf ichi gefnogi'r safbwynt hwnnw oherwydd pan fy mod wedi...
Andrew RT Davies: Dylid eu cytuno.
Andrew RT Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Andrew RT Davies: Na, na. Ni allwch wneud y cyhuddiad hwnnw.
Andrew RT Davies: Diolch i’r Gweinidog am dderbyn yr ymyriad. Ni allwn gytuno mwy â chi ynglŷn â chwalu’r rhwystrau, Weinidog, ond efallai mai ein lle ni ar yr ochr hon yw gofyn y cwestiwn hwnnw ac i chi fel y Gweinidog roi rhai o’r atebion i ni, gobeithio. Oherwydd ers i mi fod yma—ers 2007—rydym wedi bod yn tynnu sylw at y rhwystrau hyn, o ochr y Llywodraeth ac o ochr yr wrthblaid, ond a allwn...
Andrew RT Davies: Nid wyf yn chwerthin ynglŷn â’r cynlluniau gofodol; cofio’r dadleuon hir a thrafferthus a gafodd y gŵr sydd â’r un enw â mi, Andrew Davies, wrth arwain y dadleuon yn y trydydd Cynulliad, un dydd Mercher ar ôl y llall, un dydd Mawrth ar ôl y llall, yn y Siambr hon. Dyna pam roeddwn yn chwerthin pan sonioch am y cynllun gofodol.
Andrew RT Davies: Yn amlwg rwy’n croesawu’r cyfle i siarad yn y ddadl hon a arweiniwyd gan y Ceidwadwyr heddiw, ac yn bwysig i dynnu sylw at rai o’r cysylltiadau pwysig y dylai Llywodraeth Cymru fod yn eu sefydlu, a hefyd yn eu mapio ar ddechrau ei thymor gwaith, sef pum mlynedd. Credwch neu beidio, ar ddiwedd y tymor hwn, bydd 20 y cant o dymor y Cynulliad hwn eisoes wedi mynd. Mae’n anhygoel meddwl...
Andrew RT Davies: Nid wyf yn amau hynny. Ond os darllenwch y maniffesto, fel y nodais, mae’r maniffesto yn sôn am system fetro gogledd Cymru, ac yn awr mae’n ymddangos bod polisi’r Llywodraeth wedi symud yn gadarn i aros gyda’r dwyrain ac anghofio am y gorllewin. Fel y gwyddom, yn rhan orllewinol gogledd Cymru mae gennym y lefelau isaf o werth ychwanegol gros sydd i’w gweld yng Nghymru—ar Ynys...
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Brif Weinidog—diolch, Lywydd, mae'n ddrwg gen i. Mae cwestiwn brys yn dod ychydig yn ddiweddarach ar ganfyddiadau Kancoat yn yr adroddiad cyfrifon cyhoeddus, ond hoffwn ofyn sawl cwestiwn i'r Prif Weinidog y prynhawn yma am y mater penodol hwn, o ystyried mai chi oedd y Prif Weinidog pan wnaed y penderfyniadau hyn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ystyriaeth bwysig. O...
Andrew RT Davies: Brif Weinidog, mae'n ffaith bod, wrth i’r buddsoddiad barhau—oherwydd rhyddhawyd yr arian hwn dros amser—dro ar ôl tro, fel yr wyf wedi dweud, roedd yr arwyddion hynny yn glir iawn. Rhyddhawyd tri pwynt pedwar miliwn o bunnoedd i'r cwmni hwn, ac mae wedi cael ei golli, i bob pwrpas; ni ddiogelwyd unrhyw swyddi, mae’r safle hwnnw bellach yn wag, ac rydych chi fel Llywodraeth yn...
Andrew RT Davies: Brif Weinidog, chi oedd y Prif Weinidog ar y pryd, ac rwy’n derbyn bod y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar risg ac y bydd rhai’n mynd o'i le, ond y pwynt yr wyf wedi ei wneud, drwy'r ddau gwestiwn yr wyf i wedi eu gofyn i chi, yw bod nifer o rybuddion yn amlygu’r risg i'r Llywodraeth ac i'r trethdalwr trwy ryddhau’r arian i’r cwmni hwn. Dywedodd Cyllid Cymru, sy’n fenthyciwr pan...