Delyth Jewell: Y cartrefi gofal sydd wedi dwyn baich argyfwng COVID-19, ac mae preswylwyr cartrefi gofal yn cyfrif am tua thraean o'r holl farwolaethau. Nawr, hyd at 23 Ebrill roedd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i drigolion heb eu profi fynd i gartrefi gofal o'r ysbyty, ac roedd hynny'n sgandal llwyr y bydd yn rhaid i Weinidogion fod yn atebol amdano mewn ymchwiliad sydd ar y gweill, hyd yn oed os nad ydyn...
Delyth Jewell: Mae argyfwng COVID wedi egluro cymaint o bethau: yr hyn sy'n bwysig i'n cymdeithas ni, yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei newid, pam y dylai penderfyniadau gael eu gwneud yn agos at y bobl y maen nhw'n effeithio arnynt, ac mae'r argyfwng hefyd wedi rhoi cipolwg i ni ar ddyfodol gwahanol, oherwydd nid yw'r ddadl hon am annibyniaeth yn gwestiwn cyfansoddiadol pellennig ar gyfer yfory; mae'n...
Delyth Jewell: Prif Weinidog, mae Shelter wedi canfod bod 15,000 o denantiaid yng Nghymru yn wynebu colli eu cartrefi oherwydd ôl-ddyledion rhent a gronnwyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Mae'r dyledion hyn wedi cronni heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, ac mae ansicrwydd ynglŷn â'r dyfodol yn eu plagio. Mae'n rhyfeddol ei bod hi'n dal yn bosibl yng Nghymru troi rhywun allan a'u gwneud yn...
Delyth Jewell: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfyngiadau symud lleol a gyflwynwyd yng Nghaerffili? OQ55522
Delyth Jewell: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Pan gyhoeddwyd y cyfyngiadau symud yr wythnos diwethaf, fe greodd ddryswch ymhlith llawer o drigolion Caerffili, a chefais fy moddi mewn negeseuon gan bobl sy'n awyddus i gael gwybod pa effaith y byddai'n ei chael ar eu hamgylchiadau. Cymerodd bron i 24 awr cyn i ganllawiau gael eu cyhoeddi yn egluro ble y gallai'r rhai a oedd yn rhannu gwarchodaeth dros...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog, am y datganiad, a dwi yn cydnabod y gwaith helaeth rydych chi a'ch tîm wedi ei wneud ar hyn dros y misoedd diwethaf. Rwy'n credu bod y pandemig wedi gwneud i nifer o bobl sylweddoli bod angen uwchraddio'r hawl i gartref fod yn fater o hawl ddynol a bod digartrefedd yn rhywbeth sy'n niweidio pawb o fewn cymdeithas. Rwy'n croesawu eich ymrwymiad i geisio atal unrhyw un rhag...
Delyth Jewell: Cwnsler Cyffredinol, yr oedd ymddygiad rhai ASau Ceidwadol yn nadl y Bil marchnad fewnol neithiwr yn warthus. Fe wnaethon nhw gamliwio'r ffeithiau yn barhaus drwy wrth-ddweud sinigaidd, gan honni bod y Bil wedi rhoi pwerau datganoledig newydd wrth lawenhau ynghylch y ffaith ei fod yn mynd â hwy i ffwrdd. Roedd yn arbennig o sarhaus, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi, i glywed y cyn...
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Weinidog, rydym yn debygol o weld newidiadau hirdymor i'r farchnad dai yn dilyn COVID-19, ac nid o reidrwydd er gwell. Efallai y bydd pobl sy'n gallu fforddio gwneud hynny eisiau prynu tai mawr gyda mannau agored a gerddi a thai nad oes raid iddynt fod mor agos at y swyddfa, a gallai hynny achosi i lawer o bobl gael eu prisio allan o'u cymunedau. Mae hynny'n debygol o gael ei...
Delyth Jewell: Rwy'n croesawu hynny'n fawr; diolch, Weinidog. Ac rwy'n siŵr y byddwn yn awyddus iawn i weithio gyda chi ac i weld pa atebion sydd i'w cael. Felly, diolch am eich ateb ar hynny. Nawr, i droi at rai sylwadau a wnaethoch ychydig yn ôl—credaf mai'n fuan ar ôl i chi gael y portffolio oedd hynny. Roeddech wedi cyfeirio at ystadau newydd a oedd wedi dod drwy'r system gynllunio fel rhai a allai...
Delyth Jewell: Diolch. A gwn fod rhywfaint o hyn yn bethau a drafodwyd gennym ddoe, ond rwy'n croesawu llawer o'r hyn rydych chi'n ei ddweud. Nawr, fel rydym newydd ei weld o'r drafodaeth honno eisoes, mae yna lawer y credaf fod ein dwy blaid yn cytuno yn ei gylch: rydym yn cytuno bod angen mwy o dai fforddiadwy ledled Cymru; rydym yn cytuno bod angen mwy o dai cymdeithasol; ac y dylai ystadau newydd gael...
Delyth Jewell: Rwy'n falch ein bod yn cael y ddadl hon heddiw a hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau fy hun i'r Cadeirydd, i'r pwyllgor a'r tîm clercio am y gwaith a wnaethant ar gynnal yr ymchwiliad hwn; roedd hynny cyn imi fod yn aelod o'r pwyllgor. Dylid barnu cymdeithas wâr yn ôl y ffordd y mae'n trin ei dinasyddion mwyaf agored i niwed. Ni ddylai fod stigma ynghlwm wrth dderbyn budd-daliadau ac ni...
Delyth Jewell: 2. Beth yw dadansoddiad cyfreithiol y Cwnsler Cyffredinol o'r mesurau ym Mil Marchnad Fewnol y DU fel y maent yn berthnasol i Gymru? OQ55533
Delyth Jewell: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw ac rwyf yn cytuno ag ef. Cwnsler Cyffredinol, yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi wrthyf i fod Llywodraeth Cymru yn barod i weithio gydag eraill yn Senedd y DU er mwyn diogelu democratiaeth Cymru rhag y cipio pŵer hwn sy'n rhan annatod o'r Bil Marchnad Fewnol, fel yr ydych chi newydd gyfeirio ato, ac rwy'n croesawu hynny. Bydd gweithio mewn...
Delyth Jewell: Gweinidog, mae trigolion yn fy rhanbarth i ym Mlaenau Gwent, yng Nghaerffili, ym Merthyr ac yng Nghasnewydd yn wynebu cyfyngiadau erbyn hyn. Rwy'n nodi eich ateb ychydig funudau yn ôl ynglŷn â sut y byddwch chi'n adolygu'r cyfyngiadau yn ddyddiol, ac rwy'n croesawu hynny. Gan fod cynifer o awdurdodau cyfagos yn wynebu cyfyngiadau erbyn hyn, fe hoffwn i ofyn a fyddai'n gwneud mwy o synnwyr...
Delyth Jewell: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Bil Marchnad Fewnol y DU ar y Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin?
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Dylai pawb allu byw yn y gymuned lle cawson nhw eu magu. Mae'r misoedd diwethaf wedi amlygu pa mor bwysig ydy cael tŷ cyfforddus i fyw ynddo. Nid dim ond pedair wal a tho, ond rhywle diogel, rhywle clyd, cartref. Nid lle, ond lloches. Ac mae cartref hefyd yn rhan o wead ehangach cymuned, yn cynnig cyfle i bobl warchod ei gilydd, i rannu profiadau bywyd. Ond, mewn rhai...
Delyth Jewell: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch am bolisi Llywodraeth Cymru o ran y dreth trafodiadau tir?
Delyth Jewell: 7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gydag awdurdodau lleol a phartneriaid perthnasol eraill ynghylch atal ymweliadau â chartrefi gofal? OQ55669
Delyth Jewell: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Prif Weinidog, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yr ydych chi newydd ei grybwyll, wedi codi pryderon am yr effaith y gallai gwaharddiad cyffredinol ar ymweliadau, yn ei geiriau hi, ei chael ar iechyd a llesiant preswylwyr cartrefi gofal. Mae'r angen i atal heintiau mewn cartrefi gofal yn hollbwysig, wrth gwrs, ac rwy'n sylweddoli ei bod hi'n anodd...
Delyth Jewell: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am ddarparu copi o'r adroddiad ymlaen llaw. Dwi'n ddiolchgar hefyd iddo am gytuno i ryddhau popeth yn gyhoeddus. Mae'r adroddiad yn un swmpus, sy'n cynnwys nifer o ymrwymiadau gwario y bydd angen i'n plaid ni eu dadansoddi yn ofalus, ond o ran y blaenoriaethau mae'r Llywodraeth wedi'u gosod, maen nhw'n cyd-fynd â'r hyn mae Plaid Cymru wedi bod...