Mark Reckless: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn nodi a fydd yr egwyddorion blaengar a gynigiwyd ar gyfer y dreth trafodiadau tir yn llywio ei bolisi treth yn fwy cyffredinol wrth i bwerau pellach dros drethi gael eu datganoli? OAQ51423
Mark Reckless: Ymddangosai fod ateb Ysgrifennydd y Cabinet i drydydd cwestiwn Nick Ramsay yn gynharach, ynglŷn â gwneud i bobl gyfoethog dalu mwy, yn canolbwyntio mwy ar yr hyn y gallai fod yn ei wneud gyda threth incwm, pan fydd ganddo bwerau dros hynny, nag ar dreth trafodiadau tir. Onid yw'n cydnabod bod eiddo masnachol mawr, yn amlach na pheidio, yn cael eu gosod i amryw o denantiaid llai eu...
Mark Reckless: Deilliodd fy nghysylltiad i â diabetes math 1 yn bennaf drwy fynychu gwersylloedd haf gyda Chymdeithas Diabetes Prydain, rhagflaenydd Diabetes UK, gyda fy nhad, a oedd yn feddyg, a fy mam, a oedd yn nyrs, a gynorthwyai i gynnal y gwersylloedd hynny ar gyfer plant a phobl ifanc â diabetes. Soniodd Janet, rwy'n credu, mai 0.2 y cant yn unig o blant sydd â diabetes math 1 a byddai rhai...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: Diolch. A yw hi'n cofio bod Llywodraeth Lafur, o dan Tony Blair, hefyd wedi gwrthwynebu'r Siarter, ac y gwnaethon nhw ei dderbyn yn y pen draw dim ond ar y sail na ellid ei orfodi yn ôl y gyfraith, ac na fyddai ganddo fwy o rym cyfreithiol na'r Beano, yn ôl y Gweinidog Ewrop ar y pryd?
Mark Reckless: Hoffem ni, ar y meinciau hyn, groesawu'r cynnydd yn y swm di-dreth hyd at £180,000. Yn yr un modd, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu'r toriad treth a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a sicrhaodd fod yr arian hwn ar gael iddo? A wnaiff ystyried a yw datganiad ysgrifenedig yn ddigon mewn gwirionedd i gyhoeddi newidiadau yn y cyfraddau treth, wrth iddo ystyried y gweithdrefnau...
Mark Reckless: A yw'r Prif Weinidog yn ffyddiog bod y meintiau enfawr o blastig yr ydym ni wedi bod yn eu hallforio i Tsieina wedi cael eu hailgylchu'n briodol, yn hytrach nag, er enghraifft, cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi?
Mark Reckless: Roeddwn yn falch o glywed cyfeiriad y Cwnsler Cyffredinol at bwysigrwydd cefndir economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â rhyw ac ethnigrwydd, mewn perthynas ag amrywiaeth. Soniodd am y Comisiwn Penodiadau Barnwrol a bod yn ddarostyngedig i'w weithdrefnau. A yw'n rhagweld unrhyw welliant yn amrywiaeth y corff hwnnw i'r graddau fod lleisiau Cymry yn cael eu clywed i'r un graddau ag y sicrheir...
Mark Reckless: Pleser yw dilyn David Rowlands. Cefais fy annog i glywed am ei drefn foreol rhwng 5:15 a 6:30, ac rwy'n cymryd mai ei raglen ymbincio bersonol helaeth yw honno, wedyn y cyfnod o ddwy awr a hanner cyn ei fod yn gallu dechrau gwaith, a'r diwrnod 11 awr a hanner cyn ei fod yn gallu mynd adref. Felly, i ddilyn yr hyn a ddywedodd Lee Waters, a oedd yn cyfeirio, rwy'n credu, at fod yn...
Mark Reckless: Rwy'n credu y dylem ystyried hefyd, pan fyddwn yn sôn am ddatblygu economaidd hirdymor, yr effaith, a'r adborth cadarnhaol, sy'n bosibl o leiaf, i drethi ar gyfer Cymru. Pan fydd gennym y 10c o dreth incwm o fis Ebrill, byddwn yn edrych ar yr ymchwiliad cyhoeddus ynghylch cymhareb cost a budd y llwybr du ac yn asesu hwnnw, ond mater arall yw: beth yw effeithiau penodol hyn ar drysorlys...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: Pam y mae hi'n trafod ffyrdd yn unig yn y modd hwn? Mewn unrhyw fath arall o ddarpariaeth gyhoeddus, pe baem yn ystyried rhoi rhywbeth, ni fyddai'r ffaith y gallai pobl ddewis ei ddefnyddio wedyn yn rheswm dros beidio â'i roi.
Mark Reckless: A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa gyfran o'r arian cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a gaiff ei ymrwymo i ffordd liniaru'r M4?
Mark Reckless: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch cyflymu cynlluniau tai yn Nwyrain De Cymru i roi ystyriaeth i ddileu tollau pontydd Hafren? OAQ51561
Mark Reckless: Weinidog, gallai arwain at brisiau tai uwch. Rydym eisoes wedi gweld prisiau tai yn codi mwy na 9 y cant yn Sir Fynwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a mwy na 6 y cant yng Nghasnewydd. Tybed a oes angen mwy o frys mewn perthynas â hyn. Rwy'n falch iawn o glywed am y cyfarfod y mae'n ei gael, ond lle y ceir galw a chyfle i roi hwb i'r economi, a dod â phobl ar gyflog uchel i mewn a helpu'r...
Mark Reckless: Prif Weinidog, cefais y fraint yr wythnos diwethaf o fynd i uwchgynhadledd twf Hafren, a drefnwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan wir geisio sicrhau cymaint o fanteision â phosibl y gallwn eu cael pan fydd tollau pont Hafren yn cael eu diddymu ddiwedd y flwyddyn. Prif Weinidog, beth ydych chi a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn cael cymaint o...
Mark Reckless: Cytunaf â Michelle Brown mai un o'r elfennau sy'n peri penbleth—i mi o leiaf—am yr ymchwiliad oedd ceisio deall pam y caeodd yr uned mamau a babanod a oedd wedi bod yn weithredol yn Ysbyty Mynydd Bychan yng Nghaerdydd tan 2013. Nid wyf yn teimlo ein bod wedi mynd i wraidd y meddylfryd a'r cyfiawnhad dros wneud hynny ar y pryd, yn ddigonol i fy modloni i, o leiaf. Yn sicr roedd yn...
Mark Reckless: Buaswn yn cytuno â chi ar hynny, a chredaf fod amgylchiadau geni a'r ffordd y mae'r system iechyd yn ei gefnogi yn caniatáu hynny. Mae ein baban bellach yn wyth mis oed, ond pan roddodd fy ngwraig enedigaeth ym mis Mai y llynedd, cawsom ein synnu'n fawr gan ansawdd y ddarpariaeth a chymaint a gawsom o ran ymweliadau gan y fydwraig a faint o ryngweithio a gawsom cyn cael ein rhyddhau o'r...
Mark Reckless: Hoffwn innau ddymuno pob lwc oddi wrth y grŵp Ceidwadol i Glwb Pêl-droed Casnewydd wrth iddynt chwarae yn Wembley heno. Efallai y gall perfformiad Abertawe neithiwr eu hysbrydoli. O gofio bod Rodney Parade ym mherchnogaeth Undeb Rygbi Cymru ers diwedd y llynedd, a wnaiff Llywodraeth Cymru gynorthwyo Clwb Pêl-droed Casnewydd a'r Dreigiau i barhau i rannu'r cae chwarae...
Mark Reckless: A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn croesawu'r newidiadau arfaethedig, yn enwedig y cyfle y gallent ei gynnig ar gyfer ehangu'r ystod economaidd-gymdeithasol o bobl a dderbynnir i'r proffesiwn? Un o anfanteision y system gyfredol yw bod pobl yn dechrau eu cwrs cyfnewid ac yn darganfod bod nifer o'r cwmnïau mwyaf eisoes wedi cau eu prosesau recriwtio ym mis Gorffennaf am ddwy flynedd. Oni fyddai'r...