Rhianon Passmore: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â dysgwyr dan anfantais yn Islwyn? OAQ52048
Rhianon Passmore: Fe lwyddais yn y pen draw.
Rhianon Passmore: Iawn. Diolch. Mae'r grant amddifadedd disgyblion ar gyfer y dysgwyr ieuengaf—disgyblion tair i bedair oed—wedi cynyddu o £600 i £700, gan adeiladu ar ddyblu'r cymorth ariannol y llynedd o £300 i £600 y dysgwr yn y blynyddoedd cynnar, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Llywodraeth Dorïaidd y DU sy'n anrheithio cymorth ar gyfer dysgwyr tlotach. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu,...
Rhianon Passmore: Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwella'r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaeth iechyd rhywiol yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu'r bobl dlotaf yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn rhoi munud o'r amser a neilltuwyd ar fy nghyfer i fy nghyd-Aelod, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Sayed. Bydd Aelodau'r Cynulliad yn gwybod bod hwn yn fater eithriadol o bwysig i mi, ond mae hefyd yn fater o bwys mawr i Gymru. Roedd gennyf gariad angerddol yn blentyn at gerddoriaeth a fy mhroffesiwn fel oedolyn oedd...
Rhianon Passmore: Ym mis Mawrth, cyhoeddodd The Economist erthygl o'r enw, 'The quiet decline of arts in British schools'. Defnyddient astudiaeth achos o Gymru o awdurdod lleol yr effeithiwyd arno gan doriadau ariannol. Soniwyd sut roedd cyllideb y gwasanaeth cerddoriaeth wedi lleihau cymaint â 72 y cant. Disgrifiodd pennaeth gwasanaeth cerddoriaeth y cyngor ar y pryd y peth yn gryno—'Bydd llawer yn...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, mae Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates wedi bod yn rhagweithiol o ran nodi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerbydau sy'n addas ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd yn yr unfed ganrif ar hugain. Ym mis Gorffennaf y llynedd, dywedodd Ken Skates, a dyfynnaf, Rwyf wedi bod yn agored iawn ynghylch yr anhawster sydd ynghlwm ag ychwanegu cerbydau o safon uchel at y stoc sydd ar gael...
Rhianon Passmore: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i ganmol gwaith brwd cynghorau Cymru ar hyd a lled y wlad, fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn etholaeth Islwyn, sy'n parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cryf bob dydd yn wyneb toriadau dramatig i'w cyllidebau, diolch i Lywodraeth Dorïaidd y DU? Toriadau real o un flwyddyn i'r llall i Gymru ers 2010. A chyda hyn mewn golwg, pa sicrwydd...
Rhianon Passmore: Hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am gynhyrchu'r adroddiad hwn—diolch ichi—ar brentisiaethau yng Nghymru. Mae'n amlwg fod prentisiaethau ansoddol yn chwarae rôl hanfodol yn ein llwyddiant economaidd, yn ogystal ag adeiladu Cymru gryfach, decach a mwy cyfartal. Rwy'n falch o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu 100,000 o brentisiaethau erbyn etholiadau nesaf y...
Rhianon Passmore: 4. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi undebau credyd? OAQ52204
Rhianon Passmore: Diolch. Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi nodi'n briodol fod undebau credyd yng Nghymru yn darparu addysg ymwybyddiaeth ariannol ar gyfer oedolion a phlant, maen nhw'n cynorthwyo pobl sy'n ymdopi â phroblemau dyled ac yn darparu cynhyrchion ariannol cadarn a moesegol i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed, ac felly rwy'n croesawu'n fawr cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y bydd undebau...
Rhianon Passmore: Roedd nifer y galwadau ambiwlans brys yn ystod 2016-17 116 y cant yn uwch na nifer y galwadau ambiwlans brys a wnaed yn y blynyddoedd blaenorol. Mae hwn yn gynnydd syfrdanol ar sail unrhyw gyfrifiad, ac eto mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi bodloni ei darged amser ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau coch am 30 mis yn olynol, diolch i'n model ymateb clinigol a'n staff yn darparu gofal yn...
Rhianon Passmore: Mae'n ffaith bod crebachu gwasanaethau anstatudol llywodraeth leol ledled y DU yn digwydd oherwydd yr agenda cyni yn y DU, ond byddaf yn gadael hynny. Felly hoffwn i ofyn am ddatganiad i'r lle hwn ar statws ac iechyd y gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru a'r hyfforddiant offerynnol â chymhorthdal a'r mynediad cynyddol i ensembles a ddarperir ganddyn nhw. Hoffwn i ofyn i'r...
Rhianon Passmore: Rwy'n croesawu gwaith cadarn a rhagweithiol iawn Llywodraeth Lafur Cymru yn negodi gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sefyll dros Gymru ynglŷn â chanlyniadau cymhleth ymadawiad Prydain, sydd eto i ddigwydd, o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n dystiolaeth, os oedd angen unrhyw dystiolaeth, bod Llywodraeth Lafur Cymru yn sefyll dros fuddiannau Cymru a Chymru o fewn adeiladwaith ein teulu o...
Rhianon Passmore: Gwnaf.
Rhianon Passmore: Yn y bôn, nid wyf yn cytuno â'r cysylltiad yr ydych chi wedi'i wneud, ac mae'n gas gennyf ddweud hyn, ond rwy'n credu, o ran yr hyn a ddywedodd David Melding yn gynharach, rwy'n credu bod rhai o'i bwyntiau yn ddilys iawn. Felly, yn olaf, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi, mewn Teyrnas Unedig ddatganoledig, fod—[Torri ar draws.] Fe wnes i rybuddio ynghylch hynny. Fe wnes i. A yw...
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi buddsoddiad mewn seilwaith yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Diolch. Cafodd llawer o'r pwyntiau yr oeddwn eisiau eu gwneud eu datgan yn barod, ond rwy'n dymuno croesawu'r datganiad heddiw. Fel cyn athrawes a darlithydd, a chyn-aelod cabinet dros addysg, croesawaf yn fawr y diwygiad parhaus hwn o ran y potensial sydd gan yr academi newydd hon. Af yn syth at fy nghwestiynau. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau wedyn y bydd yr academi arweinyddiaeth...
Rhianon Passmore: Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi pobl hŷn?