Vikki Howells: A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wneud Cymru yn genedl gwaith teg?
Vikki Howells: 3. A wnaiff y Prif Weinidog nodi amcanion allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd yn ne Cymru? OAQ52223
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog. Efallai eich bod yn ymwybodol, mewn ymateb i fy ymgyrch i, bod Trenau Arriva Cymru wedi cyhoeddi pedwar o wasanaethau trên ychwanegol o Aberdâr ar y Sul, gan gynnwys gwasanaeth cyntaf sy'n cyrraedd Caerdydd cyn 10.00 a.m. erbyn hyn. Mae hyn yn newyddion gwych i gymudwyr o Gwm Cynon. Pa sicrwydd all Llywodraeth Cymru ei roi y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu parhau...
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Pleser oedd cael ymuno â chi ddoe yn Pinkspiration yn Abercynon ar gyfer lansiad y contract economaidd. Rwy'n siŵr, fel fi, y gwnaed argraff arnoch chi gan y ffordd y mae Pinkspiration yn cefnogi menywod yn y byd busnes drwy fentora a hefyd eu cefnogi i ymhél â meysydd gwaith lle na fuont yn gwneud hynny yn draddodiadol, megis adeiladu. Er enghraifft,...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu eich datganiad heddiw, ac rwy'n credu bod Cymoedd de Cymru yn fagwrfa arbenigedd rheilffyrdd, gyda nifer o fentrau bach a chanolig yn ymwneud â pheirianneg rheilffyrdd, adeiladu a gwasanaethau cynnal a chadw eraill, gyda chyflogwyr sy'n byw'n lleol ac sy'n aml yn fedrus iawn hefyd. Nawr, mae llawer o'r rhain yn dweud wrthyf eu...
Vikki Howells: Sut y mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi ac iechyd gwael?
Vikki Howells: Gweinidog, hoffwn groesawu'r datganiad a wnaethoch chi yma heddiw. A minnau'n gynrychiolydd cymuned yn y Cymoedd, byddwch chi'n ymwybodol o fy angerdd hirsefydlog ar gyfer adfywio cymunedau fel fy nghymuned i, a does dim amheuaeth nad yw dod â swyddi gwell yn nes at adref yn rhan gwbl hanfodol o hynny. Felly, mae'n dda gweld y manylion yr ydych chi wedi eu cyflwyno i ni heddiw, ac...
Vikki Howells: 4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut y mae cyfreithiau yng Nghymru yn gymwys i'r Goron? OAQ52282
Vikki Howells: Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, ar hyn o bryd, mae'r Goron wedi'i heithrio'n awtomatig o dan ddeddfau a basiwyd yn y lle hwn oni bai bod y ddarpariaeth yn cael ei chynnwys yn benodol. Yn y Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft mae yna gynnig i wrthdroi hyn fel y bydd y Goron a'i holl eiddo yn ddarostyngedig i gyfraith Cymru yn awtomatig. A allwch chi esbonio'r rhesymeg dros y...
Vikki Howells: Diolch, Lywydd. Ar ddechrau mis Mehefin, daeth cystadleuwyr o bob cwr o'r byd at ei gilydd yn ninas Guimarães ym Mhortiwgal. Roeddent yno i gystadlu ym mhymthegfed Pencampwriaeth Gymnasteg Aerobig y Byd. Yn ystod y pencampwriaethau grŵp oedran blaenorol, roedd cystadleuwyr tîm Prydain yn cynnwys Seren Jones, merch 11 oed o Aberdâr. Roedd y gymnastwraig ifanc dalentog hon yn rhan o dîm a...
Vikki Howells: A wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu sut y mae'n bwriadu cynyddu nifer y twristiaid sy'n ymweld â chymoedd de Cymru?
Vikki Howells: Diolch, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i—.
Vikki Howells: Diolch. Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich cyhoeddiad pwysig iawn heddiw. Rwy'n falch eich bod chi wedi gallu gweld enghreifftiau mor dda o arfer gorau mewn dau leoliad yng Nghwm Cynon, a gobeithio y byddan nhw'n gwella eich gallu i gymryd hynny a'i gyflwyno mewn mannau eraill. Dau gwestiwn cyflym, felly. Yn gyntaf, a gaf i groesawu'r gydnabyddiaeth yn y cynllun o'r gwaith a...
Vikki Howells: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau effaith tlodi ar fywydau dinasyddion?
Vikki Howells: Fel llawer o gyd-Aelodau yma heddiw, rwyf finnau hefyd wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i gefnogi a hyrwyddo gwaith gofalwyr yn ystod Wythnos y Gofalwyr 2018. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Fel y dywedwyd, mae yna 370,000 o ofalwyr yng Nghymru, sef 12 y cant o'r boblogaeth, a'r gyfran uchaf yn unrhyw ran o'r DU. Rydym yn gwybod bod gofalwyr sy'n darparu...
Vikki Howells: Wel, mae gan hyrwyddwyr gofalwyr rôl fwy anffurfiol yn cefnogi pobl ifanc ac wrth gwrs, mae yna wasanaethau eraill yn rhan o hyn, megis gwasanaethau cymdeithasol. Felly, mae hwn yn fath o ymateb sylfaenol ar lawr gwlad sy'n darparu'r cymorth a'r gofal o ddydd i ddydd hwnnw. Yn fy etholaeth fy hun, rwy'n ffodus o gael prosiect gofalwyr ifanc cryf iawn. Mae prosiect gofalwyr ifanc Gweithredu...
Vikki Howells: 4. Sut y bydd metro de Cymru yn gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon? OAQ52384
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r sylwadau hynny ar agwedd rheilffordd y metro, ond mae'n bwysig nodi, bod y prosiect metro, o'r dechrau, wedi ei hyrwyddo fel ateb trafnidiaeth integredig. Mae daearyddiaeth y Cymoedd yn golygu mai ein cymunedau tlotaf yn aml sydd bellaf oddi wrth y cysylltiadau trên ar lawr y dyffryn. Felly, er mwyn iddyn nhw elwa ar well mynediad at y farchnad...
Vikki Howells: Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet; mae llawer i'w groesawu yn eich datganiad pwysig iawn heddiw. Yn gyntaf, hoffwn gael rhywfaint o eglurhad ynglŷn â sawl peth. O ran y posibilrwydd o gyflwyno cyfraith Lucy i wahardd gwerthu cŵn bach drwy drydydd parti, croesawaf eich sylwadau ynghylch trafod posibiliadau gyda swyddogion. Gwyddom ar sail lles fod cydnabyddiaeth gynyddol ei fod yn gam...
Vikki Howells: Gyda marwolaeth Frank Vickery ddoe yn 67 oed ar ôl salwch byr, mae Cymru nid yn unig wedi colli un o'i dramodwyr mwyaf toreithiog, ond rydym hefyd wedi colli un o'r sylwebwyr mwyaf craff ar gymeriadau, hiwmor a ffraethineb Cymoedd de Cymru. Yn fab i löwr yn y Rhondda, gadawodd Frank yr ysgol yn 15 oed. Bu'n gweithio mewn swyddi amrywiol tra'n actio ac ysgrifennu yn ei amser sbâr....