Canlyniadau 261–280 o 2000 ar gyfer speaker:Andrew RT Davies

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cynorthwyo Busnesau yng Nghanol De Cymru
(14 Chw 2017)

Andrew RT Davies: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo busnesau yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0450(FM)

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cynorthwyo Busnesau yng Nghanol De Cymru
(14 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Nid wyf yn hollol siŵr pam fod y rhai ar y meinciau cefn yn mwmian yno. Mae gan Aelod hawl perffaith i ofn cwestiwn yn y lle hwn, a Chwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r amser i hynny ddigwydd. Brif Weinidog, rwyf wedi canmol Llywodraeth Cymru yn flaenorol am yr arian y mae wedi ei wneud ar gael ar gyfer rhyddhad trosiannol o ran y cynllun ardrethi busnes. Gwnaeth gyhoeddiad ar 17 Rhagfyr o swm...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, mewn ymateb i'r cwestiwn yr holais i'r Prif Weinidog y prynhawn yma ar ardrethi busnes, dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r wybodaeth y mae llawer o Aelodau wedi bod yn galw amdani erbyn diwedd yr wythnos hon. Roeddwn i’n gobeithio efallai y gallech chi ddefnyddio eich safle, fel arweinydd y tŷ, i geisio cael yr wybodaeth honno i ddwylo’r Aelodau yn gynt...

10. 9. Dadl: Setliad yr Heddlu 2017-18 (14 Chw 2017)

Andrew RT Davies: A allech gadarnhau ai dyna yw polisi'r Blaid Lafur yn Llundain yn ogystal—datganoli plismona?

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Canfyddiadau’r Gyllideb Werdd
(15 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar eich bod wedi galw arnaf. Mae’n ymddangos bod y prif holwr wedi gadael y Siambr.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Canfyddiadau’r Gyllideb Werdd
(15 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Carwn ofyn i’r Ysgrifennydd cyllid am yr adroddiad a ddaeth allan ddoe, mewn perthynas â’r fframwaith cyllidol a gyflwynwyd gennych chi, a Llywodraeth y DU, sydd â’r potensial i allu darparu £600 miliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd i ddod. A ydych yn cydnabod y ffigur hwnnw, a’r manteision y bydd y fframwaith cyllidol yn eu dwyn i Lywodraeth Cymru, o ran...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Rhyddhad Ardrethi Busnes
(15 Chw 2017)

Andrew RT Davies: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ryddhad ardrethi busnes yng Nghymru? OAQ(5)0089(FLG)

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Rhyddhad Ardrethi Busnes
(15 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog—ac rwy’n sylweddoli eich bod i ffwrdd mewn cyfarfod cyllid ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, ond gobeithio eich bod wedi cael gwybod gan eich swyddogion—fe nododd y Prif Weinidog y buasech yn cyflwyno datganiad ddiwedd yr wythnos hon yn amlinellu sut y mae’r £10 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr...

8. Cwestiwn Brys: Tata (15 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Weinidog, diolch i chi am roi eich atebion i’r cwestiynau brys hyd yn hyn, ac a gaf fi ymuno â chi i ganmol y gweithlu am y ffordd y maent wedi mynd ati’n benderfynol—[Torri ar draws.] Nid wyf yn gwybod beth yw’r rheswm dros y piffian, ond yn y pen draw, rwy’n meddwl bod y gweithlu wedi sefyll a gwneud eu pwynt a chadarnhau’r bleidlais heddiw mewn gwirionedd, gyda thros 70 y cant...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(28 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Arweinydd y tŷ, roeddem ni i gyd wedi’n harswydo gan y stori am farwolaeth Ellie-May Clark dros y penwythnos, a’r trychineb a arweiniodd at y gyfres o ddigwyddiadau—bod ei mam, yn amlwg, wedi mynd i’r feddygfa deulu, wedi gofyn am apwyntiad yn y pen draw ac, o ystyried hanes meddygol Ellie fach, dylai fod wedi cael ei gweld gan y meddyg teulu. Ni allai unrhyw un...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(28 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, mae'n eithaf amlwg pe na bai’r ‘Mail on Sunday’ wedi cynnal ei ymchwiliad, y byddai’r adroddiad hwn wedi cael ei gladdu yn nyfnderoedd dyfnaf adroddiad y Cyngor Meddygol Cyffredinol ac ni fyddai wedi dod i'r amlwg. Mae arnom ni ddyled fawr o ddiolch i’r ‘Mail on Sunday’ gan eu bod wedi hysbysu’r teulu am y canlyniad, oherwydd, fel y deallaf, nid oedd y teulu...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(28 Chw 2017)

Andrew RT Davies: Efallai mai’r hyn yr wyf i'n ceisio ei ddenu allan ohonoch chi, arweinydd y tŷ, yw dull rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru i nodi nad yw'r prosesau hyn yn addas i'r diben, fel yr ydych chi wedi ei nodi bod Syr Donald wedi ei nodi yn ei asesiad ei hun o’r weithdrefn hon. Lawer gwaith, gelwir ar Lywodraeth Cymru i wneud sylwadau ar wahanol faterion. Hoffwn i chi geisio annog Ysgrifennydd y...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
( 7 Maw 2017)

Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, ceir y newyddion syfrdanol hyn heddiw bod pump o bobl yr wythnos yn marw yng Nghymru—pump o bobl y diwrnod, mae'n ddrwg gen i, yn marw yng Nghymru—oherwydd llygredd aer. Mae hwn yn ffigur brawychus y mae fy nghydweithiwr, David Melding wedi ei godi droeon yn y Siambr hon, ac arweiniodd y Ceidwadwyr Cymreig ddadl ar hyn ym mis Gorffennaf. Bydd...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
( 7 Maw 2017)

Andrew RT Davies: Fel y dywedais, mae pump o bobl yr wythnos yn marw oherwydd problemau ansawdd aer yng Nghymru—mae hynny'n 2,000 o bobl y flwyddyn. Mae hwnnw'n ffigur brawychus, ac fel y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei nodi heddiw, dyma un o'r materion pwysicaf, os nad y pwysicaf yr ydym ni’n ei wynebu. Gwahoddwyd Llywodraeth Cymru gan raglen 'Week In Week Out' heddiw i gymryd rhan yn y rhaglen honno,...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
( 7 Maw 2017)

Andrew RT Davies: A wnewch chi gytuno, fel Prif Weinidog, i gynnull uwchgynhadledd ar y mater penodol hwn o’r holl gyrff cyhoeddus â buddiant, fel y gellir cael dull cydgysylltiedig ar ei gyfer, ar y sail ein bod ni, yn gyffredinol, ar draws y pleidiau eisiau gweld gwelliannau? Pan fo gennych chi fater iechyd y cyhoedd sy'n cymryd 2,000 o fywydau y flwyddyn yng Nghymru—heb sôn am rannau eraill o’r...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Maw 2017)

Andrew RT Davies: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gennych, arweinydd y tŷ, os yw’n bosibl, os gwelwch yn dda?  Ddydd Gwener, bu i mi gyfarfod â Chyngor Tref Llanilltud Fawr, a Chyngor Cymuned Llanmaes. Rwyf yn gwybod eich bod, yn rhinwedd eich swydd fel Aelod etholaeth Bro Morgannwg, wedi cyfarfod â nhw hefyd. Ond mae cryn bryder ynglŷn a’r ffordd fynediad ogleddol, y mae Llywodraeth Cymru yn ei...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Mynediad at Gefn Gwlad
( 8 Maw 2017)

Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, mae mynediad at gefn gwlad yn rhywbeth i’w groesawu a gobeithio ei fod yn creu gwell dealltwriaeth o bwrpas cefn gwlad, sef, yn bennaf, cynhyrchu bwyd ar ein cyfer—byw ar dda’r wlad, fel y byddai sawl un yn ei ddweud—ond mae yna fater difrifol ynglŷn ag addysgu pobl, pan fyddant yn mynd i gaeau ac yn mynd i gefn gwlad, fod yna risgiau a pheryglon. Yn fy ardal...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Y Sector Ynni Adnewyddadwy
( 8 Maw 2017)

Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnais i chi o’r blaen ynglŷn â chysylltedd â’r grid, sy’n rhwystr go iawn i lawer o brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach i gael eu traed danynt mewn gwirionedd. Pan ofynnais y cwestiwn hwn i chi y tro diwethaf, fe ddywedoch fod y Llywodraeth yn gwneud cynnydd da iawn. Dilynais hynny gyda chwestiwn ysgrifenedig a ddangosodd mai dau gyfarfod yn unig a...

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Plant ( 8 Maw 2017)

Andrew RT Davies: Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma ac i ystyried rhai o’r nifer fawr o bwyntiau a gyflwynwyd. Gobeithiaf yn fawr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gyfrannu i’r ddadl, yn siarad am y ffrydiau gwaith y mae’r Llywodraeth yn eu dwyn at ei gilydd, oherwydd, fel y dywedodd Angela Burns yn hollol glir yn ei sylwadau agoriadol, mae’r rhan fwyaf o hyn mewn...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.