Alun Davies: Ar yr un pryd, Ddirprwy Lywydd, mae GIG Cymru i gyn-filwyr yn parhau i ddatblygu. Fe'i sefydlwyd yn 2010, ac mae'r gwasanaeth wedi derbyn tua 2,900 o atgyfeiriadau hyd yn hyn. Mae ei ddulliau arloesol, megis therapïau siarad a thechnegau rhithwir, yn helpu cyn-filwyr i ymdopi â thrawma personol o ganlyniad i brofiadau tra ar wasanaeth. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau...
Alun Davies: Cyhoeddwyd cynllun cyflawni manwl gan y tasglu ar 7 Tachwedd. Roedd yn nodi sut y byddwn yn bwrw ymlaen â chamau gweithredu mewn tri maes blaenoriaeth: darparu swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w cyflawni; cefnogi gwasanaethau cyhoeddus gwell; a chryfhau cymunedau. Bydd llawer a'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu yn y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar y bobl sy'n byw yng nghymoedd y Rhondda.
Alun Davies: Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod dros y Rhondda yn ymuno â mi i ddiolch yn fawr am y modd y mae llawer o bobl o gymoedd y Rhondda wedi cyfrannu at y gwaith o lunio ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Rwy'n siŵr ei bod wedi darllen y cynllun rydym wedi'i amlinellu ac a gyhoeddwyd gennym ar 7 Tachwedd, a buaswn yn synnu pe gallai ddisgrifio'r cynllun hwnnw fel cynllun sy'n amwys. Mae degau...
Alun Davies: Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnaeth yr Aelod dros dde Cymru. Ac nid yn unig y tir comin, ond mae'r holl dir ar draws amgylchedd Cymoedd de Cymru yn ased enfawr nid yn unig i'r rhai ohonom a gafodd eu geni, eu magu, ac sy'n byw yn y Cymoedd ac yn eu cynrychioli, ond i'r wlad gyfan. Drwy greu'r hyn rydym wedi'i alw ar hyn o bryd yn barc tirlun yn y Cymoedd, rwy'n gobeithio y gallwn wneud y...
Alun Davies: Rwy'n ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar ddiwygio etholiadol ar hyn o bryd. Rwy'n bwriadu gwneud datganiad ar y camau nesaf ym mis Chwefror.
Alun Davies: Lywydd, caiff y Cynghorydd McEvoy glywed fy nghasgliadau ar yr un pryd â phawb arall. Fe ddywedaf hyn wrtho: rwy'n credu ei bod yn bwysig fod pobl yn y lle hwn yn gwasanaethu democratiaeth drwy sicrhau na cheir unrhyw wrthdaro buddiannau. Yn fy marn i, mae gwasanaethu fel aelod o awdurdod lleol ac Aelod o'r lle hwn yn arwain at wrthdaro buddiannau.
Alun Davies: Lywydd, rwyf eisoes wedi siomi fy nghyfaill o Ddwyrain Abertawe gyda fy safbwyntiau ar gynrychiolaeth gyfrannol; nid wyf yn bwriadu ei siomi eto y prynhawn yma. Ond dywedaf hyn wrtho, wrth i ni edrych ar sut rydym yn diwygio ac yn dyfnhau ein democratiaeth, rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn feiddgar ac yn radical, ac nid yn geidwadol, ac ystyried ac arddel newid.
Alun Davies: Ydw, rwy'n cytuno â hynny. Credaf fod arnom angen sefydlogrwydd, ond sefydlogrwydd a ddaw o ganlyniad i allu cadarn i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Clywsom Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud yr wythnos diwethaf nad ydynt yn credu bod y ddarpariaeth gyfredol o wasanaethau yn gynaliadwy, a chredaf fod angen inni wrando ar y geiriau hynny. Ac yn sicr, byddaf yn ystyried...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn. Mae'r £90 miliwn yng Nglyn Ebwy, wrth gwrs, hefyd yn cynnwys rhannau o'r gwaith o ddeuoli ffordd yr A465, a ohiriwyd gan Blaid Cymru. O ran y cwestiwn uniongyrchol a ofynnoch, pa un a yw'r ffigur yn cyfeirio at swyddi net, yr ateb yw 'Ydy, mae'n cyfeirio at swyddi net.' Ac o ran y cyllid ar gyfer hynny, bydd yr arian yn dod o gyllidebau Ysgrifenyddion y...
Alun Davies: Dros y blynyddoedd, mae'r Aelod dros ddwyrain Sir Gaerfyrddin wedi galw am fwy o feddwl strategol yn y Cymoedd ac mewn mannau eraill yng Nghymru, ac mae wedi galw am lai o wleidyddiaeth pot mêl—credaf eich bod wedi gwneud nifer o ymyriadau gwahanol mewn perthynas â hynny, ac rwyf bob amser wedi cytuno â chi ar y materion hynny. Ond yn yr ychydig fisoedd diwethaf, ers i'r hybiau...
Alun Davies: Mewn llawer o ffyrdd, mae'r cynllun a gyhoeddais ar 7 Tachwedd yn gynllun o'r Cymoedd, yn hytrach na chynllun ar gyfer y Cymoedd yn unig. Mae'n ymwneud â gwrando ar bobl, siarad â phobl, cael sgyrsiau gyda phobl, ynglŷn â beth y maent eisiau ei weld yn eu cymunedau yn y dyfodol. Ac mae llawer ohonynt yn disgrifio eu cymunedau yn y ffordd rydych wedi'i ddangos y prynhawn yma. Rwy'n...
Alun Davies: [Anghlywadwy.]
Alun Davies: A gaf fi ddweud pa mor ddiolchgar wyf fi i'r Aelod am ei sylwadau caredig iawn—sy'n esiampl i'r holl Aelodau, buaswn yn ei ddweud? Lywydd, mae'r portffolio sydd gennyf yn awr yn cyfuno nifer o swyddogaethau, fel yr amlinellodd yr Aelod. Rwy'n gobeithio y byddwn, drwy gyfuno cyfrifoldeb dros lywodraeth leol a darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad, yn gallu dilyn rhaglen i...
Alun Davies: Roedd y cyn-Weinidog sgiliau, sydd bellach yn arweinydd y tŷ, yn arfer bod, ac mae'n parhau i fod, yn aelod o'r tasglu, ac yn ein cyfarfod tasglu yfory ym Mhont-y-pŵl, byddwn yn gwahodd y Gweinidog sgiliau newydd i ymuno â'r tasglu hefyd. Felly, bydd gennym gysylltiadau strwythurol ar draws pob un o'r adrannau hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â dadansoddiad yr Aelod o'r angen am sgiliau....
Alun Davies: Ydy. Un o'r meysydd gwaith a ysgogwyd gan y cyn-Weinidog sgiliau, ac arweinydd y tŷ bellach, sydd yn ei sedd heddiw, yw bwrw ymlaen â rhaglen gyflogadwyedd a rhaglen brentisiaeth i bobl o bob oed a fydd yn darparu sgiliau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol ac nad ydynt ar gael, o bosibl, yn y gweithlu ar hyn o bryd. Bydd hynny'n parhau i fod yr...
Alun Davies: Rydw i’n ystyried yr opsiynau ar gyfer symud ymlaen ar hyn fel rhan o’r cytundeb dwy flynedd ar y gyllideb gyda Phlaid Cymru. Mae Academi Wales yn darparu cymorth i’r Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ym meysydd arwain, llywodraethu, gwella a newid, ac yn datblygu perthynas tymor hir gyda sefydliadau academaidd allweddol.
Alun Davies: Rydw i'n falch iawn i ddweud bod Academi Wales wedi bod yn datblygu llu o berthnasau gwahanol gyda sefydliadau ac academyddion mewn sefydliadau gwahanol ar draws Cymru a thu hwnt i'n ffiniau ni. Rydw i yn ymwybodol o safbwynt Gerry Holtham, ac nid wyf i'n anghytuno ag e. Rydw i'n gwybod bod hyn yn rhywbeth yr ydych chi wedi bod yn ei bwysleisio ers rhai blynyddoedd. Rydw i'n hapus iawn i...
Alun Davies: Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom yn ddigon hael i weld a gwerthfawrogi'r hyn y mae eraill yn ceisio ei gyflawni, ac rwy'n credu bod chwilio am benawdau tabloid yn tanseilio'r uchelgais hwnnw yn ôl pob tebyg. Rwy'n gobeithio y bydd Darren Millar yn myfyrio ar ei gyfraniad i'r cwestiwn hwn, ac y bydd yn myfyrio hefyd ar yr uchelgais a rennir gan bawb ohonom, sef cael yr arweinyddiaeth...
Alun Davies: Mae cynllun cyflawni’r Cymoedd yn cynnwys y Cymoedd yn etholaeth Gorllewin De Cymru, fel cwm Dulais a chwm Llynfi. Mae’n dangos sut bydd blaenoriaethau’r tasglu’n cael eu cyflawni, pwy fydd yn cymryd rhan, y manteision rydym ni’n disgwyl eu gweld a’r amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith.
Alun Davies: Rwy'n synnu braidd at y cwestiwn gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru. Mae wedi bod yn Aelod hirdymor yn y lle hwn, a gŵyr mai gwaith craffu yw'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Rwy'n synnu nad yw'n cydnabod hynny. Gall graffu arnaf yn ystod y cwestiynau ac mewn pwyllgorau, pan fo'n dewis gwneud hynny. Rwy'n mynychu pob pwyllgor pan gaf wahoddiad i wneud hynny. Rwyf am...