Lesley Griffiths: Mae hwn yn fater y mae’n rhaid i mi edrych arno. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod digon o gapasiti ar y grid cenedlaethol. Cyfarfu’r Prif Weinidog gyda’r Grid Cenedlaethol yn ddiweddar i drafod hyn, ac mae’n rhywbeth y byddwn yn edrych arno yn y dyfodol, fel y dywedaf.
Lesley Griffiths: Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi cymunedau sydd mewn perygl ac adeiladu cydnerthedd drwy ddarogan llifogydd yn well, codi ymwybyddiaeth ac ariannu cynlluniau â blaenoriaeth. Mae £23 miliwn o’r rhaglen £54 miliwn ar gyfer eleni yn cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i awdurdodau lleol. Rydym hefyd yn cydweithio ar y rhaglen rheoli risg arfordirol, gan gynyddu ein gallu i...
Lesley Griffiths: Diolch. Gwn fod fy swyddogion yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint, ac rwy’n gwybod bod yr awdurdod lleol ei hun yn ailasesu ac yn adolygu’r gost. Oherwydd rwy’n credu, dros 10 mlynedd, yn amlwg, mae’r costau wedi cynyddu’n sylweddol ers y rhagfynegiad gwreiddiol. Felly, rwy’n deall fod yr awdurdod lleol yn gweithio gydag ymgynghorydd lleol i adolygu’r...
Lesley Griffiths: Rwyf wedi gwneud yr achos cryfaf posibl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a chewch wybod yr wythnos nesaf a fu’n llwyddiannus ai peidio.
Lesley Griffiths: Mae’n debyg ei bod yn bwysig i awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd os yw cynllun llifogydd yn croesi ffiniau awdurdodau lleol. Nid wyf yn siŵr y buasai rhanbartholi yn arbennig o fuddiol. Fodd bynnag, rydym bob amser yn annog awdurdodau lleol i gydweithio’n agosach â’i gilydd, felly, fel y dywedaf, os ydynt yn teimlo y buasai’n fuddiol, nid oes gennyf wrthwynebiad i hynny o gwbl.
Lesley Griffiths: Ydy, mae clywed am brofiad eich etholwyr gyda hynny yn peri pryder mawr. Ac mae’n dda iawn eich bod wedi codi’r mater yma yn y Siambr. Buaswn yn hapus iawn i ysgrifennu at froceriaid yswiriant Prydain ar unwaith i sôn am y mater, ac yn amlwg, byddaf yn rhannu’r wybodaeth honno gyda chi pan ddaw i law.
Lesley Griffiths: Oherwydd ein bod yn dal i fod yn yr Undeb Ewropeaidd.
Lesley Griffiths: Rwy’n mynd yn ôl at eich cwestiwn cyntaf: mae gweithredu’r gyfarwyddeb nitradau yn rhwymedigaeth Ewropeaidd, a thra byddwn yn dal i fod yn rhan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, ac rydym yn mynd i fod yn rhan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd am y ddwy flynedd a hanner nesaf o leiaf, rydym yn ymrwymedig i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hyn. Mae’n rhaid i mi ddweud bod safonau...
Lesley Griffiths: Nid wyf yn cytuno â’r cwestiwn rydych yn ei ofyn i mi. Nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad. Rwy’n hapus iawn i weithio gyda’r diwydiant. Soniais yn fy ateb blaenorol i chi pa mor hir y mae’r safonau hyn wedi bodoli, yr hyn y mae ein hasesiadau wedi’i ddangos a sut y buasai’r gofyniad yn fach iawn ar gyfer y rhai sydd eisoes yn bodloni safonau storio cyfredol. Ac rwy’n...
Lesley Griffiths: Mae swyddogion yn sicr yn edrych ar yr achos llys a gynhaliwyd ac a ddyfarnodd, wrth gwrs, yn erbyn Llywodraeth y DU. Nid oes gennyf y wybodaeth honno ar hyn o bryd, ond rwy’n hapus iawn i’w rhannu pan fyddaf yn ei chael.
Lesley Griffiths: Na, nid wyf yn laissez-faire o gwbl, ac oherwydd fy mhryderon y lansiais yr ymgynghoriad mor fuan ar ôl i mi gychwyn yn y swydd. Mae gennym fframweithiau deddfwriaethol Ewropeaidd a chenedlaethol ar waith yng Nghymru. Mae’n peri pryder mawr i mi. Mae gennym yn sicr ardaloedd â phroblem, os mai ardaloedd â phroblem yw’r term cywir, lle y ceir ansawdd aer gwael iawn, sy’n peri pryder i...
Lesley Griffiths: Rydych yn hollol gywir. Y C40—y grŵp o ddinasoedd rydych yn cyfeirio atynt—cyfarfûm â sawl un o’r meiri pan oeddwn yn Marrakech yn COP22, ac roedd yn ddiddorol iawn clywed am eu cynlluniau i roi diwedd ar y defnydd o geir diesel, er enghraifft, erbyn 2025. Mae gwledydd eraill yn ystyried gwneud hynny hefyd erbyn 2030, 2035, ac mae’n rhaid i ni ddal i fyny, fel arall byddwn yn...
Lesley Griffiths: Wel, rwy’n credu bod ‘ansensitif’ yn un gair na allwch ei briodoli i mi, ac yn sicr nid wyf yn ansensitif i hyn. Cyfarfu fy swyddogion â chynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn gynnar ym mis Hydref, a chawsant gyfarfod adeiladol iawn. Rwyf hefyd wedi cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar sawl achlysur, ac roedd y cyfarfod diwethaf wythnos i ddydd Iau diwethaf,...
Lesley Griffiths: Rwyf bob amser â meddwl agored pan fyddaf yn ymgynghori, ond rwy’n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais, nad yw 65 y cant o’n ffermydd yn bodloni’r safonau—safonau sydd wedi bod ar waith ers 25 mlynedd. Ond wrth gwrs, ochr arall y geiniog yw bod 35 y cant yn cyrraedd y safonau hynny. Felly, efallai y dylem wneud yn siŵr fod arfer gorau o’r 35 y cant o ffermydd yn cael ei rannu â’r...
Lesley Griffiths: Mor nawddoglyd.
Lesley Griffiths: Rwy’n siŵr y buasai’r Aelod wrth ei fodd yn gadael yr UE yn llawer cyflymach nag y byddwn yn ei wneud, ond rydym yn dal i fod yn yr UE. Tra byddwn yn yr UE, mae angen i ni barchu ein dyletswyddau i’r UE. Felly, yn anffodus nid wyf yn cytuno â chi ar y pwynt hwnnw. Yn y dyfodol, ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn fater cwbl wahanol, os mynnwch. Mae angen i ni sicrhau felly...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae ‘Polisi Cynllunio Cymru’ yn glir y dylai’r system gynllunio hyrwyddo arfer amgylcheddol da sy’n cynnwys lleihau peryglon llygredd. Mae canllawiau ar lagwnau slyri ar gael gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r broses o weithredu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010.
Lesley Griffiths: Gyda phob parch, nid oes rhaid i mi gael unrhyw drafodaethau gyda fy nghyd-Aelodau Cabinet gan mai fi sy’n gyfrifol am gynllunio hefyd. Felly, gallaf ailstrwythuro polisi cynllunio, yn enwedig yng ngoleuni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael ymrwymiad strategol hirdymor o fewn y system gynllunio i hyrwyddo...
Lesley Griffiths: Nid wyf wedi cael yr un drafodaeth yn bersonol, ond gwn fod fy swyddogion wedi’u cael. Rydym wedi gweithio gyda’r Gymdeithas Ymchwilio a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu hefyd. Rydych yn nodi pwynt pwysig iawn ynglŷn â chapasiti’r lagwnau, o ran faint y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw adeg. Rwy’n credu bod hynny’n rhan o’r ymgysylltu cynnar, cyn ymgynghori.
Lesley Griffiths: Diolch. Fel rhan o’r datblygiad ar gyfer y cynllun morol cenedlaethol cyntaf i Gymru, mae asesiadau amrywiol wedi’u cynnal. Mae’r rhain wedi nodi potensial cyfleoedd ynni adnewyddadwy o fwy na 6 GW ar hyd arfordir Cymru.