David Rees: Diolch i'r Aelod am yr ymyriad hwnnw, ac mae wedi ateb—[Anghlywadwy.] Buaswn wedi meddwl mai dull annibynnol, mewn gwirionedd, fuasai'r ffordd fwyaf amlwg o ateb y gofyniad hwnnw, ac fel y nododd, gwnaeth y cais hwnnw yn ei lythyr ei hun at y Prif Weinidog, gan ddweud bod penodi trydydd parti annibynnol i gynnal ymchwiliad yn llwybr anrhydeddus pan oedd Prif Weinidog yr Alban yn wynebu...
David Rees: Mae'r Aelod yn nodi un enghraifft. Gallai fod enghreifftiau eraill y gallem eu nodi, felly hoffwn barhau gyda fy atebion a fy araith. Y mater hwn ynghylch y canfyddiad o annibyniaeth—mae wedi'i godi eisoes o ran beth y mae pobl yn ei ddweud, ond gadewch i ni fod yn onest eto, a pheidio â thwyllo ein hunain: roedd un aelod o'r pwyllgor hwn yn Weinidog yn Llywodraeth y Cynulliad yn 2014...
David Rees: Pa ddadansoddiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus os bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn mynd rhagddi â'i gynnig ar gyfer carchar ym Maglan?
David Rees: 8. A yw'r Prif Weinidog wedi ceisio cyngor cyfreithiol ar y cyfamod sy'n bodoli ar y tir ym mharc diwydiannol Baglan y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dymuno adeiladu carchar newydd arno? OAQ51428
David Rees: Prif Weinidog, gofynnais yr un math o gwestiwn i'ch Cwnsler Cyffredinol tua pythefnos yn ôl, a chefais ateb cyfreithiwr nodweddiadol, neu ateb Cwnsler Cyffredinol nodweddiadol efallai. Mae fy etholwyr eisiau eglurder. Ceir dadl brynhawn yfory yn y Siambr hon am y carchar hwnnw, ac maen nhw'n gofyn am yr eglurder hwnnw, yn enwedig ynghylch safbwyntiau Llywodraeth Cymru ar ei chyfrifoldebau o...
David Rees: Cyn symud ymlaen at sylwedd y drafodaeth hon, roeddwn am roi canmoliaeth enfawr i grŵp ymgyrchu yn fy etholaeth, sydd wedi ei arwain gan y gymuned yn llwyr, am y gwaith y maent wedi'i wneud hyd yn hyn ar ddod â'r ddeiseb hon i'r Siambr. Gwn y bydd eu hymroddiad yn parhau y tu hwnt i heddiw i wneud yn siŵr fod gan Bort Talbot ffordd dda ymlaen, ac mae rhai o'r aelodau yn yr oriel y...
David Rees: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
David Rees: Un bach cyflym. Rwy'n gwerthfawrogi eich ymdrechion i edrych ar yr hyn sy'n digwydd yng ngharchar Berwyn, ond mae hefyd yn deg dweud nad yw carchar Berwyn yn llawn. Felly, nid yw wedi profi peth o'r pwysau gwirioneddol sydd i ddod, yn enwedig pan fo gennym sefyllfa ar draws y DU yn yr ystâd carchardai lle y ceir problemau enfawr mewn carchardai, yn enwedig pan fyddant yn llawn. Fel y cyfryw,...
David Rees: A wnaiff yr Aelod ildio?
David Rees: Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad, a gwrandewais ar yr hyn a ddywedodd ac rwy'n derbyn yn llwyr pan fo carchardai'n orlawn, fod angen inni sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond a ydych yn cytuno, felly, y byddai'n well gwario'r £1.3 biliwn y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei neilltuo ar gyfer pedwar archgarchar newydd ar wella'r system gyfiawnder mewn gwirionedd er mwyn sicrhau bod y bobl...
David Rees: Ni ddywedais hynny, ac rydych yn gwybod hynny.
David Rees: A wnaiff y Gweinidog ildio?
David Rees: Diolch i'r Gweinidog, ond fel y dywedais yn fy nghyfraniad, pan nad oes meini prawf wedi'u pennu gan ddatblygwr, does bosibl nad yw'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fodloni'r meini prawf y mae'r datblygwr eu heisiau. Ac yn yr achos hwn, ni wnaeth hynny. Credaf fod angen rhoi sylw i hynny.
David Rees: Diolch, Llywydd. Arweinydd y Tŷ, efallai eich bod chi'n ymwybodol—dylech chi fod yn ymwybodol—o'r pryderon ynghylch cynllun pensiwn Dur Prydain a'r cyngor y mae gweithwyr dur yn ei gael mewn gwirionedd, a'r ffaith bod rhai gweithwyr dur wedi colli arian, mewn gwirionedd, oherwydd cyngor gwael. Nawr, un o'r cwmnïau sydd wedi'i nodi yw Celtic Wealth Management, a gafodd arian gan...
David Rees: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella symudedd cymdeithasol yng Nghymru?
David Rees: Prif Weinidog, rwy'n cytuno'n llwyr â'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i gefnogi Tata, yn enwedig yn fy ardal i, a methiant Llywodraeth y DU—dydyn nhw wedi gwneud dim yn llythrennol. Ond y cwestiwn yw—. Hoffwn ymhelaethu ar bwynt Dai Lloyd, rwy'n credu: mae canlyniad Tata yn colli ei weithlu wedi golygu bod wedi swyddi medrus sy'n talu'n dda wedi diflannu. Fel y gwelwn,...
David Rees: 6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Aberafan yn 2018? OAQ51509
David Rees: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae gan Lywodraeth Cymru yn amlwg y cysyniad o ardaloedd menter fel un o'i ffactorau pwysig o ran twf economaidd lleol, ond mae'r unig ardal fenter yng Ngorllewin De Cymru ym Mhort Talbot mewn gwirionedd. Cafodd ei chreu o ganlyniad i'r ansicrwydd yn y maes cynhyrchu dur, ac rwy'n gwerthfawrogi buddsoddiad Llywodraeth Cymru gyda Tata, ond ceir...
David Rees: Ysgrifennydd Cabinet, nid wyf yn gwybod os ydych yn ymwybodol, ond cafodd y B4286, a elwir gennym yn lleol yn Heol Cwmafan, un o'r ddwy brif ffordd i gwm Afan, ei chau oherwydd tirlithriad yn dilyn y tywydd stormus dros y Nadolig. Diolch byth, ni arweiniodd hyn at unrhyw anafiadau, ond achoswyd problemau traffig sylweddol, gyda chiwiau hir ar adegau. Roedd hynny'n peri pryder i mi, mewn...
David Rees: 1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn y DU mewn perthynas â chadw siarter yr UE ar hawliau sylfaenol yn rhan o gyfraith y DU yn dilyn Brexit? OAQ51510