Canlyniadau 281–300 o 7000 ar gyfer speaker:Mark Drakeford

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Wel, Ddirprwy Lywydd, rwy’n ymwybodol iawn o’r mater cyffredinol y mae’r Aelod yn ei godi oherwydd bod therapyddion galwedigaethol yn un o’r grwpiau sy’n cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol at eu dibenion hwy a chan y gwasanaeth iechyd. Mae hynny’n golygu bod gwahanol delerau ac amodau’n berthnasol i’r gweithleoedd gwahanol ac fel y dywed yr Aelod, mae’n golygu weithiau bod...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Wel, mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig yn y cyd-destun ariannol oherwydd, yn hanesyddol, mae buddsoddiad mewn fferylliaeth gymunedol wedi cael ei gynnal ar yr un lefel ac yn gyfochrog rhwng y GIG yn Lloegr a’r GIG yng Nghymru. Yna, ar 28 Hydref, y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn bwrw ymlaen â chynigion i dorri’r cyllid sydd ar gael i fferyllfeydd cymunedol yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Fel rwy’n dweud, nid oedd y Canghellor wedi cwblhau ei ddatganiad pan ddeuthum yma. Rydym wedi hen ddysgu yn y Siambr hon i edrych ar brint mân yr hyn a ddywed yn y datganiadau hyn i weld lle y caiff arian ei dorri, rhywbeth nad yw’r Canghellor yn tueddu i’w bwysleisio, yn ogystal â ble y mae arian yn cael ei ddarparu. Yn ôl yr hyn a ddeallwn pan...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Ddirprwy Lywydd, mae lonydd bysiau yn rhan bwysig iawn o’r ffordd y gallwn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle ceir—dyna yw polisi’r weinyddiaeth hon. Cyhyd â bod cyngor Caerdydd yn gweithredu yn ôl y gyfraith, ac rwy’n siŵr eu bod, ni ddylid beirniadu eu gweithredoedd. Mae’r ateb go iawn i’r broblem y mae’r Aelod yn ei nodi yn nwylo gyrwyr ceir: os ydynt yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am yr hyn a ddywedodd ynglŷn â’i gefnogaeth i fesurau trafnidiaeth gyhoeddus. Rwy’n cytuno ag ef, os yw pobl yn mynd i sefyllfaoedd yn anfwriadol, yna dylai’r gyfraith ystyried unrhyw droseddau yn fwy trugarog. Byddaf yn ymchwilio i’r pwynt olaf y mae’n ei wneud ynglŷn â throseddau bocs melyn yn arbennig i weld a oes tystiolaeth ehangach i gefnogi’r pwyntiau...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Ddirprwy Lywydd, nid wyf wedi bod yn rhan uniongyrchol o’r trafodaethau hynny’n bersonol. Rwy’n cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud ynglŷn â’r cyfraniad y gall tafarn ffyniannus ei wneud i gymuned—cyfraniad cymdeithasol yn ogystal ag unrhyw beth arall. Fe wnaf yn siŵr fy mod yn tynnu sylw fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, at ei bwyntiau, gan fy mod yn credu mai ef sy’n...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Cytunaf yn llwyr â’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Fel y dywedais, ni lwyddais i glywed datganiad y Canghellor yn llawn, ond gwelais y rhagolygon twf anemig a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer y pum mlynedd nesaf—buaswn yn meddwl eu bod yn rhagolygon twf brawychus iawn i unrhyw un sy’n gyfrifol am economi’r DU. Nid yw’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Wel, Ddirprwy Lywydd, nod y Llywodraeth hon fydd manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfalaf ychwanegol a ddaw i ni o ganlyniad i ddatganiad yr hydref. Ond ni fydd £400 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd yn diwallu anghenion Cymru. Nid yw hyd yn oed yn dechrau adfer y toriad o un rhan o dair a welsom yn ein rhaglen gyfalaf ers y flwyddyn 2010. Dyna pam, fel Llywodraeth, ein bod wedi mynd ar...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Oherwydd ein bod wedi gwneud yn union hynny, yng Nghymru, rydym wedi cael y trefniadau cyllid arloesol rwyf wedi’u harchwilio eisoes. Dyna pam fod gennym Cyllid Cymru yma yn darparu ffynhonnell o gyllid i fusnesau yng Nghymru na fuasai wedi bod ar gael iddynt fel arall yn bendant. Dyna pam, yn wir, fod gennym ddiddordeb mewn archwilio syniadau eraill o fewn ein cymhwysedd a’n gallu...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Wel, rwy’n rhannu cred yr Aelod fod integreiddio agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi manteision i gleifion ac i ddefnyddwyr, a gall hynny helpu i ysgogi arbedion effeithlonrwydd. Dyna pam, yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, rydym yn cynnal y gronfa ofal £60 miliwn i annog mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Dyna pam y bydd gennym gyllidebau cyfun yn gweithredu...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Mae unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb am greu cyllideb ar gyfer Llywodraeth Cymru yn gorfod wynebu’r blaenoriaethau sy’n cystadlu am wariant. Yn y gyllideb rwyf wedi’i chyflwyno gerbron y Cynulliad hwn, rydym yn ceisio gwneud hynny, gyda £240 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol uniongyrchol yn ein gwasanaeth iechyd, ond hefyd, o ganlyniad i’n cytundeb cyllideb, rydym yn gallu darparu...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n gwybod bod ganddi ddiddordeb arbennig mewn cynghorau tref a chymuned. Dywedais yn fy natganiad ar 4 Hydref fod yna gyfres o bethau rwy’n teimlo y gallwn eu gwneud ar unwaith i wella gweithrediad y system fel y mae heddiw, ond roeddwn hefyd yn awyddus i edrych yn fwy trwyadl ac annibynnol ar gynghorau tref a chymuned er mwyn dod o...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cydweithredu o ran Llywodraeth Leol
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Nodais fy nghynigion mewn perthynas â chydweithredu rhwng awdurdodau lleol yn y dyfodol ar 4 Hydref. Bydd y cynigion ar gyfer cydweithredu rhanbarthol gorfodol a systematig yn adeiladu ar y nifer o drefniadau cydweithredol sydd ar waith eisoes gan awdurdodau lleol ledled Cymru.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cydweithredu o ran Llywodraeth Leol
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Diolch i Hefin David am y cwestiwn atodol gan ei fod yn rhoi ei fys ar yr union reswm pam rwyf wedi dweud bob amser y bydd yn rhaid i’r trefniadau hyn fod yn orfodol yn ogystal â systematig. Mae gormod o enghreifftiau mewn awdurdodau lleol yng Nghymru lle y mae awdurdod lleol unigol wedi buddsoddi llawer iawn o amser ac ymdrech yn ceisio sicrhau trefniant rhanbarthol cydweithredol, i...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cydweithredu o ran Llywodraeth Leol
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Wel, yn anffodus, roeddwn yn gynghorydd sir bryd hynny, pan oedd y diwygiadau hynny’n cael eu cyflwyno a’u trafod. Felly, rwy’n eu cofio’n dda iawn. Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddweud, mewn gwirionedd, pan fyddaf yn mynd o gwmpas awdurdodau lleol yng Nghymru mae’r cyfoeth o gydweithrediad sydd yno eisoes yn aml yn syndod i mi? Gall pob awdurdod lleol ddisgrifio mannau lle y maent yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cydweithredu o ran Llywodraeth Leol
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Wel, Ddirprwy Lywydd, mae Joyce Watson yn gwneud pwynt pwysig iawn, un y mae awdurdodau lleol bob amser yn ei wneud pan fyddaf yn eu cyfarfod: fod yr agenda ar gyfer awdurdodau lleol yn llawer ehangach na’r awdurdodau lleol eu hunain. Mae gan bob un ohonynt bartneriaid pwysig iawn, boed y gwasanaeth heddlu lleol, y parc cenedlaethol neu, yn achos Powys fel y mae’n dweud, y cydweithrediad...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cytundebau Dinas
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Diolch yn fawr am y cwestiwn. I remain committed to progressing deals in Wales as a tool to encourage further economic growth and collaborative working. The Welsh Government has had extensive discussions on deals with the UK Government to maximise the benefits for Wales.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cytundebau Dinas
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Wel, y pwynt allweddol rwy’n credu y mae Steffan Lewis yn ei wneud yw hwn, a chaiff ei adlewyrchu yn y gwaith y mae Mark Lang wedi bod yn ei wneud: nid yn unig y mae cytundeb Prifddinas Caerdydd yn ymwneud â dod o hyd i ffyrdd gwell o ddenu pobl i’r canol, i Gaerdydd ei hun, ond mae’n ymwneud hefyd â ffordd o ledaenu ffyniant ar draws y rhanbarth cyfan, a lle y mae cysylltedd yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cytundebau Dinas
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Wel, diolch i Mohammad Asghar am y cwestiwn. Mae’n iawn i dynnu sylw at y ffaith fod y bwrdd hwnnw wedi cael ei greu, ac roeddwn yn falch o weld fod y bwrdd nid yn unig yn cynnwys yr awdurdodau lleol eu hunain ond cynrychiolwyr addysg, cynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr y trydydd sector hefyd. Mae’r cytundeb £1.3 biliwn rydym yn ei ddarparu ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cytundebau Dinas
(23 Tach 2016)

Mark Drakeford: Wel, Ddirprwy Lywydd, mae’r datblygiad hwnnw y mae’r 10 arweinydd yn ymrwymedig i’w gyflawni yn ddatblygiad pwysig iawn, ond mae’n bwysig iawn yn wir eu bod yn gallu cyflawni’r gwaith yn ôl yr amserlen y maent hwy eu hunain wedi ymrwymo i’w gyflawni. Oherwydd mae’r model, sef y model Cabinet lle y bydd pob un o’r 10 arweinydd yn ffurfio cabinet cytundeb prifddinas-ranbarth...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.