Vikki Howells: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar gyllid cyhoeddus yng Nghymru?
Vikki Howells: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o rôl egwyddorion cydweithredol o fewn y system addysg yng Nghymru?
Vikki Howells: 7. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r sector cydweithredol a chydfuddiannol i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc? OAQ52461
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog, a byddwn i'n cytuno'n llwyr â hynny. Ymwelais yn ddiweddar â Chylch Meithrin Seren Fach yn Aberpennar yn fy etholaeth i, sy'n ddarparwr gofal plant cofrestredig. Fe'u cynorthwyir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru ac maen nhw wedi sicrhau canlyniadau gwirioneddol gadarnhaol yn eu harolygiadau Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru diweddar. Gan ein bod ni ym Mhythefnos y...
Vikki Howells: 2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr achosion diweddar o danau gwair sydd wedi effeithio ar gymunedau ledled Cymru? 196
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn dilyn eich datganiad ysgrifenedig heddiw, hoffwn bwysleisio bod fy etholaeth i, fel sawl un ledled Cymru, wedi'i chreithio gan gyfres o danau dinistriol dros y dyddiau diwethaf. Mae'r digwyddiadau wedi cynnwys tân mewn coedwig ger Llwydcoed, a ddisgrifiwyd fel tân cannoedd o fetrau o led, tân mynydd Maerdy a gwaith haearn Hirwaun. Yn gyntaf,...
Vikki Howells: Yn gynharach eleni, roeddem yn coffáu canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Derbyniodd mwy na 5 miliwn o ddynion dosbarth gweithiol yn bennaf y bleidlais a daeth bron 8.5 miliwn o fenywod yn bleidleiswyr hefyd. Ond ni chafodd y menywod hyn yr etholfraint ar sail gyfartal. Yn hytrach, o dan y Ddeddf honno, roedd yn rhaid i bleidleiswyr newydd a oedd yn fenywod fod dros 30 oed. Roedd...
Vikki Howells: 2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid anwes yng Nghwm Cynon? OAQ52482
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog. Yfory, gyda fy nghyd-Aelod Eluned Morgan, rwy'n cyd-noddi digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o sut y gallai cyfraith Lucy wella lles anifeiliaid trwy sicrhau bod pobl yn cael cŵn bach o ganolfannau achub neu fridwyr cyfrifol yn unig, ac rwyf yn annog holl Aelodau'r Cynulliad i ddod. Mae mynd i'r afael â ffermio cŵn bach yn hollbwysig, ac mae llawer o'm hetholwyr wedi...
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich diweddariad yma heddiw. Byddwch yn gwybod fy mod yn gefnogwr brwd o dasglu'r Cymoedd a'i gynllun cyflawni, fel y mae llawer o'm hetholwyr hefyd. Mae'n dda eich clywed yn cyfeirio at hen safle Glofa'r Tŵr, y credaf fod ganddo bosibiliad ardderchog oherwydd ei gysylltiadau unigryw o ran cysylltedd. Edrychaf ymlaen at weld beth y gellir ei wneud...
Vikki Howells: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith yng Nghymru?
Vikki Howells: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau statudol newydd ar gyfer gwisgoedd ysgol? OAQ52592
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A nodaf y sylwadau yn eich datganiad diweddar ynglŷn ag annog rhieni a gofalwyr plant cymwys i wneud cais am gyllid mynediad y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer gwisg ysgol yn arbennig. Ond rwy’n pryderu bod llawer o'r rheini sy'n gymwys ar ei gyfer yn colli allan. O fy mhrofiad personol fy hun yn lleol, mae'r ffordd y mae'r wybodaeth hon yn cael ei...
Vikki Howells: Gall addysg awyr agored chwarae rhan bwysig yn annog ein pobl ifanc i fod yn heini a gall hefyd roi'r sgiliau a'r hyder iddynt wneud hynny. Gwn eich bod newydd sôn yn awr am beth o'r gwaith trawslywodraethol rydych yn ei wneud, ond yn benodol gyda'ch cyd-Aelod Kirsty, beth rydych yn ei wneud yno er mwyn ceisio hyrwyddo manteision addysg awyr agored?
Vikki Howells: Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn adeiladu fy sylwadau o gwmpas un ateb penodol iawn ar gyfer gwella cyfleoedd teithio llesol. Ni fydd yr ateb penodol a gynigiaf yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet gan ei fod yn un y bûm yn ei hyrwyddo'n gyson ers i mi gyrraedd y lle hwn, sef ailagor twneli rheilffordd segur ledled Cymru fel llwybrau ar gyfer cerdded a beicio. Bydd fy sylwadau'n...
Vikki Howells: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o glybiau ar ôl ysgol? Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Vikki Howells: 5. A wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu sut y mae cymorth yn cael ei ddarparu i glybiau chwaraeon ar lawr gwlad? OAQ52626
Vikki Howells: Diolch, Weinidog, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod gan glybiau chwaraeon ar lawr gwlad rôl hollbwysig i'w chwarae yn gwella lles corfforol a meddyliol pobl o bob oed ledled Cymru. Er mwyn parhau i ddarparu'r buddion hyn, mae clybiau lleol yn dibynnu ar gyhoeddusrwydd, ac mae gan bapurau newydd lleol rôl bwysig i'w chwarae yn hyn o beth, wrth gynorthwyo clybiau i adeiladu...
Vikki Howells: 3. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i wahardd saethu ar dir cyhoeddus yng Nghymru? 213
Vikki Howells: Diolch i chi, Weinidog. Mae'r cyhoeddiad hwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn newyddion gwych, ac nid yw ond yn briodol na fydd tir mewn perchenogaeth gyhoeddus yn cael ei ddefnyddio mwyach i ganiatáu creulondeb a lladd yn enw chwaraeon. Hefyd, hoffwn ddiolch i chi'n bersonol am eich ymyrraeth bendant, gan roi arweiniad moesol clir, a gwn fod hyn wedi cael ei gydnabod gan sefydliadau lles...