Mandy Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Lywydd, am y wybodaeth honno, roedd yn wych.
Mandy Jones: 2. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i addasu ffyrdd o weithio i Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn gan ddefnyddio gwersi a ddysgwyd o'r cyfyngiadau symud cyn y chweched Senedd? OQ56081
Mandy Jones: Diolch am eich ateb. Hoffwn dalu teyrnged i holl staff y Comisiwn, ac yn wir, i’r holl staff cymorth gwleidyddol sydd wedi addasu mor gyflym ac mor effeithiol i ffordd gwbl wahanol o weithio. Rwy'n gweld colli bywiogrwydd y Senedd yn fawr pan fo'n gweithredu fel yr arferai wneud. Rwy'n gweld colli'r staff cymorth yno, a'r holl staff eraill o gwmpas y lle, yn enwedig y staff...
Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd Gogledd Cymru yn elwa o gyllideb 2021-22?
Mandy Jones: Gadewch imi ddatgan buddiant yn gyntaf, gan fy mod yn byw, ar adegau arferol, yn un o'r blociau sy'n destun yr adolygiad o ddiogelwch adeiladau yng Nghaerdydd. Gweinidog, croesawaf newyddion am y Papur Gwyn heddiw, tua thair blynedd a hanner ar ôl y golygfeydd ofnadwy hynny yn Llundain. Sylwaf fod nifer yr anheddau o'r fath yng Nghymru yn llawer llai. Fodd bynnag, dylid rhoi'r un...
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y nifer sydd wedi manteisio ar y gronfa cadernid economaidd a lansiwyd ar 13 Ionawr 2021 gan fusnesau perthnasol yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r brechlyn i'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol? OQ56135
Mandy Jones: Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn godi mater pobl sy'n darparu gofal cartref, y rheini sy'n mynd i mewn i gartrefi'r henoed a phobl agored i niwed er mwyn darparu gofal, yn enwedig y rheini a gyflogir drwy daliadau uniongyrchol, neu'r rheini sy'n darparu gofal yn breifat. Rwyf wedi siarad â rhai yn y gweithlu, ac maent yn ansicr a fyddant yn rhan o'r gweithlu gofal cymdeithasol a gaiff...
Mandy Jones: Weinidog, er fy mod yn deall ei bod yn cymryd amser i goladu ffigurau hunanladdiad oherwydd yr angen i gynnal ymchwiliadau a chwestau, hoffwn dynnu eich sylw at sylwadau crwner gogledd Cymru, John Gittins, ym mis Rhagfyr, a fu'n llywyddu dros saith achos o hunanladdiad dros yr haf yn yr un wythnos. Nododd effeithiau'r cyfyngiadau symud fel ffactor cyfrannol ym mhob un o'r achosion hynny....
Mandy Jones: Prif Weinidog, codi bwganod eto. Dyna'n union yr wyf i'n ei ddisgwyl. Roedd yr ateb a roesoch y math o ateb yr wyf i bob amser yn ei ddisgwyl gennych chi—dinistr, digalondid a mwy o ofn. Mewn sawl maes o hawliau gweithwyr, fel y dywedodd Janet yn briodol, gan gynnwys lwfansau mamolaeth a gwyliau, mae gweithwyr y DU wedi mwynhau ac yn dal i fwynhau amodau llawer gwell na'r rhai a orfodir...
Mandy Jones: Gwnsler Cyffredinol, rwy'n gweld cwestiynau fel hyn, ac rwy'n clywed yr atebion, a deallaf yn iawn pam y gelwir y lle hwn yn 'swigen'. Rydym yn dal i fod ynghanol pandemig, mae pobl wedi colli eu bywydau a'u bywoliaeth, maent wedi colli gobaith, ac mae'n ymddangos ein bod yn bogailsyllu yn y Senedd hon. Wedi dweud hynny, hoffwn wybod beth y mae'r Ddeddf hon yn rhwystro Llywodraeth Cymru rhag...
Mandy Jones: 8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio'r stryd fawr yng Ngogledd Cymru? OQ56211
Mandy Jones: Diolch. Prif Weinidog, mae llawer o siopau'r stryd fawr wedi diflannu ac maen nhw'n annhebygol o ddychwelyd byth. Mae colli Debenhams a brandiau Grŵp Arcadia a'r swyddi sy'n gysylltiedig â'r siopau ffisegol yn cael ei deimlo yn aruthrol ar draws y gogledd. Mae'r pandemig wedi arwain at foratoriwm ar ardrethi busnes, a fydd, yn ei dro, yn arwain at ostwng refeniw treth i awdurdodau lleol. A...
Mandy Jones: Weinidog, ar ddechrau'r pandemig, cynigiodd lawer o bobl wirfoddoli, naill ai yn y gymuned neu fel staff y GIG ar gyfer dyletswyddau clinigol. Clywaf gan lawer o etholwyr na chafodd eu hymholiadau eu hateb hyd yn oed, ac mae'r fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth ddychwelyd i weithlu'r GIG yn fater a gofnodwyd yn gyhoeddus. Pa wersi sydd wedi'u dysgu gan awdurdodau lleol dros y flwyddyn ddiwethaf...
Mandy Jones: Prif Weinidog, ers cael fy ethol i'r Senedd a gweithio ar wahanol bwyllgorau, gan gynnwys y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae fy marn ar ddatganoli wedi esblygu, ac rwyf i'n gwyro tuag at berthynas fwy aeddfed rhwng gwledydd y DU a symud tuag at strwythur mwy ffederal. Mae gen i ddiddordeb mewn gwybod, ar ôl clywed eich barn ar gyfeiriad datganoli yn y dyfodol, pa un a...
Mandy Jones: Weinidog, rwy'n pryderu'n arbennig am y busnesau gwely a brecwast llai o faint na chafodd fawr ddim cymorth y llynedd os o gwbl. Roedd llawer ohonynt yn fusnesau bach ffyniannus a oedd yn darparu arian pensiwn ychwanegol a chwmnïaeth i'w perchnogion a chyflogaeth ran-amser i'r bobl leol. Pa ddadansoddiad y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud i sefydlu'r niwed y mae'r pandemig wedi'i wneud i'r...
Mandy Jones: Prif Weinidog, rwyf i wedi codi'r mater hwn o effeithiau'r polisi cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl gan ei bod yn amlwg nad oedd y tair wythnos i lyfnhau'r gromlin yn ddim byd o'r fath. Ni fyddwn ni'n gwybod effeithiau llawn polisi'r cyfyngiadau symud o ran hunanladdiad, argyfyngau iechyd meddwl, canserau ac amseroedd aros am amser maith hyd yma. Wedi dweud hynny, mae'n ymddangos bod eich...
Mandy Jones: Fel y dywedodd y ddau siaradwr blaenorol, Weinidog, mae rhestrau aros ar lefelau nad ydym wedi'u gweld ers blynyddoedd. Bydd nifer ar y rhestrau aros hynny'n cael eu derbyn fel achosion argyfwng i'r ysbyty cyn bo hir ar ôl i'w hansawdd bywyd gael ei ddinistrio gan boen ac anabledd. Mae etholwyr yn adrodd am wasanaeth iechyd nad yw'n ofal COVID sy'n dameidiog ac anwastad iawn ar draws y...
Mandy Jones: Weinidog, defnyddiwyd y slogan 'Hwyl fawr. Am y tro.' yn effeithiol iawn y llynedd. Mae'r rhai sy'n defnyddio carafannau yng Nghymru yn aml yn bobl sy'n berchen ar eu carafannau eu hunain, fel y dywedodd Darren, ac mae dod i Gymru yn teimlo fel dod adref iddynt hwy. Rwy'n pryderu'n fawr er hynny am y rhethreg wrth-Seisnig, wrth-ymwelwyr a ddefnyddir yng Nghymru, a hefyd yn yr Alban. Mae...
Mandy Jones: Prif Weinidog, mae'n dda bod eich Llywodraeth yn rhagori ar ei tharged ei hun o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Senedd hon, er bod penawdau diweddar yn awgrymu bod datblygwyr preifat yn ystyried nad yw Cymru yn ddewis arbennig o ddeniadol ac yn nodi llawer o resymau, gan gynnwys y system gynllunio a'r ffaith mai rheoliadau Cymru yw'r rhai mwyaf beichus yn y DU. Rydym ni'n...