Darren Millar: A gaf i gefnogi'r galwadau am yr wybodaeth ddiweddaraf ar y strategaeth Blwyddyn Chwedlau? Rwyf wir yn gwerthfawrogi'r ffaith bod cyd-Aelod yn y gogledd sy'n ceisio dod â rhai o'n trysorau yn ôl i'r rhanbarth. Un o’r trysorau eraill sy'n gysylltiedig ag etholaethau Delyn a Gorllewin Clwyd yw asgwrn bys Santes Gwenffrewi, o ffynnon sanctaidd enwog Gwenffrewi, a gafodd ei chladdu yn...
Darren Millar: Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Cafodd ei chyflwyno am ein bod yn credu bod angen canolbwyntio o’r newydd ar adfywio yma yng Nghymru, a bod angen inni gael rhai o’r cymunedau tlawd ym mhob un o’n hetholaethau yn ôl ar eu traed ac yn weithredol. Rwy’n credu bod rhaid i ni gydnabod y bu rhai methiannau epig gan Lywodraeth Cymru dros yr 20...
Darren Millar: Na, nid oes gennyf—. Efallai y gallaf gymryd amser mewn eiliad. Ac rwy’n meddwl bod camarwain pobl—. Rwy’n sylweddoli eich bod wedi etifeddu llanast go iawn a dweud y gwir, fel Ysgrifennydd y Cabinet, gan eich rhagflaenydd am eich bod yn gymharol newydd i’r swydd benodol hon, ond y gwir amdani yw bod y llanast hwnnw, yn anffodus, wedi glanio yn eich mewnflwch ac rydych wedi gorfod...
Darren Millar: Wel, mae prifysgolion Cymru, wrth gwrs, yn gwneud cyfraniad enfawr at economi Cymru; mae tua 5 y cant o economi Cymru o ganlyniad i weithgarwch prifysgolion yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, os ydych chi’n colli staff o brifysgol, staff profiadol a drud y mae'r brifysgol yn ceisio eu symud ymlaen yn gyntaf yn aml iawn. Pa sicrwydd ydych chi wedi ei gael gan y sector prifysgolion na fydd hynny’n...
Darren Millar: A gaf i eilio'r galwadau gan Llyr Huws Gruffydd am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth ar y triongl Evo yn fy etholaeth i? Rwy'n bryderus iawn bod diogelwch yn dirywio o ganlyniad i wneud y llwybr hwn mor ddeniadol i fodurwyr anghyfrifol. Un o’r nodweddion eraill, nad oedd Llyr yn gallu sôn amdanynt yn ei gyfraniad i ofyn am ddatganiad, oedd y ffaith fod y rhyngrwyd...
Darren Millar: A gaf i ddweud diolch wrth Ysgrifennydd y Cabinet am roi rhybudd ymlaen llaw am ei datganiad, ac am gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion, hefyd, i'r ymgynghoriad ar safbwynt Llywodraeth Cymru? Mae'n amserol iawn fod hyn yn cael ei wneud, yn enwedig cyn toriad yr haf, oherwydd, wrth gwrs, bydd pobl ifanc eisiau paratoi ar gyfer blynyddoedd academaidd y dyfodol, ac yn meddwl am eu dyfodol, ac rwy'n...
Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yng Ngorllewin Clwyd?
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig wythnosau yn ôl yn unig, roedd Prif Weinidog Llafur Cymru yn dweud wrth bobl am bleidleisio dros y Blaid Lafur er mwyn cael gwared ar ffioedd dysgu, ond ddoe, gan fradychu’r myfyrwyr a phleidleiswyr Llafur ledled Cymru, fe gyhoeddoch, ar ran ei Lywodraeth ef, gynnydd yn y cap ar ffioedd dysgu a delir gan fyfyrwyr yng Nghymru. A chredaf fod hynny’n dangos...
Darren Millar: Credaf y bydd y pleidleiswyr yn penderfynu a yw’r Blaid Lafur wedi torri ei haddewidion maniffesto a wnaed ychydig wythnosau yn ôl yn unig mewn gwlad lle mae modd iddi roi’r addewidion hynny ar waith mewn gwirionedd. A gaf fi ofyn am rywfaint o eglurhad? Un o’r pethau y gwnaethoch fôr a mynydd yn eu cylch yn ystod eich ymgyrch etholiadol ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol...
Darren Millar: Gadewch i mi eich atgoffa o addewid arall a wnaethoch i ddisgyblion a rhieni ledled Cymru: fe ddywedoch y byddech yn codi safonau fel Gweinidog addysg, ac eto, dros y penwythnos, fe’ch gwelsom yn bychanu’r disgwyliadau ar gyfer canlyniadau TGAU yr haf hwn. Nid yw’r ffaith ein bod yn diwygio TGAU yn golygu o reidrwydd ein bod yn anelu am ganlyniadau gwaeth. Felly, a fydd yr addewid y...
Darren Millar: A ydych yn derbyn mai un o’r rhesymau pam nad oes gennym ddigon o feddygon teulu, meddygon ymgynghorol, neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill yw methiant llwyr eich Llywodraeth i gynllunio’n briodol ar gyfer y gweithlu sydd ei angen ar y GIG yng Nghymru mewn gwirionedd?
Darren Millar: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf am gadarnhau fy mod wedi rhoi munud yr un o fy amser i Simon Thomas, Jenny Rathbone a Joyce Watson. Yr wythnos hon yw Wythnos Gamble Aware. Mae’n saith diwrnod pan fo siopau betio ar draws y wlad yn lledaenu’r neges i beidio â betio mwy nag y gallwch fforddio ei golli, ond mae arnaf ofn nad yw eu neges yn cyrraedd y nod. Diolch i benderfyniadau polisi...
Darren Millar: Felly, gallwch weld. Rydym wedi clywed gan Sarah a Joseff. Nid gêm yw gamblo, mae’n broblem real iawn. Maent yn talu pris uchel amdano, ac nid hwy yw’r unig rai. Efallai eich bod wedi clywed am weithiwr post yng Nghaerdydd, Colin Chapman, a gafodd ei arestio yr wythnos diwethaf am ddwyn parseli gwerth £40,000 er mwyn ariannu ei ddibyniaeth ar gamblo. Neu efallai y byddwch yn cofio...
Darren Millar: Mae etholwyr wedi cysylltu â minnau hefyd gyda phryderon ynglŷn â’r drefn leihau gwaith cynnal a chadw a roddir ar waith gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn rhannau o ogledd Cymru, ac o ganlyniad i’r cynllun lleihau gwaith cynnal a chadw, mae llifddwr o’r ffosydd, am nad ydynt yn cael eu clirio, yn dechrau gorlifo ar dir amaethyddol—tir sydd wedi bod yn dir amaethyddol cynhyrchiol...
Darren Millar: 9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r amddiffynfeydd môr yn Hen Golwyn? (OAQ51007)
Darren Millar: Rwy’n ddiolchgar iawn am y buddsoddiad sydd wedi mynd i Fae Colwyn dros y blynyddoedd o ran sicrhau lefelau uwch o ddiogelwch rhag llifogydd ar gyfer y rhan benodol honno o’r arfordir, ond rydym wedi gweld y difrod y gall llifogydd o’r môr ei wneud pan edrychwn dros Fôr yr Iwerydd, o ganlyniad i’r stormydd ofnadwy sydd wedi creu llanast yn y Caribî ac yn Unol Daleithiau America, ac...
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch cymunedau ffydd ar draws Cymru ar y gwaith y maent wedi’i wneud yn helpu i groesawu ceiswyr lloches, gan gynnwys ffoaduriaid a phlant sy’n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain, yma i Gymru, a’u cefnogi o ran eu hintegreiddio yn ein cymdeithas a lleihau tensiynau cymunedol?
Darren Millar: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? (OAQ51056)
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r pethau a all rwystro’r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yw achosion o dwyll ym mhwrs y wlad. Bydd llawer o bobl yn ymwybodol o’r pryderon a godwyd mewn perthynas â rhai materion ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac yn wir, cafwyd achosion eraill yn y GIG, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd dros y...
Darren Millar: Prif Weinidog, er i ni groesawu gohirio gweithrediad y cwricwlwm, un agwedd sy'n dal i beri pryder i ni yw'r ffaith y bydd yn ofynnol i ysgolion uwchradd gyflwyno dau gwricwlwm ar gyfer disgyblion yn yr ysgolion hynny am gyfnod o bum mlynedd. Nawr, mae hynny’n mynd i achosi anhrefn llwyr ac rwy'n credu ei fod yn mynd i sicrhau dryswch, yn enwedig i athrawon sydd newydd gymhwyso ac sy'n dod...