Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Arweinydd y tŷ, bydd llawer ohonom ni wedi gweld yn y cyfryngau dros yr wythnos ddiwethaf y delweddau brawychus o gamddefnyddio cyffuriau, gyda phobl yn anymwybodol mewn mannau cyhoeddus, a ni all rhywun ond teimlo llawer iawn o gydymdeimlad â’r unigolion sydd wedi disgyn mor isel ag i fod yn y sefyllfa honno, a bod yr un mor awyddus i wneud yn siŵr bod cynifer o...
Andrew RT Davies: Roeddwn i wedi gobeithio, gyda'r amser sydd wedi mynd heibio ers rhedeg y stori wreiddiol hon tua 10 diwrnod yn ôl, efallai y byddem ni wedi cael ateb llawnach gan arweinydd y tŷ, o ystyried y pwyntiau a godais. Oherwydd cyflwynodd Llywodraeth Cymru, yn 2008, strategaeth, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', ac o'r hyn a welwn yn y mathau hyn o ddelweddau, mae’n amlwg nad yw’r...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, mae Andrew Atkinson, sef cadeirydd grŵp llywio fforwm canol tref Wrecsam, wedi nodi ei bod yn ymddangos bod pawb yn rhoi’r bai ar bawb arall, yn hytrach na mynd i'r afael â'r broblem. Clywais oddi ar eu heistedd ar yr ochr arall, gan genedlaetholwyr Cymru, eu bod yn credu bod cyfreithloni cyffuriau yn ddewis synhwyrol yma. O'r ochr hon o'r tŷ, nid ydym yn credu yn sicr...
Andrew RT Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol hirdymor y cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de a gaiff gymorthdaliadau, yn sgil y newyddion bod Citywing wedi cael ei ddiddymu? EAQ(5)0142(EI)
Andrew RT Davies: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch am eich datganiad a gyhoeddwyd ddoe a oedd yn egluro rhai o'r mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith. Fel defnyddiwr y gwasanaeth hwn, gallaf mewn gwirionedd adael fy nrws ffrynt a bod yn y gogledd erbyn 8.40 a.m., a chyrraedd Ynys Môn. Rwy’n llwyr gefnogi'r gwasanaeth petai’n fasnachol hyfyw, ac mae'n ddigalon erbyn hyn mai hwn...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a allem ni gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar barc awyrofod Sain Tathan? Dim ond yn ddiweddar yr ydym ni wedi cael y newyddion da ynghylch datblygiad Aston Martin o awyrendy’r Ddraig Goch, ond, rai blynyddoedd yn ôl, yn amlwg, sefydlodd Cardiff Aviation ei hun yn y parc awyrennau, ac maen nhw wedi wynebu rhai heriau masnachol sylweddol. Buddsoddodd Llywodraeth Cymru...
Andrew RT Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig yn enw Paul Davies ar y papur trefn heddiw yn ffurfiol, cynnig a oedd yn galw am lawer iawn o feddwl a llythrenogrwydd i’w roi at ei gilydd, ac mae’n datgan yn syml: ‘Yn credu bod Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn methu o ran pobl Cymru.’ Rwy’n deall bod arweinydd y tŷ yn ymateb ar ran y Llywodraeth. Nid yw’n syndod na...
Andrew RT Davies: [Yn parhau.]—ei rhaglen lywodraethu. Rwy’n hapus i gymryd yr ymyriad.
Andrew RT Davies: Wel, rwy’n amau a yw’n gweithio, mewn gwirionedd, oherwydd—. Mae hynny’n fy arwain yn daclus iawn at y problemau, y problemau dwfn, y mae pobl Cymru yn eu hwynebu. Rwy’n gweld y Dirprwy Weinidog sgiliau yn eich llongyfarch ar ymyriad mor wych. [Chwerthin.] Os yw’n haeddu llongyfarchiadau, pam y mae un o bob saith o bobl yng Nghymru ar restr aros? Pam y mae’r Llywodraeth hon yn...
Andrew RT Davies: Nid yw hynny’n cyfrif amdano, Mike. Yr hyn a wn yw bod y bwlch hwnnw’n £32 yn y ffigurau a roddwyd i ni ar ddechrau datganoli. Mae bellach yn £607. Mae hynny wedi digwydd o dan eich arweiniad chi—o dan arweiniad y Blaid Lafur—ac nid yw’r Llywodraeth hon yn rhoi unrhyw hyder i ni ei bod yn ymdrin â’r mater penodol hwnnw. Pan edrychwch ar niferoedd athrawon, elfen hanfodol o...
Andrew RT Davies: Mae’n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd. Byddwn yn falch o dderbyn ymyriad gan yr Aelod dros Ogwr er mwyn iddo allu cywiro’r Cofnod i ddweud sawl gwaith y pleidleisiodd dros weld y Llywodraeth Lafur yn trydaneiddio rheilffyrdd yng Nghymru pan oedd yn Aelod Seneddol. Rwy’n credu y bydd yn dangos na phleidleisiodd unwaith, ond mae’r Ceidwadwyr yn trydaneiddio’r rheilffordd rhwng...
Andrew RT Davies: Pecyn o fesurau ar gyfer ynni gwyrdd; mae £132 miliwn wedi mynd i gwmnïau trwm ar ynni fel Tata Steel, a mwy i ddod i fyny at yr ad-daliad o £400 miliwn a gynigiwyd gan y Trysorlys yn Llundain. Mae hynny’n llawer mwy nag wnaethoch ar ardrethi busnes, nad ydych wedi mynd i’r afael â hwy o gwbl o’r fainc flaen hon.
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu ac yn llongyfarch pawb sydd wedi cyfrannu yn y ddadl yn eu ffordd arbennig eu hunain. Roedd yn amlwg nad aeth arweinydd y tŷ i’r afael â’r union bwyntiau a roddwyd iddi ynglŷn ag amseroedd aros ym maes iechyd, ynglŷn â recriwtio meddygon a nyrsys i gael ein gwasanaeth iechyd yn ôl i ble rydym am iddo fod, ynglŷn â’r mesurau...
Andrew RT Davies: Wel, gyda pharch, Jenny, tair wythnos sydd gennym tan ddiwedd y tymor. Mae un rhan o bump o dymor y Cynulliad hwn wedi mynd. Rwy’n sylweddoli nad oeddech yma ar ddechrau’r ddadl, ond gwneuthum y pwynt fod Llywodraethau pan ddônt i rym yn meddu ar egni, ar fywiogrwydd, ac maent yn llawn o syniadau ac yn torri llwybr ar gyfer syniadau y mae pobl am eu cefnogi. Yn anffodus, nid yw’r...
Andrew RT Davies: Mae ganddynt y cymhleth israddoldeb hwn. Mae gwir angen iddynt ddod drosto. Yn hytrach na dal dig—[Torri ar draws.]
Andrew RT Davies: [Anghlywadwy.]—fe synnech beth y gallwch ei gyflawni. Ond mae’r cynnig hwn heddiw, ar ddiwedd yr hyn sy’n un rhan o bump o dymor y Cynulliad hwn, yn ceisio tynnu sylw at sut y mae’r Llywodraeth yma wedi methu mynd i’r afael â phroblemau strwythurol dwfn gyda’r economi, gydag iechyd, gydag addysg, gyda thai, fel y nodwyd gan lefarwyr yma heddiw. Yn wir, arweinydd y tŷ a...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. A gaf i, yn gyntaf oll, ddymuno pen-blwydd hapus i chi, Brif Weinidog? Fel rhywun sydd â blynyddoedd lawer i fynd cyn i mi gyrraedd y garreg filltir o 50, edrychaf ymlaen efallai at glywed gennych chi sut brofiad yw hwnnw. [Chwerthin.] Ond dymunaf yn dda iawn i chi ar eich pen-blwydd heddiw, a hoffwn hefyd anfon dymuniadau gorau at Ysgrifennydd y Cabinet dros...
Andrew RT Davies: Ac ydych chi’n hyderus, Brif Weinidog, gyda'r cytundeb hwn, y bydd GYG, sydd tua 74 y cant o lefel y DU yn ninas-ranbarth Abertawe, yn cynyddu dros 15 mlynedd y cytundeb. Felly, a allwch chi roi dangosyddion pendant i ni y byddwch chi’n eu meincnodi, ac y bydd eich Llywodraeth yn eu meincnodi, fel llwyddiant? Beth allwn ni ei ddisgwyl ymhen tair, pump, wyth a 10 mlynedd pan fydd y...
Andrew RT Davies: Rwy’n croesawu hynny. Byddwn wedi hoffi, efallai, marc mwy pendant o ran ble y byddech chi’n hoffi gweld GYG yn tyfu iddo o ble y mae ar hyn o bryd, sef 74 y cant. Ond mae'n bwysig bod gan Gaerdydd fargen ddinesig a bod gan dinas-ranbarth Abertawe fargen ddinesig. Yn amlwg, mae’r gogledd mewn angen dybryd i’r cytundeb twf gael ei gyflawni. Ddoe yn 'The Guardian', cyhuddwyd Prif...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ar wasanaethau rhewmatoleg bediatrig yng Nghymru? Yn anffodus, yng Nghymru, nid oes gennym unrhyw wasanaethau rhewmatoleg bediatrig—gwasanaethau penodedig—ac yn benodol nid oes gennym unrhyw dimau i helpu pobl ifanc sy'n canfod bod ganddynt arthritis yn ifanc iawn, yn aml iawn plant o oedran...