David Rees: Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Ni fydd dull Llywodraeth y DU o drosglwyddo cyfraith yr UE i gyfraith y DU drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn darparu'r amddiffyniadau a ddylai fod gennym ar gyfer cynnal siarter hawliau sylfaenol yr UE ar ôl inni adael yr UE. Mae uwch-gyfreithwyr yn bryderus iawn y bydd i Lywodraeth y DU wrthod ymgorffori'r siarter yng nghyfraith y DU yn...
David Rees: A gaf fi gytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda phopeth a ddywedodd Mick Antoniw, yn enwedig ar y Bil Masnachu, ac rwy'n credu bod hwnnw'n peri pryder mawr oherwydd mae'n adlewyrchu parhad o'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â hyn, ac mae'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywed Simon Thomas—er efallai y buaswn yn herio'r ffaith mai'r unig reswm y cafwyd ad-drefnu oedd oherwydd bod...
David Rees: A wnaiff yr Aelod ildio?
David Rees: Diolch i'r Aelod am ildio. A ydych yn cytuno ei bod yn siomedig eu bod wedi cael gwelliannau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ers mis Tachwedd, eu bod wedi cael gwelliannau ein pwyllgor ers mis Tachwedd—maent wedi cael hen ddigon o amser i edrych arnynt a chynhyrchu eu gwelliannau eu hunain erbyn y Cyfnod Adrodd, sef ddoe a heddiw?
David Rees: Arweinydd y Tŷ, tua 12 mis yn ôl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y pryd ei fod mewn gwirionedd yn tynnu cyllid Cymunedau yn Gyntaf oddi wrth NSA Afan oherwydd adroddiad archwilio yr oedd wedi ei dderbyn. Aeth ymlaen i ddweud y byddai ymchwiliad ariannol pellach yn cael ei gynnal. Nid ydym hyd yma wedi clywed unrhyw beth ers y dyddiad hwnnw, ac rwy'n deall bod...
David Rees: 4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu mwy o gynhwysiant digidol yn Aberafan yn 2018? OAQ51609
David Rees: Diolch am eich ateb, arweinydd y tŷ, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith sy'n mynd rhagddo eisoes, ond gallai gael ei ddad-wneud os nad ydym yn ofalus. Yn amlwg, mae cynhwysiant digidol yn cynnwys cyfeiriad at hygyrchedd, ac mae hygyrchedd yn ymwneud â dau beth. Un yw seilwaith, ac rydych eisoes wedi ateb cwestiynau ynglŷn â hynny, felly nid wyf am sôn am hynny ar hyn o bryd. Y llall...
David Rees: 2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod byrddau iechyd yn ymgysylltu'n llawn ag ymgynghoriadau cyhoeddus ar wasanaethau iechyd yn y dyfodol? OAQ51671
David Rees: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr, fel y cytunwch, ei bod yn bwysig iawn eu bod yn ymgysylltu â'r cyhoedd. Yn ddiweddar, mae AMBU wedi cynnal tri, neu wrthi'n cynnal tri ymgynghoriad cyhoeddus—llawdriniaethau thorasig cyn y Nadolig, ac ar hyn o bryd maent yn cynnal ymgynghoriad ar y rhwydwaith trawma mawr a'r newidiadau i'r ffiniau. Yn ôl yr hyn a glywaf, mewn...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r cynllun 111 yn ne-orllewin Cymru oherwydd, yn amlwg, mae honno'n un ffordd o wneud dewis doeth a sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir ac yn osgoi defnyddio gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau yn ddiangen. Ond rydym hefyd angen gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau gyda rhai pethau angenrheidiol. Fel y cyfryw, rwy'n ymwybodol...
David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych chi felly yn cytuno ei bod yn ddyletswydd ar y cyfreithwyr sy'n gweithredu, fel arfer wedi'u henwebu gan ddatblygwr, i sicrhau bod y prynwr yn gwbl ymwybodol o ganlyniadau lesddaliad mewn gwirionedd?
David Rees: Credaf y byddwch yn cael yr un neges wedi ei hanfon ar draws y Siambr y prynhawn yma gan Aelodau sy'n cynrychioli etholwyr ledled Cymru, oherwydd rydym i gyd yn wynebu problemau tebyg. Fel y mae pawb ohonom yn gwybod, ffurf ar ddeiliadaeth breswyl yw lesddaliad sydd, efallai, yn mynd yn ôl i'r oesoedd ffiwdal, pan ystyrid mai'r tir oedd y lle a'r rhai a oedd yn berchen ar y tir oedd y rhai...
David Rees: Nawr, i'r rhai sy'n dweud bod tŷ ar brydles yn cael ei werthu am bris is na thŷ rhydd-ddaliadol, am mai fel hynny y byddent yn ei werthu, dangoswyd bod hynny'n anghywir. Ymddengys mai ffordd yw hi o fanteisio ar y sawl sy'n prynu cartref mewn gwirionedd—cael rhywun i feddwl bod derbyn lesddaliad yn ffordd arferol o brynu cartref y dyddiau hyn. Nid yw hynny'n wir, ac nid yw wedi bod yn...
David Rees: Roeddwn yn mynd i ofyn y cwestiwn: a gawsoch chi gadarnhad ganddynt ynglŷn â beth y mae 'cwbl angenrheidiol' yn ei olygu?
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog? Ar sail hynny, a wnewch chi hefyd sicrhau bod yr hawl, mewn gwirionedd i—os ydynt yn penderfynu ei werthu, hyd yn oed yn yr amgylchiadau eithriadol hynny, os ydynt yn penderfynu ei werthu, fod y lesddeiliad yn cael y dewis cyntaf i brynu'r rhydd-ddaliad cyn ei werthu i rywun arall?
David Rees: Prif Weinidog, fel yr ydych chi wedi ei nodi eisoes, mae'r fenter buddsoddi i arbed yn fy ardal i, Gorllewin De Cymru, wedi ei ganolbwyntio ar y gwasanaeth iechyd. Mae PABM wedi cael arian ar gyfer y system gofnodion newydd, a hefyd arian ar gyfer yr academi, y gwasanaeth y tu allan i oriau, i wella hynny, a hefyd ar gyfer ailystyried llywodraethu meddyginiaethau a rheoli meddyginiaethau....
David Rees: Roeddwn i mewn gwirionedd yn mynd i ofyn yr un cwestiwn y mae Bethan Jenkins newydd ei ofyn. Aeth y ddau ohonom ni i gyfarfod llawn pobl ac emosiynol iawn neithiwr o gymunedau sy'n frwdfrydig dros eu cymuned, sydd wedi gweld gwasanaethau yn diflannu yn eu cymuned, ac o ran tasglu'r Cymoedd—nid yw yn un o'r hybiau, ond mae ar ymylon dau hyb, a dydyn nhw ddim yn deall pa un a allant mewn...
David Rees: Brif Weinidog, croesawaf eich datganiad. Ceisiaf gadw fy nghyfraniad at y cwestiynau ac at y pwnc, sef y polisi masnach, ac nid ailadrodd y trafodaethau refferendwm, fel yr ymddengys yr ydym yn eu clywed mewn mannau eraill. Brif Weinidog, mae'r polisi masnach, yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn, hefyd yn ystyried rhywbeth a godwyd yn gynharach, oherwydd roeddwn yn falch iawn o weld, ar...
David Rees: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch gwasanaethau i gynorthwyo adsefydlu carcharorion yng Nghymru?
David Rees: Yn union fel Abertawe neithiwr.