Rhianon Passmore: Gwn fod arweinydd y tŷ ei hun wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o sicrhau bod rhaglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru eisoes wedi trawsnewid y dirwedd ddigidol ar draws Cymru, gyda mwy na naw o bob 10 safle bellach yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn. Ym marn Llywodraeth Cymru, felly, pa mor bwysig yw sicrhau bod band eang safonol ar gael i gymunedau Islwyn, a hynny ar...
Rhianon Passmore: 4. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi terfyn ar gaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52906
Rhianon Passmore: Diolch. Mae cydgysylltydd atal caethwasiaeth Llywodraeth Cymru wedi datgan bod codi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern yn allweddol os ydym am fynd i'r afael â'r broblem. Beth y mae'r ffigurau diweddaraf ar nifer yr achosion a gofnodwyd yn ei ddweud wrthym am faint y broblem ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran adnabod caethwasiaeth a hefyd o ran sicrhau bod mwy o ddioddefwyr yn rhoi gwybod...
Rhianon Passmore: Rwyf i hefyd yn falch o allu siarad ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant yn y sefydliad hwn, sydd wedi gwneud cymaint dros hawliau plant yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe allwn ni fod yn falch bod hawliau plant yn gonglfaen i bopeth yr ydym ni'n ei wneud. Fe wnaeth y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 sicrhau mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i integreiddio hawliau...
Rhianon Passmore: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi. Mae'n ffaith bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi'i amddifadu o fuddsoddiad yn y gorffennol. Ers 2011, tua 1 y cant yn unig o'r gwariant ar wella rheilffyrdd ledled Cymru a Lloegr a wnaed ar lwybrau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd drwy fynnu'n gadarn fod rheilffyrdd Cymru'n cael eu hariannu'n briodol. Yn gynharach yr wythnos hon,...
Rhianon Passmore: Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgymryd â hwy i hyrwyddo de-ddwyrain Cymru fel lle ardderchog i ymarferwyr cyffredinol weithio a byw?
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, croesawaf yn fawr y cyhoeddiad o £7 miliwn ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd, ac rwy'n croesawu'n fawr y bydd Ffordd Coedwig Cwmcarn ymysg y don gyntaf o brosiectau y pyrth darganfod i'w cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod pa mor werthfawr yw Ffordd Coedwig hanesyddol Cwmcarn yn fy...
Rhianon Passmore: Diolch. Felly a fyddech wedyn yn dweud y byddech yn dymuno torri'r £30 miliwn ar gyfer y gyllideb gofal cymdeithasol neu'r £20 miliwn ar gyfer y gyllideb gofal iechyd meddwl? Ble fyddech chi'n rhoi'r toriadau hynny os nad ydych yn dymuno, fel y dywedasoch, torri'r gyllideb iechyd yn awr?
Rhianon Passmore: Rwy'n codi i gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru i'r cynnig hwn gan y Torïaid, ac rwy'n edrych ar yr olygfa gywilyddus o'r Torïaid gyferbyn â mi yn codi i ddweud bod awdurdodau lleol yn cael trafferthion—wel, gadewch inni fod yn onest, yn blwmp ac yn blaen, ysgwydwch y goeden arian hud honno, a byddwn yn cael mwy o arian, mwy o werth am ein harian o wneud hynny. Rwyf i yn un, wedi blino...
Rhianon Passmore: Nid wyf i wedi gorffen eto, diolch. Fe wnaf yn nes ymlaen—[Chwerthin.]—ond mewn gwirionedd mae wedi cynyddu diffyg y DU—[Torri ar draws.] Fe wnaf hyn yn nes ymlaen, iawn. Rydym ni wedi bod yn dioddef nawr am naw mlynedd hir, ac nid yw'n beth i chwerthin yn ei gylch i bobl yn fy etholaeth i, sy'n dioddef canlyniadau cyni a diwygio lles. Mae hyn ar wahân—[Torri ar draws.] Mae hyn ar...
Rhianon Passmore: Gadewch imi orffen—ac yn wyneb toriad o £850 miliwn i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU ers 2010. Mae hynny'n ffaith.
Rhianon Passmore: Diolch ichi am hynna. Rwy'n credu na ellir gwahanu oddi wrth y ffaith, ers 2010, y bu toriad o £850 miliwn i Gymru. Mae hyn yn strategol, mae hyn yn hirdymor, ac rydym ni'n gwybod bod mwy i ddod oni bai y bydd etholiad cyffredinol, a cheir ffaith eithaf syml yn y fan yma: Os yw eich côt yn rhy dynn, byddwch yn gwlychu. Fe wnes i gyfarfod ag aelodau etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol...
Rhianon Passmore: Diolch. Rydych chi wedi dweud yn aml, fel plaid, nad oes gennych chi unrhyw ffydd mewn unrhyw gytundebau gyda'r DU. A oes gennych chi ffydd y bydd Cymru'n cael y gyllideb angenrheidiol i gyd-fynd ag unrhyw fudd-daliadau lles datganoledig?
Rhianon Passmore: Mae adroddiad adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol yn y Deyrnas Unedig yn agoriad llygaid. Mae gwir effaith agenda cyni y Llywodraeth Dorïaidd hon yn amlwg i bob un ohonom ei gweld. Mae'n ddewis gwleidyddol sy'n rhoi'r baich mwyaf ar y rhai hynny â'r lleiaf o allu i ymdopi ag ef, ac yn gorfodi pobl i dlodi. Rwy'n annog Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon i ddarllen...
Rhianon Passmore: Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynorthwyo busnesau bach yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £15 miliwn ychwanegol o gyllid i helpu i gynyddu cydweithio rhwng rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gynorthwyo oedolion ag anghenion gofal yn eu cartrefi. Arweinydd y tŷ, pa wahaniaeth fydd yr arian ychwanegol hwn yn ei wneud i osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty, i ddychwelyd cleifion i'w cartrefi, ac i gynorthwyo...
Rhianon Passmore: Mae'n iawn bod y Siambr hon yn cynrychioli barn gref ac angerddol iawn y bobl yr ydym yn eu cynrychioli. Dydyn nhw ddim yn haeddu dim llai, ond maen nhw hefyd yn haeddu llawer mwy, wrth inni nesáu at y cyfnod mwyaf allweddol i'n dinasyddion a'n heconomi. Mae'r cytundeb a negodwyd gan Theresa May yn ddrwg i Brydain, mae'n ddrwg i Gymru ac mae'n ddrwg i Islwyn. Caiff ei ailadrodd yn aml y...
Rhianon Passmore: Mae'n wirionedd anffodus, yn ystod bron i ddegawd o gyni yn y DU, fod toriadau i gyllidebau llywodraeth leol wedi arwain at doriadau i wasanaethau anstatudol a ddarperir gan gynghorau ledled y DU. Hoffwn ofyn, felly, am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar statws ac iechyd gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru. Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, mae hwn yn fater sy'n agos...
Rhianon Passmore: A ydych chi'n derbyn neu’n credu nad yw’r gyllideb nawr 5 y cant yn is nag ydoedd yn 2010-11? Onid ydych chi’n cytuno â hynny?
Rhianon Passmore: Nid yw hynny'n ateb fy nghwestiwn—