Michelle Brown: Diolch am yr ateb hwnnw, Prif Weinidog, ond fel y gwyddom ni i gyd, rhoddwyd y gorau i rai prosiectau sylweddol iawn yn ddiweddar, gan gynnwys Cylchffordd Cymru, gorsaf bŵer niwclear Wylfa a'r morlyn llanw. Ym mhob achos, methodd y rhain oherwydd problemau gyda'r model ariannu. Ar gyfer swyddi ac ansawdd bywyd, mae angen i Gymru roi rhai prosiectau seilwaith cyhoeddus mawr ar waith mewn...
Michelle Brown: 5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o'r adolygiad annibynnol o dai? OAQ53863
Michelle Brown: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae ffigurau diweddar wedi dangos bod rhai teuluoedd yn treulio tair blynedd mewn llety dros dro, felly mae'r amser aros cyfartalog mewn rhai ardaloedd yn fisoedd ac nid dyddiau. Mae pobl yn aros am amser maith am lety priodol, ac rwy'n siŵr eich bod yn cydymdeimlo â'r bobl hynny. O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddod o hyd i...
Michelle Brown: Diolch am gyflwyno'r cynnig hwn ar gyfer Bil. Cytunaf fod yn rhaid inni ddod o hyd i ffordd lanach o fynd o A i B, a byddaf yn cefnogi'r cynnig. Fodd bynnag, er bod llawer o bobl yn breuddwydio am y diwrnod pan fyddwn oll yn gallu troi cefn ar ddiesel a phetrol, a buaswn yn cytuno â hwy ar hynny, rhaid inni fod yn ofalus nad ydym yn rhuthro i hyrwyddo cerbydau trydan ac yn ystyried o ddifrif...
Michelle Brown: Mae cerbydau trydan yn dibynnu ar fatris. Mae angen cobalt ar fatris, a daw'r rhan helaeth ohono o'r Congo—ardal sy'n rhemp o wrthdaro. At hynny, manteisir ar blant i weithio yn y mwyngloddiau cobalt ar gyflog caethweision, a defnyddir llawer o'r elw a wna'r cwmnïau i ariannu rhyfel cartref. Mae'r term 'batris gwaed' bellach wedi mynd yn rhan o eirfa'r rhai sy'n sôn am ddatblygu cerbydau...
Michelle Brown: Gwnaf, parhewch.
Michelle Brown: Ie, ffantastig, ond rydych yn dweud ei fod yn un o'r datblygiadau sydd i ddod. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw nad cyflwyno cerbydau trydanol ar raddfa fawr cyn i'r dechnoleg a'r seilwaith ddal i fyny yw'r ffordd orau o'i wneud. O'r gorau. Felly, ni allwn ddweud yn sicr po fwyaf eang yw'r defnydd o gerbydau trydanol, y cyflymaf y bydd y dechnoleg yn dal i fyny, a hyd nes y gall gyrrwr wneud taith...
Michelle Brown: Fe wnaf fwrw ati. Un pwynt arall sydd gennyf. Pryder arall yw natur ddistaw ceir trydanol. Mae'r gallu i glywed cerbyd yn dod yn hanfodol i gadw eich hun yn ddiogel ar y ffordd ac ar ymyl y ffordd. Yr hyn sy'n fy mhoeni yw bod ceir trydan mor dawel fel bod hynny'n peri risg i iechyd a diogelwch. Felly, hoffwn i weithgynhyrchwyr fynd i'r afael â'r perygl hwnnw i iechyd a diogelwch. Ac yn...
Michelle Brown: Diolch i'r grŵp Torïaidd am gyflwyno'r cynnig, ac rwy'n ei gefnogi, er fy mod yn rhyfeddu bod gennym gynifer o ofalwyr ifanc yn 2019. Cyfarfûm â gofalwr 18 oed dros y penwythnos sy'n gofalu am ei mam sy'n sâl a'i chwaer anabl. Nid oes ganddi fywyd ei hun. Mae'n haeddu medal, mae'n haeddu cael cefnogaeth, ond yn fwy na hynny, mae'n haeddu ei bywyd ei hun, ac mae'r awdurdodau'n ei...
Michelle Brown: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch sut y gellir defnyddio'r broses o gasglu ardrethi busnes a'r broses o ddyfarnu rhyddhad ardrethi busnes yn ôl disgresiwn er mwyn gwella'r stryd fawr yng Nghymru? OAQ53915
Michelle Brown: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Defnyddir rhyddhad ardrethi mewn ffyrdd dychmygus iawn i wneud canol trefi yn lleoedd gwell i fod. Er enghraifft, yn Sir y Fflint, maent wedi cynnig gostyngiad mewn ardrethi i fusnesau sy'n caniatáu mynediad cyhoeddus i'w toiledau. Ffordd arall y gellid defnyddio rhyddhad ardrethi a'r system ardrethi busnes yw i gymell twf busnesau sy’n creu swyddi dros y...
Michelle Brown: Diolch i grŵp y Torïaid am gyflwyno'r cynnig hwn. Mae'r cynnig yn hollol iawn yn y modd y mae'n ceisio atal y defnydd o blastigion ac allforio cynhyrchion plastig, yn hytrach na rhai o'r gwelliannau sydd i'w gwneud i'r cynnig, sy'n ceisio awgrymu mai ailgylchu yw'r ateb i broblem gorddefnyddio plastig. Ni ddylem gael ein cyflyru i gredu bod deunydd y gellir ei ailgylchu neu ddeunydd sy'n...
Michelle Brown: Hoffwn ddiolch i Caroline am ganiatáu i mi gyfrannu at ei dadl. Mae sgamiau, yn eu hanfod, yn dor-ymddiriedaeth. Maent yn aml yn achosi embaras, lle bydd dioddefwr yn beio'i hun bron am gredu'r sgam. Wrth gwrs, bydd codi ymwybyddiaeth o sgamiau yn gymorth mawr i leihau'r stigma di-alw-amdano o fod yn ddioddefwr sgam, yn ogystal ag annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus, ond un o'r ffyrdd...
Michelle Brown: O, popeth yn iawn. Fe eisteddaf, felly.
Michelle Brown: Sut y bydd cyflwyno cyfraith Lucy, sy'n ymwneud â rheoleiddio ffermio cŵn bach yn Lloegr, yn effeithio ar Gymru wledig?
Michelle Brown: Mae'n ymddangos yn rhyfeddol ac yn anghyson mai dim ond ychydig wythnosau sydd ers i'r lle hwn gefnogi galwadau i ddatgan argyfwng hinsawdd, y senedd gyntaf yn y byd i wneud hynny, ac eto mae rhai Aelodau yma yn galw am adeiladu ffordd fawr newydd am resymau economaidd. Er gwaethaf sut y gwnaethoch chi bleidleisio yn y ddadl frys ar newid yn yr hinsawdd, ni allwch chi wadu y byddai adeiladu...
Michelle Brown: Yn gyntaf, hoffwn ddweud fy mod yn cefnogi datganoli'r doll teithwyr awyr, ond rwy'n wyliadwrus ynghylch yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud â hi. Nid yw Llafur yn hoffi dim mwy na gwario arian pobl eraill ac maen nhw'n credu eu bod nhw'n gwybod yn well ynghylch sut i wario arian pobl eraill nag y mae'r bobl eu hunain. Yn ddiweddar, clywsom, dros y ffin, fod eneidiau hoff cytûn...
Michelle Brown: Na. Gadewch inni fwrw ymlaen, Mark. Mae'n ddrwg gennyf. Mae bod eisiau rheoli'r dreth atchweliadol hon, ond yn gwbl groes i hynny eisiau aros mewn UE sy'n gosod trethi nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth drostynt gan allu dim ond tynnu llewys eu cyfeillion honedig yn yr UE i geisio dylanwadu ar benderfyniadau, yn dangos fod neges y Llywodraeth Lafur hon, hyd yn oed pan ddaw hi i deuluoedd...
Michelle Brown: Rwyf innau'n cefnogi cyflwyno'r Bil hwn ac yn diolch i'r Aelod am ei gyflwyno. Mae pob un ohonom yn gyfarwydd â'r straeon arswyd. Mae babanod wedi marw o ganlyniad i gamreoli yn y GIG. Tarfwyd ar fywydau miloedd o bobl ifanc am fod rhestrau aros iechyd meddwl wedi cynyddu bedair gwaith. Mae cleifion wedi marw wrth aros am oriau am ambiwlans brys. Mae bywydau wedi cael eu difetha wrth i bobl...
Michelle Brown: O ddarllen yr adroddiad ac ymatebion y Llywodraeth, gellid maddau i chi am feddwl mai'r broblem y mae'r Llywodraeth yn ei hwynebu gyda bagloriaeth Cymru yw nad yw colegau'n deall yn iawn beth ydyw. Fodd bynnag, o edrych ar rywfaint o'r wybodaeth yn yr adroddiad llawn, mae'n glir mai'r broblem go iawn y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu yw bod prifysgolion a gweithwyr proffesiynol ym maes...