Jeremy Miles: Yn ffurfiol.
Jeremy Miles: Lywydd, mae adran 37 yn faes cymhleth, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei geisio yw eglurder. Byddai hyn wedi bod yn well, yn ein barn ni, cyn i'r ddadl heddiw gael ei chynnal. Yn anffodus, nid oes gwahaniaeth barn amlwg rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad. Rhaid inni symud yn awr i ddatrys y mater hwn, a hynny heb orfod troi at y llysoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn...
Jeremy Miles: Gwnaf, wrth gwrs.
Jeremy Miles: Nid wyf yn credu ei fod. Mae'n nodi egwyddor, ond mae'n amlwg, pan edrychwch i weld pryd y gallai'r egwyddor fod yn gymwys, nad yw'n sefydlu ym mha amgylchiadau y gallai fod yn gymwys, ac os oes gwahaniaeth barn, sut y gellid datrys y gwahaniaeth barn hwnnw. Ond mae hyn yn rhywbeth y dof ato mewn eiliad, os caf. Byddai'n llawer gwell gennym weithio gyda'r Cynulliad i gytuno ar brotocol...
Jeremy Miles: Diolch am y cwestiwn. Mae’r Prif Weinidog wedi sefydlu’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i ddarparu barn annibynnol a hirdymor gan arbenigwyr. Mae gwaith y comisiwn ar y gweill bellach, ac mae galwad am dystiolaeth wedi’i chyhoeddi. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu.
Jeremy Miles: Wel, o ran canlyniadau'r comisiwn, nid wyf i eisiau rhagdybio beth ddaw allan o waith y comisiwn. Pwrpas sefydlu'r comisiwn oedd sicrhau bod trafodaeth gan arbenigwyr a thystiolaeth eang yn cael eu cynnwys yn y dadansoddiad a bod hynny'n rhoi cyfle i'r lleisiau hynny gael eu clywed. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt penodol am ddatganoli cyfiawnder. Fe wnaeth hi yn sicr glywed datganiad...
Jeremy Miles: Bydd y cytundeb yn cael ei adlewyrchu yng nghynnwys y Bil ymadael â'r UE a mater i'r Cynulliad fydd penderfynu, drwy ddadl y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, a yw'r hyn a ddarperir ar ei gyfer yn y cytundeb yn dderbyniol i Gymru.
Jeremy Miles: Wel, rwy'n credu bod yr Aelod wedi camddeall effaith y cytundeb—
Jeremy Miles: Wel, rwyf am amlinellu'r sefyllfa, a buaswn yn hapus iawn i gymryd cwestiynau pellach os yw'r Dirprwy Lywydd yn barod i'w derbyn. Y cwestiwn yw hwn: mae'r 26 o feysydd y mae'r cytundeb yn eu sefydlu fel y meysydd a allai fod yn ddarostyngedig i reoliadau yn glir. Yr hyn na fu mor glir, mewn gwirionedd, yw'r pwerau ychwanegol a arferir yng Nghymru yn hytrach nag ar lefel yr Undeb...
Jeremy Miles: Yn amlwg, byddai gweithredu'n groes i gydsyniad y Cynulliad yn achosi argyfwng cyfansoddiadol, felly nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Mae'r cytundeb, sy'n gytundeb gwleidyddol—er bod ganddo elfennau cyfreithiol: y gwelliannau eu hunain, y cyfeiriad at y Goruchaf Lys; afraid dweud bod y rheini i gyd yn gamau cyfreithiol—mewn gwirionedd, mae'r cytundeb yn cynnwys cymhwyso...
Jeremy Miles: Arolygiaeth Gofal Cymru sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â diddymu statws cofrestredig darparwyr gofal dydd. Mae gan yr arolygiaeth annibyniaeth weithredol. Mae gan ddarparwyr gofal dydd sy'n ddarostyngedig i benderfyniadau diddymu hawl i apelio'n erbyn y penderfyniadau hynny yn y tribiwnlys haen gyntaf.
Jeremy Miles: Bydd yr Aelod yn deall bod yr achos unigol y mae'n cyfeirio ato—mae'n anodd i mi wneud llawer o sylwadau penodol ynglŷn â hynny. Mae gan unrhyw ddarparwyr sy'n dymuno herio penderfyniad yr arolygiaeth hawl i apelio i'r tribiwnlys haen gyntaf, tribiwnlys annibynnol sy'n arbenigo mewn achosion o'r math hwn. Mae'n crybwyll y darparwr gofal plant yn ei etholaeth ei hun a bydd yn gwybod bod...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Rwy’n cyfeirio’r Aelod at yr ateb a roddais wrth ymateb i’r cynnig ar 18 Ebrill. Mae’n amlwg bod gwahaniaeth barn dilys ynglŷn â’r dehongliad o adran 37, ac rŷm ni’n cynnal deialog adeiladol gyda’r Llywydd i ddatrys hyn.
Jeremy Miles: Wel, nid wyf i'n mynd i sôn am unrhyw gyngor penodol rwy'n ei roi i unrhyw ran o'r Llywodraeth am y materion yma. Bydd yr Aelod yn deall pam mae hynny yn amhosibl i fi ei wneud. Fe wnaeth e sôn am y ddadl yn benodol. Fe wnaf i ei gyfeirio fe at adran 41 o'r Ddeddf, sydd yn rhagweld ei bod hi'n bosib i'r Llywodraeth neu'r Cynulliad, neu'r ddau ar y cyd, fynd i'r llys i gynnig am ddatganiad i...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau newidiadau i Fil ymadael â'r UE Llywodraeth y DU. Fel rhan o'r cytundeb, bydd Llywodraeth y DU yn gofyn i swyddogion y gyfraith wneud cais i'r Goruchaf Lys i ddiddymu'r cyfeiriad a wnaed i'r llys mewn perthynas â Bil parhad Cymru.
Jeremy Miles: Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod hwn yn fater sydd ar feddwl y Llywodraeth mewn sawl ffordd, nid yn lleiaf y ffaith bod maint y ddeddfwriaeth a'r is-ddeddfwriaeth gysylltiedig â Brexit sydd angen mynd ar ei thrywydd a'i gweithredu wedi ei gwneud yn ofynnol i holl Lywodraethau'r DU, a'r holl ddeddfwrfeydd, ddechrau'r gwaith cyn gynted â phosibl. Felly, fel y bydd yr Aelod yn gwybod,...
Jeremy Miles: Er bod y Goruchaf Lys wedi dweud nad yw confensiwn Sewel yn rhwymol yn gyfreithiol, mae hefyd wedi pwysleisio bod y confensiwn yn chwarae rhan sylfaenol yng nghyfansoddiad y DU. Rydym yn disgwyl i'r Senedd barchu ewyllys y Cynulliad, a pheidio â bwrw ymlaen â deddfwriaeth sy'n addasu cymhwysedd y Cynulliad, neu'n effeithio ar faterion datganoledig, heb gydsyniad y Cynulliad.
Jeremy Miles: Roedd dyfarniad Miller yn glir iawn nad oedd confensiwn Sewel yn draddodadwy, ni allai fod yn sail i'r cais yn y llys. Ond roedd hefyd yn glir iawn fod iddo'r pwys gwleidyddol cryfaf posibl, ar wahân i fod ar gael fel sail i gais. Ac fel y soniais yn fy ateb i gwestiwn blaenorol, roedd y Goruchaf Lys yn ystyried honno fel nodwedd barhaol o'r setliad datganoli. Cyn i gonfensiwn...
Jeremy Miles: Bydd yr Aelodau'n gwybod bod nawdd cymdeithasol yn fater a gadwyd yn ôl o dan ein setliad datganoli. Byddai dileu neu addasu'r cymal cadw hwn yn galw naill ai am Ddeddf Senedd y DU neu Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor. Felly byddai angen i Lywodraeth y DU gytuno'r newid hwn.
Jeremy Miles: A gaf fi wneud un pwynt yn glir wrth gyfeirio at y cytundeb? Mae hwn yn gytundeb sy'n dod â mwy o bwerau i'w harfer yng Nghymru nag yn y gorffennol. Nid wyf am weld y syniad yn gwreiddio bod hyn mewn unrhyw ffordd yn gyfystyr â rhoi pwerau yn ôl neu'n ymddiried yn y Ceidwadwyr i beidio â cheisio mwy o bwerau. Mae gwrthdroi cymal 11, a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr...