Andrew RT Davies: Weinidog, yn amlwg, gyda’r cynigion gofal plant y mae’r Llywodraeth yn eu cyflwyno, cafwyd cyflwyniadau gan y Llywodraeth sy’n dweud y byddwch yn defnyddio’r ystad ysgolion mewn rhai agweddau i ddarparu rhywfaint o’r capasiti hwn. A ydych yn rhagweld y bydd goruchwylwyr llanw yn cael eu hannog neu eu hyfforddi i helpu i gefnogi’r Llywodraeth wrth iddynt gyflwyno’r 30 awr o ofal...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Ddoe, Prif Weinidog, darganfuwyd bod pedwar bwrdd iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa o ddiffyg cronig, ac rwy'n credu bod hwnnw'n sylw teg—sefyllfa o ddiffyg cronig. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu llinell yn y tywod gan ddweud na fyddant yn cael eu hachub. Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd na fydd unrhyw wasanaethau yn cael eu colli yn unman yng Nghymru oherwydd diffyg arian....
Andrew RT Davies: Er tegwch, mae Betsi mewn mesurau arbennig, yn cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru, ond ni allwch ysgaru’r gallu i roi arian yn y gwasanaeth iechyd oddi wrth cynnal y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt, ac roedd fy nghwestiwn i chi yn ymwneud â’r gymeradwyaeth o bwynt Ysgrifennydd y Cabinet na fyddai unrhyw wasanaethau yn cael eu colli oherwydd arian. Pan ragwelir y bydd Abertawe...
Andrew RT Davies: Defnyddiais bedwar allan o chwech yn fwriadol, oherwydd, yn amlwg, nid oes gan fwrdd iechyd Powys ysbyty cyffredinol dosbarth yn ei ardal, ac mae pen uchaf gwasanaethau acíwt yn yr ysbytai cyffredinol dosbarth, ac mae’n ymddangos mai’r rheini yw’r byrddau iechyd sy'n amlwg â phroblem fawr o ran diffyg, gan fy mod wedi defnyddio Abertawe Bro Morgannwg gyda diffyg a ragwelir y flwyddyn...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich ymatebion hyd yma. Roedd y lluniau o lawer o'r tanau hyn a ddaeth yn hysbys yn ddramatig, yn yr ystyr waethaf, dros y penwythnos, oherwydd, mae’n amlwg, mae’r perygl i fywyd—nid dim ond i’r dynion a’r menywod tân, yn amlwg, sy'n mynd i ymladd â'r tanau hyn, ond hefyd i’r trigolion wrth ymyl y tanau. Rwy’n cofio’r amser yn dda pryd...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, ar sawl achlysur rwyf wedi codi’r pwynt ynglŷn â chyflwr yr A48 ac, yn benodol, y darn rhwng Croes Cwrlwys a Phen-y-bont ar Ogwr, a hynny heb unrhyw lwyddiant. Ymddengys nad wyf yn cael llawer o ymateb gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â beth fydd eu trefniadau o ran cynnal a chadw. Ond heddiw rydym hefyd wedi cael nodyn atgoffa amserol iawn o'r angen i wneud yn siŵr y caiff...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, bydd cysyniad y fargen ddinesig yn sbarduno cryn dipyn o weithgarwch economaidd ac adfywio, yn ardal Abertawe ac ardal Caerdydd. Gyda bargen ddinesig Caerdydd, mae 10 awdurdod lleol yn rhan o’r cytundeb hwnnw, a llawer ohonynt yn y Cymoedd. Rydym yn mesur llwyddiant, yn amlwg, drwy’r gwerth ychwanegol gros a’r gweithgarwch economaidd a ddaw o’r...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, yn gynharach yr wythnos hon, rhoddwyd cryn sylw i’r ffaith fod pedwar o’r byrddau iechyd yn wynebu heriau ariannol sylweddol, ddwywaith cymaint â’r hyn y mae eu byrddau cyfatebol ar yr ochr draw i Glawdd Offa yn eu hwynebu, a bydd ad-drefnu rhai o’u gwasanaethau wrth reoli’r pwysau cyllidebol hwnnw yn gryn her i lawer o’r byrddau iechyd hyn. Pa...
Andrew RT Davies: A gaf fi nodi pwynt o drefn, Llywydd?
Andrew RT Davies: Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae’n amlwg yn ddiwrnod hanesyddol—y Prif Weinidog yn sbarduno erthygl 50 sy’n cychwyn y broses negodi ffurfiol ar ôl canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin y llynedd. Rwy’n gwrthwynebu eich paragraff sy’n sôn am Lywodraeth Cymru yn cael ei hepgor o’r broses a heb gael ei chynnwys yn y broses negodi. Mae’n rhaid i...
Andrew RT Davies: Rwy’n cofio’n iawn y tro cyntaf i mi gerdded i mewn i’r Siambr hon, yn 2007, ac roedd Claire ar yr ochr arall yn y fan yna, i gymryd llw’r swydd ar gyfer Aelodau oedd newydd eu hethol. Nid oeddwn yn sylweddoli bod y mosaig sydd o’n blaenau yma—Calon Cymru—yno; hoeliais fy llygaid ar glerc y Cynulliad a cherdded yn syth ar draws y mosaig, gan godi braw enfawr ar y...
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prif Weinidog, pam wnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu yr wythnos diwethaf diswyddo cadeirydd Chwaraeon Cymru o ystyried, wrth ei benodi, y dywedwyd wrth y cadeirydd newydd ar y pryd gan gynrychiolydd Llywodraeth Cymru ei fod yn mynd i mewn i amgylchedd gwenwynig ac mai ei gyfrifoldeb ef oedd rhoi sylw i sefydliad camweithredol ac ynysig? A yw eich holl...
Andrew RT Davies: Dywedir wrthyf fod yr adolygiad wedi ei gwblhau, Prif Weinidog, ac, ar 13 Chwefror, diystyrwyd yr holl honiadau a wnaed yn erbyn y cadeirydd ar y pryd gan ddirprwy ysgrifennydd parhaol Llywodraeth Cymru, James Price, a chynigiwyd tri dewis iddo symud y sefyllfa yn ei blaen, pob un ohonynt yn arwain at iddo barhau ei gyfranogiad ar ryw ffurf o fewn Chwaraeon Cymru. Beth ddigwyddodd yn y...
Andrew RT Davies: Mae gen i'r llythyr yn y fan yma—mae ar gael yn gyhoeddus, felly gallwch wneud sylwadau arno—a anfonwyd at James Price ddechrau mis Mawrth sy'n rhestru'n eglur yr honiadau a wnaed yn erbyn y cadeirydd a sut y gwrthodwyd y cyhuddiadau hynny. Ceir rhai honiadau difrifol iawn a wnaed yn erbyn y cadeirydd blaenorol a phrif weithredwr presennol Chwaraeon Cymru hefyd. Mae Chwaraeon Cymru yn...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, yn amlwg, fel y dywedoch, mae allforio anifeiliaid byw o dan amodau penodol iawn ac amddiffyniadau iechyd anifeiliaid llym yn arfer cyfreithlon, ond un peth a fyddai’n gymorth wrth ychwanegu gwerth at dda byw yma yng Nghymru fyddai sicrhau bod gennym sector prosesu cadarn iawn. Mae gallu’r sector gwartheg, er enghraifft, yn gyfyngedig iawn ac mae wedi ei grynhoi mewn...
Andrew RT Davies: Croesawaf ddatganiad y cadeirydd y prynhawn yma. Mae hwn yn rhywbeth a oedd gennym yn ein maniffesto yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn ddiwethaf—cafodd ei wrthod gan bobl Cymru, a dyna pam mai’r Llywodraeth hon sy’n eistedd ar y fainc yma. Ond rwy’n credu bod mater ehangach yma, gyda nifer cynyddol yr apwyntiadau a statws pwerau a chyfrifoldebau cynyddol y sefydliad hwn y tynnodd...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Llywydd. A gaf i yn gyntaf oll groesawu'r clerc newydd i'r Cynulliad? Dyma ei sesiwn cwestiynau i’r Prif Weinidog gyntaf, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf y byddwch chi yn y swydd a wnaed mewn ffordd mor glodwiw gan Claire Clancy. Prif Weinidog, rydych chi newydd ddweud eich bod chi eisiau i gwestiynau gael eu gofyn i chi sy'n...
Andrew RT Davies: Dyna'r ateb rhyfeddaf i mi ei gael gennych yn y chwe blynedd yr wyf i wedi sefyll yma, Prif Weinidog. Gofynnais gwestiwn syml i chi am arian Llywodraeth Cymru a ddefnyddiwyd i brynu cwmni beiciau modur yn Swydd Buckingham a aeth yn fethdalwr—£300,000 y gwnaeth yr archwilydd cyffredinol, mewn adroddiad a gyhoeddwyd ganddo yr wythnos diwethaf—. Ac rydych chi wedi galw am gwestiynau sy'n...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, roedd yr archwilydd cyffredinol yn benodol iawn yn yr hyn yr oedd yn ei ystyried, sef y gyfran hon o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwario hyd yma: £9.3 miliwn. Mae hynny'n swm eithaf sylweddol o arian o safbwynt unrhyw un. Nid oes neb yn dadlau, o bosibl, y gallai'r cynllun cyffredinol gael effaith adfywio enfawr. Ond rydych chi’n atebol am y ffordd y caiff arian ei...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a ellid cael datganiad, os gwelwch yn dda—ac rwy’n credu eich bod yn dirprwyo yn absenoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig—ar y ffordd y darperir y cynllun taliadau sylfaenol yng Nghymru? Rwy’n datgan buddiant, fel partner mewn busnes ffermio ym Mro Morgannwg. Pryder enfawr, nid yn unig ym Mro Morgannwg, ond ledled Cymru, oedd gohirio...