Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn am dosturi. Ac fe wnes i hefyd, yn fy etholaeth fy hun, fynd at grŵp o bobl ddigartref a oedd yn poeni'n fawr y bydden nhw'n cael pabell. Ac roeddwn i'n falch iawn o gael fy sicrhau na fyddai hynny'n digwydd, ond, yn amlwg, rydych chi'n rhoi enghraifft o bryd mae hynny wedi digwydd. Yn amlwg, mae'r ddeddfwriaeth ynghylch digartrefedd,...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, ac, fel chi, nid oeddwn i wedi clywed am y dyn hwn. Roedd yr hyn a oedd i'w weld yn y newyddion ar yr adeg y gwnaeth y stori hon daro'r cyfryngau yn hollol erchyll. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir iawn, iawn bod angen i ni sicrhau ein bod ni'n amddiffyn pob plentyn a pherson ifanc, ac, yn arbennig, bechgyn, rhag niwed a...
Lesley Griffiths: Diolch. Nid ydw i wedi gweld eich gohebiaeth, ond fe allai hynny fod oherwydd bod CNC yn dod o fewn portffolio fy nghyd-Aelod y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, felly efallai ei fod wedi cael ei drosglwyddo draw ati hi. Ond yn amlwg rwy'n ymwybodol iawn o'r ymgynghoriad parhaus gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch eu ffioedd rheoleiddio a thaliadau ar gyfer 2023-24. Rwy'n credu mai holl...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n tybio y bydd y Gweinidog yn ystyried yr adroddiad yr ydych chi'n cyfeirio ato ar hyn o bryd. Byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn ei sesiwn holi ac ateb ein bod ni wedi rhoi arian sylweddol unwaith eto yn ein rhaglenni rheoli risg llifogydd, ac mae'n hynod bwysig bod gan ein hawdurdodau lleol a CNC y staff i allu gweithredu pob cynllun.
Lesley Griffiths: Diolch. Fel y gwyddoch chi, fe wnaeth Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd ar 5 Ionawr yn gysylltiedig â chais cynllunio penodol ar fferm ddofednod, ac mae'r cyfarwyddyd hwnnw yn atal rhoi caniatâd cynllunio tan y bydd Gweinidogion Cymru wedi gallu asesu a ddylai cais cynllunio gael ei alw i mewn ai peidio, a chyfarwyddiadau o'r fath, fel y gwyddoch chi, yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd pan fo...
Lesley Griffiths: O ran eich pwynt cyntaf, byddaf i'n diwygio'r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl. Byddwch chi'n gwerthfawrogi mai dyma'r wythnos gyntaf yr ydym ni nôl ar ôl gwyliau'r Nadolig, ond rwy'n bwriadu parhau i gyflwyno'r ddeddfwriaeth ddiwygiedig honno cyn gynted â phosibl. Yn sicr, nid ydw i'n credu bod hynny'n wir am Gyngor Sir Powys, ond rwy'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu atyn nhw...
Lesley Griffiths: Diolch. Fel y dywedais i, mater i awdurdodau lleol yw hwn. Nid ydw i'n gweld bod hwn yn fater i Lywodraeth Cymru. Byddwn i'n rhoi'r un cyngor i chi ag yr wyf newydd ei roi i James Evans; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod chi'n ei godi gyda'ch awdurdod lleol.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu bod y sefyllfa yr ydych chi'n ei nodi yn wir yn gwbl annerbyniol. Os mai dim ond un aelod o staff sydd, a'i bod ar gyfnod mamolaeth, yna yn amlwg rwy'n gwerthfawrogi na allan nhw gael rhywun i mewn ar fyr rybudd. Fodd bynnag, mae aros am ddwy i dair blynedd am asesiad mor bwysig yn amlwg yn rhy hir. Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog os yw'n ymwybodol o'r mater yr ydych...
Lesley Griffiths: Diolch i chi. Wel, mater i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fyddai hwnnw, ac, fel gwyddoch chi, fe roddwyd ystyriaeth fanwl iawn i'r adolygiad ffyrdd yn ei gyfanrwydd a'r rhaglenni adeiladu ffyrdd, ond fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog—y Dirprwy Weinidog, mae'n ddrwg gennyf—i roi datganiad ysgrifenedig.
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae pedwar newid i'r busnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar lifogydd wedi'r datganiad busnes a'r cyhoeddiad, a bydd datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl hynny i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ei chyfarfod ag undebau llafur y GIG. Er mwyn rhoi amser ar gyfer hyn, mae'r datganiad llafar ar Wcráin...
Lesley Griffiths: O ran eich pwynt cyntaf ynghylch nifer y meddygon teulu, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i wneud llawer iawn o waith i gyflwyno mwy o feddygon teulu dan hyfforddiant bob blwyddyn. Rwy'n credu y gwelwch chi, blwyddyn ar ôl blwyddyn dros y blynyddoedd diwethaf, bod hyn yn sicr wedi bod yn wir. Mae'n amlwg bod y Gweinidog hefyd yn gweithio'n galed iawn ac yn agos...
Lesley Griffiths: Diolch. Er y byddai awdurdodau lleol, rwy'n credu yn gyffredinol, yn dweud bod ganddyn nhw setliad gwell nag yr oedden nhw wedi'i ragweld, yn amlwg mae rhai dewisiadau anodd iawn i'w gwneud gan ein hawdurdodau lleol, ac wrth gwrs, y gwasanaethau nad oes ganddyn nhw gyfrifoldeb statudol amdanyn nhw, yw'r cyntaf bob amser i gael eu hystyried pan ddaw hi at doriadau. Mae'r Dirprwy Weinidog...
Lesley Griffiths: Diolch. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod ni'n edrych ar hyn o bryd ar gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac y bydd pontio o gynllun y taliad sylfaenol i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Un peth yr ydym ni'n ei ystyried o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy yw a ddylai capio taliadau gael ei gyflwyno yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy, er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddosbarthu mewn...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru stori dda iawn i'w hadrodd am y gwelliannau yr ydym ni wedi'u gwneud i nifer fawr o dai o fewn ein stoc dai. Byddwch chi'n ymwybodol bod gennym ni stoc dai hen iawn yma yng Nghymru, ac mae wedi bod angen llawer iawn o waith adnewyddu, yn sicr. Yr hyn sydd gan y Gweinidog yw rhaglen dreigl o gynlluniau y mae hi'n gweithio'n agos gydag awdurdodau...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Pan ddechreuoch chi ofyn y cwestiwn yna i mi, rydych chi'n meddwl yn awtomatig, fel yr ydych chi'n ei ddweud, am fenywod a diogelwch, ond rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei godi am bobl nad ydyn nhw o bosibl mor sicr ar eu traed, fel y mae llawer ohonom ni, hefyd yn gallu peri rhai pryderon gwirioneddol. Yn sicr, fe wnaf i ofyn...
Lesley Griffiths: Diolch. Fy ateb cychwynnol i'ch cais cyntaf yw fy mod i'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystyried gyda'r bwrdd iechyd fanylion y dyfarniad a gafodd ei gyflwyno er mwyn deall pa wersi ehangach y gallai fod angen eu dysgu. Roedd yn destun pryder mawr clywed yr adroddiad hwnnw yr wythnos ddiwethaf am y ddwy nyrs. O ran eich ail bwynt ynghylch costau y mae pobl sy'n...
Lesley Griffiths: Fe wnaf yn sicr fynd yn ôl at yr hyn a ddywedais i wrthych chi ar 15 Tachwedd a siarad â'r Dirprwy Weinidog i weld pryd y gall ef gyflwyno'r datganiad hwnnw.
Lesley Griffiths: Rwy'n cytuno'n llwyr â chi y dylem ni fod yn darparu'r gefnogaeth honno i unrhyw un sydd eisiau cael teulu, ac yn arbennig pobl sydd wedi cael problemau ffrwythlondeb. Gwnaethoch chi grybwyll bod ymgynghoriad, ac rwy'n ymwybodol bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wrthi'n adolygu'r polisi ac yn ystyried sut i gryfhau'r cymorth sy'n cael ei ddarparu ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, fel y cyfeirioch chi ato yn eich cwestiwn, mae yna gytundeb meddygon teulu newydd yn cael ei gyflwyno eleni, ac mae hynny ond yn rhan o'r rhaglen dreigl honno, mewn gwirionedd, o ddiwygio sydd gennym ni yma yng Nghymru o'n gwasanaethau gofal sylfaenol. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyfarwyddwr gofal sylfaenol newydd, a byddwn i'n...
Lesley Griffiths: Fe wnaethoch chi alw am ddatganiad brys, a dydw i ddim o'r farn y byddai hynny'n briodol. Mater i Gyngor Sir Ddinbych yw hwn. Yr hyn y byddwn i'n cytuno ag ef yw mai bod â chymaint o dryloywder â phosibl, rwy'n credu, yw'r ffordd ymlaen i bob awdurdod lleol yng Nghymru o ran gwneud eu penderfyniadau.