Suzy Davies: Rydym ni’n troi nawr at y cwestiynau amserol. Mae cwestiwn 1 [TAQ(5)0193(HWS)] wedi’i dynnu’n ôl, felly cwestiwn 2—Steffan Lewis.
Suzy Davies: Thank you.
Suzy Davies: Eitem 4 yw’r datganiad 90 eiliad. Jayne Bryant.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau. Os nad oes unrhyw wrthwynebiad, yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 ac 12.40, rydw i’n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio i’w trafod ac i bleidleisio arnyn nhw.
Suzy Davies: Galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion. Paul Davies.
Suzy Davies: Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bethan Jenkins. Galwaf ar Bethan Jenkins i wneud y cynnig.
Suzy Davies: Rwyf am fod mor hael â siaradwyr eraill ag y bûm gyda David Melding. Caroline Jones.
Suzy Davies: Diolch. Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans.
Suzy Davies: Diolch. Galwaf ar Bethan Jenkins i ymateb i’r ddadl.
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi’r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: prosiectau adfywio, a galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf welliannau’r Ceidwadwyr Cymreig yn enw Paul Davies. A diolch, hefyd, i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw ac am gomisiynu’r adroddiad y cyfeirir ato yn y cynnig. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae’r adroddiad wedi dylanwadu ar waith y Gweinidog. Ac, wrth gwrs, mae angen clywed gan y Gweinidog ar hyn, achos mae awdurdodau lleol yn paratoi eu...
Suzy Davies: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Bu dros dri mis nawr ers i’r cytundeb gael ei lofnodi rhyngoch chi a Phrif Weinidog y DU, ond, hyd y deallaf, nid yw’r strwythur llywodraethu wedi ei ddatrys o hyd. Rwy'n credu bod angen i waith symud ymlaen nawr ar gyflawni’r prosiectau hynny sydd werth £1.3 biliwn i'r ardal leol a thu hwnt, gyda phwyslais cryf ar fasnacheiddio a datblygiad...
Suzy Davies: Diolch i chi, Weinidog, am y datganiad heddiw. Y datganiad cyntaf—ac mae’n siŵr y byddwn yn cael cymaint o’r rhain, achos mae hyd a bywyd y strategaeth yn hir iawn. Mae’n rhaid imi ddweud, rwy’n licio’r neges sylfaenol, sef bod y strategaeth yma i’n huno ni yn lle ein rhannu ni, achos rydym i gyd yn gwybod am sut mae’r iaith wedi cael ei defnyddio gan bobl wahanol dros y...
Suzy Davies: Fel y gwyddoch, efallai, Ysgrifennydd y Cabinet, mae ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ym Metws, rhan ddifreintiedig iawn o etholaeth Ogwr. Tybed pa mor glir yw hi y gellir defnyddio’r grant datblygu disgyblion i wella sgiliau dysgu Cymraeg, os mynnwch, ar gyfer disgyblion o gefndiroedd Saesneg eu hiaith, sydd mewn gwirionedd yn ei gwneud yn haws i’r teuluoedd hynny ddewis addysg cyfrwng...
Suzy Davies: Crybwyllodd Rhianon Passmore y gronfa waddol genedlaethol, wrth gwrs, ac yn ôl ym mis Chwefror pan gyhoeddoch hyn, wrth ateb fy nghwestiwn ynglŷn ag a fyddai’r gronfa’n arwain at ddargyfeirio’r gefnogaeth oddi wrth wasanaethau cerddoriaeth craidd ac i’r gronfa newydd hon, fe ateboch eich bod yn ymwybodol o’r ffaith y gallai hynny olygu dargyfeirio ac y byddai’n rhaid inni fod yn...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pen-blwydd hapus iawn yn ddeg ar hugain i Gyfeillion Rhaeadr Aberdulais. Efallai fod yr aelodau eisoes yn gwybod am y trysor cudd poblogaidd hwn yn fy rhanbarth. Agorwyd y gwaith tun yn 1584—efallai mai dim ond Neil Hamilton a all gofio hynny, cofiwch—i doddi copr ar gyfer gwneud darnau arian i dalu am longau rhyfel i...
Suzy Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf ddiolch hefyd i Adam am ddod â’r cynllun newydd yma cyn toriad yr haf? Hoffwn hefyd estyn fy niolch i staff y Comisiwn, sydd wedi gweithio mor galed i weithredu’r cynllun blaenorol ac i baratoi yr un newydd. Hoffwn ddechrau gyda’r adroddiad cydymffurfio blynyddol, os yw hynny’n ocê. Nid oes llawer ynddo am gwynion cydymffurfio, felly rwy’n tybio na...
Suzy Davies: Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y ddeiseb hon mewn gwirionedd, oherwydd mae gennyf ddiddordeb yn y ffaith nad yw polisi cynllunio cenedlaethol presennol Cymru yn cael ei ddehongli eisoes mewn ffordd sy’n diogelu lleoliadau sydd eisoes wedi’u clirio gan y drefn gynllunio ac iechyd yr amgylchedd fel rhai nad ydynt yn creu lefelau sŵn uwch na’r hyn sy’n dderbyniol. Dyma fusnesau sydd eu...