Canlyniadau 321–340 o 2000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Defnyddio Technoleg i wneud Cyfreithiau Gwell ( 2 Mai 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. rwyf wedi dechrau ystyried sut y gellid defnyddio technoleg i'n helpu i wneud cyfraith Cymru yn haws i ddod o hyd iddi a'i deall. Cefais gyfarfod yn ddiweddar â'r Archifau Gwladol a barnwr Goruchaf Lys British Columbia i drafod cyfraith fel math o ddata a sut y gallai deallusrwydd artiffisial wneud y gyfraith yn fwy hygyrch ac yn haws ei gweinyddu.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Defnyddio Technoleg i wneud Cyfreithiau Gwell ( 2 Mai 2018)

Jeremy Miles: Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae'n codi nifer o bwyntiau diddorol iawn. Ceir her a chyfle sylfaenol i'r sector gwasanaethau cyfreithiol ar draws y byd yn y mathau o bethau y mae'n eu disgrifio, o ran creu contractau clyfar, ond hefyd, fel y mae ei gwestiwn yn awgrymu, yn y gallu i ymchwilio darnau enfawr o ddata a chyfraith a chyfraith achosion mewn ffordd gadarn a dibynadwy. Fel...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Bargeinio Cyflog Mewn Gweithleoedd ( 6 Meh 2018)

Jeremy Miles: Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y Prif Weinidog wedi lansio'r Comisiwn Gwaith Teg yn ddiweddar, sy'n adeiladu ar waith y bwrdd gwaith teg, a nododd hawl i gael eich clywed drwy gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yn y gweithle fel egwyddor allweddol. Bydd gwaith y comisiwn yn adeiladu ar hynny ac yn edrych yn agosach ar y dulliau sydd ar gael i ni allu sicrhau gwaith teg yng Nghymru.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Bargeinio Cyflog Mewn Gweithleoedd ( 6 Meh 2018)

Jeremy Miles: Rwy'n croesawu gwaith TUC Cymru mewn perthynas â hyn, a'r gwaith y maent yn ei gynllunio gyda'r cyn-Gwnsler Cyffredinol Mick Antoniw. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda TUC Cymru yn rheolaidd mewn perthynas â'n hymrwymiad ar y cyd i wella amodau gwaith ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys mewn perthynas â mynediad at waith. Bydd wedi clywed y datganiad a wnaeth...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ( 6 Meh 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r cytundeb rhynglywodraethol ar y Bil ymadael â'r UE, a gytunwyd gyda Llywodraeth y DU ar ddiwedd mis Ebrill, yn darparu sail gadarn ar gyfer ein perthynas waith yn y dyfodol. Mae'r cytundeb yn parchu confensiynau cyfansoddiadol sefydledig, ac yn unol â'r rheini, ceir ymrwymiad gan bob ochr i geisio symud ymlaen drwy gytundeb.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ( 6 Meh 2018)

Jeremy Miles: Wel, rwy'n anghytuno â rhagdybiaeth yr Aelod na fydd angen cydsyniad y Cynulliad hwn ar y materion a fydd yn destun trafodaethau fframwaith rhwng y Llywodraethau. Fel y gŵyr o ddatganiadau blaenorol a wnaed gan Lywodraeth Cymru, bydd pwerau ychwanegol yn dod i'r Cynulliad hwn o ganlyniad i'r cytundeb a sicrhawyd gan y Llywodraeth, a cheir mecanwaith cydsyniad a nodir yn y cytundeb...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Prynu Gorfodol Tir sy'n Eiddo i Lywodraeth Cymru ( 6 Meh 2018)

Jeremy Miles: Mae fy swyddogion wedi ystyried y cwestiwn hwn. Y sefyllfa yw y caiff tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ei gyfrif fel tir y Goron, ac felly nid oes modd i gorff arall y Goron ei gaffael o dan bwerau gorfodol heb ganiatâd Llywodraeth Cymru. 

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Prynu Gorfodol Tir sy'n Eiddo i Lywodraeth Cymru ( 6 Meh 2018)

Jeremy Miles: Rydw i'n ceisio ateb cwestiynau pan rydw i'n gallu, gyda llaw. Mae pwerau sydd ar gael i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol brynu yn orfodol yn deillio o Ddeddfau, ac nid oes dim yn y Ddeddf sy'n berthnasol yma—nid oes pwerau sy'n ymestyn at dir y Goron. Ond, ar ddiwedd y dydd, mae'r math yma o gwestiwn yn codi yn y llysoedd yn aml, a'r hyn sy'n bwysig cofio yw, petasai cynnig yn dod i brynu'n...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Cyfreithiau yng Nghymru ( 6 Meh 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae cymhwyso Deddfau'r Cynulliad ac is-offerynnau Cymreig y Goron yn fater sy'n ffurfio rhan o ymgynghoriad y Llywodraeth ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 12 Mehefin, a buaswn yn annog Aelodau i ymateb os nad ydynt eisoes wedi gwneud.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Cyfreithiau yng Nghymru ( 6 Meh 2018)

Jeremy Miles: Mae'n fater rwy'n ymgynghori yn ei gylch, a chredaf ei fod yn fater sy'n deilwng i ni ei ddilyn. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed barn yr ymgynghoreion ar y mater. Mae hwn yn gam a gymerwyd, er enghraifft, yn yr Alban yn 2010. Fel y dywed yr Aelod yn gywir, â siarad yn gyffredinol, y sefyllfa ddiofyn yw nad yw Deddf yn rhwymo'r Goron oni bai ei bod yn nodi'n benodol ei bod yn gwneud...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Cyfreithiau yng Nghymru ( 6 Meh 2018)

Jeremy Miles: Fel mae'r Aelod yn gwybod, rwyf newydd ateb y cwestiwn ynglŷn â'r ymgynghoriad ar Ddeddfau Cymru yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at gael ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw wrth yr Aelod, a fydd yn rhoi cyfle i fi gysidro ymhellach yr hyn y mae e wedi ei ddweud.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Cyfreithiau yng Nghymru ( 6 Meh 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw a'r cyfle i egluro'r ateb a roddais. Ni fyddai dirymu'r rhagdybiaeth ddeddfwriaethol, a nodir gan yr ymgynghoriad, yn effeithio ar y sefyllfa a ddisgrifiais i Bethan Sayed. Ni fyddai'r Bil yn newid ystyr y term 'Coron', er enghraifft, ac ni fyddai'n effeithio ar gyfraith bresennol. Os caf ailadrodd: mae'n dirymu'r rhagdybiaeth, fel y bydd yn rhaid i'r...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyfeiriad y Goruchaf Lys: Bil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) ( 3 Gor 2018)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar 7 Mehefin, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn dweud fy mod i wedi gwneud cais i'r Goruchaf Lys am ganiatâd i gymryd rhan yn atgyfeiriad Bil Ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban). Rwyf wedi derbyn cadarnhad bod modd i mi, ynghyd â Thwrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon, gymryd rhan, sy'n golygu y bydd dadansoddiad a...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyfeiriad y Goruchaf Lys: Bil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) ( 3 Gor 2018)

Jeremy Miles: Yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni gan yr holl bartïon i'r trafodion, ffeiliais fy achos ysgrifenedig â'r Goruchaf Lys ddydd Gwener yr wythnos diwethaf. Gadewch imi fod yn glir: nid yw cyfranogiad Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'n Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018. Fel y gwyddoch, drwy'r newidiadau i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a chytundeb...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyfeiriad y Goruchaf Lys: Bil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) ( 3 Gor 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am hynny ac am ei sylwadau. Byddwn yn dweud fy mod yn credu bod hwn, fel y mae'n ei ddweud yn ei gwestiwn, yn llwybr, sydd, yn amlwg, wedi'i bennu mewn statud er mwyn egluro materion o gyfraith gyfansoddiadol. Nid oedd y rheswm am yr ymyriad yn ymwneud mewn gwirionedd ag agweddau penodol ar Fil yr Alban. Yn amlwg, mater i Arglwydd Adfocad yn yr Alban yw gwneud yr achos er...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyfeiriad y Goruchaf Lys: Bil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) ( 3 Gor 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am sawl sylwad ar feysydd eang, a'r cwestiwn ar y diwedd. Fe wnaf i drio sicrhau fy mod yn cyfeirio fy ateb at y prif bwyntiau a wnaeth. Wrth gwrs, rwy'n derbyn mai cydsyniad Senedd yr Alban, nid y Llywodraeth, oedd y cwestiwn.  Mae'r datganiad yma'n gyfle i fi fod yn eglur nad o blaid achos Llywodraeth y Deyrnas Unedig mae Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau yma. Fe...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyfeiriad y Goruchaf Lys: Bil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) ( 3 Gor 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y sylwadau hynny. Credaf mai holl bwynt datganoli yw galluogi gwahanol rannau o'r DU gyrraedd canlyniadau gwahanol a gwahanol gasgliadau ynghylch sut i fynd ati gyda'r math hwn o gwestiwn, a dyna beth ddigwyddodd, yn y pen draw, yn yr achos hwn. Cymerodd Llywodraeth yr Alban, Senedd yr Alban, farn wahanol yn y pen draw i'r hyn y gwnaethom ni yma yng Nghymru, ac mae hynny...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyfeiriad y Goruchaf Lys: Bil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) ( 3 Gor 2018)

Jeremy Miles: Wel, mae Llywodraeth yr Alban wedi mynegi ei bod yn awyddus i gymryd rhan lawn yn y trafodaethau fframwaith cyffredin hynny beth bynnag, felly, yn ymarferol, bydd hynny ar gael fel mecanwaith ar gyfer pob rhan. Yn amlwg, bydd y Ddeddf tynnu'n ôl yn gymwys i bob rhan o'r DU, i ddweud yr hyn sy'n amlwg. Fel y mae pethau heddiw, nid oes unrhyw Ddeddf mewn grym yn yr Alban sy'n torri ar draws...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Gamblo Cymhellol ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Mae grŵp trawslywodraethol o swyddogion yn gyfrifol am ddatblygu dull gweithredu strategol i leihau niwed sy’n gysylltiedig â gamblo. Ar hyn o bryd mae’r grŵp wrthi’n ystyried argymhellion adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol, a bydd y grŵp yn cydlynu camau gweithredu ac yn nodi gweithgarwch newydd sy’n ofynnol, gan gynnwys unrhyw alwadau am gamau pellach sy’n ofynnol ar...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Gamblo Cymhellol ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Diolch am y cwestiwn pellach. Fel Llywodraeth, rŷm ni'n gweithio ar draws portffolio i sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn y gallwn i daclo'r broblem hon, sydd yn broblem iechyd ac sy'n broblem eang. Mae'r prif swyddog meddygol yn arwain llawer iawn o'r gwaith hwnnw. Fel, efallai, y bydd yr Aelod yn gwybod, mae ymgynghoriad ar hyn o bryd ynghylch newidiadau i'r system gynllunio a fydd yn...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.