Andrew RT Davies: Yn amlwg, gyda’r etholiadau llywodraeth leol yfory, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n mawr obeithio y bydd pobl yn pleidleisio dros y Ceidwadwyr. Fe fyddwch chi’n dweud eich bod yn mawr obeithio y bydd pobl yn pleidleisio dros y Blaid Lafur. Ond gwyddom mai’r hyn sydd dan sylw yw bargen ddinesig sydd angen, yn amlwg, i’r holl bartneriaid weithio er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Llywydd. Yr wythnos diwethaf yn y newyddion, Prif Weinidog, codwyd pryderon difrifol am adroddiad Tawel Fan a'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran y system adrodd ynghylch ‘trychineb’ Tawel Fan—y byddwn i’n ei alw—lle’r oedd pobl, fel y soniodd yr adroddiad blaenorol, yn cael eu trin fel anifeiliaid, a datgeliadau syfrdanol eraill. Roedd teuluoedd yn dangos pryder...
Andrew RT Davies: Wel, mae pennaeth y cyngor iechyd cymuned yn credu ei fod yn briodol, ac, i ddefnyddio ei eiriau, fel y Gallai atal yr arfer hwn mewn mannau eraill. Rydym ni’n gwybod bod yr adroddiad hwnnw ar gael; mae wedi ei gwblhau. Rydych chi’n gwario £5 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn rhedeg Betsi Cadwaladr gan ei fod yn destun mesurau arbennig, felly chi sy’n gyfrifol. Pan fydd teuluoedd a...
Andrew RT Davies: Rwy’n siomedig iawn nad ydych chi’n fodlon rhoi arwyddion pendant o bryd y bydd yr adroddiad hwnnw ar gael. Fel y dywedais, nid gwleidydd yw hwn sy’n dweud y dylai'r adroddiad hwn fod ar gael; pennaeth y cyngor iechyd cymuned yn y gogledd yw hwn, ynghyd ag aelodau'r teuluoedd a chlinigwyr. Felly, byddwn yn ddiolchgar, os nad ydych mewn sefyllfa i roi syniad o'r amserlen heddiw gan fy...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, rwy'n siwr y byddwch yn ymuno â mi wrth longyfarch y cynghorwyr lleol niferus sydd wedi eu hethol ar hyd a lled Cymru, yn enwedig y rhai sydd wedi eu hethol ym Mro Morgannwg, ac yn enwedig y Ceidwadwyr, sef y grŵp mwyaf yn y Cyngor penodol hwnnw bellach, ac sydd, gobeithio, yn edrych ymlaen at bum mlynedd cyffrous ym Mro Morgannwg. Un o'r materion y—[Torri ar draws.] Un...
Andrew RT Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig ar y papur trefn yn enw Paul Davies yn ffurfiol, cynnig sy’n canolbwyntio ar yr arweinyddiaeth gref a chadarn sydd ei hangen ar y wlad hon er mwyn parhau â’i ffyniant economaidd; yn gresynu at gefnogaeth gyhoeddus y Prif Weinidog i fenthyca £500 biliwn yn ychwanegol ar gerdyn credyd y wlad a fyddai’n peryglu dyfodol economi Cymru; ac sy’n...
Andrew RT Davies: Wel, os gallaf ymdrin â’r gwelliannau yn gyntaf, Mike, ac fe fyddaf yn falch o gymryd yr—. Darllen yr hyn a oedd ar y papur trefn yn unig yr oeddwn yn ei wneud ar y cam hwnnw, i fod yn onest, gydag ychydig o sylwadau bachog. Ni fyddwn yn derbyn y gwelliannau, ac ni fydd hynny’n syndod. Mae gwelliant ‘dileu popeth’ y Llywodraeth yn codi cwestiwn ynglŷn â phwy a ysgrifennodd y...
Andrew RT Davies: Un glymblaid o anhrefn sydd ar y papur pleidleisio ar gyfer 8 Mehefin, Mike, fel y gwyddoch yn iawn, sef y glymblaid o anhrefn a fyddai’n cael ei harwain gan Jeremy Corbyn a’r canlyniadau dinistriol, yn economaidd ac i ddyfodol y Deyrnas Unedig. Ac wrth gwrs, rydych yn rhan o glymblaid gyda’r cenedlaetholwyr a chyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, fel y gwelsom, ers mis Mai diwethaf. Mae...
Andrew RT Davies: Pan edrychwch ar yr hyn sy’n dod o’r Comisiwn Ewropeaidd, mae negodi’n golygu dau barti’n trafod er mwyn sicrhau’r fantais orau iddynt. Mae’n ffaith fod gan yr UE fel y mae ar hyn o bryd 27 aelod yn y trafodaethau hynny. Rydym ar yr ochr arall i’r bwrdd hwnnw. Wrth gwrs, maent yn mynd i uno ar safbwynt negodi. Pwy hoffech ei weld yn trafod y strategaeth honno ar ran Prydain? A...
Andrew RT Davies: Byddwn yn ddiolchgar pe gallech—oherwydd rydych yn amlwg wedi gwneud ymchwil ar hyn—enwi un ariannwr, un person sy’n deall dyled gyhoeddus, a fyddai’n cefnogi’r polisi hwn o roi £500 biliwn arall ar gerdyn credyd y Deyrnas Unedig. Clywais yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ac nid yw’r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn cefnogi’r polisi hwnnw.
Andrew RT Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Andrew RT Davies: Rwy’n ystyried hynny’n eironig. Un funud rydych yn lladd arnom am galedi, a’r funud nesaf rydych yn dweud ein bod yn benthyca gormod, ydych, yn y fan honno, ond clywsom gan y prif siaradwr ar ran Plaid Cymru am Gymru nad yw’n debyg mewn unrhyw fodd i’r Gymru roeddech chi’n sôn amdani, Ysgrifennydd y Cabinet. Pwy sy’n iawn? Chi neu ef?
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Llywydd. A gaf i groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig yr wyf yn falch o’i gweld yn ôl yn y Siambr? Dymunaf yn dda i chi, gobeithio, wrth wella o’r godwm a gawsoch yn ddiweddar, Ysgrifennydd y Cabinet. Prif Weinidog, dywedasoch ddiwedd mis Ebrill fod angen i Jeremy Corbyn brofi ei hun os oedd eisiau dod yn Brif Weinidog y DU ar ddiwedd yr etholiad...
Andrew RT Davies: Mae’n debyg, Prif Weinidog, nad rhoi ateb plaen yw’r ddadl gryfaf o’ch safbwynt chi, i fod yn deg, fel y bydd unrhyw un sydd wedi gofyn cwestiwn i chi yn y Siambr hon yn dyst iddo. Ond, yn y maniffesto a gyhoeddwyd gan y Blaid Lafur heddiw, mae'n sôn am ddiddymu ffioedd dysgu, ac eto dywedodd eich Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yr wythnos diwethaf nad ffioedd dysgu yw’r broblem...
Andrew RT Davies: Yn yn ôl yr arfer, rydych chi’n teilwra’r dyfyniad, ac aeth yn ei blaen i ddweud gwaith pa mor dda yr wyf yn ei wneud [Chwerthin.] Ond, os edrychwch chi ar y cynnig ar 8 Mehefin, mae'n gynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw i ddiddymu tollau pont Hafren a rhoi hwb mawr o £100 miliwn i economi Cymru. £100 miliwn yn erbyn yr anllythrennedd cyllidol yr ydym ni’n ei weld gan y Blaid...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy, wrth gwrs, fynegi ein cydymdeimlad dwysaf â Julie, sydd gyda ni yma heddiw, a gweddill ei theulu, sydd yn yr oriel rwy’n credu, ar ran y grŵp Ceidwadol ac ar fy rhan fy hunan yn bersonol. Rwy’n cofio’n dda y tro cyntaf—ac fe wnes i’r sylw hwn yr wythnos diwethaf— i mi gwrdd â Rhodri ac roedd e’n brysur yn codi baricêd yn ei...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Llywydd. Os caf i, Llywydd, ni chymeraf fy nhri chwestiwn heddiw, o ystyried fy mod i’n credu bod angen i ni sefyll ysgwydd yn ysgwydd a gwrthwynebu’r weithred hon o anfadwaith y gyflafan hon a ddigwyddodd ym Manceinion neithiwr. Fel tad, ni allaf feddwl am unrhyw beth mwy arswydus na chael eich gwahanu oddi wrth eich plant, cael eich gwahanu oddi wrth eich anwyliaid, yn y...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, croeso’n ôl i’r Siambr. Mae’r pwynt ynglŷn â 2,000 o bobl yn marw cyn pryd yng Nghymru oherwydd ansawdd aer gwael—mae hynny’n bump o bobl bob dydd—yn sicr yn un o’r heriau, un o’r problemau mwyaf sy’n ein hwynebu o ran iechyd y cyhoedd. Rwyf wedi gwrando ar nifer o’ch atebion a chroesawaf y camau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd ar draws y...
Andrew RT Davies: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am dderbyn yr ymyriad ac yn arbennig, ei bwyslais ar Gymru gyfan—canolbarth a gogledd Cymru yn ogystal. Os caf dynnu ei sylw’n ôl at dde-ddwyrain Cymru, mae’n newyddion gwych fod y Ceidwadwyr—ac yn wir, rwy’n meddwl bod consensws bellach, yn wleidyddol, ar draws y pleidiau fod angen dileu tollau ar bont Hafren. Ond mae yna broblem go iawn, fel y...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaethoch am y trychinebau yn Llundain yn gynharach yn yr wythnos? Yn amlwg, rydym ni’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â dinasyddion Llundain a Manceinion, ac, yn y pen draw, trwy fwrw ymlaen â’n ffordd arferol o fyw, rydym ni’n trechu’r terfysgwyr hyn—y llabystaid hyn—sy'n achosi trychinebau mor...