Sam Rowlands: Ai ymyriad yw hwnnw, Ddirprwy Lywydd? [Chwerthin.]
Sam Rowlands: Diolch yn fawr iawn. Yn ogystal â hyn, mae dadansoddiad a gyflawnwyd gan y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes yn dangos y gallai porthladd rhydd Ynys Môn ddod â hyd at 13,000 o swyddi i ogledd Cymru dros gyfnod o 15 mlynedd. Gallai hefyd godi cynnyrch domestig gros ar draws y DU erbyn 2030. Hefyd, mae Stena Line, fel y soniwyd eisoes, yn dweud y byddai statws porthladd rhydd yn...
Sam Rowlands: Gwnaf, yn sicr.
Sam Rowlands: Gyda phob cynnig, mae pethau anodd i ymdrin â hwy yn fy marn i, ond nid yw'r cyfleoedd yma'n cael eu cydnabod gan y meinciau ar ochr arall i'r Siambr ychwaith—nid yw'r cyfleoedd ar gyfer creu swyddi'n cael eu cydnabod, nid yw'r swyddi newydd, y busnes newydd a'r arloesedd newydd yn cael eu cydnabod ar yr un lefel neu'n cael eu bachu'n frwdfrydig. Os na wnawn ni hynny yma yng Nghymru, rwy'n...
Sam Rowlands: Fel rydych chi wedi ei nodi, Gweinidog, mae'r cynghorau hynny yng Nghymru yn ymgeisio'n llwyddiannus ar gyfer yr 11 prosiect hynny â gwerth £200 miliwn o gyllid, rwy'n siŵr, i'w groesawu gan lawer o gymunedau ac yn mynd i fod yn drawsnewidiol i bobl ar hyd a lled Cymru. Yn ehangach, wrth gwrs, derbyniodd Cymru dair gwaith y cyllid y pen na de-ddwyrain Lloegr—yr ardal uchaf fesul pen o...
Sam Rowlands: Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ddatganiad heddiw, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n siomedig, pan oedd y datganiad yn cael ei ddarllen, nad oedd copi o'r adolygiad ffyrdd ar gael i ni. Felly, o ran gallu gwneud cyfraniad ystyrlon heddiw mewn ymateb i'ch datganiad, fe wnaeth hynny hi'n anodd iawn i lawer o Aelodau yn y Siambr hon. Mae hon yn ddogfen o 327 tudalen erbyn hyn, ac roeddech...
Sam Rowlands: Fe fyddaf i'n siŵr o wneud. Pa sicrwydd y gallwch chi eu rhoi i fy nhrigolion yn y gogledd y byddan nhw'n cael cyfran deg o fuddsoddiad trafnidiaeth gyhoeddus, nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd, yn amlwg iawn?
Sam Rowlands: Rwy'n ddiolchgar fy mod yn gallu cymryd rhan yn y ddadl hynod bwysig hon heddiw ar y cynnig ar yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Hoffwn atgoffa Aelodau o fy nghofrestr buddiannau mewn perthynas ag ymddiriedolwyr elusennau. Yn gyntaf, rwyf am adleisio sylwadau a wnaed o bob rhan o'r Siambr wleidyddol heddiw. Maent yn dangos undod gyda phobl Wcráin, ynghyd â phawb sy'n...
Sam Rowlands: Rwy'n ddiolchgar i Ken Skates am gyflwyno cwestiwn pwysig heddiw. Hoffwn adleisio'r sylwadau a wnaed ganddo, a gennych chithau hefyd, Prif Weinidog, o ran y warant i bobl ifanc, rhywbeth yr ydym ni, ar yr ochrau hyn i'r meinciau, wedi bod yn ei gefnogi. Wrth gwrs, fel y gwnaethoch chi ei amlinellu, mae'n gynnig sydd yno i bawb dan 25 oed—y cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu...
Sam Rowlands: Diolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno datganiad heddiw ar strategaeth sgiliau sero net Llywodraeth Cymru a'r cynllun gweithredu hefyd. Gweinidog, fe fyddwch chi'n falch o glywed i mi gael y pleser, yr wythnos diwethaf, o fod yn bresennol yn nigwyddiad Growth Track 360 yn senedd San Steffan, gan ymuno gyda nifer o Aelodau'r Senedd hon, Aelodau o Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi hefyd, ac...
Sam Rowlands: Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am gyflwyno'r datganiad heddiw a hefyd am gyfarfod ag Aelodau o'r Senedd y gogledd ddoe? Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi cymryd yr amser hwnnw. Ond hoffwn i ategu'r sylwadau a gafodd eu gwneud gan gyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr, yn bennaf oll, oherwydd, fel y maen nhw eisoes wedi'i amlinellu, mae'n amlwg nad yw tîm gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol...
Sam Rowlands: 2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd canlyniadau'r adolygiad ffyrdd yn ei chael ar hybu ffyniant a mynd i'r afael â thlodi yng ngogledd Cymru? OQ59168
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae bron bob prosiect adeiladu ac uwchraddio ffyrdd mawr ledled gogledd Cymru wedi cael ei atal gyda'r adolygiad ffyrdd hwn, sy'n eithaf syfrdanol i fy nhrigolion yng ngogledd Cymru. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud tro gwael unwaith eto â'r cymunedau a'r trigolion rwy'n eu cynrychioli. Weinidog, trafnidiaeth breifat ar y ffordd yw’r...
Sam Rowlands: Diolch i chi, Gweinidog, a Llywodraeth Cymru hefyd am gyflwyno'r drafodaeth heddiw ar y setliad llywodraeth leol 2023-24, y mae cynghorau a chynghorwyr ar hyd a lled Cymru wedi bod yn aros yn eiddgar amdano wrth gwrs, oherwydd rydym yn gwybod bod y setliad llywodraeth leol hwn yn hanfodol bwysig i'n cynghorau a'n cynghorwyr, sy'n gwneud cymaint wrth ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae ein...
Sam Rowlands: 6. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r effaith y bydd cyfyngiadau cyflymder diofyn o 20 mya yn ei chael ar economi Cymru? OQ59212
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n siŵr fod y sgyrsiau rheolaidd hynny'n bleserus. Rydych yn sôn am fanteision 20 mya i fusnesau a'r economi, ond wrth gwrs fe fyddwch yn gwbl ymwybodol o'ch memorandwm esboniadol eich hun ar y Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022, ac ar dudalen 32 o'r memorandwm esboniadol hwnnw, Weinidog, mae'n dweud: 'Yn gyffredinol,...
Sam Rowlands: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at ddeintyddion yng ngogledd Cymru? OQ59211
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fel un o'r bobl sydd heb gofrestru gyda deintydd GIG yng ngogledd Cymru, yr wythnos diwethaf, penderfynais gysylltu â phob deintyddfa yn y gogledd ar wefan y bwrdd iechyd i weld a fyddent yn fodlon derbyn claf newydd fel fi. Cysylltais â 69 o ddeintyddfeydd, siaradais â 57 o'r practisau hynny, ac yn syfrdanol, dim ond pedwar o'r practisau yng ngogledd Cymru...
Sam Rowlands: A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am gyflwyno'r drafodaeth heddiw ar yr adolygiad ffyrdd, a hefyd i Natasha Asghar am agor y ddadl heddiw? Mae'n amlwg, o'n hochr ni i'r meinciau yma, ein bod ni'n credu bod adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru yn un difeddwl a dweud y lleiaf. Yn fy nghyfraniad heddiw, hoffwn dynnu sylw yn gyntaf at yr effaith y bydd yr adolygiad hwn yn ei chael...
Sam Rowlands: Gwnaf, Llyr.