Lesley Griffiths: Diolch. Dydw i ddim yn credu bod y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwybodol o'r mater penodol yr ydych chi'n ei godi, ac rwy'n credu y byddai'n dda iawn pe gallech chi ysgrifennu ati, ac fe wnaiff hi yn sicr edrych i mewn i'r hyn a oedd, yn amlwg, yn sefyllfa bryderus iawn yr oeddech chi'n ei hamlinellu. O ran gwasanaethau bysiau, byddwch yn ymwybodol ein bod ni, ledled...
Lesley Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ac i gynnig y cynnig a'r penderfyniad ariannol. Mae'r Bil yn gam cyntaf pwysig yn ein cynlluniau ar gyfer diwygio amaethyddol. Dyma'r cyntaf o'i fath i Gymru, ac mae'n bolisi wedi'i lunio yng Nghymru sydd wedi'i gynllunio i gefnogi blaenoriaethau Cymru. Mae gan ffermwyr Cymru...
Lesley Griffiths: Gan droi at yr argymhellion gan y pwyllgorau, o ystyried natur fanwl adroddiadau'r pwyllgor a nifer yr argymhellion a wnaed—84 i gyd—nid yw'n bosibl ymateb i bob un ohonyn nhw'n unigol yn yr amser sydd ar gael heddiw. Rwyf eisoes wedi darparu ymateb ysgrifenedig i adroddiad y Pwyllgor Cyllid cyn y ddadl heddiw, a byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r...
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'n fawr yr holl sylwadau sydd wedi'u gwneud gan Aelodau heddiw a'r ysbryd y maen nhw wedi'u gwneud ynddo. Rwyf wedi nodi heddiw pam fy mod yn credu bod y Bil hwn yn gam pwysig wrth ddiwygio'r byd amaethyddol yma yng Nghymru ac rwyf wedi gwrando'n astud iawn ar farn ac argymhellion y tri phwyllgor ac, wrth gwrs, yr Aelodau eraill hefyd. Mae'r Bil yn darparu'r...
Lesley Griffiths: Nodaf yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud ac mae diffinio rheoli tir yn gynaliadwy wrth gyfeirio at yr amcanion a'r ddyletswydd yn rhoi sicrwydd rwy'n credu wrth lunio camau posibl i gyd-destun penodol rheoli tir o fewn Cymru. Soniodd Huw hefyd ei fod yn Fil fframwaith, eang, ac, unwaith eto, gallwn gyfeirio at y weithdrefn gadarnhaol ar gyfer gwaith craffu'r Senedd pan wneir rheoliadau er mwyn...
Lesley Griffiths: Mae gwaith dadansoddi yn dangos bod yr argyfwng costau byw yn fwy tebygol o effeithio ar deuluoedd â phlant, yn enwedig plant o aelwyd sydd â nodweddion gwarchodedig. Rydyn ni'n cynorthwyo pobl ifanc a'u teuluoedd trwy fentrau, gan gynnwys ein cynnig gofal plant, cymorth gyda chostau ysgol, prydau ysgol am ddim, a'n gwarant i bobl ifanc.
Lesley Griffiths: Ie, byddwn i'n cytuno'n llwyr â chi. Rydyn ni'n gwybod na ddylai unrhyw blentyn fod yn llwglyd, a dylai awdurdodau lleol ac ysgolion weithio mewn partneriaeth â theuluoedd sy'n cael anawsterau wrth dalu am brydau ysgol i geisio dod o hyd i ateb i sicrhau nad oes yr un plentyn yn mynd heb bryd bwyd amser cinio. Dylai fod system ar waith pryd yr atgoffir rhieni yn brydlon os yw'r balans ar...
Lesley Griffiths: Nid wyf i wir yn siŵr o ble rydych chi'n meddwl y byddwn i'n cael yr arian ar gyfer y rhestr o ddymuniadau helaeth iawn honno. Ond dim ond ar eich pwynt penodol am drafnidiaeth am ddim i bobl dan 25 oed, fel y byddwch chi'n gwybod, mae'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth, ac mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wrthi'n archwilio hynny ar hyn o bryd, ond, o ystyried ein setliad gwael...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, fel y dywedais yn fy ateb cynharach i Gareth Davies, prisiau teg yw un o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu, felly mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn archwilio hynny. Fe wnaethoch chi amlinellu manteision cael trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i'n pobl ifanc dan 25 oed yn huawdl iawn. Yn sicr, gwn fod fy merched fy hun, pan oedden nhw'n iau na 25 oed, wir yn meddwl ei fod yn...
Lesley Griffiths: Rydyn ni'n cydnabod y gallai fod cysylltiad rhwng yr argyfwng costau byw ac effeithiau negyddol posibl ar y GIG. Rydyn ni'n disgwyl i'r sector iechyd a gofal nodi'r rhai sydd yn y perygl mwyaf a chyfeirio pobl at gymorth priodol fel ffordd o osgoi'r galwadau ar wasanaethau iechyd.
Lesley Griffiths: Mae GIG Cymru yn helpu pobl sy'n cael dialysis gartref i dalu eu biliau. Mae rhwydwaith arennau Cymru yn talu treuliau parod cleifion sy'n cael dialysis yn y cartref, h.y. y trydan a'r dŵr ychwanegol rydych chi'n eu defnyddio at ddiben cyflawni eich triniaeth dialysis yn eich cartref eich hun, fel y rhagnodwyd gan eu tîm arennau. Ceir nifer o elusennau arennau hefyd yng Nghymru sydd hefyd...
Lesley Griffiths: Rydyn ni'n sicr yn gwybod bod gan gleifion sy'n dioddef o ganser lawer o gostau ychwanegol yn aml. Efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw roi'r gorau i'r gwaith, er enghraifft, ac nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at eu cyflog yn y ffordd y bydden nhw fel rheol. Yn amlwg, mae'r rhain i gyd yn bethau y byddai timau iechyd yn eu hystyried, ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau...
Lesley Griffiths: Gallaf, bydd yn ystod y flwyddyn hon.
Lesley Griffiths: Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf i chi, bydd yn digwydd eleni, rwy'n gwybod, oherwydd bod gen i gyfrifoldeb am lygredd sŵn bellach. Mae seinwedd yn amlwg yn rhan o'r Bil aer glân, a gwn fod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau gyfarfod yfory gyda'n swyddogion, felly mae'n symud ymlaen yn y ffordd yr ydych chi'n dymuno, ac yr ydym ni'n dymuno hefyd. O ran deddfwriaeth arall, yn amlwg,...
Lesley Griffiths: Na, mae'n eang iawn. Fel y dywedais, mae'r Gweinidog a minnau'n cyfarfod yfory i drafod agweddau penodol arni, ac yn amlwg byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr. Ond rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Rydyn ni'n gwybod bod llawer gormod o bobl yn dioddef iechyd gwael oherwydd ein hansawdd aer gwael. Byddwch yn ymwybodol o'r prosiectau 50 mya a gawsom, sy'n dangos...
Lesley Griffiths: Wel, roeddwn i'n meddwl y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn croesawu tri mis o gyllid ychwanegol ar gyfer ein gwasanaethau bysiau. Rwy'n credu bod yn rhaid cael sgwrs llawer ehangach, ac rwy'n credu bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cyfeirio at hyn. Nid ydym wedi gweld y dychweliad i ddefnydd o fysiau a oedd gennym ni cyn y pandemig. Nid wyf i'n gallu cofio ai 70 y cant neu 75 y cant...
Lesley Griffiths: Mae'r Gweinidog wedi cael cyfres o gyfarfodydd gyda'r sefydliad yr ydych chi'n cyfeirio ato. Fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn gwybod, rydyn ni wedi achub y diwydiant bysiau gyda'r cyllid brys hwnnw yn ystod y pandemig. Fel y dywedais, mae'r defnydd o fysiau wedi newid. Ceir cytundeb eang, rwy'n credu—ac rwy'n credu y byddai'r sefydliad hwnnw yn ei gyfarfodydd â'r Gweinidog yn derbyn...
Lesley Griffiths: Fel y mae'r Aelod yn gwybod, cafodd y gwasanaeth bysiau, yn anffodus, ei breifateiddio. Rydyn ni'n ystyried dadbreifateiddio, os mai dyna'r gair cywir. Mae gennym ni'r Bil bysiau, a fydd, mae'n debyg, y cynllun mwyaf pellgyrhaeddol ar draws y DU, ac rwy'n credu y bydd wir yn gam hanfodol i wyrdroi niwed dadreoleiddio. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gan bobl wasanaeth bysiau y gallan nhw...
Lesley Griffiths: Diolch. Rydyn ni wedi darparu dros £71 miliwn i awdurdodau rheoli perygl llifogydd ledled Cymru yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn cynnwys £12.2 miliwn o gyllid cyfalaf i awdurdodau rheoli perygl yng Nghanol De Cymru eleni. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith gwella'r seilwaith rheoli perygl llifogydd, a fydd o fudd i tua 1,280 o eiddo yn uniongyrchol.
Lesley Griffiths: Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gynlluniau i sefydlu grwpiau gweithredu ar lifogydd, ond rwy'n siŵr y gellid eu hystyried nhw'n lleol. Soniais am y cyllid sylweddol yr ydyn ni wedi ei roi i geisio amddiffyn cymaint o dai ag y gallwn ni, ond rwy'n credu bod pawb yn derbyn, gyda'r newid hinsawdd, nad yw'n mynd i fod yn bosibl gwneud hynny 100 y cant. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi; fi oedd y...