Canlyniadau 3441–3460 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogaeth i Drigolion sy'n Wynebu Perygl o Lifogydd (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Soniais ein bod ni wedi darparu dros £71 miliwn ar gyfer gweithgareddau rheoli perygl llifogydd yn y flwyddyn ariannol bresennol ac, wrth gwrs, mae llawer o'r amddiffynfeydd rhag llifogydd hynny yn mynd i'r afael â'r materion yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw. Mae hyn ar ben cyllid tebyg o un flwyddyn i'r llall dros y degawd diwethaf. Mae'n rhaid i ni wynebu ffeithiau: gyda'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dyfodol Cyllid Ffyniant Bro (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Er bod y gronfa'n gweithredu mewn maes sy'n amlwg wedi'i ddatganoli, gwrthodwyd unrhyw swyddogaeth i Lywodraeth Cymru yn ei datblygiad na'i gweithrediad yng Nghymru. Mae'r gronfa ffyniant bro, fel y gronfa ffyniant gyffredin, wedi dioddef oedi, tanariannu a threfniadau anhrefnus sy'n costio swyddi a thwf i Gymru.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dyfodol Cyllid Ffyniant Bro (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae Gweinidogion wedi cael trafodaethau parhaus ynghylch y gronfa ffyniant bro, ond mae gen i ofn ei fod wedi syrthio ar glustiau byddar. Rydyn ni wedi dadlau'n bendant ac yn gyson i gyllid fod yn seiliedig ar anghenion yn hytrach na chael ei ddyrannu ar sail gystadleuol. Fel y gwyddoch, bu'n rhaid i awdurdodau lleol wneud cais. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu dull a...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dyfodol Cyllid Ffyniant Bro (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Mae'n amlwg na wnaeth yr Aelod glywed yr hyn a ddywedais i. Mae ffyniant bro yng Nghymru yn golygu colled o £1.1 biliwn o gyllid yr UE na chafodd ei ddisodli—toriad i gyllideb Cymru mewn termau real. Mae hefyd yn ymosodiad ar y setliad datganoli, efallai ei fod wedi methu hynny. Nid wyf i'n credu bod cael rhaglenni hynod ddiffygiol Llywodraeth y DU wedi'u gorfodi arnom ni yn rhywbeth i'w...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi Tanwydd (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Mae pecyn cymorth presennol Llywodraeth Cymru, sydd werth £380 miliwn, yn cynnwys y rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi incwm is. Mae aelwydydd incwm isel cymwys hefyd yn elwa ar ein cynllun cymorth tanwydd o £200. Mae ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' yn helpu pobl i hawlio'r budd-daliadau y mae ganddyn nhw'r hawl iddyn nhw.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi Tanwydd (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae'n hynod siomedig bod y warant pris ynni yn cynyddu, fel y gwnaethoch chi sôn, o £2,500 i aelwyd nodweddiadol i £3,000 am 12 mis arall o ddechrau mis Ebrill eleni. Rydyn ni'n gwybod yng Nghymru y byddai angen i lawer wario llawer mwy na £3,000 oherwydd oedran y stoc dai a thaliadau sefydlog eithriadol o uchel. Nid wyf i'n credu bod y cyfartaledd y mae Llywodraeth y DU yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi Tanwydd (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Fel y dywedais, ar hyn o bryd, mae swyddogion yn edrych ar y cynllun treialu i weld beth oedd y manteision cyn iddyn nhw roi cyngor pellach i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar gyfer y fersiwn nesaf. Ond, dim ond i ailadrodd ar gyfer ein holl etholwyr, mae cyngor a chymorth i berchnogion tai ar gael. Mae gennym ni linell gymorth rhaglen Nyth Cartrefi Clyd.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogi Trafnidiaeth Gyhoeddus (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cysylltu pobl â'i gilydd, yn rhwymo cymunedau gyda'i gilydd ac yn galluogi busnesau i dyfu ac ehangu. Mae strategaeth drafnidiaeth Cymru yn cyflwyno ein cynlluniau ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon ar draws y genedl, gan gynnwys yn Aberconwy.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogi Trafnidiaeth Gyhoeddus (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Gan fod y gwasanaeth T19 yn cael ei weithredu'n fasnachol gan y cwmni bysiau, maen nhw wedi dweud wrthym ni, yn anffodus, nad yw twf yn nifer y teithwyr wedi cyd-fynd â disgwyliadau'r gweithredwr ac mae prinder gyrwyr wedi effeithio ar eu gallu i barhau i weithredu'r gwasanaeth diwrnod gwaith a dydd Sadwrn ar sail fasnachol yn unig. Felly, rwy'n dychwelyd i ateb cynharach: dyma pam rydyn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyllideb y DU (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Roedd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yr wythnos diwethaf yng Nghaeredin i drafod cyllideb wanwyn Llywodraeth y DU gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ymhlith materion eraill yn ymwneud â chyllid.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyllideb y DU (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Rwy'n credu fy mod i wedi dweud ychydig wythnosau yn ôl wrthych chi ein bod ni'n amlwg yn cefnogi prosiect Cledrau Croesi Caerdydd y gwnaeth Llywodraeth y DU ei gyhoeddi o dan ei chronfa ffyniant bro, ac rydyn ni'n rhoi arian sy'n cyfateb i'r buddsoddiad hwnnw, ond nid oeddem ni'n rhan o ddatblygiad y gronfa ffyniant bro honno, felly ni fu gennym ni unrhyw swyddogaeth o ran strategaeth na...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyllideb y DU (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Wel, byddwn yn hapus pe bai gen i eich hyder chi y bydd Prif Weinidog y DU a'i Ganghellor yn mynd i'r afael â'u blaenoriaethau yng nghyllideb y gwanwyn. Gwn fod y Gweinidog cyllid yn amlwg wedi trafod yr hyn a oedd ar y gweill; nid wyf i'n credu ei bod hi wedi mynd yn bell iawn gyda llawer o wybodaeth am yr hyn a oedd yn mynd i ddod yng nghyllideb y gwanwyn. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw ein...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyllideb y DU (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Rydyn ni'n aros am gadarnhad o gyllid gwella rheilffyrdd terfynol Cymru gan Lywodraeth y DU. Byddwch wedi fy nghlywed i'n dweud yn fy ateb cynharach fod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi codi hyn eto yr wythnos diwethaf gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn enwedig o ran y ffaith fod HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr. Nid wyf i wir yn siŵr sut y gallan nhw o bosibl gredu hynny; mae'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Llwybrau Gofal (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Mae'r cynllun treialu adrodd ar lwybrau gofal wedi cael ei gyflwyno'n llwyddiannus ar draws yr holl fyrddau iechyd. Er nad yw'r effaith lawn yn hysbys eto, bwriedir iddo ddarparu un ffynhonnell ddata er mwyn deall yn well y rhesymau am oediadau ar y pwynt rhyddhau a helpu partneriaid i nodi atebion gyda'i gilydd.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Llwybrau Gofal (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Rwy'n credu bod y cyflog byw gwirioneddol yn gam cyntaf hanfodol, mewn gwirionedd, a rhoddodd fan cychwyn pwysig iawn ar gyfer amodau gwaith gwell i'n staff gofal cymdeithasol. Gwn fod y Dirprwy Weinidog yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i edrych ar fwy o ffyrdd o sut y gallwn ni wella telerau ac amodau ein holl weithwyr gofal cymdeithasol ledled...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Llwybrau Gofal (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn: mae'n golygu gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r dull amlasiantaeth hwnnw, fel rydych chi'n dweud, felly os oes rhwystrau penodol sy'n atal rhywun rhag gadael yr ysbyty, mae'r holl bartneriaid yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd. Datblygwyd y fframwaith adrodd ar lwybrau gofal ar y cyd gan grŵp arbenigol, ac roedd hwnnw'n cynnwys partneriaid o...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth Ariannol i Blant ag Anghenion Iechyd Dwys (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Effeithiwyd yn ddifrifol ar bobl ag anghenion iechyd gan yr argyfwng. Mae ein hymgyrch 'Yma i helpu' yn cynorthwyo pobl i fanteisio ar yr holl gymorth ariannol y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae hyfforddiant i weithwyr rheng flaen hefyd yn helpu gweithwyr cymorth i gyfeirio pobl agored i niwed fel y gallan nhw dderbyn y cymorth sydd ar gael.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth Ariannol i Blant ag Anghenion Iechyd Dwys (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch, ac rydych chi'n amlinellu'n glir, fel yr ydych chi'n ei ddweud, bod rhai teuluoedd yn wynebu anawsterau a heriau nad ydyn ni wedi gorfod ei wneud yn ein bywydau ni, ac maen nhw'n anodd iawn, iawn. Fel y gwyddoch chi, rydyn ni wedi dyrannu £90 miliwn ar gyfer ail gynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru—rwy'n gobeithio bod eich etholwyr wedi gallu cael y cyfle i fanteisio ar...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae Rheoliadau Gwastraff Pecynnu (Casglu a Chofnodi Data) (Cymru) 2023 wedi cael eu tynnu'n ôl a'r ddadl wedi'i gohirio. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Bydd yr Aelod yn ymwybodol mai mater i bob awdurdod lleol yw pennu'r dreth gyngor, ac wrth gwrs, mae unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor yn aml yn ddigroeso iawn i'r mwyafrif o dalwyr trethi lleol, rwy'n credu ei bod hi'n dda cydnabod ei bod yn ffynhonnell ariannu sylweddol ar gyfer gwasanaethau lleol. Rydych chi'n dweud bod y fformiwla gyllido yn ddiffygiol—wel, byddwch chi'n gwerthfawrogi...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.