Lesley Griffiths: Diolch. Nid ydw i'n anghytuno â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y gefnogaeth, ond byddwch chi'n gwerthfawrogi'r galw sylweddol ar y gyllideb iechyd. Yn amlwg, mae disgwyl i'r gyllideb atodol gael ei chyhoeddi, ac nid ydw i'n ymwybodol a yw'r cynllun hwn yn cael unrhyw gynnydd, ond gallai fod yn werth aros i weld a yw hynny'n wir cyn gofyn am ddatganiad arall.
Lesley Griffiths: Rwy'n cytuno â chi ac fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Mae gennym ni Ddiwrnod Clefydau Prin yn dod ar ddiwedd y mis hwn, felly fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i dynnu sylw at ein cefnogaeth i glefydau prin, a hefyd y cynnydd yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru. Mewn...
Lesley Griffiths: Nid wyf i'n credu bod y ffordd y gwnaethoch chi nodi hynny'n gywir—rydyn ni eisoes wedi ymestyn cymhwysedd ar gyfer BTEC, er enghraifft—ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn parhau i gael trafodaethau gyda Cymwysterau Cymru ac fe wnaiff ddarparu datganiad maes o law.
Lesley Griffiths: Diolch i chi. Rydych chi'n hollol gywir; rydyn ni'n gweld llawer gormod o achosion o gŵn yn ymosod, yn enwedig ar ddefaid ac ŵyn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. Fel rydych chi'n dweud, rydyn ni'n ond yn—. Wel, mae'r wyna wedi cychwyn mewn rhai ardaloedd eisoes; bydd eraill yn eu dilyn. Ond roeddwn i'n falch iawn o weld ymgyrch y comisiynydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt,...
Lesley Griffiths: Mae mannau gwyrdd a pharciau o ansawdd uchel yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden iach, cefnogi bioamrywiaeth a lleihau llygredd aer. Mae rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, a'r grant galluogi adnoddau naturiol a lles, wedi ariannu'r gwaith o greu cannoedd o fannau lleol, ac mae cynllun gwobr y faner werdd hefyd yn hybu ansawdd.
Lesley Griffiths: Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn amlwg mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cael y trafodaethau hyn gydag awdurdodau lleol, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd yn gwneud hynny, gan wisgo'i het gynllunio, mewn perthynas â chynlluniau datblygu lleol. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud am Leoedd Lleol ar gyfer Natur; mae'n...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'r Aelod yn codi'r pwynt pwysig iawn, rwy'n credu, fod y pandemig COVID wedi arwain at lawer o niwed ar wahân i COVID ei hun, ac yn amlwg, fel y dywedwch, efallai nad oedd rhai pobl ag anableddau wedi gallu adnabod y terfynau a'r cyfyngiadau a gafodd eu rhoi ar bobl, yn yr awyr agored hyd yn oed, gyda faint o bobl a gâi ddod at ei gilydd i fynd am dro, er enghraifft. Nid wyf yn...
Lesley Griffiths: Mae ein dull o gefnogi'r economi wledig yn canolbwyntio ar gyflawni ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu. Rwyf wedi cyhoeddi dros £200 miliwn o gyllid ar gyfer cynlluniau buddsoddi gwledig i gefnogi gwytnwch yr economi wledig a'n hamgylchedd naturiol.
Lesley Griffiths: Diolch. Fel y dywedoch chi, cawsom addewid na chaem geiniog yn llai, ond yn anffodus, o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i anrhydeddu ei hymrwymiad i roi cyllid llawn i Gymru yn lle cyllid yr UE, fe wyddom ein bod £1.1 biliwn yn waeth ein byd mewn gwirionedd. Ac yn amlwg, nid yw'n bosibl dod o hyd i'r swm sylweddol hwnnw o arian o fewn ein cyllideb ein hunain, felly rydym yn gwybod, yn...
Lesley Griffiths: Rwy'n ymwybodol iawn o beth hoffai'r NFU i mi wneud mewn perthynas â'r cynlluniau Glastir. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi cyhoeddi y byddant yn parhau hyd at ddiwedd 2023. Yn anffodus, oherwydd yr ansicrwydd yn ein cyllidebau ac yn y ffordd rwyf newydd ei ddisgrifio yn fy ateb i Cefin Campbell, nid wyf yn gallu gwneud yr hyn y byddech yn hoffi imi ei wneud. Ac mae'n gyfnod ansicr iawn, nad...
Lesley Griffiths: Diolch yn fawr iawn. Gallaf sicrhau'r Aelod fod gwersi wedi'u dysgu, yn amlwg. Mae'n rhaid dysgu gwersi bob amser pan fo gennych chi'r adroddiadau a wnaethom. Fe fyddwch yn cytuno bod cryn dipyn o fonitro'n digwydd ar ein rhaglen datblygu gwledig, ac roedd galwadau ar y pryd i mi gael adolygiad annibynnol, er enghraifft, ond nid oeddwn yn credu bod hynny'n angenrheidiol. Yr hyn rwy'n credu...
Lesley Griffiths: Yn amlwg, fe wnaethoch amlinellu sefyllfa ofidus iawn, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed eich bod chi a'r ffermwr yn teimlo nad oedd tosturi. Mae hwn yn waith a wnaethom, bedair blynedd yn ôl mae'n debyg, lle gofynnais i'r prif swyddog milfeddygol ar y pryd a'i thîm weithio gyda ffermwyr i weld sut y gallem osgoi sefyllfaoedd fel yr un a ddisgrifiwch. Ar y pryd, barnwyd mai'r ffordd orau...
Lesley Griffiths: Nid oes unrhyw beth wedi mynd o'i le. Fel y dywed yr Aelod, mae fy swyddogion yn cynnal trafodaethau mewnol sylweddol ar hyn o bryd i gytuno ar baramedrau'r prosiect i ganiatáu ar gyfer ymarfer caffael llawn. Chi fyddai'r cyntaf i gwyno pe na bawn yn dilyn y rheolau priodol. Rwy'n ymroddedig iawn i brosiect TB sir Benfro. Rwy'n gwybod eich bod wedi bod yn rhan ohono; fel y dywedwch, mae...
Lesley Griffiths: Nid wyf yn hollol siŵr sut rydych chi'n disgwyl i mi wneud i fferm fod yn rhan o brosiect peilot. Credwch fi pan ddywedaf fod yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi ceisio'n galed iawn—[Torri ar draws.] Fe geisiodd yr asiantaeth yn galed iawn i gael ffermydd i fod yn rhan o gyfnod cyntaf y prosiect peilot, ac yn anffodus nid ydym wedi cael unrhyw un i gymryd rhan yn yr ail...
Lesley Griffiths: Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'n fater rydym o ddifrif yn ei gylch. Byddem yn annog ceidwaid da byw yn gryf i barhau i roi gwybod i'r heddlu am bob digwyddiad. Rwy'n credu y dylwn ddweud hynny ar y cychwyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod yr wybodaeth honno'n cael ei chofnodi. Ond wrth gwrs, rydym am weld cwymp a gostyngiad llwyr yn nifer yr ymosodiadau hynny. Rwy'n...
Lesley Griffiths: Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r sector pysgodfeydd. Rwy'n ymwybodol iawn o'r dirywiad a gofnodwyd. Rwy'n cydnabod eu bod wedi bod o dan bwysau digynsail yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, pandemig COVID, gorchwyddiant prisiau tanwydd yn fwy diweddar a achosir gan y rhyfel yn Wcráin, a'r argyfwng costau byw wrth gwrs. Rwy'n credu bod llawer o'r pwysau i'w deimlo ar draws ein holl sectorau...
Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gefnogi ac annog pobl ifanc i fentro i'r diwydiant amaeth drwy raglenni fel Cyswllt Ffermio a Mentro. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig ar gael i bob math o ffermydd ym mhob rhan o Gymru ac yn cefnogi newydd-ddyfodiaid i sefydlu busnesau amaethyddol cynaliadwy.
Lesley Griffiths: Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb arbennig mewn newydd-ddyfodiaid, gan weithio gyda phobl i weld beth sy'n eu rhwystro rhag mentro i'r byd amaeth. Mae'n rhaid imi ddweud, nid wyf yn credu bod addysg a sgiliau wedi bod yn un o'r rhwystrau a gafodd eu dwyn i fy sylw erioed. Rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar—. Soniais am Mentro yn fy ateb gwreiddiol i chi, a bu'n gynllun llwyddiannus iawn i...
Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i'r diwydiant wyau yn ne-ddwyrain Cymru. Mae arian ar gael drwy ein cynlluniau grantiau cyfalaf, gyda chyngor a chymorth uniongyrchol ar gael i fusnesau fferm a bwyd drwy ein timau Cyswllt Ffermio a Busnes Cymru.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae hwn yn amlwg yn gyfnod heriol iawn i'n ffermwyr i gyd, ac rwy'n gwybod bod ffermwyr dofednod ac wyau'n arbennig o ddibynnol ar borthiant ac ynni, dau faes lle'r ydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y costau oherwydd chwyddiant amaeth. Mae'r diwydiant wyau—ac rwy'n credu eich bod yn cyfeirio at hyn yn rhan gyntaf eich cwestiwn—hefyd yn galw am ddiwygio contractau i atal...