Lesley Griffiths: Diolch. Felly, fe'i crybwyllais yn ein grŵp rhyngweinidogol ym mis Rhagfyr ac yna ysgrifennais at y Gweinidog ffermio, pysgodfeydd a bwyd. Fel y dywedaf, yn anffodus, nid wyf wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw. Mae gennym gyfarfod pellach o'r grŵp rhyngweinidogol, ymhen pythefnos rwy'n credu, felly byddaf yn ei godi eto os nad ydwyf wedi cael ymateb. Rwy'n credu bod angen inni edrych ar sut...
Lesley Griffiths: Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn ganlyniad i sawl blwyddyn o ddatblygu polisi ar draws portffolios gweinidogol, sy'n cynnwys trafodaethau gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae swyddogion hefyd wedi bod mewn trafodaethau rheolaidd gyda chyd-Weinidogion i ddeall effaith y Bil ar raglenni sy'n bodoli eisoes a rhaglenni'r dyfodol, gan gynnwys adfer mawndiroedd.
Lesley Griffiths: Wel, fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn cael ei lunio ar hyn o bryd. Rydym wedi mynd drwy broses sylweddol o gydgynllunio gyda'n rhanddeiliaid, felly ni allaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi fel y gofynnoch chi amdano, ond yn amlwg, rydym yn awyddus iawn i'r gwaith hwnnw gael ei wneud. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch am ffermwyr yn aros i weld, os mynnwch, ond byddem...
Lesley Griffiths: Wrth i'r sefyllfa economaidd waethygu, mae'r pwysau ar gyllidebau aelwydydd i gynnal amodau lles da i anifeiliaid anwes yn dod yn fwyfwy heriol. Mae fy swyddogion wedi gweithio'n agos gyda'r trydydd sector i fonitro'r sefyllfa ac yn falch o weld grwpiau lles anifeiliaid yng Nghymru yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi ein perchnogion anifeiliaid anwes.
Lesley Griffiths: Wel, fel y dywedais yn fy ateb agoriadol, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau'r trydydd sector i weld beth arall y gellir ei wneud i helpu ein perchnogion anifeiliaid anwes sy'n ei chael hi'n anodd bwydo a gofalu am eu hanifeiliaid anwes yn y ffordd y byddent hwy a ninnau eisiau iddynt ei wneud. Yn anffodus, gwelsom gynnydd mewn perchnogaeth anifeiliaid anwes...
Lesley Griffiths: Felly, yn amlwg, mae CNC yn dod o dan bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rwy'n gwybod y bydd hi'n cael cyngor gan CNC ynghylch y cynnydd yn y trwyddedau rheoleiddiol y cyfeirioch chi atynt. Rwyf wedi gwneud ychydig o ymchwil i hyn ar ôl cael gwybod mai dim ond 37 o drwyddedau a roddwyd, ac mae hynny'n gywir. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod nad yw CNC yn ceisio gwneud elw o...
Lesley Griffiths: Anfonais fy ymateb i'r adroddiad a gyflwynwyd ar y mater hwn ddoe at y Pwyllgor Deisebau a gadeirir gan yr Aelod, ac fel y nodwyd yn yr ymateb, bydd unrhyw newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn.
Lesley Griffiths: Diolch, ac roeddwn yn falch iawn o allu derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion heblaw am un, ac edrychaf ymlaen yn fawr at y ddadl a gynhelir yn y Siambr hon ar 6 Mawrth, ac mae'n debyg mai dyna'r cam nesaf. Ac yna cawn olwg ar beth arall sydd angen inni ei wneud i gael golwg a gwneud yn siŵr fod ein milgwn yn cael eu diogelu gymaint â phosibl. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â...
Lesley Griffiths: Felly, i ateb eich pwynt olaf—ac rwy'n derbyn nad ydych wedi gweld fy ymateb hyd yma—argymhelliad 5, sef y dylem hefyd edrych ar chwaraeon eraill lle mae anifeiliaid yn cystadlu, yw'r argymhelliad a wrthodais, oherwydd, yn amlwg, ffocws ar rasio milgwn yw hwn. Yr hyn y mae ein cynllun lles anifeiliaid, a gyflwynais yn ôl yn 2021—mae'n gynllun pum mlynedd—yn ei wneud yw cynnwys...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, fel y dywedais, rydym eisoes wedi ymrwymo i ystyried trwyddedu rasio milgwn fel rhan o'n cynllun lles anifeiliaid. Y cam nesaf nawr yw cael y ddeiseb. Yr hyn rwyf wedi’i ddweud wrth y Pwyllgor Deisebau ac wrth Aelodau yn y Siambr yw y byddai’n rhaid i unrhyw beth y penderfynwn ei wneud fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, felly gadewch inni gael y ddadl ar 6 Mawrth, ac yna...
Lesley Griffiths: Mae cod ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer lles cŵn yn rhoi gwybod i berchnogion am eu rhwymedigaethau o ran rheoli eu cŵn a’r ddeddfwriaeth sy’n eu llywodraethu. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno mesurau diogelu pellach drwy’r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir).
Lesley Griffiths: Gwyddom y gallai unrhyw gi yn y dwylo anghywir fod yn beryglus, a’r hyn rydym yn ei wneud yw hybu perchnogaeth gyfrifol. Credaf fod yn rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth allweddol. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Mabon ap Gwynfor am y Bil anifeiliaid a gedwir y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno, ac mae hwnnw wedi arafu ychydig, yn anffodus, ond credaf fod...
Lesley Griffiths: The current rural development programme has a dedicated Wales rural network team that promotes all projects and shares best practice in rural development on a pan-Wales basis.
Lesley Griffiths: Mae’r rhaglen datblygu gwledig yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau sydd o fudd i’n hamgylchedd naturiol a hefyd yn cefnogi busnesau a chymunedau gwledig ar draws Cymru.
Lesley Griffiths: Our animal welfare plan and programme for government includes two actions related to the Welsh Government-funded local authority enforcement project. My officials are in regular contact with local government colleagues regarding this work and wider animal welfare developments.
Lesley Griffiths: High-quality green spaces and parks provide opportunities for healthy recreation, support biodiversity and reduce air pollution. The Welsh Government’s Local Places for Nature programme and enabling natural resources and well-being grant have funded the creation of hundreds of local spaces. Our green flags award scheme also drives up quality.
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae pedwar newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach heddiw, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. I wneud lle ar ei gyfer, mae'r datganiad llafar ar ddiwygio deintyddol wedi'i ohirio. Yn ogystal â hyn, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau'r amser a ddyrannwyd i gwestiynau Comisiwn y...
Lesley Griffiths: Na, fydd hynny ddim yn digwydd. Mae'r polisi fel y nodwyd gan y Gweinidog blaenorol â'r cyfrifoldeb am dwristiaeth.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i gael trafodaethau gyda'i gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Fel y gwyddoch chi, ni fydd cyhoeddiad y cap prisiau yn cael unrhyw effaith o gwbl ar brisiau ynni am y cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin, oherwydd bod y prisiau gwirioneddol yn cael eu gosod ar hyn o bryd gan warant prisiau ynni Llywodraeth y DU. Yr hyn yr hoffem ei weld...
Lesley Griffiths: Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae tyfu y rhan arddwriaethol o'r sector amaethyddol yng Nghymru yn rhywbeth y mae gen i ddiddordeb arbennig ynddo. Mae'n rhan fach iawn o'n sector amaethyddol, dim ond 1 y cant. Y rheswm yr oedd gen i'r ddau gynllun yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw oedd oherwydd y galw. Roedd pobl yn dweud wrtha i eu bod nhw eisiau gweld mwy o ffenestri o fewn y cynlluniau...