Canlyniadau 3541–3560 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bargen Twf y Gogledd (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Felly, hwn mewn gwirionedd oedd y prosiect cyntaf i gael ei gyflawni o dan gytundeb twf y gogledd, fel y gwyddoch, felly rwy'n credu ei fod yn dangos yn glir y gwahaniaeth y gall buddsoddiad y fargen ei wneud yn yr ardal. Ac yn sicr, rwy'n rhannu eich uchelgais i weld gogledd Cymru—a phob rhan o Gymru mewn gwirionedd—yn dod yn arloeswr byd-eang ym maes technoleg ddigidol, ac rwy'n...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Mannau Gwyrdd Cymunedol (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mynediad i bawb at fannau gwyrdd yn agos at eu cartrefi. Rydym yn darparu hyn drwy raglenni, gan gynnwys Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, cyfleusterau cymunedol, cynllun cymunedau y dreth gwarediadau tirlenwi a grantiau gwella mynediad. Mae dros 1,400 o fannau gwyrdd wedi'u creu gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn unig.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Mannau Gwyrdd Cymunedol (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Rydym yn datblygu sawl prosiect yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Soniais am un neu ddau ohonynt yn fy ateb agoriadol i chi; yn sicr, mae Llefydd Lleol ar gyfer Natur wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac mae wedi cael derbyniad da iawn gan ein hetholwyr ledled Cymru. Ac rydym yn parhau i gefnogi ac ehangu gwaith gwerthfawr y rhaglen benodol honno, ac yn adeiladu ar ei llwyddiant. Rydym...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Mannau Gwyrdd Cymunedol (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac fe fyddwch yn ymwybodol o rai o'r ymgyrchoedd a gyflwynwyd gennym fel Llywodraeth. Felly, un ohonynt yw—. Mae Carolyn Thomas, ein cyd-Aelod, wedi bod yn gweithio i ddatblygu a hyrwyddo ymgyrch 'Iddyn Nhw', sy'n ymwneud â helpu cymunedau lleol i ddeall pwysigrwydd ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd ar gyfer bywyd gwyllt, er enghraifft,...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Mannau Gwyrdd Cymunedol (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Ie, diolch, ac yn sicr mae'n swnio'n brosiect gwych ym Maendy ac os yw'r Prif Weinidog yn mynychu ddydd Sadwrn, rwy'n siŵr y bydd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn. Ond rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi'n gweithio gyda chymunedau ynglŷn â'r hyn y maent ei eisiau yn eu mannau agored a'u mannau gwyrdd, oherwydd wedyn rwy'n meddwl y cânt eu gwerthfawrogi fwy, a chânt eu...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Yn amlwg, bydd y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud ar draws y Cabinet, gyda'r Gweinidog cyllid. Fe fyddwch yn ymwybodol na chawsom gymaint o arian ag yr oeddem wedi'i obeithio efallai, ond mae'r penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud ar sail drawslywodraethol. Yn amlwg, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am ogledd Cymru, byddaf yn sicrhau bod y gogledd yn parhau i gael ei chyfran deg.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Na. Byddaf yn trafod hynny gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, nid gydag Aelod o'r wrthblaid yma yn y Siambr. Fe welwch, os edrychwch, fod gogledd Cymru yn sicr yn cael cyfran deg, a byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud dro ar ôl tro ddoe ein bod eisoes yn darparu llawer o'r cyfleusterau gofal plant a'r gofal a'r ddarpariaeth y mae Llywodraeth y DU ond yn siarad amdanynt ac yn...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Felly, fel rydych wedi'i ddweud eich hun, cawsom £180 miliwn ychwanegol. Roeddwn yn ceisio adio'r holl arian y credwch y dylid ei wario yng ngogledd Cymru yn fy mhen, a chredwch fi, mae'r cyfanswm yn llawer mwy na £180 miliwn. Rydym yn cael £1 filiwn o gyllid cyfalaf y flwyddyn nesaf—[Torri ar draws.]—£1 filiwn. Os edrychwch—[Torri ar draws.] A ydych chi eisiau gwrando?

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Rydych yn gwybod cystal â minnau faint o arian fyddai ei angen i godi ein hystad yn Betsi Cadwaladr i'r safon rydym i gyd ei heisiau. Nid wyf yn gwybod amdanoch chi, ond rwy'n defnyddio'r GIG, ac rwy'n cael gofal iechyd rhagorol gan Betsi Cadwaladr. Os ydych chi'n defnyddio gofal iechyd preifat, eich dewis chi yw hynny. [Torri ar draws.]

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n sicr wedi ymrwymo i wneud popeth a allaf. Rwy'n credu fy mod yn cyfarfod yn flynyddol, mae'n debyg, gyda phrif weithredwr cyngor Gwlân Prydain, a byddaf yn cyfarfod â hwy eto yn ystod yr wythnosau nesaf, rwy'n credu. Ac yn sicr, mae'n dda iawn clywed eu syniadau ar gyfer defnyddio gwlân. Felly, er enghraifft, un o'r syniadau...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Rydych yn llygad eich lle, mae rhan o'r Bil amaethyddol—ac yn amlwg, mae gennym Gyfnod 2 yfory—yn cynnwys pwerau newydd i ganiatáu i amodau amgylcheddol gael eu hychwanegu at drwyddedau torri coed, ac i ddiwygio, atal neu ddirymu unrhyw drwyddedau sydd eisoes wedi'u caniatáu. Mae'n rhaid imi edrych yn ofalus iawn ar yr elfen goedwigaeth, fel sy'n aml yn digwydd pan fyddwch yn...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Anifeiliaid Domestig (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid wedi'u nodi yng nghynllun lles anifeiliaid Cymru. Mae'r cynllun yn cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni camau allweddol pedwar ymrwymiad lles anifeiliaid ein rhaglen lywodraethu, ochr yn ochr â'n gwaith arfaethedig arall.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Anifeiliaid Domestig (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n ymwybodol, yn amlwg, fod cyfraith Lucy yn cyrraedd pen-blwydd pwysig fis nesaf, ac roedd Lucy, y tarfgi yr enwyd y ddeddfwriaeth ar ei hôl, yn dod o fferm yma yng Nghymru. Ond nid yw'r ddeddfwriaeth honno ond yn berthnasol i Loegr. Fel y gwyddoch, mae ein deddfwriaeth ni, sef Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021, yn...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Anifeiliaid Domestig (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Wel, fel y dywedais wrth Vikki Howells, mae ein deddfwriaeth yn mynd gam ymhellach na'r ddeddfwriaeth yn Lloegr. Er hynny, rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, oherwydd rydym yn gwybod, yn anffodus, fod pobl yn dal i brynu eu hanifeiliaid anwes ar-lein, ac mae ein deddfwriaeth yn golygu na ddylai rhywun brynu anifail anwes yn unman heblaw lle cafodd yr anifail anwes hwnnw...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Diogleu Gwenyn (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Rydym yn cydnabod y gostyngiad pryderus mewn peillwyr. Nod ein cynllun gweithredu ar gyfer pryfed peillio, y cyntaf o'i fath yn y byd, yw darparu cynefinoedd amrywiol, cysylltiedig gyda llawer o flodau er mwyn sicrhau poblogaethau iach o beillwyr. Yng Ngwent, mae Natur Wyllt yn newid y ffordd y caiff ymylon ffyrdd a pharciau eu cynnal a'u cadw er mwyn sicrhau eu bod o fudd i beillwyr.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Diogleu Gwenyn (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Yn sicr, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda DEFRA. Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw un wedi gweld cacynen Asia yng Nghymru, ac nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw un wedi gweld un yn Lloegr ers cryn dipyn o amser mewn gwirionedd—yn sicr, nid eleni. Ond pan fo rhywun yn gweld un, yn amlwg mae ein swyddogion yn gweithio'n agos iawn ac maent yn mynd i'r afael â'r mater yn gyflym iawn hefyd, ac nid...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rasio Milgwn (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Fel y nodwyd yn fanwl yn y ddadl ar 8 Mawrth, byddaf yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar rasio milgwn yn ddiweddarach eleni. Bydd yr ymgynghoriad yn casglu tystiolaeth ar fanteision ac effeithiau deddfu a gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rasio Milgwn (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Wel, fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn ystod y sesiwn graffu yn y pwyllgor, rwy'n hapus iawn i siarad â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rwy'n siŵr y byddai hi'n hapus iawn i siarad â chi hefyd, pe bai unrhyw newidiadau i ddefnydd tir yn y dyfodol yn debygol o waethygu risg llifogydd i unrhyw gartrefi neu fusnesau sy'n bodoli eisoes yn eich etholaeth. Rwy'n credu y gallai fod...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rasio Milgwn (22 Maw 2023)

Lesley Griffiths: Wel, fel rwy'n dweud, nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad y byddaf yn ei lansio yn ddiweddarach eleni. Rwyf wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Fwrdd Milgwn Prydain. Rwyf wedi cyfarfod â sefydliadau lles eraill, ac rwyf wedi cyfarfod â pherchennog stadiwm Valley i drafod materion lles a chynlluniau ar gyfer safle Valley. Fel y dywedwch, nid yw'r safle ar hyn o bryd yn cyrraedd safonau...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.