Mark Reckless: Rwy'n llongyfarch y Cadeirydd ar ei chyflwyniad rhagorol i'r adroddiad yn egluro'r cefndir polisi i'r maes cyn symud yn rhy gyflym at feysydd dadleuol a'r argymhellion. Diolch. Hoffwn ddweud i ddechrau fod y cyfaddawd rhwng rhaglen gyffredinol a rhaglen wedi'i thargedu yn un y mae'r Cynulliad wedi'i drafod mewn llawer o feysydd eraill—yn eithaf diweddar, yn ein pwyllgor, ar brydau ysgol...
Mark Reckless: Ond mae rhai o'r manteision yn debygol o gael eu gweld yn y blynyddoedd cynnar yn yr ysgol os ceir manteision dibynadwy, a chredaf y bydd ei gynnwys yn y system Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) yn gwella'r cyfleoedd i ymchwilwyr yn amlwg iawn. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £600 miliwn ar hyn yn yr 11 mlynedd diwethaf ac yn ei disgrifio fel rhaglen flaenllaw. O gofio maint y...
Mark Reckless: Rwy'n croesawu'r contractau newydd ac yn enwedig y cerbydau newydd ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd y mae'n hen bryd iddyn nhw gael eu cyflwyno, ond hefyd y gostyngiad i brisiau tocynnau ar gyfer y Cymoedd uchaf, a fydd yn helpu llawer o bobl i gael mwy o gyfleoedd i gymudo i mewn a chael mynediad at swyddi, yn enwedig yng Nghaerdydd. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog ddweud rhywbeth am y risgiau...
Mark Reckless: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad. Wrth gwrs, mater i Lywodraeth y DU fyddai penderfynu pa, os unrhyw, gyfyngiadau neu dollau y byddai yn dymuno eu rhoi—neu beidio—ar nwyddau sy'n dod i mewn i'r wlad, ond, Prif Weinidog, fe'i gwnaethoch yn glir yn gynharach fod eich Llywodraeth yn dal i gefnogi aros mewn undeb tollau â'r UE, ac aros yn y farchnad sengl. Yn y gorffennol,...
Mark Reckless: Diolch, Lywydd. O fod eisiau datganoli plismona i Gymru, a yw Ysgrifennydd y Cabinet serch hynny'n cefnogi parhad y model comisiynydd heddlu a throseddu etholedig? Mae'n iawn i gymeradwyo Heddlu Gwent a Jeff Cuthbert am y cynllun penodol hwn, ond a yw'n cydnabod bod natur atebol ac etholedig y rôl honno'n hanfodol ar gyfer yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn?
Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies. Rwyf hefyd yn canmol Plaid Cymru ar eu cynnig, ac rydym yn cytuno ag ef. Fe ofynnaf iddynt ddeall mai ein hunig reswm dros bleidleisio fel arall fydd er mwyn sicrhau pleidlais ar ein gwelliant ein hunain. Mae'r argyfwng ariannu ysgolion yng Nghymru yn ddifrifol. Mae NASUWT Cymru yn cyfrif bod £678 o fwlch cyllid y disgybl bellach...
Mark Reckless: Wrth gwrs y gwnaf.
Mark Reckless: Wel, y gwir amdani, yn gyffredinol, yw y ceir 20 y cant yn fwy o wario yng Nghymru a chafodd hynny ei ddiogelu o dan fframwaith cyllidol a gytunwyd gan Lywodraeth San Steffan. Os ydych am gymharu lefelau gwariant yng Nghymru a Lloegr, y gwahaniaeth mawr—a chlywsom beth o hyn yn gynharach—yw bod llywodraeth leol yn cael dyraniadau uwch yng Nghymru—buaswn yn cwestiynu pa mor effeithlon y...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio? Mae ein hymdrechion wedi cael eu defnyddio i gael cytundeb cyllidol lle rydym yn cael £1.20 o wariant Llywodraeth yng Nghymru o gymharu â £1 yn Lloegr ar hyn o bryd. Nawr, fe ofynnaf iddi: a yw hi'n credu bod gwario mwy na £600 yn llai fesul disgybl yng Nghymru nag yn Lloegr yn iawn neu'n rhywbeth y mae hi a'i Llywodraeth yn falch ohono?
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio? [Anghlywadwy.]—yn dweud ei fod eisiau bargen dda, ond mae'n dweud na all ystyried, o dan unrhyw amgylchiadau, gerdded i ffwrdd. Sut gallai unrhyw fusnes negodi â busnes arall yn ei etholaeth ef a gobeithio cael bargen dda os yw'r ochr arall yn gwybod y byddant yn derbyn yr hyn a roddir iddyn nhw, beth bynnag?
Mark Reckless: Onid y gwir amdani yw na fu unrhyw drafodaeth ar yr undeb tollau oherwydd y sefydlwyd yr UE fel undeb tollau? Cymerwyd yn ganiataol y byddai gadael yr UE yn golygu gadael yr undeb tollau, a phan ddaeth y farchnad sengl yn rhan o'r ymgyrch, roedd yr ymgyrch 'Ymadael' ac yn enwedig Michael Gove yn gwbl glir bod pleidleisio i ymadael yn golygu ymadael â'r farchnad sengl, yn ogystal â'r undeb...
Mark Reckless: Rwy'n rhyfeddu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhyddhau'r UE o bob cyfrifoldeb am y sgandal cig ceffyl. Mae'n syfrdanol ei fod yn dweud bod Jenny Rathbone yn 'llygad ei lle' pan ddywed y bydd yn rhaid inni osod tariffau, ond Ysgrifennydd y Cabinet, onid dewis ar gyfer y wlad hon yw gosod tariffau ai peidio? O gofio ein bod wedi cael ardal masnach rydd gyda'r UE, gallem gynnal hynny'n...
Mark Reckless: 4. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y dyraniad buddsoddi newydd ar gyfer cynllun pensiwn Aelodau'r Cynulliad? OAQ52338
Mark Reckless: Yn ddiweddar, mae Aelodau wedi derbyn hysbysiad gan y bwrdd ynglŷn â phroses newydd ar gyfer dyrannu buddsoddiad, ac yn hytrach nag un rheolwr portffolio—yn synhwyrol yn fy marn i—rydym wedi symud tuag at lond llaw o wahanol reolwyr portffolio. Fodd bynnag, buaswn yn cwestiynu'r penderfyniad yn y dyraniad i fuddsoddi dros un rhan o ddeg o'r gronfa bensiwn mewn giltiau mynegrifol, sy'n...
Mark Reckless: Pwy yw'r cynrychiolydd?
Mark Reckless: A gaf fi gwestiynu'r rhagdybiaeth y dylid newid y llinell sylfaen yn awtomatig i adlewyrchu penderfyniadau dilynol y bwrdd taliadau? Oherwydd buaswn yn cwestiynu ai dyna'r ffordd y mae cyrff y sector cyhoeddus yn gweithredu. Yn aml iawn, byddant yn paratoi eu cyllideb ar un set o ragdybiaethau ac yna bydd pethau'n newid a bydd yn rhaid iddynt ysgwyddo'r costau hynny a gwneud arbedion...
Mark Reckless: Diolch. Roeddwn yn gwrando ar Dai Lloyd, y credaf ei fod yn siarad â mwy o awdurdod ymarferol nag y gall unrhyw un ohonom ei wneud, efallai, fel meddyg. Y cyfan a wn yn iawn am y GIG yw'r hyn a glywaf gan fy nheulu sy'n gweithio yn y GIG. Roedd fy nhad yn feddyg ac mae fy mrawd yn feddyg, a fy chwaer yng nghyfraith, fy nhad yng nghyfraith, ac roedd fy mam yn nyrs—mae'n mynd ymlaen ac...
Mark Reckless: Roeddwn yn dod at hynny. Rwy'n credu bod y Llywodraeth wedi nodi dwy ffynhonnell o gyllid: yn gyntaf, y £20 biliwn gros, £10 biliwn net a roddwn ar hyn o bryd i'r UE—byddai cyfran sylweddol o hwnnw'n cael ei ailgyfeirio yn y dyfodol i'r GIG. Ond yn ogystal â hynny, ac rwy'n credu bod hyn yn beth gwirioneddol sylweddol yn wleidyddol i Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan, dywedasant...
Mark Reckless: —yn hytrach na checru am Brexit. Gwnaf.
Mark Reckless: Cyhoeddwyd y bydd yn gynnydd o £20 biliwn mewn termau real, cynnydd mewn termau real o 3.4 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd dros chwe blynedd, a bydd yn dod yn rhannol o arian rydym yn ei dalu ar hyn o bryd i'r UE, ond daw'r gweddill, ac o bosibl, rhan fwy ohono hyd yn oed, o godiadau yn y dreth. O ystyried sut y mae fformiwla Barnett yn gweithio, daw'r gwariant hwnnw wedyn i Gymru lle...