Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei hymrwymiad a'i gwaith yn y maes hwn yn gyffredinol. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi sylw dyledus i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth arfer eu swyddogaethau. Mae'n gwbl iawn fod y gofyniad hwn yn parhau i ddylanwadu ar bolisïau,...
Jeremy Miles: Mae hwn yn fater hanfodol bwysig.Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, credaf fod deddfu ar gyfer hawliau yn bwysig, ond oni bai eich bod yn gwybod sut i ddod o hyd i'ch hawliau a sut i fynnu eich hawliau, bydd eu heffaith bob amser yn gyfyngedig. O ran hygyrchedd y gyfraith i blant a phobl ifanc, ceir heriau a strategaethau penodol y mae angen inni eu defnyddio er mwyn sicrhau bod pobl ifanc a...
Jeremy Miles: Diolch am eich cwestiwn. Nid oeddwn yn ceisio awgrymu nad oedd y Cynulliad yn ymwneud â'r gwaith hwnnw hefyd. Mae'n amlwg ei fod, ac mae wedi pasio deddfwriaeth i'r perwyl hwnnw, felly rwy'n amlwg yn fwy na pharod i gydnabod hynny. Fe fydd hi'n gwybod am yr adroddiad a lansiodd fy nghyfaill y Gweinidog plant a gwasanaethau cymdeithasol, fel yr oedd ar y pryd, ym mis Mawrth, a dangosai...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Fel y gwnes i sôn wrth Suzy Davies nawr, mae'r Llywodraeth wedi gwneud dadansoddiad o'r hyn rŷm ni'n gorfod ei wneud yn sgil y Mesur, a'r oblygiadau i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y nod. Ond byddaf yn cymryd i mewn i ystyriaeth y sylwadau y mae newydd eu gwneud.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Os bydd cyfraith yr UE yn parhau'n gymwys yn y DU yn ystod y cyfnod pontio, fel y mae Rhan 4 o'r cytundeb ymadael drafft cyfredol yn ei ragweld, bydd angen gweithredu rhwymedigaethau cyfreithiol yr UE yn y wlad hon yn ystod y cyfnod hwnnw.
Jeremy Miles: Wel, i fod yn glir, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r holl ymdrechion i sicrhau cyfnod pontio, ac rydym yn croesawu'r cytundeb a gafwyd yn y Cyngor Ewropeaidd ar ddiwedd mis Mawrth a oedd yn dweud y bydd cyfnod pontio i 31 Rhagfyr 2020, yn amodol ar gytundeb ymadael terfynol. Nid ydym yn gwybod, yn anffodus, pa ddull y bydd Llywodraeth y DU yn ei fabwysiadu mewn perthynas â gweithredu...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir na ddylai ymadawiad y DU â'r UE arwain at wanhau diogelwch hawliau. O ran hawliau i symud a phreswylio, mae Cymru'n croesawu ac yn gwerthfawrogi unigolion o bob cwr o'r byd, a bydd yn parhau i wneud hynny.
Jeremy Miles: Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Yn wir, fel y mae ei gwestiwn yn cydnabod, nid yw'n ymwneud â'r rhifau unigol dan sylw, oherwydd gall effaith hyn ar fywyd unigolyn, neu gynlluniau unigolyn, fod yn sylweddol iawn. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud yn siŵr fod dinasyddion yr AEE yn cael yr un amddiffyniad ag y bydd gan ddinasyddion yr UE o dan y cytundeb fel rydym yn ei...
Jeremy Miles: Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn hwnnw. Dylwn ddweud, er nad yw yn fy etholaeth, y byddai etholwyr Castell-nedd yn elwa o unrhyw ddatblygiad o'r math hwn, felly rwyf am ddatgan buddiant o ran hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried sut y gallai ddefnyddio ei phwerau i gefnogi modelau cyflawni amgen a allai ddeillio o uwchgynhadledd ynni'r môr ac o'r trafodaethau parhaus gydag...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol. Mae'n iawn i ddweud, yn amlwg, fod yna gefnogaeth drawsbleidiol gref yn y Cynulliad hwn ac ar draws Cymru i'r morlyn, a dyna pam ein bod mor siomedig fod Llywodraeth y DU wedi gwneud y penderfyniad a wnaeth. Fel y mae'n awgrymu'n briodol yn ei gwestiwn, roedd ymwneud Llywodraeth y DU wedi'i ysgogi'n rhannol gan yr angen am gontract gwahaniaeth, nad yw,...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac am ein hatgoffa am ei gefnogaeth i gwmni ynni cenedlaethol, dielw rwy'n credu. Fel y dywedais wrth Mike Hedges yn awr, mae'n amlwg, fel y bydd rhywun yn gwybod o'r hyn a welir yn y wasg a'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt, fod yna bobl sy'n edrych yn greadigol ar ba opsiynau amgen a allai fod ar gael i gadarnhau'r cyfle sy'n bodoli yng Nghymru—ledled...
Jeremy Miles: Nid wyf wedi trafod y Ddeddf hon gyda swyddogion eraill y gyfraith ers i'r Twrnai Cyffredinol dynnu yn ôl cyfeirio'r Bil, fel yr oedd bryd hynny, i'r Goruchaf Lys, a rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i'r Bil.
Jeremy Miles: Mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn un sydd yn glir ar yr hyn sydd angen digwydd o ran y goblygiadau i'r rhai sydd yn cytuno i'w dermau. Fel gwnes i grybwyll ar y mater ddoe, oherwydd y cytundeb hwn, fe wnaethom ni gael sicrwydd ar y newidiadau i'r Ddeddf sydd wedi, erbyn hyn, cael Cydsyniad Brenhinol yn San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru yn glir bod hyn yn golygu bod mwy o bwerau yn dod...
Jeremy Miles: Yr wythnos diwethaf, noddais weithdy yma yn y Senedd ar gyfraith gyhoeddus a chyfiawnder gweinyddol yng Nghymru a drefnwyd gan ysgol y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor. Daeth llawer o bobl i'r digwyddiad, a daeth ag academyddion blaenllaw, ymarferwyr, deddfwyr a llunwyr polisi ynghyd i drafod heriau presennol a chyfleoedd ar gyfer cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru.
Jeremy Miles: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Cytunaf yn llwyr â'i sylwadau ynglŷn â safbwynt Llywodraeth y DU mewn perthynas â thoriadau i gymorth cyfreithiol, ac yn wir, cau llysoedd a chamau eraill tuag yn ôl. Cytunaf yn llwyr ag ef fod effaith hynny, o ran mynediad pobl at gyfiawnder, yng Nghymru a ledled y DU, wedi bod yn hynod niweidiol, ac yn wir, yn waradwyddus. Roedd peth o'r...
Jeremy Miles: Wel, credaf mai'r pwynt yr oeddwn yn ceisio'i wneud yn fy sylwadau i'r gweithdy, mewn gwirionedd, oedd mai gwneud y penderfyniadau cywir yn y lle cyntaf a ddylai fod yn brif amcan, ac mai'r penderfyniadau a wneir gyda'r egwyddorion hynny mewn golwg a ddylai ein harwain at y canlyniad hwnnw. Ond roeddwn hefyd yn nodi cymhlethdod y system bresennol, a'r disgwyliad a ddylai fod gan unigolion y...
Jeremy Miles: Mae swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â swyddogion yr Arglwydd Adfocad yn yr Alban. Cyfarfûm ag ef ddiwethaf yn anffurfiol yn Belfast ym mis Awst, a chefais drafodaethau anffurfiol ag ef bryd hynny. Rydym yn disgwyl dyfarniad y Goruchaf Lys, a byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Cynulliad pan fydd yn cael ei ddarparu.
Jeremy Miles: Wel, dylwn ddweud fy mod yn ffyddiog o hyd y bydd y dadleuon a gyflwynais gerbron y Goruchaf Lys yn llwyddo. Fel y dywedodd y Goruchaf Lys ei hun yn achos Miller, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ymestyn cymhwysedd y deddfwrfeydd datganoledig, ac fel rwy'n dweud, rwy'n hyderus y bydd y ddadl honno'n drech. Mae'n crybwyll y Ddeddf barhad a basiwyd gennym, yn amlwg, yn y lle hwn, ac mae'n...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym yn cynllunio ar gyfer pob senario Brexit, gan gynnwys 'dim bargen'. Fel rhan o'r cynlluniau hyn, mae gwaith wedi parhau, ac mae bellach wedi dwysáu, ar y rhaglen is-ddeddfwriaethol i sicrhau y gellir gwneud yr holl gywiriadau sydd eu hangen i ddeddfwriaeth Cymru cyn y diwrnod ymadael.
Jeremy Miles: Wel, gallaf gadarnhau ein bod wedi cynllunio ar gyfer senario 'dim bargen', fel un o'r senarios ymadael, ac wedi sicrhau ein bod wedi nodi’r holl gyfraith Gymreig sydd angen ei chadw ar ôl y diwrnod ymadael, ac rydym yn cymryd camau i sicrhau, os ceir sefyllfa 'dim bargen’, fod gennym ddeddfwriaeth ar waith i gadw'r sefyllfa gyfredol er mwyn sicrhau parhad cyfreithiol a sicrwydd...