Jack Sargeant: Gwnaf.
Jack Sargeant: Diolch i'r Aelod, Jenny Rathbone, am yr ymyriad hwnnw. Mae hi'n llygad ei lle; rwy'n cytuno â Platfform a'u hymgyrch i arwain dull a gaiff ei lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma, am mai dyna sy'n iawn. Pan edrychwn ar y system les, er enghraifft, mae honno'n system sydd wedi'i sefydlu i wneud cam â phobl gyffredin. Felly, rwyf eisiau i'r sgwrs honno ddigwydd. Ond rwy'n credu bod yn...
Jack Sargeant: Diolch i’r Aelod, Sam Rowlands. Fe sonioch chi, Sam, am y gwasanaeth cyhoeddus a’ch profiad o weld y Frenhines yn yr ysgol. Gwelais innau'r Frenhines yn agor canolfan rhagoriaeth peirianneg Coleg Glannau Dyfrdwy yn 2003 ac euthum ymlaen i astudio prentisiaeth yno. Felly, ar ran gogledd Cymru a fy nhrigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y Frenhines ym...
Jack Sargeant: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru? OQ57584
Jack Sargeant: Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Fel y mae'r Prif Weinidog yn sôn yn y fan yna, mae'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol wedi chwarae rhan allweddol, ac mae wedi'i gynnwys yn y bwrdd adolygu diogelu unedig sengl, a chwaraeodd fy nhad fy hun, fel y gŵyr y Prif Weinidog, ran bwysig yn y gwaith o'i sefydlu. Prif Weinidog, bedair blynedd i ddoe cefais fy ethol i'r Senedd hon yn dilyn...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog ac rwy'n croesawu'r ymateb i Alun Davies hefyd o ran dyletswydd gofal i'r rhai sydd wedi cael eu heintio â'r coronafeirws yn y GIG a'r gwasanaethau cysylltiedig. Ond rwy'n teimlo bod darn o waith i'w wneud yn hynny o beth ar gyfer deall yn iawn pwy yn union a gafodd coronafeirws wrth weithio o fewn y gwasanaethau...
Jack Sargeant: 1. Sut y bydd y Comisiwn yn cefnogi Senedd leuenctid Cymru yn ystod y Chweched Senedd? OQ57585
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Lywydd, ac edrychaf ymlaen at y canlyniad a'r diweddariad o gyfarfod cyntaf y Senedd Ieuenctid sydd newydd ei hethol. Fel llawer ohonom yma, rwy'n awyddus iawn i Aelodau ein Senedd Ieuenctid gael cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol barhaol, i adael eu marc ar wleidyddiaeth Cymru ac i adael eu marc a'u newid cadarnhaol ar fywyd cyhoeddus Cymru. Un o'r materion y mae pobl...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ac nid yw dweud bod prentisiaethau'n newid bywydau yn or-ddweud. Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch fy mod wedi gwasanaethu fel prentis beiriannydd yn DRB Group ar Lannau Dyfrdwy. Mae prentisiaethau'n darparu'r sgiliau angenrheidiol i unigolion ddechrau ar yrfaoedd llwyddiannus. Ar yr un pryd, maent o fudd i gyflogwyr,...
Jack Sargeant: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill y DU ynghylch adolygiad Llywodraeth y DU o Ddeddf Hawliau Dynol 1998?
Jack Sargeant: A wnaiff y Gweinidog gymryd ymyriad?
Jack Sargeant: Rwy'n gwerthfawrogi hynny, Gweinidog, ac rwy'n croesawu gwaith Llywodraeth Cymru i gefnogi Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol. Ond a ydych chi'n cytuno â mi ei bod braidd yn ormod i feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig honni nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon, pan ddaeth y Prif Weinidog Johnson i Lannau Dyfrdwy yn 2019 ac addo 96 o swyddogion ychwanegol ar gyfer Glannau Dyfrdwy, ac nid...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Llywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon.
Jack Sargeant: Cyflwynwyd y ddeiseb hon ym mis Mawrth 2020 gan Sara Pedersen, ar ôl casglu 2,080 o lofnodion ar-lein a 3,442 o lofnodion ar bapur, ac rwy'n siŵr bod egin fathemategwyr ar draws y Siambr eisoes wedi cyfrifo'r cyfanswm o 5,522 o lofnodion. Lywydd, mae testun y ddeiseb yn dweud: 'Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i amddiffyn yr hen 'Ysgol Ganolradd i Ferched' y...
Jack Sargeant: Gwyddom hefyd, o'r gwaith y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi'i wneud ar y ddeiseb P-05-1112, 'Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011' fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid eraill i ddod o hyd i ffyrdd o'i gwneud yn bosibl i gymunedau gael meddiant ar adeiladau a chyfleusterau cymunedol. Nawr, rwy'n cydnabod na...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Credaf fod heddiw wedi bod yn ddadl dda a phwysig, a diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau a'r Gweinidog am ei hymateb. Fe wnaethom ddechrau gyda chyfraniad pwerus gan Joel James, a gefnogodd y ddeiseb yn ei chyfanrwydd, rwy'n credu, ac a dynnodd sylw at addysgu gwyddoniaeth i fenywod a merched yn yr ysgol—digwyddiad hanesyddol a phwysig. Aethom...
Jack Sargeant: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith ymosodiad Rwsia ar Wcráin ar ddinasyddion a busnesau Cymru? (EQ0009)
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am yr ateb yna. A gaf i hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Llywydd, ac estyn fy niolch i'r Llywydd, am ganiatáu i ni gyflwyno'r cwestiwn brys hwn y prynhawn yma cyn y cwestiynau i'r Prif Weinidog? Ac rwy'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran y Siambr—mae'n wych gweld Siambr lawn—pan ddywedaf fod ein meddyliau yn sicr gyda phobl Wcráin, a'r rhai sydd â...
Jack Sargeant: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella seilwaith trafnidiaeth yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ57715
Jack Sargeant: Diolch i’r Gweinidog am ei ymateb, ac wrth gwrs, rydym yn aros am ganlyniad yr adolygiad ffyrdd y sonioch chi amdano yn y cwestiwn blaenorol a’r penderfyniad ar y llwybr coch yng Nglannau Dyfrdwy. Nawr, wrth gwrs, bwriad y llwybr coch oedd lleihau llygredd aer gan gydnabod bod angen atebion ar drigolion i'r broblem beryglus hon. Pe na bai’r llwybr coch yn mynd rhagddo, er enghraifft,...