David Rees: 8. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch darparu gwasanaethau cymorth i garcharorion o Gymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau? OAQ51930
David Rees: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn pwysleisio y bydd y carchar arfaethedig ym Maglan yn dal carcharorion sy'n paratoi ar gyfer cael eu rhyddhau, ac felly bydd angen cymorth arnynt wrth iddynt baratoi i ddysgu sut i ddychwelyd i'w cymunedau eu hunain, y rhan fwyaf ohonynt ar draws de Cymru mae'n debyg, ond ymhellach i ffwrdd hefyd. Nawr,...
David Rees: Rwyf am osgoi ailadrodd gormod o'r hyn y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i ddweud eisoes, ond rwyf am eich llongyfarch ar y ffordd rydych wedi cyflwyno dadl bwyllog y prynhawn yma. A gaf fi hefyd gofnodi'r ddadl bwyllog a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid pan fo'n cynnal y trafodaethau? Efallai fod hynny'n fwy rhwystredig o ran pam nad yw Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb eto...
David Rees: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit, a hefyd i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Dirprwy Lywydd, fis diwethaf, nodwyd un flwyddyn hyd nes y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol, ar ôl i'r Prif Weinidog rhoi...
David Rees: Ac yn ystod yr ymchwiliad hwn, aethom ati i archwilio sut y dylai Cymru, a Llywodraeth Cymru yn benodol, fod yn paratoi ar gyfer Brexit. Cafodd ansawdd ein sylfaen dystiolaeth ei wella'n fawr gan ein proses ymgynghori draddodiadol a sesiynau tystiolaeth lafar yn y Senedd, ac ymweliadau â rhanddeiliaid ym Mhrifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a Calsonic Kansei yn...
David Rees: Ddirprwy Lywydd, mae'r adroddiad yn gwneud cyfanswm o saith argymhelliad, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, pob un o'r saith. Fel arfer, nid wyf yn mynd drwy bob un o'r saith, ond y tro hwn fe wnaf hynny. Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â'r angen i Lywodraeth Cymru archwilio ar frys beth yw paramedrau tebygol senarios Brexit...
David Rees: Diolch, Dirprwy Llywydd. Hoffwn ddiolch i Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma ac i Ysgrifennydd y Cabinet.
David Rees: Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn egluro rhai o'r pwyntiau. Ac ar gyfer Leanne Wood: a wnewch chi hefyd drosglwyddo'r neges ynglŷn â pha mor bwysig yw'r rôl y mae Steffan Lewis yn ei chwarae yn y pwyllgor? Byddwn ninnau hefyd yn edrych ymlaen at ei weld yn dychwelyd i'r pwyllgor oherwydd mae ganddo rôl bwysig ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn y materion hyn ac mae'n helpu'r pwyllgor...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Aberafan?
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymatebion i Suzy Davies a Bethan Jenkins, fe sonioch am fuddiannau'r dysgwr a lles y dysgwr, a chefnogaf hynny'n llwyr. Ond wrth gwrs, mae lles y dysgwr hefyd yn dibynnu ar les y gymuned y mae'r dysgwr yn byw ynddi ac yn cael ei addysg ynddi, ac fel y nodwyd, cafwyd cynnig i gau ysgol Cymer Afan gyda disgyblion yn cael eu cludo a'u trosglwyddo 10 milltir i...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at weld cynnydd yn nifer y rhai sy'n manteisio ar y prawf sgrinio, oherwydd mae'r prawf imiwnocemegol ysgarthol newydd yn amlwg yn fwy sensitif ac yn brawf gwell. Ond mae dau beth yn codi. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at eich gweld yn ystyried edrych ar rai 50 i 60 oed, oherwydd nid yw'r oedran hwnnw wedi'i dderbyn, ond mae'n bosibl...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, fel sydd eisoes wedi cael sylw, amlygwyd pryderon ynghylch recriwtio staff gan y grŵp trawsbleidiol ar ganser yr wythnos diwethaf. Nododd hefyd fod bandio staff mewn meysydd arbenigol yn is yng Nghymru nag yn Lloegr mewn gwirionedd. Mae rhai ym mand 6 yng Nghymru, tra bo'r rhai sydd yn y swydd gyfatebol yn Lloegr ym mand 7. Mae staff felly naill ai'n mudo i swyddi...
David Rees: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, ac a gaf fi gofnodi fy nghydnabyddiaeth o'r ymrwymiad y mae ef yn bersonol wedi ei roi i'r gwaith hwn? Heb os, mae wedi bod yn arwain o'r tu blaen. Hefyd, diolch i Mike Russell, Gweinidog yr Alban sydd wedi cymryd rhan yn hyn, ac os oes yn rhaid i mi, i David Lidington yn ogystal—hefyd, i swyddogion Llywodraeth Cymru, sydd, y tu...
David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n sylweddoli ei bod wedi bod yn ddiwrnod hir, ond credaf ei fod yn faes pwysig i'w drafod a chroesawaf y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer ar wead cymdeithasol a lles cymunedau'r Cymoedd yn y dyfodol. Hoffwn hysbysu'r Senedd fy mod wedi rhoi amser i Dawn Bowden gyfrannu at y ddadl hon. Yn y ddadl fer hon, rwyf am fynd i'r afael ag agweddau ar gymunedau'r Cymoedd...
David Rees: Mae Cymunedau yn Gyntaf bellach yn dod i ben, ac yn fy nghwm penodol i, Cwm Afan, mae wedi dylanwadu'n gadarnhaol ar nifer o unigolion, grwpiau cymunedol a'u cymdogaethau, yn ogystal ag mewn lleoliadau eraill ar draws Cymru rwy'n ymwybodol ohonynt. Dyna un raglen roeddem yn gwbl gefnogol iddi, ac roedd yn brosiect blaenllaw i Lywodraeth Cymru am flynyddoedd lawer. Mae tasglu'r Cymoedd a...
David Rees: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael â'r byrddau iechyd lleol ar fonitro lefelau staff nyrsio ym mhob ysbyty?
David Rees: Diolch Llywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw, oherwydd, yn amlwg, mae rôl bwysig cyfrifiadura a chymhwysedd digidol o fewn ein gweithrediadau yn y dyfodol yn hollbwysig? Ni fyddaf yn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wnaed am Estyn. Rydych chi wedi gwneud yr atebion hynny yn gwbl glir hyd yn hyn, ond rwy'n dymuno'ch atgoffa chi, efallai—ac atgoffa pawb—nad...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, fel rhan o'r fargen honno, yn amlwg mae Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am rai o'r prosiectau hynny, ac mae'r ganolfan arloesi dur yn un ohonynt. Nawr, rwy'n deall bod cwestiynau'n codi ynglŷn â lle y caiff ei leoli ac mae yna bryderon fod Llywodraeth Cymru yn eu gwthio tuag at Felindre, sy'n bellach o gampws y brifysgol a Tata mewn gwirionedd, dau o...
David Rees: 3. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno mewn perthynas ag apeliadau yn erbyn penderfyniad Arolygiaeth Gofal Cymru i dynnu statws cofrestredig yn ôl o feithrinfeydd a chanolfannau gofal plant? OAQ52085